CEFNDIR CYFRES Y FIL gan E.D.Jones

CWESTIWN a ofynnwyd yn aml i mi yw "Pa saw( cyfrol sydd yng Nghyfres y Fil?" Fy ateb i yw "Tri dwsin neu ddwy ar bymtheg ar hugain os cyfrifwch y Geiriadur.” Rywbryd yn hydref 1901 y meddyliodd Owen M. Edwards am gyhoeddi cyfres unffurf o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Yr oedd newydd gyhoeddi Gwaith Dafydd ab Gwilym. Dalen deitl yn llaw O.M. ei hun sydd i hwn gyda'r imprint a fabwysiadwyd i Gyfres y Fil - ' Llanuwchllyn : Ab Owen'. Ar gefn y ddalen deitl yn y gyfrol hon fel yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres rhoir enw'r argraffydd yn y ffurf 'Argraffwyd gan R.E. Jones a'i Frodyr, Conwy.'

Y mae rhai amrywiadau y caf gyfeirio atynt yn nes ymlaen. Y dyddiad ar ddiwedd y rhagymadrodd yw 'Awst 21ain, 1901'. Nid oes yma air o son am gychwyn cyfres, er mai hon yw blaenffrwyth Cyfres y Fil.

Er fod O.M. Edwards yn dweud iddo, tuag ugain mlynedd cyn 1901, addo rhoddi casgliad o waith Dafydd ap Gwilym i'r werin, y mae lle i gredu mai ar frys y bwriodd ati i gyflawni ei addewid. Mae'n cyfeirio at y casgliad yr oedd John Gwenogfryn Evans wrthi'n ei grynhoi o'r llawysgrifau gorau o waith y bardd, - casgliad na welodd olau dydd, - ond gwaith mwy distadl oedd ei un ef, wedi ei seilio ar ysgrif lyfrau Lewis Morris ac argraffiad 1789.

Nid yw'n son am fwriad Isaac Foulkes i gyhoeddi gwaith Dafydd ap Gwilym. Yr oedd E.A. Lewis wedi ei gomisiynu gan Foulkes i gopïo’r cywyddau yn yr Amgueddfa Brydeinig. Pan oedd wrth y gwaith daeth rhywun busnesgar heibio a holi beth oedd ganddo ar droed. Yn ei ddiniweid­rwydd, dywedodd E.A. Lewis Mai copïo dros Isaac Foulkes yr oedd. Cariodd y gŵr busnesgar y wybodaeth i O.M. Edwards a phrysurodd hwnnw i gael y blaen ar Foulkes.

Dysgodd E.A. Lewis wers y dylai pob swyddog mewn llyfrgell neu archifdy ei dysgu - ei bod yn hanfodol bwysig gadw'n gwbl gyfrinachol gynlluniau a gwaith ymchwilwyr. Gwasgodd Foulkes y wers ar gof E.A. Lewis drwy beidio â'i dalu am gymaint ag a gopïodd.

***

YN Y CYMRU am fis Tachwedd 1901 cyhoeddodd O.M. Edwards fod y gyfrol fechan yn dechrau cael sylw ac yn raddol iawn yn dechrau gwerthu, ond na wnâi’r cyhoeddwr ddim arian ohoni - awgrym mai R.E. Jones mewn gwirionedd oedd y cyhoeddwr - ac na chai'r golygydd ond cost ychwanegol am ei lafur.

Eto, yr oedd y ddau'n awyddus i ddwyn cyfrolau cyffelyb drwy'r wasg, ' yn astellaid o lyfrau bychain destlus am swllt yr un'. Gwahoddai'r golygydd fil o danysgrifwyr i dderbyn o leiaf ddwy gyfrol a dim mwy na phedair mewn blwyddyn, a thalu'r swllt a cheiniog a dimau o gludiad ar dderbyn pob cyfrol, neu flaendal o 4s. 6ch. y flwyddyn. Cyfres, felly, i fil o danysgrifwyr oedd hon i fod, a hynny a roes y teitl iddi.

Yn rhifyn Rhagfyr cwyno y mae'r golygydd mai ychydig a ddanfonodd eu henwau. Ond yr oedd am gyhoeddi 'rhyw ugain o gyfrolau tlysion, tua 120 o dudalennau... rhwymiad lliain, yr ymyl uchaf wedi ei goreuro. Y mae'r gyfrol gyntaf, sef Gwaith Dafydd ab Gwilym, wedi ei chyhoeddi... Pan ysgrifennwch dywedwch a oes eisiau gyrru Dafydd ab Gwilym atoch ai nad oes...' Dyna brawf nad oedd y syniad o ddechrau cyfres wedi gwawrio arno hyd ar ôl rhoi'r gyfrol honno ar y farchnad. Yr oedd y patrwm wedi ei osod, y rhwymiad, nifer y tudalennau, aur ar ymylon uchaf y dail, ac enw Ab Owen ar waelod y meingefn.

Pan ysgrifennai 0. M. Edwards ei nodyn ar gyfer rhifyn Ionawr 1902 prin gant o danysgrifwyr a ddaethai i law, ac yntau wedi tynnu pedwar cant o bunnau o'r banc i gychwyn yr anturiaeth. Cyhoeddodd yr enwau yn ôl eu siroedd am rai troeon. Ymhlith y tanysgrifwyr cyntaf y mae rhai enwau adnabyddus fel Daniel Rees, Gwyneth Vaughan, Goronwy Owen - Syr Goronwy yn ddiweddarach, a'i set ef yw'r rhan helaethaf o'm un i, a brynais o siop Foyle - Richard Morgan, Trebor Aled, R. Peris Williams, Ben Bowen, o Kimberley, dau o arolygwyr addysg Cymru - Thomas Darlington ac L.J. Roberts - a Morris Parry, Caer.

Mae'n amlwg i Forris Parry ofyn am Ddafydd ab Gwilym, oherwydd llofnododd y copi sydd gennyf i ar ddydd Nadolig 1901. Prin groesi'r chwe chant oedd rhif y tanysgrifwyr ar ddiwedd 1902, a thuag wyth cant oedd eu nifer ym mis Mawrth 1904. Mae'n amheus gennyf iddo godi lawer yn uwch.

***

ETO I GYD, ym mis Hydref 1904, yr oedd O.M. Edwards yn gwahodd mil i dderbyn cyfres o lyfrau Saesneg ar batrwm y rhai Cymraeg. Gan na welodd y gyfres hon enedigaeth rhaid mai gwan iawn fu'r ymateb. Daeth cwynion fod llyfrwerthwyr yn codi deunaw ceiniog am y cyfrolau. Ateb y golygydd oedd mai dyna oedd pris cyfrolau unigol mewn siopau.

Ni fedrid denu tanysgrifwyr nes gwerthid am lai, oherwydd gyda chost archebu a thalu drwy'r post ni chai tanysgrifiwr ddim mantais pe gwneid.

Ar ddiwedd cyfrol Edward Morus, 1904, ceir wyth tt. o hysbyseb Saesneg yn apelio am fil o danysgrifwyr ychwanegol er mwyn cynhyrchu pedair cyfrol y flwyddyn a chynyddu nifer y tudalennau i 150 neu 200, ac am fil arall o danysgrifwyr i gyfres newydd, unffurf â Chyfres y Fil, ar hanes Cymru. Gofynnid hefyd am bedwar cant o danysgrifwyr o 3s. 6ch. yr un tuag at gyhoeddi cyfrol o Hwiangerddi.

Ni chafwyd cyfrolau helaethach na chyfres hanes. Cedwir yn ffyddlon at y 112 tudalen ac eithrio Sion Cent, 110; leuan Glan Geirionydd, 120; John Thomas, 122; Hwiangerddi, 116 - wedi anobeithio am yr argraffiad 3s. 6ch. - a'r Diarhebion, 124. Anwybyddaf y rhestrau o'r cyfrolau a ymddangosodd mewn nifer ohonynt. R.E. Jones, Conwy, a argraffodd y rhan fwyaf o'r cyfrolau. Y gyflawnaf o'r rhain yw'r un ar ddiwedd Emrys 1919, yr olaf yn y gyfres.

I ragflaenu protest bosibl fod gan rai casglwyr ail gyfrol Twm o'r Nant yn 1919 cystal i mi annog y cyfryw i gymryd chwyddwydr a gwelant mai tor ar ochr chwith yr 0 yn 1910 sy'n eu camarwain.

***

ARGRAFFWYD y ddau Fynyddog a Ceiriog gan Hughes a'i Fab, hynny, mae'n debyg, am mai ganddynt hwy yr oedd yr hawlfraint. Mae'r Ceiriog yn cydymffurfio â'r patrwm ond y mae tair llinell foel yn groes i ben a gwaelod clawr uchaf y ddau Fynyddog yn lle'r llinell foel sy'n amgylchynu ymylon cloriau gweddill y gyfres. Yn fy nghopi i o'r ail Fynyddog nid oes aur ar ben y dail.

Y mae ffurf arall ar gyfrol Emrys - enw Hughes a'i Fab ar waelod y meingefn a'r rhestr llyfrau yn eisiau. Yr unig esboniad y gallaf ei gynnig ar y ffurf hon yw i Hughes a'i Fab gael y llenni gwreiddiol i'w rhwymo rywbryd cyn 1922.

Gan nad yw cyfrol Emrys, efallai ym meddiant pob aelod argreffir y rhestr gyflawn yn ôl eu blynyddoedd ar y dde.

***

ER MWYN hwylustod cynhwysais y Geiriadur yn y rhestr uchod yn y lle y rhoddodd O.M.Edwards ef. Nid dyna oedd ei fwriad yn 1905, pan gyhoeddwyd ef. 'Roedd y Geiriadur i fod yn gyntaf o gyfres o'r hyn a alwai'r golygydd yn llyfrau defnyddiol, mewn gair, chwech o lyfrau cyfeirio. Erbyn 1912 yr oedd wedi anobeithio am y gyfres newydd, a phender­fynnodd roddi'r gyfrol yng Nghyfres y Fil. Nid oedd lle yn 1905, gan fod pedair cyfrol am y flwyddyn honno, felly rhoddodd hi dan 1907 i gadw cwmni i gyfrol Joshua Thomas, a fuasai hyd 1912 ar ei phen ei hun. Ychwanegodd mai unffurf ydoedd, er fod iddi 128 o dudalennau, ac nad oes iddi ymyl uchaf oreuredig.

Bodlonaf ar un amrywiaeth arall, sef mai Cwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig neu Swyddfa'r Cymru, Caernarfon, a argraffodd lolo Goch, Sion Cent, ac Emrys. T. Matthews a olygodd weithiau'r ddau fardd. Bloc, herodrol sydd i ddalen deitl Iolo Goch ond i Sion Cent y mae dalen deitl arferol yn ogystal â'r bloc herodrol.

UN RHESWM dros yr ansicrwydd am gynnwys Cyfres y Fil yw fod gan O.M. Edwards gyfres arall mwy neu lai unffurf â hi, a elwid yn 'Llyfrau ab Owen', a gyhoeddwyd yn Swyddfa Cymru yng Nghaernarfon. Hwyrach y daw cyfle eto i sôn am y rheiny chyfresi eraill.