GWASTRODWYR Y GEIRIAU
M.T.Burdett-Jones a'r geiriaduron Cymraeg

 

       Rhan o wynebddalen copi Gwallter Mechain o'r Dictionarium Duplex

YM 1632, bron ganrif ar ôl i William Salesbury gyhoeddi'r geiriadur Cymraeg printiedig cyntaf, A Dictionary in Englyshe and Welshe (1547), cyfrol a gynhwysai nifer gymharol fechan o eiriau, fe gyhoeddwyd Dictionarium Duplex Doctor John Davies o Fallwyd, geiriadur a fu'n sylfaen i eiriaduraeth Gymraeg am nifer o genedlaethau. 'Roedd hwn yn eiriadur Cymraeg-Lladin a Lladin-Cymraeg a gynhwysai hefyd restr o enwau llysiau a rhestr o ddiarhebion.

Beirniadwyd John Davies yn annheg yn y gorffennol am ddefnyddio gwaith Thomas Wiliems o Drefriw, meddyg, ysgolhaig a reciwsant, a ysgrifennodd eiriadur Lladin-Cymraeg a batrymwyd ar eiriadur Lladin-Saesneg gan Thomas Thomas, Dictionarivm Lingvae Latinae et Anglicanae.

Ni chyhoeddwyd gwaith Thomas Wiliems yn ystod ei oes a chafodd John Davies ei gomisiynu i'w baratoi ar gyfer y wasg, tasg ddigon blinderus gan fod ysgrifen Thomas Wiliems yn flêr a chap fod angen cryn dipyn o gwtogi ar y tair cyfrol lawysgrif ddaeth yn sail i'w adran Ladin-Cymraeg.

Diau na wyddai John Davies am fodolaeth copi o ran helaeth o'r geiriadur yn ysgrifen eglur John Edwards, Plasnewydd, y Waun, reciwsant arall a gydoesai a Thomas Wiliems, neu fe fyddai wedi manteisio arno mae'n siŵr.

Bid a fo am hynny, 'roedd geiriadur John Davies gyda'r mwyaf dylanwadol yn hanes yr iaith. Cafwyd argraffiad cymharol helaeth ohono a diogelir nifer o gopïau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan gynnwys copi a fu ym meddiant y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain).

***

ERBYN chwarter olaf yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd bod yna lawer o eiriau nad oedd sôn amdanynt yng ngeiriadur John Davies ac 'roedd rhyw ‘gyffro geiriadurol', chwedl G.J. Williams, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig ym mhlith clerigwyr.

Erys gwaith blynyddoedd o nodi geiriau (tua chan mil ohonynt) gan Thomas Lloyd, Plas Power, mewn copi o eiriadur John Davies gyda dail ychwanegol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a defnyddir ffrwyth ei lafur yn helaeth gan staff Geiriadur Prifysgol Cymru. Anfonwyd rhestr o eiriau a baratowyd gan glerigwyr yn esgobaeth Llanelwy at Thomas Jones, yr argraffydd a'r almanaciwr, i'w chynnwys yn ei eiriadur Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688) ond ni chyrhaeddodd mewn pryd.

Seiliwyd y geiriadur bach hwylus hwn sy'n rhoi cyfystyrau Cymraeg a Saesneg i'r geiriau Cymraeg ar eiriadur John Davies ond yn anffodus nid oedd gan Thomas Jones afael sicr ar Ladin ac fe'i harweiniwyd ar gyfeiliorn yn arbennig yn yr adran ar enwau llysiau. Dengys yr enghraifft ganlynol sut y gallai gamarwain y darllenydd.

Golyga'r gair heulrhod 'het' a dyna'r ystyr a geir gan John Davies mewn sawl man yn ei eiriadur; ceir ganddo hefyd groesgyfeiriad 'heulrhod, vid. post Haul', h.y. chwilier am y gair heulrhod ar ôl y gair haul. Camddeallodd Thomas Jones y cyfeiriad hwn a rhoddodd ystyr ychwanegol 'pyst yr haul', h.y. 'pelydr haul', i'r gair heulrhod.

Erbyn cyrraedd geiriadur William Owen Pughe gyda'i ddychymyg rhamantus mae heulrhod wedi magu'r ystyr 'a glory, or circle of rays surrounding the head', sef 'halo'!

***

GWELODD Siôn Rhydderch, yr argraffydd a'r bardd o Amwythig, angen am eiriadur Saesneg-Cymraeg a dyna a gafwyd ganddo ym 1725.

Geiriadur Cymraeg-Saesneg oedd y geiriadur a gyhoeddwyd gan Thomas Richards, Llangrallo, ym 1753, cyfrol a gynhwysai nifer o'r geiriau a nodwyd gan Edward Lhuyd yn ei Archaeologic Britannica (1707) dan y pennawd 'Some Welch Words Omitted In Dr Davies's Dictionary'.

Mae geiriadur Richards yn ddiddorol i ni heddiw am ei fod yn cynnwys rhai geiriau a oedd ar lafar ym Morgannwg, ond nid oedd gan Forysiaid Môn lawer o feddwl o Thomas Richards am y rheswm hwnnw; 'roedd ei iaith yn rhy ddeheuol i'w chwaeth hwy, a meddai eu cyfaill Goronwy Owen am y geiriadur, ' what has Glam. words to do with Welsh? I had rather he had made use of any Gibberish'!

Mae clerigwyr wedi chwarae rhan bwysig yn hanes geiriaduraeth Gymraeg; cyhoeddodd John Walters, Llandochau, waith sylweddol yn elwa ar waith geiriadurol clerigwr arall, William Gambold, a erys mewn llawysgrif.

Ymddangosodd geiriadur Saesneg-Cymraeg Walters gyntaf mewn rhannau rhwng 1770 a 1794. Ceir ynddo ymgais i roi priod-ddulliau Cymraeg am lu o briod-ddulliau Saesneg, a bu ei eiriadur yn ddefnyddiol iawn i'r geiriadurwyr a'i dilynodd.

Nid dyma'r lle i drafod beth sy'n ysgogi rhywun i fod yn eiriadwr, 'a harmless drudge', chwedl Doctor Johnson, ond datgelir cymhelliad Walters yn ei obaith na fyddai ei waith yn cael ei feirniadu am y rheswm 'that it hath a tendency to revive the Welsh Language, or at least to suspend it's fate and prolong it's existence'.

***

GYDA throad y ddeunawfed ganrif 'rydym yn cyrraedd geiriadur William Owen Pughe, gŵr a feddai ar syniadau rhyfedd am natur iaith. Wrth gwrs, 'roedd yn iawn wrth ddal bod elfennau i'w canfod mewn geiriau, ond fe aeth ar gyfeiliorn wrth ddyfalu beth oedd yr elfennau hyn.

Ar sail ei ddamcaniaeth ieithyddol fe fathodd lawer o eiriau hynod ac yn ein gwaith ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru fe'n temtid i anwybyddu llawer o'i ffurfiau a'i ystyron ffug oni bai bod ei ddylanwad mor drwm ar lenorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda'r geiriau rhyfeddaf yn digwydd mewn pryddestau eisteddfodol.

Dylid cofio ei fod, er gwaethaf rhai o'i syniadau, yn ysgolhaig blaenllaw yn ei oes a geisiodd ddehongli hen destunau heb ganllawiau megis Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg J. Lloyd-Jones a Geiriadur Prifysgol Cymru yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw.

Deallodd ddigon o'r hen farddoniaeth i ddehongli ystyron rhai hen eiriau a'u defnyddio wedyn yn ei farddoniaeth ei hun. Gwelir y broses yn gweithio wrth iddo ddarllen yng nghanu Aneirin `ny chilyei a gam-hawn eny verei waet' a chymryd mai merei oedd y ffurf gysefin (berei yw'r ffurf gysefin mewn gwirionedd) o'r ferf sy'n golygu 'llifo, diferu'.

Nododd yn ei eiriadur 'meru ... to drop' a defnyddiodd y gair yn ei gyfieithiad o Paradise Lost Milton, Coll Gwynfa, 'Nes tarddu ffynnon groew .../.../A merai idd yr isod lif.

***

CYHOEDDWYD llawer o eiriaduron yn ystod y ganrif ddiwethaf. Nid yw gofod yn caniatáu imi wneud dim ond crybwyll gwaith Thomas Edwards (Caerfallwch) a Daniel Silvan Evans, dau eiriadurwr a geisiodd ateb yn eu geiriaduron Saesneg-Cymraeg yr angen am eiriau newydd a ddaeth yn sgil newidiadau technolegol a chymdeithasol y cyfnod.

'Roedd Silvan yn hynod (fel Thomas Lloyd, Plas Power, y sonnir amdano uchod) am y ffordd y rhoddodd gyfeiriadau manwl at ei ffynonellau yn ei eiriadur Cymraeg-Saesneg anghyflawn (nid ymddangosodd ond A-Ennyd) ac mae'r nodiadau yn ei law ar gopi o eiriadur William Owen Pughe yn ddefnyddiol i staff Geiriadur Prifysgol Cymru.

O'r geiriaduron y mae darllenwyr Y Casglwr yn debyg o ddod ar eu traws mewn siopau llyfrau ail-law am bris o fewn cyrraedd y dyn cyffredin, rhaid enwi'r argraffiadau o eiriadur Spurrell a ddaeth allan dan olygyddiaeth J. Bodvan Anwyl (nid wyf yn golygu yma y geiriaduron bychain a fwriadwyd ar gyfer ysgolion).

Cyhoeddwyd y cyntaf ym 1916 ac ychwanegwyd rhagor o eiriau mewn argraffiadau diweddarach; maent hwy'n parhau i fod yn ddefnyddiol.