DYMA FY LLYFRAU HANES LLEOL gan Gomer M. Roberts
UN O'M gwendidau, ar hyd y blynyddoedd, yw casglu llyfrau a llyfrynnau yn ymwneud â hanes lleol, a rhaid imi gyfaddef imi gael llawer iawn o wybodaeth ynddynt ynghylch materion bywgraffyddol ac eglwysig. Gall y rhain fod o werth hefyd i'r sawl sy'n ymddiddori mewn ofergoelion, arferion cymdeithasol, &c.
Un o'r llyfrau cyntaf a gyhoeddwyd ar y maes hwn yng Nghymru oedd A Geographical, Historical and Religious Account of the Parish of Aberystwyth (Trefeca, 1779) gan Edmund Jones, a bum yn ddigon ffodus i sicrhau copi ohono flynyddoedd lawer yn ôl am bris rhesymol iawn.
Yr unig lyfr arall o'i fath sydd gennyf perthynol i'r 18fed ganrif, yw The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (Llundain 1796), gan Thomas Pennant. Cyfyngaf fy hun yn yr ysgrif hon i lyfrau a gyhoeddwyd yn y 19eg ganrif.
Yn naturiol, llyfrau'n ymwneud â phlwyfi a threfi yn Sir Gâr a ddenodd fy mryd wrth gychwyn. Y cynharaf o'r rheini yw Llandeilo-Vawr and its Neighbourhood (Llandeilo, 1858), gan Wilym Teilo. Ni welais gopi ohono erioed mewn siop lyfrau ail-law, ac o lyfrgell y diweddar Barch. J.T. Job, Abergwaun, y cefais fy nghopi i. Rhyw gawl eildwym, seiliedig ar lyfr Gwilym Teilo, yw Llandilo, Present and Past (Caerfyrddin, 1868), gan W. Samuel. Gwilym Teilo hefyd oedd awdur y llyfryn clawr papur bychan Traethawd ar Caio a'i hynafiaethau (Caernarfon. 1862).
Llyfr eithaf defnyddiol yw Carmarthen and its Neighbourhood (Caerfyrddin, 1860), gan W. Spurrell; ond un prinnach nag ef yw Hynafiaethau yr Hendygwynar-Daf (Llanelli, 1868), gan W. Thomas - mewn cyfrol amryw y cefais hyd i hwn. Braidd yn friw yw fy nghopi i o The History of Llanstephan (Caerfyrddin, 1881), gan W. Waters, ond y mae'n gyfan.
Digwyddwn fod yn Aberystwyth ar fy ngwyliau pan ddaeth llyfrgell y Prifathro J. Morgan Jones, Bangor i siop Galloway, ac ymhlith pethau eraill fe gefais ei gopi ef o Hanes Brynaman (Ystalyfera, ail arg., 1896), gan Enoch Rees. Gŵr diwyd oedd Fred S. Price, Abertawe, a gyhoeddodd (ymhlith pethau eraill) The History of Llansawel (Abertawe, 1898).
Yn yr un ardal y mae Talyllychau, a chofiaf yn dda am yr hen frawd Simon B. Jones, a gyhoeddodd lyfryn bychan clawr papur, Hanes Talyllychau (Llandeilo, 1891). Gwaith mwy uchelgeisiol o lawer yw Hanes Plwyfi Llangeler a Phenyboyr (Llandysul, 1899), gan D.E. Jones.
***
Y MAE gennyf nifer o lyfrau ar blwyfi ym Morgannwg, a'r mwyaf difyr o'r rheini yw Plwyf Llanwyno, &c. (Pont-y-pridd, 1888), gan Glanffrwd. Ond yn dynn wrth ei sodlau y mae History of Llangynwyd Parish (Llanelli, 1877), gan Gadrawd. Y mae gennyf ddau o lyfrau ar Ferthyr Tudful, sef The History of Merthyr Tydfil (Merthyr, 1867), gan Charles Wilkins - llyfr cynhwysfawr, ac un arall llai ei werth, A Guide to Merthyr-Tydfil (Merthyr, 1894), gan T.E. Clarke.
Cefais hyd i Hanes Tonyrefail (Caerdydd, 1899), gan T. Morgan, mewn hen dŷ ffarm ym Mro Morgannwg; a phrynais fy nghopi o History of Llantrisant (Caerdydd, 1898), gan Taliesin Morgan, yn siop lyfrau John Evans yng Nghaerdydd.
Y mae plwyf y Faenor ar bwys Merthyr Tudful, ond yn sir Frycheiniog y mae, ac y mae ganddo ddwy gyfrol i'w goffau; sef The Vaynor Handbook (Merthyr, 1893), gan W. Morgan (sy'n cynnwys nifer o ffotograffau gwych o waith yr awdur), a Vaynor: its History Guide (Merthyr, 1897), gan E.E. Jenkins - llyfryn clawr papur ond wedi ei rwymo'n gymen gan ei berchennog cyntaf.
Nid oes gennyf ond un llyfryn ar blwyf ym Mynwy, sef Hanes Llanffwyst, gan Eiddil Ifor, a enillodd wobr amdano yn Eisteddfod y Fenni yn 1834; eithr yn 1922, yn y Fenni, yr argraffwyd ef, ac fe'i golygwyd gan Joseph E. Bradney - copi a gyflwynwyd ganddo ef i'r Athro J. Young Evans, Aberystwyth, sydd ar fy silffoedd i.
***
NODAF DDAU o lyfrau sir Benfro (lle bûm yn byw am rai blynyddoedd), sef The History of Cilgerran (Llundain, 1867), gan J.R. Phillips; a A Historical Sketch of Newport (Solfach, 1890), gan Evan Jones.
Ond y mae gennyf ragor o lyfrau am ardaloedd yng Ngheredigion, a'r cynharaf o'r rheini yw New Guide to Aberystwyth, &c. (Aberystwyth, 1848), gan T.O. Morgan; y mae hwn yn o brin bellach, mi dybiaf. Yr oeddwn yn falch iawn i gael gafael yn Hanes Llangeitho a'i Hamgylchoedd (Aberystwyth, 1859), gan David Morgan, am ei fod yn cynnwys manylion am Ddaniel Rowland a'i gapel cyntaf. Cyfrol werthfawr iawn yw Hanes Plwyf Llandysul (Llandysul, 1896), gan W.J. Davies - cynnyrch cyntaf gwasg enwog J.D. Lewis. Yr unig beth sydd gennyf ar dref Aberteifi yw A Guide to Cardigan and District (Aberteifi, 1899), gan W.E. James.
***
AF I FYNY i'r Gogledd yn awr, a hynny trwy Faldwyn, gan nodi Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd (Machynlleth, 1855), gan Evan Jones; a Plwyf Garthbeibio (Dolgellau, 1866), gan Francis Jones. Croesi'r ffin i Feirionnydd wrth Ddinas Mawddwy, a chofio fod gennyf gopi o lyfryn clawr papur o waith y plismon llengar a llyfrgar, Charles Ashton, sef A Guide to Dinas Mawddwy (Aberystwyth, 1893). Rhagorach gwaith yw Dinas Mawddwy a’i Hamgylchoedd (Machynlleth, 1893), gan T. Davies (Tegwyn) - cefais hwn yn rhodd gan ei ferch, Miss Breese Davies, lawer blwyddyn yn ôl.
Y mae nifer go dda o lyfrau wedi eu cyhoeddi ar blwyfi a threfi Meirionnydd. Dyna dref Dolgellau, er enghraifft, a gafodd gyfrol clawr papur yn 1872 - cynnyrch eisteddfod leol, sef Hanes Dolgellau a'r Cymdogaethau (Treffynnon), gan Idris Vychan. Cynnyrch eisteddfod hefyd yw Hanes Plwyf Ffestiniog (Wrecsam,1882), gan G.J. Williams.
Cafwyd adargraffiad diweddar o'r Gestiana, gan Alltud Eifion, ond gallaf ymffrostio fod gennyf gopi o'r argraffiad cyntaf (Tremadog, 1892). Llyfryn heb fod mor adnabyddus yw Hynafaethau Edeyrnion, &c. (Corwen, 1892), a olygwyd gan Hywel Cernyw - bu fy nghopi i yn eiddo unwaith i'r hen gasglwr diwyd Wm. Davies, Penlôn, a phrynais ef rywbryd mewn stondin fargeiniau am ddwy geiniog.
Nid oes gennyf ond dwy gyfrol ar fy silffoedd i gynrychioli sir Ddinbych ond y mae’r rheini’n rhai gwych, sef llyfrau Alfred N. Palmer, The Town of Wrexham (Manchester 1883), a’r History of the Town of Wrexham (Wrecsam 1893).
***
0 LYFRAU sir Gaernarfon yn fy meddiant rhaid rhoi'r lle blaenaf i Bedd Gelert: its Facts, Fairies & Folklore (Porthmadog, 1899), gan D.E. Jenkins - rhywun wedi tanlinellu'r penodau cyntaf a phensil yn ddidrugaredd! Copi a gefais o lyfrgell y Parch. J.T. Job yw Cyff Beuno (Tremadog, 1863), o waith Eben Fardd; tybiaf fod digon o gopi'au o'r llyfr hwn ar gael.
Y mae gennyf hefyd nifer o fân lyfrynnau clawr papur sy'n ddigon anodd dod o hyd iddynt bellach, y mae'n siŵr. Pethau fel Hanes Trefriw (Llanrwst, 1879), gan Morris Jones; A Guide to Nant Conwy (Dolwyddelen, 1884), gan Ellis o'r Nant; Chwedlau Machno (Llanrwst, 1888), gan Owen, Roberts; a Hynafiaethau a Thraddodiadau Plwyf Llanberis (Llanberis, 1892), gan W. Williams - yr olaf yn fwy sylweddol o ran ei faint (152 tt.).
Yn olaf - o gasgliad W. Davies, Penlôn eto - y llyfryn defnyddiol Nodion o Gaergybi (Y Bala, 1879), gan R.T. Williams (Trebor Môn).