Y BARDD A'R GRAMADEGYDD
Dr. R.Geraint Gruffydd a chywydd canmol

YN Y gyfres achlysurol hon o gywyddau'n ymwneud â llyfrau printiedig cynnar, fe gychwynasom, yn briodol ddigon, â chywydd enwog Siôn Tudur yn gofyn am gopi o gyfieithiad Wiliam Morgan o'r Beibl, a hynny ar law 'r cyfieithydd ei hun.

Y tro hwn fe ystyriwn gywydd Meurig Dafydd yn canmol Syr Edward Stradling o Sain Dunwyd ym Morgannwg am beri cyhoeddi gramadeg y Dr John Davies o Aberhonddu, neu Siôn Dafydd Rhys fel y'i hadweinid yn Gymraeg; y mae'r cywydd hefyd, fel y disgwylid, yn canmol Siôn Dafydd Rhys a'i lyfr.

Fe'i gelwir yntau mewn rhai llawysgrifau yn gywydd gofyn, ond fe welir nad oes mewn gwirionedd unrhyw elfen o ofyn ynddo.

Bardd proffesiynol oedd Meurig Dafydd a ganai i foneddigion Morgannwg a Gwent yn ystod hanner olaf yr unfed ganrif ar bymtheg: y mae'n ddiddorol sylwi iddo, yn wahanol i’w gyd-oeswr a'i gyd-fardd Llywelyn Siôn, dyfu'n Brotestant o argyhoeddiad. Crynhoais yr hyn a wyddwn ar y pryd am Siôn Dafydd Rhys yn y gyfrol a olygwyd gan yr Athro Bedwyr Lewis Jones, Gwŷr Môn (Y Bala, 1979), ac yr wyf yn gobeithio sôn ychydig yn rhagor amdano wrth Gymdeithas Bob Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Digon yw dweud yma mai brodor o Lanfaethlu ym Môn ydoedd, iddo gael ei addysg ym Mhrifysgolion Rhydychen a Siena (lle y graddiodd yn M.D.) ac iddo gael gyrfa lwyddiannus fel athro ysgol i ddechrau ac yna fel meddyg, gan ymsefydlu yn Aberhonddu o tua 1585 ymlaen; yr oedd iddo hefyd yn ei ddydd fri cwbl haeddiannol.

***

PRIF waith Siôn Dafydd Rhys, yn ddiamau, oedd ei ramadeg Cymraeg mawr Cambrobrytannicae Cymraecaeve linguae institutiones (Egwyddorion yr iaith Frytanaidd neu'r Gymraeg) a ymddangosodd yn Llundain o wasg Thomas Orwin yn 1592.

Heblaw'r gramadeg ei hun y mae ynddi ddefnyddiau rhagymadroddol helaeth: cyflwyniad Lladin i Syr Edward Stradling o Sain Dunwyd ym Morgannwg, penillion Lladin yn canmol y llyfr gan William Camden a John Stradling, rhagymadrodd Lladin maith gan Humphrey Pritchard o Fangor yn cymeradwyo'r gwaith a'i awdur, a llythyr Cymraeg meithach fyth gan yr awdur ei hun 'At y Cymry'.

Mae cyfieithiadau o'r defnyddiau  rhagymadroddol Lladin (ar wahân i'r penillion) gan Mr Ceri Davies yn ei gyfrol. Rhagymadroddion a chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Caerdydd, 1980) ac argraffwyd llythyr Siôn Dafydd Rhys 'At y Cymry' gan Mr Garfield Hughes yn Rhagymadroddion 1547-1659 (Caerdydd, 1951); ymdriniwyd yn fanwl â'r gramadeg dros hanner canrif yn ôl bellach gan Syr Thomas Parry yn chweched gyfrol Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd.

Fe wyddys ryw gymaint am hanes y llyfr. Eisoes yn yr Eidal, at ddiwedd y chwedegau,

cyhoeddasai Rhys dri llyfryn yn ymwneud â gramadeg yr iaith Roeg, cystrawen y Lladin ac ynganiad yr Eidaleg. Yr oedd wedi cychwyn ar ei ramadeg Gymraeg erbyn Chwefror 1583, fel y dengys llythyr a ysgrifennwyd ato gan Wiliam Midleton ddechrau'r mis hwnnw.

Y mae'n amlwg i Syr Edward Stradling a'i wraig annog Rhys i orffen y gwaith ac yna dalu am ei argraffu; lluniwyd y cyflwyniad i Stradling yn Aberhonddu 6 Gorffennaf 1590. Y diwrnod cyn y Nadolig 1591 fe'i cofrestrwyd gan Thomas Orwin yn Stationers' Hall (sylwer ar y teitl anghywir):

    Entered for his copy under the hands of my Lord's
    Grace of Canterbury and Master Watkyns a book entitled

    Cambrobrytannicae,
    Cymrbraecae, Linguae
    rudiments authore Johanne
     Davide Rhaeso
    ... 6d.

Ymhen llai na seithmis yr oedd Rhys yn ôl yn Aberhonddu ac yn sgrifennu'r llythyr canlynol at ei noddwr, wedi'i ddyddio 12 Gorffennaf 1592 (rhaid felly mai camgymeriad oedd dyddio'r llythyr Cymraeg 'At y Cymry' yn y llyfr ei hun 6 Tachwedd 1592):

    My duty remembered to your worship. You shall understand that I am come home;
    but no sooner come, but that Mr Justice Walter, hearing that I was shortly to
    depart from London, and leaving one at Brecknock to solicit my hasty repair to
    him at Ludlow: upon this occasion, and for that he is the Justice of Assise in
    this circuit, and to be kept in hand for many purposes, I am going this day to
    Ludlow, having a far greater desire (as God knoweth) to resort to my Maecenas.
    But after my return from Ludlow I will (through God's grace) be shortly there.
    The cause of my long tarrying in London was for the sure settling and placing
    of the books, and perusing every one of them, sheet by sheet; which sheets in
    12 hundred and odd books grow to a great number and tedious perusal. Of these
    books the Queen's Majesty had one, my Lord Treasurer another, and my Lord of
    Essex the third, for that these three had just cause to have a consideration of
    this excellent language. From the Queen I know not what answer was had, for
    that I came away before I spake with Mr Scudamore, who did deliver the book;
    but at the coming of Mr Scudamore to Holme Lacy I shall know. There is more
    worshipful speeches concerning yourself about the setting forth of that book
    than about any one thing that ever you did in all your life. And thus, with my
    humble duty to your self and to my singular good lady, and hearty commendations
    to Mr John Stradling, I beseech God to bless and save you all. Brecknock, this
    12th of July 1592.

    Your worship's to command
    during life,

    John Davys.


Cadarnheir mai Stradling a dalodd am argraffu'r llyfr gan y darn canlynol o'i ewyllys, a wnaed 10 Mai 1610:

    Item, whereas there were printed at my expense twelve hundred and fifty
    British grammars I do give fifty of them ready bound to my friend Mr Doctor
    Davys, the author of them; and my will is, that the rest of them shall be given and
    bestowed from time to time by my cousin Sir John Stradling upon such gentlemen
    and others as he shall think fit for the advancement of the British tongue.

***

FEL y gellid disgwyl o ystyried ei faint, ei bwnc, a'r ffaith fod 1250 copi ohono wedi eu hargraffu, nid yw'r Institutiones yn llyfr prin. Y mae saith copi ohono (ond bod dau ohonynt yn

amherffaith) yn y Llyfrgell Genedlaethol a gwyddys am o leiaf ddau ar bymtheg o gopïau eraill mewn llyfrgelloedd ym Mhrydain,  heblaw saith copi mewn llyfrgelloedd yn y Taleithiau Unedig; y mae'n sicr fod amryw gopïau hefyd yn aros mewn dwylo preifat.

Serch hynny, fe ofynnid £250 am gopi pan ymddangosodd un ddiwethaf mewn catalog llyfrwerthwr, yn 1980.

Yr oedd gan Feurig Dafydd feddwl uchel o'r llyfr, fel y gwelir wrth ei gywydd (bu'n dda gennyf allu dibynnu ar draethawd M.A. Mr T.O. Phillips 'Bywyd a gwaith Meurig Dafydd (Llanisien) a Llywelyn Siôn (Llangewydd)' am destun wedi'i olygu, er imi newid ryw ychydig arno). Amheuthun yw cael gwerthfawrogiad mor fanwl a deallus gan fardd proffesiynol o waith dyneiddiwr, ond dichon i'r bardd gael ambell awgrym gan y dyneiddiwr, neu ryw gyfaill iddo, sut i fynd at y gwaith!

1   Y marchog, rhywiog ben-rhaith,
Iôr sythwaew, a ŵyr seithiaith,
Syr Edwart, mewn hasart ing
Is du rydlafn, Ystradling:
5   Ef yw'r hydd, penllywydd llwyd,
Iawn sôn dawn, yn Sain Dunwyd.
Oes Addaf hynaf yw hwn,
Iôr brau ytyw i'r Brytwn.
Nid oes un brigyn o'r brig,
10   Mawrfwyn hawdd, mor fonheddig;
Unfed marchog yw'r iawnfwyn
Ar bymtheg, llin deg o'r llwyn.
Llyna lwyn llawn oleuni,
Llawn glod nerth oll ein gwlad ni.
15   Rhoes nerth, ein Hiôr grasfwyn hy,
Rhag rhan cam-ran i'r Cymry,
I gael Gramer, goel grymiaith,
Breufwyn Iôr, i brifio'n hiaith,
Fel na bo i Sais o drais draw,
20   Un bawaidd, mwy ein beiaw,
Na beio gwaith na bywyd
Ein hawen feirdd, na'n hen fyd.
Mae gwarant, put foliant per,
Orau grym, ar y Gramer
25   Doctor pur, gwyddor i'r gwaith,
Dyn yw a ŵyr deunawiaith,
Cymro gwych o'r Cymry gwiw,
C'lennig dysgedig ydyw.
Gŵr yw, ail Ipo gywrain,
30   Gorau sydd mewn gair a saint
Cyfieithydd dedwydd didwyll
Iaith hardd, ni fyn bai na thwyll.
Naddodd ysgrifenyddiaeth,
Yn llawn ac yn iawn y'i gwnaeth.
35   Cyfieithyddiaeth oedd gaeth gynt —
Cair i bob gair ei gerrynt.
Cystrawiaeth, cast ar awen,
Cywir byth y'i ceir o'i ben.
Tonyddiaeth helaeth hylawn
40   A gair mewn llefair a gawn.
Yn y Gramer pêr, heb hyn,
Mwyfwy y ceir ymofyn
Athrawiaeth prydyddiaeth prin
Osod oedd waith Taliesin.
45   Wellwell, tra fo bwyell byd
I'w coel, fydd pob celfyddyd;
Ac waethwaeth, ysywaeth sôn,
Eu domau fydd y dynion.
Can gwell weithion mewn tôn teg,
50   Cam ryw, a fydd Gymraeg.
Siôn a roes, i'm synnwyr i,
Hynt eurnod, warant arni.
Groeg, Lladin dibrin yn brynt,
Gradd addysg g'ruaidd iddynt,
55   A'r hen gelfyddyd wiw rwydd
O gerddwriaeth, gardd hoywrwydd,
A phob colfen, ddyfnhen ddysg,
Uniawn hoywddawn, yn hyddysg,
A mesurau, samplau sôn,
60   Hoff iawn oll, a phenillion,
A phob cynghanedd, hoff ŷnt,
Hynod, a phle yr henynt,
A'u henwau, hoff rywiau ffraeth,
Hwynt herwydd eu naturiaeth.
65   Mae beiaw, anafau wnânt,
Mal llygod aml y llwygant;
Yn y gerdd rhai enwog ŷnt,
 Adwyth ac anardd ydynt.
Mae Status weddus wiwddawn
70   I'w gweled oll, galed iawn,
Ar gerddwyr o'r gywirddysg,
Ar rai na bo difai'u dysg.
Gwae brydydd o'r dydd y daw
Dyrnod Eisteddfod arnaw
75   Oni ŵyr yn llwyr holl waith
Y llyfr hwn, llafur hoeniaith.
Da fu'r marchog pwyllog pell
A gostiodd hwn o'i gastell !
Da fu'r doctor, cyngor call
80   0 Dduw, a fu'n ei ddeall !
Da Duw i'r gwŷr, deidiau'r gwaith,
Duw a dalo'u daed eilwaith.

RHAI GEIRIAU ANODD
1  pen-rhaith: arglwydd
3  hasart: antur
8  bran: rhywiog
29 Ipo: Hippocrates, meddyg o'r hen fyd
35 Cyfieithyddiaeth: gwall, o bosibl, am cyfiachyddiaeth `morffoleg'
37 Cystrawiaeth: cystrawen
39 Tonyddiaeth: celfyddyd cerdd dafod
45-8 Wellwell ... : adlais o hen ddihareb
56 cerddwriaeth: celfyddyd cerdd dafod
57 colfen: cainc
62 henyw: 311. Amh. y f. hanfod `tarddu'
66 llwygant: 311. Pres. y f. llwygo `mynd yn wan, llewygu'
69 Status: 'Ystatud Gruffydd ap Cynan' a `gyhoeddwyd' yn Eisteddfod gyntaf Caerwys,
    1523, gyda'r amcan o roi trefn ar urdd y beirdd
78 a gostiodd: a dalodd am
82 daed: daioni, rhinwedd