HEBRAEG O GAER - BEIBL O'R BALA
gan Gwilym H. Jones

YN L Rhodd Mam John Parry, Caer y mae dau fath o blant - plant da a phlant drwg. Gallasai John Parry yn hawdd fod wedi ychwanegu fod dau fath o bobl hefyd - rhai sy'n darllen Hebraeg a rhai sydd ddim. Oherwydd ym 1818 fe gyhoeddodd ei Grammadeg Hebraeg, a hynny i gyfarwyddo'r Cymro uniaith i ddysgu'r iaith. Yn l ei Ragymadrodd ni "bu yr un erioed yn Gymraeg", a hyd y gwyddom ni chyhoeddwyd yr un ar ei l nes i Wasg y Brifysgol gyhoeddi Gramadeg Hebraeg y Beibl ym 1976.

Y mae nifer o bwyntiau diddorol yn codi ynglŷn gramadeg John Parry. Efallai bod gan y rhai sy'n gyfarwydd hanes gweisg y cyfnod oleuni ar faterion technegol. Fe'i cyhoeddwyd gan J. Fletcher, Caerlleon, ac y mae wedi defnyddio teip Hebraeg clir a darllenadwy. Tybed a oedd deip Hebraeg yng Nghaer yn y cyfnod hwn, a pha ddefnydd arall a wnaed ohono? Byddai'n ddiddorol gwybod beth arall a gyhoeddwyd gan Fletcher, a beth oedd cylch diddordeb yr argraffty.

Dywedir ar y wyneb-ddalen y bwriadwyd y gramadeg i ddysgu Hebraeg "heb gynhorthwy athraw". Casglwn felly na ddefnyddid mohono yn ysgolion diwinyddol, academau a cholegau'r cyfnod, ac nad oedd hyfforddiant i'w gael trwy'r Gymraeg. Ond y mae'n debyg i John Parry fentro cyhoeddi am y gwyddai fod digon o bregethwyr di-goleg a lleygwyr eraill a fyddai'n barod i ymgodymu a'r iaith ar eu pennau eu hunain. Mater arall yw faint o feistrolaeth a gaent ar yr iaith, a pha mor llwyddiannus oedd gramadeg John Parry i roi iddynt ddigon o wybodaeth i fedru darllen Y Beibl Hebraeg.

Prin y bu cymaint o gip ar y Gramadeg ag a fu ar y Rhodd Mam, ond byddai'n ddiddorol cael gwybod faint a argraffwyd, pa fath o bobl oedd y prynwyr, a faint o gopau sydd ar gael erbyn hyn. Fel y digwydd, daeth y copi sydd yn fy meddiant i o Goleg y Bala pan chwalwyd y Llyfrgell ym 1964, ac fe berthynai ar un adeg i'r Dr Thomas Charles Edwards.

***

A SN am wasgaru Llyfrgell y Bala, yr oedd yno gopi hynod o werthfawr o'r Beibl Hebraeg, sef y Beibl Hebraeg a gyhoeddwyd gan Daniel Bomberg yn Venice ym 1521. Y mae hwnnw bellach yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor.

Y mae Beiblau Bomberg yn brin iawn, ond y mae gwerth arbennig yn y copi hwn i Gymro. Rhwng ei gloriau y mae dau lythyr sy'n rhoi peth o'i hanes. Fe'i hanfonwyd i'r Bala ym 1921 gan Y Parch. R.W. Jones, Caergybi gyda llythyr (dyddiedig Awst 16) yn dweud fod Syr R.J. Thomas, Garreglwyd yn ei gyflwyno'n rhodd i'r Coleg. Rhoddwyd y Beibl i Arddangosfa Genhadol a gynhaliwyd yng Nghaergybi wythnos neu ddwy ynghynt, ac fe'i "prynwyd gan Syr R.J.T., a chynghorasom ninnau ef i'w gyflwyno i'r Coleg".

Fe'i rhoddwyd i'r Arddangosfa gan Mr William Edwards, Tabor Hall, Y Fali, ac y mae llythyr Edwards (dyddiedig Gorff. 26) ar gael hefyd. Y mae'n amlwg fod William Edwards yn gwybod hanes gwasg Bomberg; meddai "mae hanes y testun Hebraeg yn dweud wrthym ei fod wedi mynd i draul mawr ynglŷn 'r wasg oedd ganddo yn Venice er mwyn argraffu testun Hebraeg mor gywir ag oedd modd". Byddai'n ddiddorol gwybod ymhle y cafodd Edwards y wybodaeth hon.

Yr oedd ganddo amcan go dda hefyd o werth y llyfr oedd yn ei ddwylo "y mae copau ohono yn brin iawn ers llawer blwyddyn bellach". Awgryma i R.W. Jones, Nid bob dydd y gellir gweld llyfr 400 oed. Ac ni ellir trefnu i godi tl (dyweder 1d) am ei weled .

Ychwanega nad oedd yn credu y byddai yn ddoeth ichwi ei roddi ar auction gan na bydd corph y gynulleidfa yn gallu rhoi gwerth priodol arno.

Ofer hyd yn hyn fu pob ymgais i wybod a ddangoswyd y Beibl yng Nghaergybi, ac am faint y gwerthwyd ef.

***

NID YW William Edwards yn dweud sut y cafodd y Beibl, er ei fod yn gwybod peth o'i hanes: "Bu y copi hwn yn feddiant i deulu a henafiaid y diweddar Mr Lloyd Y Bala". Fe ymlaen i sn am gyfeillgarwch Mr. Lloyd a Thomas Charles pan oedd yn offeiriad Bryneglwys, ac fel yr ymunodd a'r Methodistiaid. Felly dyma gopi'r Parch. Simon Lloyd (1756-1836) (gw. Y Bywgraffiadur).

Tybed a ddaw goleuni ryw ddydd ar daith y Beibl hwn o Wasg Bomberg i feddiant Simon Lloyd, Y Bala, ac yna i ddwylo William Edwards, Y Fali cyn dychwelyd unwaith eto i hen Goleg y Bala?

John Parry, Gramadeg Hebraeg, J.Fletcher, Caerlleon, 1818.
The 2nd quarto edition of the Bible, Bomberg, Venice, 1521.