TRANC Y PAPUR SUL SULYN gan Dylan Iorwerth

FALLE mai un o'n nodweddion ni fel Cymry ydi'n hawydd ni i achub pethau sydd ar fin marw neu eisoes wedi ei throi hi. Am wn i mai rhywbeth fel yna oedd hanes Sulyn, beth bynnag.

Ar ôl y chwalfa, mi gafwyd llawer o bobol yn awgrymu cael ymgyrch i godi pres – ceiniogau'r werin a ballu – a'r mwyafrif yn ffyddiog y byddai pobol Gwynedd yn fodlon tyrchu i'w pocedi i achub y papur. Gwaetha'r modd, naw mis ynghynt yr oedd angen brwdfrydedd o'r math yna.

Roedd 'na rai eisoes wedi bod yn gefn mawr ond petaen ni wedi cael cyfalaf ychwanegol yn weddol gynnar mi fyddai wedi bod yn bosib ei ddefnyddio'n adeiladol. Gwneud pethau fyddai'n cryfhau'r sylfaen fasnachol gan olygu llai o waith i ni yn y pen draw. Trwy orfod byw'n ariannol o rifyn i rifyn, heb fawr wrth gefn, roeddan ni wedi methu mynd i'r afael o ddifri â rhai problemau.

0 gofio hynny, mae'n amlwg fod y gernod ychwanegol gawson ni yn un farwol. Roedd penderfyniad y cwmni argraffu yn y Trallwng i roi'r gorau iddi yn golygu y byddai'n amhosib denu unrhyw arian cyfalaf hefyd. Doeddan ni ddim yn medru delio efo dwy broblem o'r maint yna, ar yr un pryd.

***

DOEDD rhai pethau ddim wedi mynd yn ôl y cynllun gwreiddiol, a'r argraffu oedd un o'r rheini. Y gwir ydi fod y papur wedi bod o fewn dim i beidio ag ymddangos o gwbwl.

Lai na phythefnos cyn y dyddiad lansio y clywson ni nad oedd undeb argraffu'r NGA yn fodlon ar ein bwriad ni i gysodi'r papur ar beiriannau gwasg leol. Oherwydd hynny mi fyddai'r gweithwyr yn y Trallwng wedi gwrthod cyffwrdd a'r papur.

Canlyniad hyn oedd colli cwsg, colli amser gwerthfawr wrth baratoi a gorfod gwario'n helaeth ar beiriant i gysodi'r papur yn y swyddfa. Mwy o straen ar y gweithwyr a gorfod mynd i'r Trallwng i weithio ar ddydd Sadwrn, y dydd prysura o'r cyfan. Problemau ychwanegol, problemau trafferthus ond rhai yr oeddan ni'n medru dygymod â nhw.

Erbyn hyn, mae'n bosib chwerthin wrth gofio fod un o'r cwmni wedi cyrraedd y Trallwng y tro cynta efo map bychan, blêr yn dangos lle'n union yr oedd ffatri'r cwmni argraffu. Ei ddangos i berson ar ochor y ffordd yng nghanol y dre, hwnnw'n ei droi bob ffordd a chrychu talcen cyn gofyn "You sure this is Welshpool?"

Fyddai arian cyfalaf, wrth gwrs, ddim yn ddigon heb fedru datrys y broblem argraffu. Prinder gweisg oedd yn medru delio efo'r math o waith oedd ganddon ni – argraffu 10,000 copi o bapur cyfan o fewn rhyw awr – oedd wedi ein hanfon i'r Trallwng yn y lle cynta. Ond mi fyddai arian ychwanegol wedi golygu gosod y papur ar sail digon cadarn i fentro cario 'mlaen am chydig a cheisio datrys y broblem yn y cyfamser.

Y defnydd mwya gwerthfawr o bres cyfalaf fyddai i hybu gwerthiant. Roeddan ni wedi gosod sail o fwy na 6,000 o ddarllenwyr cyson efo tipyn go lew dros 8,000 wedi prynu un neu ddau o'r rhifynnau. Roedd ein sustem ddosbarthu wedi lled-weithio, ond dim mwy.

***

LLE'R oeddan ni wedi cael mynd o ddrws i ddrws, yn effeithiol cyn lansio, roedd y papur yn gwerthu'n dda. Tua 80 yn mynd mewn pentre fel Trefor, o'i gymharu â rhywbeth fel tri chopi o'r Faner, a phobl yn dal i'w brynu.

Cyn lansio roeddan ni'n ymwybodol fod angen cadw'r papur o dan drwynau pobol. Mi fedr papurau mawr Fleet Street wario ar hysbysebion ac yn y blaen i wneud hynny; ein hangen ni oedd cael ffordd wahanol, a mynd o ddrws i ddrws oedd honno.

Gyda mwy o arian cyfalaf mi fydden ni wedi medru cynnal ymgyrchoedd canfasio ar draws Gwynedd a thalu i bobol am wneud hynny. Dyna fyddai'r hwb ychwanegol i sustem werthu o ddrws i ddrws ymhobman.

Mi fyddai hynny wedi golygu gwerthiant uwch a sustem fyddai wedyn yn gweithio dan ei stem ei hun, dim ond rhoi mymryn o oeliach bob hyn a hyn. Canlyniad hynny fyddai papur oedd i'w weld yn gwerthu, efo pobl leol yn rhan o'r broses, ac mi fyddai hynny'n ei dro'n arf allweddol i ddenu hysbysebwyr.

Canlyniad y cyfan i gyd, o ran theori beth bynnag, fyddai ein bod ni wedi medru torri'n colledion yn llawer cynt a falle roi digon o hyder i feddwl am fenthyciad i brynu gwasg.

0'r dechrau roeddan ni wedi amcangyfri y byddai'n rhaid wynebu colled am o leia chwe mis. Roeddan ni'n gorfod talu mwy na £3,000 i gynhyrchu pob rhifyn, a hynny hyd yn oed tua £1,000 yn rhatach na'n hamcangyfri gwreiddiol ni. Os ydi Norman Tebbitt eisio cyngor ynglŷn â thorri costau i'r byw ...

***

UN o'r pethau oedd yn gwneud y papur yn ddrutach o fymryn oedd ein penderfyniad ni i gael pob hysbyseb yn uniaith Gymraeg. Weithiau mae cwmnïau mawr yn anfon hysbyseb sydd wedi ei gosod yn barod a'r cyfan sydd ei angen o du'r papur ydi rhoi'r hysbyseb yn ei lle. Trwy fynnu cyfieithu, roedd yn rhaid i ni ail-osod yr hysbyseb gyfan a thalu i rywun am wneud.

Mi fyddai'n bosib rhestru mân-oblygiadau tebyg, a mwy o drafferthion, ond y gwir plaen ydi fod y cyfan ohonon ni yn dal yr un mor sicr ag erioed fod cyhoeddi papur tebyg i Sulyn yn bosib. Mi fyddai cyfalaf – tua £60,000 ac efallai £180,000 i brynu a rhedeg gwasg – yn hanfodol.

Y diffyg ffydd a grybwyllwyd yn yr ail baragraff oedd y broblem gawson ni wrth chwilio am gyfalaf cyn dechrau. Doedd cyrff swyddogol na banciau ddim fel petaen nhw am ein trinni o ddifri a dyna pam y penderfynson ni osod dyddiad lansio a gobeithio y byddai hynny'n rhoi'r proc oedd ei angen. Wedi gosod dyddiad lansio, rhaid oedd glynu ato fo.

***

MAE 'na angenrheidiau amlwg eraill:

 

Yng Nghymru, efallai mai cyflawni'r cymal ola un yna fydd y dasg galeta.