JOHN OWEN - EPIGRAMYDD
Syr Thomas Parry a champ y Cymro

WRTH swlffa ymysg fy llyfrau y dydd o'r blaen mi ddois ar draws llyfr a brynais yn rhywle flynyddoedd lawer yn ôl, sef casgliad cyflawn o epigramau Lladin John Owen, aelod o deulu anturiaethus y Plas-du yn Eifionydd. (Ysgrifennodd Dr J. Henry Jones ddwy erthygl werthfawr ar John Owen a'i epigramau, y naill yn Y Llenor, xvii, a'r llall yn Nhrafodion y Cymmrodorion, 1940.)

Am y llyfr, un bychan ydyw, pedair modfedd wrth ddwy a hanner, ac ynddo 212 o dudalennau, ac y mae'n cynnwys yr holl epigramau a gyhoeddodd John Owen mewn un-ar-ddeg o lyfrynnau yn y cyfnod byr rhwng 1606 a 1613. Cynhwyswyd hefyd atodiad byr a gyhoeddwyd ar ôl marw'r awdur. Cyfanswm yr epigramau yw 1571. Cyhoeddwyd y llyfr yn Leyden yn yr Iseldiroedd yn 1682.

Yr oedd Thomas Owen, tad John, mewn cryn helynt tua 1578 oherwydd ei fod yn glynu wrth yr hen ffydd ac yn gwrthod mynychu gwasanaethau'r Eglwys Brotestannaidd. Brawd iddo ef oedd Robert Owen, offeiriad Pabyddol ar y Cyfandir, a brawd arall oedd Hugh Owen, yr enwocaf a'r mwyaf rhamantus o'r cyfan, gŵr a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn alltud, ac a oedd a'i fys ym mhob cynllwyn i gael gwared a'r Frenhines Elisabeth, a dwyn Prydain yn ôl at Babyddiaeth trwy gymorth Brenin Sbaen.

Nai iddo, fab chwaer, oedd Charles Gwynn o Fodfel, offeiriad Catholig arall. Ef a gafodd arian Hugh Owen ar ôl ei farw, ac a drefnodd i osod carreg ar y mur yn y Coleg Seisnig yn Rhufain er cof am ei ewythr.

Er cryfed y dylanwadau Pabyddol ar ei deulu, gŵr y sefydliad Protestannaidd oedd John Owen trwodd a thro. Nid yw blwyddyn ei eni yn sicr, ond rhaid ei bod tua 1564, a bu farw tua 1627. Cafodd ei addysg yn Ysgol Winchester ac wedyn yn Rhydychen. Bu'n athro ysgol yn Sir Fynwy ac yn brifathro'r ysgol a sefydlodd Harri VIII yn Warwick. A dyna'r cwbl a wyddys amdano, ar wahân i'r ychydig y gellir ei ddysgu o'i farddoniaeth.

***

COFIER mai Lladin yw iaith yr epigramau oll, a'r mesur yw'r cwpled clasurol, sef llinell chweban a llinell bumban. Yn fynych iawn un cwpled yw'r epigram, ond weithiau dau neu dri. Yr oeddent yn rhyfeddol o gymeradwy ar y pryd – bu galw am ail argraffiad o'r llyfryn cyntaf ymhen y mis.

Cyhoeddwyd y cyfan mewn un gyfrol am y tro cyntaf yn Amsterdam yn 1647. Yna bu amryw o argraffiadau gan wasg enwog Elzevir yn Leyden yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Praw arall o boblogrwydd yr epigramau yw eu bod wedi eu cyfieithu i Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg a'u cyhoeddi lawer gwaith ym mhob un o'r gwledydd.

I ni sy'n gynefin â'r englyn Cymraeg fel pennill cryno, diwastraff a sicr ei ergyd, y mae epigramau John Owen yn hawdd eu gwerthfawrogi. Y maent yn llawn o sylwadau ar fywyd ac ymarweddiad dynion, gosodiadau athronyddol, diwinyddol a moesol, gyda gwersi i'w dysgu. Dyma un, yn dwyn y teitl "Gair yr Arglwydd":

    Dynion ni welant ond ychydig, a
    Duw sy'n rhagweled popeth;
       Dyn balch sy'n llefaru'n
    ddi-baid, unwaith y llefarodd Duw.

(Gan gofio am adnodau cyntaf yr epistol at yr Hebreaid). Dyma un arall sy'n dysgu gwers:

    Hydref sy'n dwyn ymaith y dail
    o'r coed, efô hefyd
       Sy'n dwyn ffrwythau i ni;
    boed i ninnau wneud yr un fath.

Y mae'r bardd yn cellwair yn fynych, yn arbennig ar draul y merched:

    Pam y mae'n llai ddoethineb
    merched na doethineb dynion?
       Am fod Efa i asen yn ferch,
    nid i asgwrn y pen.

Ac eto:

    Prin ydyw diffyg ar yr haul, ond
    mynych ar lleuad:
       Mwy tueddol yw merch i
    ddiffyg nag ydyw dyn.

Ceir chwarae ar eiriau yn gyson. Gofynnir i'r dyneiddiwr mawr Erasmus beth yw ei enw, ai "Erasmus"? Ac ystyr hynny yw "llygoden oeddit ti". Y mae yntau'n ateb, "Si sum mus, summus ero," sef "Os llygoden wyf, mi fyddaf y brif un."

Mewn pennill arall y mae'n cymharu Columbus yn darganfod tir ymhell dros y môr i'r golomen (columba yn y Lladin) yn darganfod tir ar ôl y dilyw yn nyddiau Noa. Rhwng popeth y mae epigramau. John Owen yn ddiddorol iawn i'w ddarllen, yn llawn o ddifrifwch doeth ac o ddigrifwch clyfar.

Tybed a ŵyr rhywun o ddarllenwyr Y Casglwr am gopi arall o'r epigramau y tu allan i'r llyfrgelloedd cyhoeddus?