AMSER I BALU - AC I ARDDIO YN GYMRAEG
gan Melfyn R. Williams

Y FLWYDDYN fawr ym myd argraffu yng Nghymru, hob amheuaeth, yw 1546. Dyma'r flwyddyn yr argraffwyd y llyfr cyntaf yn yr iaith Cymraeg, sef Yn y Lhyvyr Hwnn, a briodolir i Syr John Prys. Llyfr crefyddol yw'n bennaf, ond mae rhan helaeth ohono, hefyd, yn cynnwys cyfarwyddiadau misol at gadw gardd mewn trefn. Ym mis Ionawr ceir:

Ond bu'n rhaid aros hyd 1812 am y llyfr cyntaf a ymdrinia'n gyfan gwbl â'r grefft o drin gardd. Fe'i hargraffwyd gan loan Painter, Wrecsam, dros O. Griffiths, o dan y teitl Garddwriaeth Ymarferol ac mae'n cynnwys 96 o dudalennau. Casgliad ydyw o lyfrau garddio Saesneg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn ei ragair mae'r awdur yn esbonio pam yr aeth ati i'w ysgrifennu:

Â'r llyfr ymlaen i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gychwyn gardd tyddyn mewn gwahanol safleoedd daearyddol, gerwin. Wedyn trafodir y misoedd yn eu tro a'r gorchwylion angenrheidiol a manwl sydd ynghlwm wrth bob mis. Mae'r awdur yn pwysleisio y modd gorau i wrteithio a phlannu gwahanol lysiau a choed.

Diddorol yw ei ddull o'n hannog i dyfu coed naturiol fel y dderwen, yr onnen, y ffawydden, y gastanwydden ac ati gan y "cyfoethoga hyn ein gwlad, ac a fyddai yn foddion i atal gerwindeb a llymder gwyntoedd oerion."

Ym 1819 ymddangosodd Hyfforddiadau i’r Garddwr a gyhoeddwyd gan R. Richards, Dolgellau gyda 32 o dudalennau.

***

YSGRIFENNODD John Owen, Efail Bach gar Pwllheli ei lyfr o'r enw Un tro Trwy Ardd y Gegin ym 1830, ac ymddangosodd ail argraffiad ohono ym 1850 gan L.E. Jones, Caernarfon. Yn ei lyfr o drigain tudalen mae John Owen, garddwr, fel y geilw ei hun, yn sôn am flychau gwydr i dyfu llysiau yn gynnar, ac yn rhoi cyfarwyddiadau at sut i'w llunio.

Ceir cyfeiriadau at y gwahanol berlysiau fel teim, balm, lafant, tansi, saets a ddefnyddir yn y gegin gan wraig y tŷ. Ar ddiwedd y llyfr ceir atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â sut i ladd trychfilod a malwod, a'r anifeiliaid hynny sy'n poenydio llysiau gardd.

Cyhoeddwyd ail argraffiad yn y Bala o lyfr J. Jackson Ar Wrteithiau gan Saunderson yn cynnwys 48 o dudalennau. Mae'n amlwg oddi wrth y llyfr hwn bod gwrteithio, o'r diwedd, yn cael ei dderbyn fel rhan annatod o arddwriaeth dda.

Ym 1846 cyhoeddodd Peter Evans, Caernarfon lyfryn o 32 tudalen a ysgrifennwyd gan A. Trimmins den y teitl Triniaeth Pytatws. Gall hwn o bosibl, fod yn fwy buddiol i'r amaethwr gan ei fod ef yn plannu tatws o’r raddfa ehangach na garddwr cyffredin. Eto ymdriniwyd â'r un pwnc yn Traethawd ar Wrteithiad Pytatws ym mhamffledyn 18 tudalen Thomas Brockland a gyhoeddwyd yn Swyddfa Seren Cymru Caerfyrddin gan William Evans ym 1859.

***

CYHOEDDWYD Sylwadau ar Arddwriaeth, James Main, yn Llanelli gan Broom a Ravenscroft o argraffiad Y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol ym 1849. Yn y pamffledyn 23 tudalen fe geisir esbonio rhagoriaethau agosrwydd gardd at dŷ gweithiwr a’r budd y gall dynnu ohoni;

Ceir awgrymiadau yn y dalen ar rychu, a'r dyfnder yn dibynnu ar natur ac ansawdd y tir. Trafodir hefyd, wahanol fathau o bridd, a sut i’w gwella, ac argymhellir cael pwll yn ymyl y tŷ i "dderbyn golchion, ysgubion &c., i'w paratoi i fod yn achles".

Rhoddir cyfarwyddiadau manwl at dyfu gwahanol lysiau ynghyd a'r adeg iawn o'r flwyddyn i’w plannu. Pwys­leisia, fodd bynnag, bwysigrwydd gwrteithio. Ceir un cyfarwyddyd hynod o werthfawr sydd o fudd inni heddiw, hyd yn oed;

Cyflwynir math o amserlen yn y llyfryn i sicrhau llysiau drwy gydol y flwyddyn, a cheir cynllun mewn ffurf tabl i ddangos rhaniadau'r ardd, a faint y dylid ei adael rhwng yr hadau a'r coed ffrwythau, wrth eu plannu.

***

YN ÔL J.E. Jones yn ei ragair i'w Llyfr Garddio (1969) gwelir mai 1860 oedd dyddiad cyhoeddi Y Garddwr Cymreig a chafodd ei ail gyhoeddi gan H. Humphreys, Caernarfon yn ystod wythdegau'r ganrif, hefyd. Ond gan fod yr awdur R.M. Williamson (Bardd Du Môn) wedi marw yn 1852 ac yntau wedi ysgrifennu cyflwyniad i'w gyfrol, y tebyg yw mai ar gychwyn y 50au y cyhoeddwyd y llyfr gwreiddiol.

Cydnabu’r awdur ei fod wedi casglu'r deunydd allan o weithiau awduron Saesneg fel Abercrombie, Price, Glenny ac ati. Dyma a ddywed Bardd Du Môn yn ei sylwadau arweiniol;

Fe rydd yr awdur gefndir llysieuol a dosbarthiad y gwahanol lysiau ac â drwy'r misoedd gan roi cyfarwyddiad­au eglur ar y gwahanol lysiau y dylid eu plannu, a sut i baratoi’r tir ar eu cyfer. Trafodir hefyd yr ardd ffrwyth­au a'r ardd flodau, ac ar derfyn y llyfr rhestrir termau Cymraeg a Saesnag a ddefnyddir mewn garddwriaeth. Dyma gyfrol werthfawr o 108 o dudalennau.

Yn ei gyfrol Garddwr i'r Amaethwr a'r Bwthynwr / The Farm and Cottage Gardener a argraffwyd yng Nghaernarfon gan J.W. Rees ym 1860, mae'r awdur, Charles Ewing, yn ysgrifennu gair yn Saesneg ar y cychwyn ar gyfer y Season hynny a danysgrifiodd tuag at ei gyfrol. Fe gynnwys y llyfr gan tudalen a cheir ychwanegiadau ar ddiwedd y llyfr ar sut i addurno bwthyn, gwneud cyffeithiau (jam ac ati) a chadw bwyd rhag mynd yn ddrwg.

Llyfryn tra diddorol yw Garddwriaeth y Bwthyn gan John Davies, Ystalyfera. Cyhoeddwyd ac argraffwyd yn ystod chwarter olaf y ganrif ddiwethaf gan Griffith Davies, Stamp Office, Ystalyfera. Mewn hysbyseb yng nghefn y llyfr ymddengys bod Griffith Davies yr argraffwr yn gwerthu hadau o bob math ers blynyddoedd.

Mae cynnwys y gyfrol yn eithaf cyflawn, gyda'r awdur yn rhoi sylw manwl i enwau Cymraeg y gwahanol lysiau a'r perlysiau, er enghraifft ceir helogan am celery, cyrnogyn am rampiom, gruw am thyme, cedw am mustard, ac yn y blaen.

***

LLYFR NAD oes iddo ddyddiad yw Y Llyfr Bach Newydd ar Arddwriaeth gan A.J. Williams. Oddi wrth ei ddiwyg gellir amcanu ei fod wadi cael ei gyhoeddi tua diwedd y ganrif. Argraff­wŷd y llyfr yn Llangefni gan W.O. Jones. Y peth sy'n arbennig ynglŷn â'r gyfrol hon yw ei bod yn frith o luniau yr amryfal lysiau. Ond yn anffodus nid yw 'r awdur wedi gwneud unrhyw ymdrech i roi enwau Cymraeg ar y llysiau y mae yn eu trafod.

Ym 1927, oherwydd diffyg gwerslyfrau ar arddwriaeth ar gyfer plant ysgol fe gyhoeddodd D.S. Williams Gardd y Plant (Llyfr garddio i blant ysgol) gyda'r darluniau wedi'u gwneud gan Enid Williams. 'Roedd D.J. Williams yn athro ar y pryd yn Llandderfel a chyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau addas i blant ysgol, megis Cyfres Chwedl a Chân a Llyfrau Ysgrifennu Cymraeg. Ond yn ei lyfr garddio, mae'n trafod yn syml a diddorol y gwahanol gelfi y dylid eu defnyddio i drin gardd, cylchdro'r cnydau, yr hadau a'r llysiau. Cyhoeddwyd y gyfrol yn Llundain gan Foyle ac mae iddo 73 o dudalennau.

Bu Tom Jones Llanrug yn llwyddiant eithriadol fel darlledydd ar arddio i'r BBC. Bu ef farw ym 1944 and yn hynod ffodus i ni mae rhai o'i sgyrsiau wedi'u casglu gan J.O. Williams mewn cyfrol yn dwyn yr enw Yn yr Ardd a gyhoeddwyd ym 1947 gan Wasg y Brython.

Crybwyllwyd Llyfr Garddio J.E. Jones eisoes a gyhoeddwyd gan Christopher Davies ym 1969. Hwn yn ddiamau yw'r Ilyfr mwyaf cynhwysfawr ar arddio yn yr iaith Gymraeg ac mae'n cynnwys 184 o dudalennau a 37 o ffotograffau. Amcan y gyfrol yma yn ôl yr awdur yw;

Ni allaf honni fod y rhestr yma'n gyflawn a mawr obeithiaf y gall y darllenydd lenwi'r bylchau a gadael imi wybod drwy'r cyfnodolyn yma.