CYMRAEG Y NELSON gan Maldwyn Thomas

MI FYDDA i’n rhyfeddu bob tro wrth ddarllen yr hyn a sgrifenn­odd 'Alafon' am dref Caernarfon yn Y Genhinen 1904. Galaru y mae o am gyflwr enaid y dref yn y flwyddyn honno, a chwyno fod....y mwynder llenyddol wedi ymado i raddau helaeth, a rhyw­beth dyddorol iawn wedi peidio bron yn llwyr.....Yn lle y taw­elwch a'r hamdden gynt, swn masnach a "mynd" sydd i'w glywed o fore Llun hyd ddiwedd Sadwrn'.

Y fath gyfoeth sydd yn y galar hwn. Cyfoeth a alluogai 'Alafon' i anwyb­yddu bron yn llwyr Gaernarfon 1904 - Caernarfon Evan Jones Moreia a T. Gwynn Jones ac E. Morgan Humphreys a Chaernarfon Daniel Rees, Anthropos ac Eifionydd, Caernarfon y dadleuon eiriasboeth ar addysg yn y Pafiliwn mawr, a Chaernarfon y diwygiadau a Salem a Seilo a Moreia ac Engedi dan eu sang.

Edrychodd 'Alafon' y tu draw i hyn, a chofio yn hiraethus am y dref fel yr oedd hi pan oedd ef ac Anthropos ac Evan Jones yn ddynion ifanc - Caer­narfon y blynyddoedd coll yn ystod chwarter olaf yr hen ganrif.

***

YR OEDD siopau'r dref yn amlwg ac yn annwyl yn y coflo hwn. Byddai 'Alafon' wrth ei fodd yn slop-bob-math loan Arfon gyferbyn â swyddfa'r Herald ar y Stryd Fawr, yng nghwmni'r Alfardd, amddiffynnwr y Gymraeg yn y llysoedd cyn ei farw cynnar trist, Llew Llwyfo, yr alcoholic awenyddol, ac Owen Gwyrfai, y llyfrbryf o'r Waun­fawr. Pobol 'ddi-brynu' oedd y rhain a ddeuai i seiadu i'r slop. Ac yno, yn gwenu'n fwyn arnynt, yng nghanol yr arogl paraffin a wisgi yr oedd loan Arfon, siopwr, Rhyddfrydwr a chyng­aneddwr.

Slop Gwyneddon wedyn ar y Bont ­Bridd. Doedd Gwyneddon yn fawr o ddyn busnes, ond fe fu'n gyhoeddwr a golygydd Y Goleuad, ac yn Rhyddfrydwr amlwg ar Iwyfannau Gwynedd am ddeugain mlynedd a mwy. Ychydig lathenni yn nes at y Maes yr oedd adeiladau'r Pater Noster, sef siop fawr Hugh Humphreys, - Wesla, cyhoeddwr golygydd, argraffydd, Tori ac impressario Anghydffurfiaeth y sir.

Roedd yna siopau eraill a phobol hynod yn berchnogion arnynt yn y dref ym mlynyddoedd coll Alafon ‑ siop Y Ddraig Goch gar y Cloc Mawr ac Andronicus, un o'r colofnwyr sundicêt Cymraeg cyntaf yn gafael yr yr awenau yma, a Dinorwic House a Leeds House yn Stryd y Plas, wedyn, - y ddwy siop yn eiddo Cadwaladr Williams, masnachwr hirben a gofnododd ei yrfa yn enwau'i siopau.

***

OND Y siop fwyaf yn y dref oedd y Nelson Emporium, a deyrnasai ar Stryd y Bont Bridd rhwng y Maes a'r Pendist. Sefydlwyd y busnes hwn yr un flwyddyn â chychwyniad teyrnasiad Victoria, ac yn ystod y blynyddoedd rhwng y Palas Grisial a'r 80'au fe lyncodd y Nelson amryw o fân siopau'r Bont Bridd i’w chylla. Yn wir, yr ystod y blynyddoedd hyn fe weddnewidiodd y Nelson yr holl stryd, gan ei gwneud yn hollol deilwng o'i llys enw poblogaidd - 'Regent Street Caernarfon'.

Ar ddydd Gŵyl Ddewi 1888 y daeth M.T.Morris, (Meurig Wyn) yn gyd-berchennog ar yr emporium gyda John Davies - a oedd eisoes yn rhedeg rhan o'r busnes. Gŵr o Lŷn oedd Meurig Wyn, ond magwyd ef ym mhentref Talysarn, Dyffryn Nantlle. Bu'r Parchedig John Jones yn dipyn o gefn iddo, a threuliodd M.W. beth amser fel prentis yn siop Mrs. Fanny Jones.

Erbyn 1858 yr oedd M.W. yn brentis yn y Nelson, ac yna yn 1870 ef oedd perchennog uchelgeisiol slop y Liver ar gong) y Bont Bridd. Oddi yno y croes­odd y stryd a phrynu busnes y Nelson.

Roedd cyfraniad M.W. at fywyd Caernarfon yn sylweddol iawn. Gŵr busnes egniol, henadur, ustus heddwch, hynafiaethydd, llyfrbryf, - yr oedd hyn i gyd yn wir amdano. Sonid am M.W. fel cwmniwr diddan hefyd a Chymro brwdfrydig (er ei fod yn aelod gyda'r achos Saesneg ar y Maes). Yn sicr fe fu'n gefn i’r gwahanol eisteddfodau llwyddiannus a gynhal­iwyd yn y Pafiliwn yn ystod y blyn­yddoedd hyn, a bu'n fraich gref (ac yr oedd angen un) i Lew Llwyfo pan oedd hwnnw ar gyfeiliorn wedi'r gyfeddach, ac yn gorfod begera byw yng nghymdeithas ddi-dostur yr hen dref.

***

OND CYFRANIAD mwyaf diddorol M.W. oedd cyhoeddi cylchgrawn dwy­ielthog o'r enw The Nelson, a hynny am saith mlynedd o 1890, - saith rhifyn ar hugain i gyd. Nid damweiniol oedd amseriad y rhifyn cyntaf yn lonawr 1890, gan iddo ymddangos mewn lawn bryd ar gyfer hysbysu'r cyhoedd am ffasiynau'r flwyddyn newydd - ffasiynau a oedd i'w cael am brisiau rhesymol yn Emporium y Nelson. Ceiniog (1d) oedd pris y rhifyn cyntaf, ond ar ôl hwn fe ddosbarthwyd pob copi - ag eithrio Rhifyn Eistedd­fodol 1894 - yn rhad ac am ddim i'r darllenwyr. Fe werthwyd 5,000 o'r rhifyn cyntaf, a diau bod y cyfan yn gyhoeddusrwydd ardderchog i fusnes yr emporium. W.Gwenlyn Evans oedd argraffydd y gyfres.

M.W. fu'r golygydd drwy gydol yr amser. Nid creu cyhoeddiad enwadol na gwleidyddol oedd ei fwriad, fel y gwelir yn y golygyddol cyntaf :

Roedd y pwyslais ar y teulu'n bwysig. Ar gyfer teuluoedd Arfon y cyhoeddid y Nelson, cyffes ffydd marsiandiaeth tref Caernarfon yn niw­edd yr hen ganrif. Pa sawl penteulu blin a gafodd ei baradwys breifat ei hun ar dudalennau'r Nelson, wrth oedi'r llygaid ar y darluniau cysact o'r merched aeddfed yng ngharchar gwir­foddol eu steusi? Pa sawl mam a ddenwyd drwy ddorau'r Emporium gan y darluniau yn y cylchgrawn o blant gwallt cyrls yn eu dillad morwrol ar gefnfor llonydd o oulcloth Hudd­ersfield? A pha sawl clef a adferwyd gan nerth pelennau rhyfeddol George (M.P.S.), Hirwaun - y 'Pink pills for Pale People' yn ôl y broliant yn y Nelson?

Ffasiwn, iechyd, ac fel y disgwylid, llenyddiaeth, - wel llenyddiaeth o ryw fath, beth bynnag. Brithid tudelennau'r cylchgrawn â mân straeon ac â dywed­iadau bachog - megis 'Trioedd y Nel­son' - ' Tri goreuon bywyd, cydwybod lan, boddlondeb, ac iechyd I wisgo dillad Ready-Made y Nelson Empor­ium'.

Yn naturiol, gan fod y Nelson yn gyrchfan gymdeithasol a masnachol amlwg ym mywyd Gwynedd, yr oedd gwaith y beirdd yn flaenllaw yn y cylchgrawn - a'r gwaith hwnnw yn dangos fod masnachwyr fel Meurig Wyn yn noddwyr cadarn i ddiwylliant Cymraeg eu dydd :

Yng ngwaith Glen Wylfa yr oedd Emporium y Nelson yn fath ar Sych­arth Victoraidd :

***

MEURIG WYN oedd awdur llawer o erthyglau'r Nelson, a bu Andronicus a Hefin yntau'n cyfansoddi'n ddiwyd. Ac wrth fynd heibio, y mae hi'n werth nodi yma i staff yr emporium sefydlu eu cymdeithas lenyddol eu hunain rai blynyddoedd cyn hyn. Roedd cryn fynd ar farddoniaeth yn yr hafan hon, a chasglai'r selotiaid eu dimeiau a'u ceiniogau ynghyd er mwyn prynu llyfrau a chylchgronau o bob math.

Pan chwalwyd partneriaeth Meurig Wyn a John Davies yn 1897 fe ddaeth y Nelson yntau i ben ei dymor. Bu Meurig Wyn farw ar 28 Hydref 1908, ac Alafon, wrth gwrs, a ysgrifennodd ei fedd-argraff :