YR INC YN LLANNERCH-Y-MEDD
Dafydd Wyn Wiliam a'r hen asbri
BU’N
freuddwyd gan Lewis Morris (1701-65) sefydlu gwasg argraffu ym Môn. Tua 1732 fe
lwyddodd i ddenu Siôn Rhydderch (1673-1735), argraffydd profiadol, i ddod i
Lannerch-y-medd i wireddu'r freuddwyd eithr ni ddaeth dim o'r peth. Ymhen tair
blynedd yr oedd y wasg segur wedi ei symud i Gaergybi.
Yr
oedd dewis cyntaf Lewis Morris yn un doeth gan fod Llannerch-y-medd yn y
ddeunawfed ganrif yn ganolfan o bwys. Wele ei ddisgrifiad ef ei hun o'r
dreflan:
-
Llanerchymedd
is a market town, consisting 1732 of 50 Houses or families, being the best
market in Anglesey situate near ye center of ye Island; Hath its market a Wednesday,
a Flesh market on Saturday, its fairs on St. Marks Day for sheep more particularly
In ye year 1684 this place afforded but 12 children but in ye year 1732, we find 80.
(L1.G.C. 67, t. 252.)
Lle
ar ei brifiant oedd Llannerch-y-medd yn dygyfor o grefftwyr a masnachwyr. Un o
siopwyr y dref oedd John Thomas, Methodist brwd. Ceir ei enw ar Caniadau Seion
(1788) fel un o'r bobl a werthai'r llyfr.
Rai
blynyddoedd yn ôl cefais gyfrol `Amryw' a fu'n eiddo John Thomas oherwydd
rhoddodd ei enw ar amryw o'r llyfrynnau a rwymwyd ynghyd. Er enghraifft, ar y
copi o Rhai Hymnau Newyddion ... (1787) gan Williams Williams o Bantycelyn fe
ysgrifennwyd 'John Thomas Shopkeeper Llannerch-y-medd 1799'.
Un
arall o werthwyr llyfrau y Llan oedd Mrs Evans a cheir ei henw hi yn
argraffedig ar Awdlau Ar Destynau Gymdeithas Y Gwyneddigion ... (1791).
Heblaw gwerthwyr llyfrau Cymraeg yr oedd o
leiaf un rhwymwr llyfrau yn byw yn Llannerch-y-medd ac fel John Thomas y siopwr
yr oedd yntau hefyd yn Fethodist. Crybwylla John Pritchard ei enw yn
Methodistiaeth Môn (1888) 75, sef `Owen Jones, bookbinder' gan ychwanegu iddo
ddod i’r Llan o Fynydd Bodafon.
Gyda
gwerthwyr llyfrau, llyfr-rwymydd a thoreth o ddarllenwyr yn byw yn nhref Llannerch-y-medd
yr oedd y lle yn aeddfed i sefydlu gwasg argraffu yno, a'r sawl a wnaeth hynny
oedd mab Owen Jones y llyfr-rwymydd.
***
BEDYDDIWYD
Enoch Jones (1776-1862) ym mhlwyf y Morrisiaid, sef Llanfihangel Tre’r-beirdd,
22 Mai 1776 yn un o efeilliaid a rhoddir enwau ei rieni fel Owen Jones teiliwr
ac Elisabeth o'r Mynydd.
Ymddengys
fod y tad wedi symud yn fuan wedi hynny i Llannerch-y-medd gan ymroi i bwytho
llyfrau yn lle dillad. Disgrifir ef mor ddiweddar â 1835 fel 'bookbinder'.
(Gazeteer 1835).
Ni
wyddys ddim oll am ei fab Enoch hyd 27 Ionawr 1808. Bryd hynny yr oedd yntau yn
rhwymwr llyfrau, yn ŵr priod, yn Fethodist ac yn dad i'w blentyn cyntaf.
Cofnodir bedydd wyth o blant i Enoch Jones ac Agnes ei wraig yng Nghofrestr
Methodistiaid Calfinaidd Llannerch-y-medd (ceir copi yn Archifdy Môn), sef
Elisabeth (g.1808), Catherine (1811), Enoch (1814), Jacob a Hannah (1817), Hugh
(1820), David (1822) ac Edward (1823).
Heblaw'r
rhain fe fedyddiwyd un mab, Mesach, yn Eglwys y plwyf, Llannerch-y-medd yn
1809. Dengys cofnod rhai o'r bedyddiadau hyn fod rhai o'r plant wedi eu geni yn
Amlwch a Gwredog and iddynt gael eu bedyddio yn Llannerch-y-medd. Rhoes Enoch
Jones ei fryd ar berffeithio ei grefft o rwymo llyfrau a chyda hynny mewn golwg
fe gyflogodd grefftwr o Lundain i'w gynorthwyo:
Bookbinding.
E. Jones, Llanerchymedd, Respectfully acquaints the Public,
that from the encouragement he has recieved in the
Bookbinding business in all its various branches, he
has now engaged an experienced workman from London,
perfectly acquainted with the newest fashions in the above line.
Carem
wybod beth oedd enw'r crefftwr hwn o Sais ac ai ef a ysgogodd ei feistr newydd
i brynu gwasg argraffu. Sut bynnag, yr oedd Enoch Jones yn berchen ei wasg ei
hun yn 1814, onid ynghynt, oherwydd fe argraffodd bamffledyn arni yn y flwyddyn
honno. (gw. Atodiad rhif 1).
Y
mae gennym gyfrif am un ar hugain o lyfrau neu lyfrynnau a ddaeth o'r wasg hon
rhwng 1814 a 1831. Pwyslais crefyddol cryf oedd i gynnyrch y wasg ac offeiriaid
a Methodistiaid Môn ymhlith yr awduron. Ar wahân i gyfrol o bregethau (Rhif 5)
a gynhwysai 444 o dudalennau a thair cyfrol yn cynnwys dros gant o dudalennau,
man lyfrynnau oedd cynnyrch y wasg. Yn 1824 fe ddechreuwyd ei galw yn
`Mon-Wasg'.
***
ANODD
yw dirnad pam y symudodd Enoch Jones gyda'i wasg i Fiwmares yn 1832. Y mae'n arwyddocaol
fod y symudiad wedi digwydd tua'r adeg y buwyd yn argraffu'r cylchgrawn misol
byrhoedlog Y Sylwedydd (1831). Argraffwyd rhifynnau Ionawr-Gorffennaf yn
Llannerch-y-medd a'r rhifynnau dilynol yng Nghaernarfon.
Dichon
mai trafferthion ariannol ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn oedd wrth wraidd y symud i
Fiwmares, tref Seisnigaidd ei naws. Dylid cofio, fodd bynnag, mai yno y
cynhelid y llysoedd uwch ac ymddengys fod angen argraffydd i ddarparu
ffurflenni swyddogol, hysbysebion a llyfrynnau i ddiben y llysoedd a
gweinyddiaeth y sir.
Cyflwynodd
Enoch Jones gais gerbron Llys Chwarter Sesiwn Môn yn 1832 gan fynegi ei fwriad
i symud ei wasg:
To
the Clerk of the Peace for the County of Anglesey or his deputy
that I have a Printing Press and Types for Printing which I propose to
to (sic) use for Printing with in to Morrow the 17th. Inst. at Beaumaris
and which I require to be entered for that purpose, in pursuance of an
Act passed in the thirty ninth year of the late Majesty King Gorge the
third entitled 'An Act for the more effectual suppression of Societies
established for seditious and treasonable purposes and for better and
preventing treasonable and seditious practises'
***
GWELIR
felly fod yr argraffydd wedi pwyllo cryn dipyn ar ôl ymadael â Llannerch-y-medd
a chanolbwyntio ar argraffu pethau heblaw llyfrau a oedd yn fynych iawn yn peri
colledion ariannol.
Pan
oedd ym Miwmares fe barheid i ddisgrifio Enoch Jones fel llyfr-rwymwr ac
argraffydd ac yn ôl Cyfrifiad 1841 yr oedd bachgen pymtheg oed, Isaac B.D.
Jones yn ei gynorthwyo gyda rhwymo llyfrau.
Claddwyd
Enoch Jones 4 Mai 1866 pan oedd yn 90 oed yn Eglwys blwyf Biwmares a hefyd ei
wraig Agnes 26 Chwefror 1865 yn 83 oed.
Credai
mai mab iddynt hwy oedd yr argraffydd Edward Jones, 43 oed a breswyliai yn Heol
yr Eglwys, Biwmares yn 1871. Ef, yn ôl ewyllys ei dad, dyddiedig 27 Ebrill
1866, oedd i gymryd at y gofal o'i gladdu gan sicrhau pres i'r diben hwnnw o
Glwb Llannerch-y-medd.
Bu
Enoch Jones yn argraffu am dros hanner canrif a bu dau o'i feibion yn
argraffwyr, sef Hugh Jones (1820-66) yng Nghaergybi ac Edward Jones (g.1828) ym
Miwmares.
Dau
argraffydd hefyd oedd tystion ewyllys olaf Enoch Jones o Fiwmares, sef Robert
Roberts (1827-1904) o Gaergybi a Wiliam Aubrey o Llannerch-y-medd. Yr olaf o'r
ddau yma a barhaodd y traddodiad o argraffu yn y Llan. Cawn sylwi ar ei
weithgarwch mewn ail ysgrif.
***
Colofn
Goffadwriaethawl: Neu Alarnad Seion Am Ei Gwylwyr, Sef bar ystyriaeth Ar
Farwolaeth Y Parchedigion Clarke, Watson, Brown, Haynes, Ac Humphreys ... Gan
R. M. Williamson, B. M. Aelod O'r Gymdeithas Wesleyaidd Yn Môn.
(Beaumaris: Argraffwyd Gan Enoch Jones, Tros Yr Awdwr. 1833.)
Annogaeth
I Adgoffau Yn Barchus Ddyfodiad Iesu Grist Yn Y Cnawd ... (Gan James Williams)
(Beaumaris Argraffwyd Gan Enoch Jones) (1833) tt.1-10.
A
History Of The Island Of Anglesey ... To Which Are Also Added, Memoirs Of Owen
Glendowr ... (Beaumaris: Printed And Published By Enoch Jones. MDCCCXLIV.)
tt.1-74.
Amlwch,
And The Celebrated Mona And Parys Copper Mines, Isle of Anglesey. Second
Edition, Corrected And Enlarged. (Beaumaris: Printed By Enoch Jones, Wrexham
Street. 1848.) tt. 1- 14.
The
Minstrel ... (gw. rhif 16 uchod) Third ed. with additions. (Beaumaris. Printed
and Published by Enoch Jones, 1849.) tt.1-152.
Tair
Ar Ddeg 0 Bregethau Ar Wahanol Destynau. Gan Y Parch. Henry H. Davies, Periglor
Llangoed a Llaniestyn, &c., ger Beaumaris, Môn ... (Beaumaris: Argraffwyd
Gan Enoch Jones ... 1854.) tt.i-viii, 1-132, 1-6.
*Ni
chynhwysais yn y rhestr uchod gynnyrch cyffredin gweisg megis posteri,
adroddiadau cymdeithasau, rhestrau etholwyr, etc.
(I’w
gwblhau) - Gweler Rhifyn 20 - Awst 1983