BRI Y PAPURAU BRO gan Norman Williams

OS DIGWYDD imi alw mewn siop bapurau newydd, byddaf yn siŵr o gael fy nenu tuag at y silffoedd dirifedi o gylchgronau a phapurau o bob math a'u cloriau lliwgar yn fy ngwahodd i'w bodio a'u prynu. Fe wyddoch amdanynt, y rhai ohonoch sy'n garddio, neu'n chwilio am gar, neu stereo, neu'n rhamantu am gartref neu wraig ddelfrydol. Maent i gyd ar y silff­oedd - wedi eu gwisgo mewn Saesneg.

Mor braf fyddai gweld yr un silffoedd yn orlawn o gylchgronau Cymraeg poblogaidd yn trafod yr un pynciau. Ond rhaid bod yn onest, hyd yn oed petai rhai Cymraeg ar gael, parhau i brynu'r rhai Saesneg wnâi llawer o Gymry. Anodd iawn yw torri'r arferiad.

Rhoir gormod o bwyslais heddiw ar y nifer cynyddol o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir ond gwir fesur llwyddiant ein cyhoeddwyr yw'r nifer sy'n darllen y llyfrau hyn, ac nid yw'r ffigurau mor galonogol.

***

TUA PHEDAIR blynedd yn ôl bellach cyfarfu nifer bychan yng Nghaerdydd i drafod ymarferoldeb cyhoeddi newyddiadur Cymraeg fyddai'n gwasanaethu'r Brifddinas a'r ardaloedd cyfagos. Adlewyrchai papur o'r fath fwrlwm bywyd Cymraeg Caerdydd a byddai'n sicrhau hefyd fod llawer yn darllen yr iaith yn rheolaidd am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Ar ôl hir bwyllgora ac ymchwilio penderfynwyd bwrw iddi a chyhoeddi misolyn a elwid 'Y Dinesydd'. Ond y penderfyniad pwysicaf o bell ffordd oedd peidio â chodi tâl amdano, gan ddibynnu'n gyfan gwbl ar noddwyr a hysbysebwyr am yr incwm. Fel hyn byddem yn sicrhau y cylchrediad uchaf posibl, ac yn osgoi y problemau o weithio mewn dinas fel Caerdydd.

Bu'n waith caled i griw bychan ond roedd y boddhad o weld y rhifyn cyntaf yn werth disgwyl amdano. Cafwyd ymateb ffafriol a daeth ceisiadau o bentrefi y tu allan i'r dalgylch gwreiddiol yn apelio am gael eu cynnwys yn 'Y Dinesydd'. Buan iawn y sylwedd­olwyd yr angen am bapur o'r fath nid yn unig i'r rhai a drigai yn y fro ond i lawer oedd yn byw ymhell i ffwrdd.

Yn naturiol ddigon cafwyd problemau a beirniadaeth. Anodd iawn oedd perffeithio system ddosbarthu effeithiol ac amhosibl oedd peidio â chynnwys hen newyddion mewn misolyn o'r fath. Fodd bynnag mae bodolaeth 'Y Dinesydd' heddiw yn profi ei fod wedi ennill ei blwyf.

***

ROEDD LLAWER yn amau mai seren wib fyrhoedlog fyddai'r papur, ond derbyniwyd llawer o ymholiadau gan bobl o ardaloedd eraill yn awyddus i sefydlu papurau tebyg yn eu bröydd eu hunain. A dyma ddechrau ar y Papurau Bro go iawn sy'n cael eu darllen gan filoedd lawer. Chwyldro nid bychan mewn darllen Cymraeg a chwyldro nad ydym eto wedi gweld ei ddiwedd.

Cymharol ychydig sy'n darllen llyfrau Cymraeg bellach, ac os llwydda cyhoeddwr i werthu dwy fil o gopïau mae'n gryn glod i awdur. Ond trwy gyfrwng y papurau bro yn unig mae yna dros 60,000 yn darllen y Gymraeg yn rheolaidd heddiw.

Beth a'u gwna mor boblogaidd? Apeliant yn siŵr at ein chwilfrydedd naturiol, a'n hoffter o weld ein henwau ar ddu a gwyn. Gwneir ymdrech i geisio diddori pawb, a hynny mor llwyddiannus fel y derbynnir cwynion buan os digwydd i rifyn fod yn hwyr neu i un pentref dderbyn copïau o flaen y gweddill. Dyma gŵyn i'w groesawu yn y byd cyhoeddi Cymraeg.

OND BETH am y dyfodol? Am ba hyd y gellir disgwyl i'r gwaith caled gwirfoddol barhau? Mae'n wir bod y mwyafrif o'r papurau yn derbyn grantiau bychain oddi wrth y Cymdeithasau Celfyddyd Rhanbarthol ond petai dyfodol ambell i bapur yn y fantol onid teg fyddai iddynt geisio grantiau llawer iawn mwy? A ddylid ystyried sefydlu corff i geisio hybu sefydlu mwy ohonynt ledled Cymru? Fe wneir hyn i raddau yng Ngwynedd gan unigolion brwd­frydig.

Os oes dyfodol o gwbl i'r hen iaith, rhaid gochel rhag gwneud crair ohoni. Defnyddiwn hi, nid yn unig gogyfer â'r ychydig sy'n ymhel â'u traddodiad llenyddol a'u canu cynnar ond gogyfer a'r rhai hefyd sydd am ddarllen am amrywiol bethau cyffredin bywyd. Ffurfia'r Papurau Bro sylfaen gref i'n cyfundrefn gyhoeddi, a rhaid inni sicrhau na ddigwydd dim i danseilio'r adeiladu.

Siawns na fedra' inna' ymhen ychydig flynyddoedd, alw yn y siop bapura' brysur yn y dre a gofyn am fy nghopi o 'Titbits' a'r siopwr yn holi'n gwrtais - "Cymraeg ynte' Saesneg, Syr?"