PEDAIR CANRIF WEDI'R WYRTH
Doctor Derec Llwyd Morgan a'r Doctor Morgan arall
YN
ÔL a glywaf, y mae rhai pobl flaengar yng Nghymru eisoes yn ystyried sut orau i
ddathlu Pedwar Canmlwyddiant Beibl 1588. Ac nid yw fymryn yn rhy gynnar.
Dylai'r ŵyl hon fod yn un o uchafbwyntiau calendr y ganrif yng Nghymru. Felly,
mae gofyn trefnu mawr a manwl, – ac nid trefnu cyrddau a chynadleddau yn unig,
ond trefnu cyfrolau a fydd yn disgrifio'n ddysgedig a difyr y cyfraniad
eithriadol gyfoethog a wnaeth y Beibl i'n diwylliant ni.
Wrth
imi ddarllen llawer iawn o weithiau'r ddeunawfed ganrif yn ddiweddar, ni welais
yr un cyfeiriad at ddathlu Dauganmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl. Ond fe geisiwyd
diolch i Morgan yn 1888 (diolchodd yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn yn hwyr:
yn 1889 y gofynnwyd am Awdl ar "Y Beibl Cymraeg").
Gan
mai yn y cyfnod ar ôl hynny y datblygodd ysgolheictod Cymraeg, yn 1988 y mae'n
ddyletswydd arbennig arnom ni sydd yn gweithio yn y maes ddefnyddio'n
gwybodaeth ysgolheigaidd a beirniadol newydd o leiaf i geisio dweud yn iawn am
fawredd camp Morgan.
***
PRIN fod eisiau nodi fod ei Feibl yn un o
lyfrau mawr y Gymraeg. Y mae ei ddylanwad - ei ddylanwad llenyddol yn ogystal
â'i ddylanwad crefyddol a diwinyddol - yn fwy o lawer na dylanwad unrhyw lyfr
arall (neu gasgliad o lyfrau) a gyhoeddwyd yn ein hiaith ni erioed.
Yn
wir, ni ellir dechrau deall meddwl a dychymyg Cymru Fodern, o ddyddiau'r Dadeni
Dysg hyd yn awr, heb wybodaeth dda o gynnwys, ieithwedd, geirfa, a golygwedd y
Beibl. Erbyn 1988, felly, ardderchog o beth fyddai inni geisio diffinio'r
dylanwad a gafodd arnom.
Y
mae o leiaf dri phrif faes y dylid eu diffinio. (Er, dylid nodi eu bod nhw mewn
mannau yn gorgyffwrdd.)
Yn
gyntaf, dyna ddylanwad y Beibl ar ein llenyddiaeth. Yn hytrach na manylu'n
dechnegol ar y gwahanol fathau o ddylanwad a gafodd arni, mewn erthygl bleidiol
fel hon, efallai y byddai'n rheitiach imi gymryd golwg gronolegol ar bethau, a
dangos yn y modd hwnnw mor amrywiaethol y bu'r dylanwad hwn.
Cymerwch
lenyddiaeth y Piwritaniaid Cymraeg gwreiddiol. Y cewri yn eu plith hwy yw
Morgan Llwyd a Charles Edwards. Y mae prif lyfr Edwards, Y Ffydd Ddi-ffuant
(1677), yn Feiblaidd i'w wraidd.
Trafod y mae ymwneud Duw â'i bobl - Ei
bobl yng Nghymru yn arbennig, - ac nid oes dim oll yn fwy
"Beiblaidd", oblegid dyna hanfod gweledigaeth yr Hen Destament (a'r
newydd, mewn ffordd wahanol): drwy astudio arbrawf Duw gyda Hanes yr amlyga
awduron y Beibl eu hathroniaeth am fywyd.
Am
Forgan Llwyd, y mae ei lyfr pwysicaf ac anoddaf ef, Y Tri Aderyn, yn gwneud
defnydd canolog o ddau o brif symbolau'r Ddau Destament, yr arch (Arch y
Cyfamod, Arch Noa, a'r arch sy'n golygu gorchymyn Duw) a'r atgyfodiad, sef
presenoldeb Duw yn y Mab yng nghalonnau pob yr un ohonom, a hefyd yr atgyfodiad
yn niwedd Amser pan ddaw'r Arglwydd i deyrnasu ar y ddaear am Fil o
Flynyddoedd.
Ellis
Wynne yr un modd, ddwy genhedlaeth yn ddiweddarach. Er ei fod ef yn ddyledus,
yn anuniongyrchol, i Fferyll ac i'r Aeneid, ac felly i'r meddwl clasurol,
"paganaidd", ni wneid pen na chynffon o Weledigaethau'r Bardd Cwsg
heb adnabyddiaeth o Satan, o arwyddocâd Y Stryd Groes, o ddiwinyddiaeth achub,
ac o syniadau gwledydd Cred am y Farn, – ac yn y Beibl y mae gwraidd pob un o'r
pethau hyn.
***
PAN
ddown at greadigaethau llenyddol mwyaf y ddeunawfed ganrif, mae'r ddyled i'r
Gair yn amlycach fyth, ar yr wyneb, beth bynnag. Ni all neb adnabod Theomemphus
heb adnabod Crist a Phaul, na'i ddeall chwaith heb ddeall y modd y mae Gras y
Testament Newydd yn concro gafael Deddf yr Hen Destament arnom.
Gyda
golwg ar yr emynau lu a ysgrifennwyd rhwng, dyweder, 1740 ac 1820, y mae llwyr
ddirnadaeth o'u hystyr yn dibynnu'n drwm iawn ar adnabyddiaeth y darllenydd nid
yn unig o neges yr Efengylau ac Epistolau Paul, eithr hefyd yn dibynnu ar ei
gynefindra â llefydd a phobl y Ddau Destament.
Yn
wir, y mae emynau'r cyfnod hwn yn gorfforiad mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r
ffordd y cyflawnir yr Hen Destament yn y Newydd.
Pwy
all ddirnad ystyron cyfoethog Pantycelyn heb wybod pa le y mae Gwlad Gosen,
beth yw Balm Gilead, pa beth yw arwyddocâd Sinai a Salem, etc. Ann Griffiths,
Thomas Charles, y ddau David Charles, a Thomas Jones o Ddinbych yr un modd.
***
RHAG
i'r llith hon fynd yn gatalog, gadewch inni neidio dros y ganrif ddiwethaf i
mewn i'n canrif ni. Tybir yn oraml mai canrif seciwlar yw hi. Coffa da am W.J.
Gruffydd a'r hwyl a gai pan ddywedai'i gyd-Gymry wrtho mai paganiaid oedd
athrawon a darlithwyr Adrannau Cymraeg y Brifysgol yn amser Williams Parry a
Gwynn Jones!
Os
tybir y gellir deall dramâu Beiblaidd Saunders Lewis heb ddeall y meddwl
Israelaidd, fe'n twyllir. Mae deuoliaeth meddwl Gwenallt, yn ei gerddi cryfaf,
fel ei arddull "ddatganiadol-broffwydol", eto'n nodweddion Beiblaidd
i'w gwraidd.
A
dyna T.H. Parry-Williams yntau: er mor "bagan" (yn ôl ei honiad
bwriadol gamarweiniol ei hun) yw ei "ddoethineb", ysgrythurol neu wrthysgrythurol
yn llawer o'i syniadau, a chwbl ysgrythurol yw llawer o'i ymadroddion.
0
ran hynny, mae'n werth nodi taw o Lyfr Job y cafodd Kate Roberts deitl ei nofel
fwyaf, Traed Mewn Cyffion; Jobaidd hefyd yw'r dioddefaint anghyfiawn a
ddisgrifir ynddi, fel yr agwedd meddwl lywodraethol.
Er
amlyced hyn i gyd, hyd yma ni luniwyd yr un gyfrol o feirniadaeth hanesyddol na
beirniadol-lenyddol yn olrhain maint na manylder y dylanwad enfawr a gafodd y
Beibl Cymraeg ar ein llên. Yma, rhaid enwi cyfrol fawr gyffrous R.M. Jones Llên
Cymru a Chrefydd (1977), sy'n mynd rhan dda o'r ffordd at wneud hynny, er nad
dyna'n union ei bwriad sylfaenol hi.
***
YR AIL faes y mae angen ei ddiffinio yw'r
dylanwad a gafodd y Beibl ar fytholeg y Cymry. Mae hwn yn faes mwy cymhleth,
wrth gwrs, a diau fod llawer o efrau'r byd yn gymysg â'r gwenith ysgrythurol
sydd ynddo.
Un
o'r rhesymau paham y mae cynifer o'n sylwedyddion gwleidyddol a chymdeithasol
ni yn cyhoeddi cymaint o wae uwchben stad druenus y famwlad yw ein bod ni, ers canrifoedd
da, wedi derbyn, o leiaf yn isymwybodol, y myth hwn, sef ein bod ni'n un o
genhedloedd etholedig yr Arglwydd, – yn wir, nad ydym yn ail i neb ond Israel.
Unwaith
yn rhagor, rhaid enwi Charles Edwards, yr hwn, yn Y Ffydd Ddi-ffuant, sy'n aml
iawn yn cyfochri Cymru ac Israel. Y mae'r un thema'n cael ei dablygu, fel rhyw
fath o insiwrans nefol ochr yn ochr â'n perthynas i'r Hen Roegiaid, yn Drych y
Prif Oesoedd Theophilus Evans.
Rhan
o'r myth hwn yw'r myth a ddiffiniwyd gan Saunders Lewis fel y Ddamcaniaeth
Eglwysig Brotestannaidd, y syniad i'n cyndeidiau ni, drwy Joseph o Arimathea,
dderbyn yr Efengyl Bur o flaen yr un genedl.
Nid
cyd-ddigwyddiad yn unig yw mai un o "awduron" Cymraeg y myth hwn yn
yr unfed ganrif ar bymtheg oedd Richard Davies, a fu'n bennaf gyfrifol am gael
William Salesbury i gyfieithu'r Testament Newydd.
Myth
perthynol i hwn sy'n gyfrifol am y ffaith ein bod ni hefyd wedi mynd i ystyried
ein gwleidyddiaeth genedlaethol yn nhermau achubiaeth a cholledigaeth. Soniwn
byth a beunydd am "achub" y Gymraeg, am "adfer" yr hyn a
elwir gan Gymdeithas Adfer yn "Fro Gymraeg".
Ffwndamentalaidd
yw'r meddylfryd hwn, ac y mae ei wraidd ef eto yn y Beibl.
***
YR
YDYM yn awr yn ein trydydd maes, sef maes seicolegol y genedl, – y genedl, cofier,
a enwodd gynifer o'i phentrefi a'i threfi gydag enwau Beiblaidd.
Dylai
astudio dylanwad seicolegol y Beibl arnom ein harwain i ystyried paham y cafodd
rhai agweddau ar feddwl y Beibl effaith arnom, yn hytrach nag agweddau eraill
arno. Ac i ystyried hefyd paham y glynwn wrth lawer o syniadau Beiblaidd (neu
eu holion) pan nad yw hynny o fawr fudd inni.
Gwelwn
gynulleidfaoedd eglwysig yn edwino, capeli'n cau, y weinidogaeth yn gymharol
wan. Y mae llawer iawn o resymau, wrth gwrs, dros y dirywiad enbyd hwn, ond y
mae a wnelo perthynas llên a myth a seicoleg y genedl a'i gilydd, gryn lawer â'r
peth.
Pwnc
nid dibwys, yn y cyswllt hwn, yn fy marn i, yw'r ffaith ein bod, gyda'n
gwybodaeth soffistigedig am natur Natur, yn dal i addoli'r Crëwr yn idiom yr
Hen Israel fel y'i dehonglwyd inni gan emynwyr a phregethwyr y ddeunawfed
ganrif a dechrau'r ganrif ddiwethaf.
Pwysicach
fyth yw'r ffaith na ŵyr y rhan fwyaf ohonom sut Dduw a roddwyd inni'n
etifeddiaeth, ac yn yr anwybodaeth honno, fe'n siomir yn ein camsyniad ohono, –
ac wele, dyna'n dadrithio'n seicolegol.
***
Y
RHESWM pam yr ysgrifennais yr erthygl hon ar gyfer Y Casglwr yw hwn: yr unig
ffordd y down i'n hadnabod ein hunain yn well yw trwy astudio'r dychymyg y mae
llenyddiaeth a llyfrau o bob math yn ei borthi a'i barhau.
Yr
ydym oll yn edrych ymlaen at gael y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988, oherwydd bydd
ei gael ef yn gymorth newydd inni astudio'n hunain fel aelodau o genedl y
cafodd y Beibl ddylanwad aruthrol fawr arnom.
Purion peth fyddai inni ddathlu ei
gyhoeddiad ef drwy edrych, cyn hynny, unwaith yn rhagor, ar yr hyn a roes
William Morgan inni.