GORCHEST 'BOB OWEN Y DE' ~ D.L.Davies ar W.W.Price

AETH Bob Owen, Croesor, yn `enw' ac yn ddihareb yn y Gymru Gymraeg yn ystod ei oes ei hun, ac arhosodd felly byth oddi ar hynny. Eithr, y tu hwnt i'w fro enedigol, a choridorau'r Llyfrgell Genedlaethol ac atgofion ambell i academwr, aeth enw a gwaith Watkin William Price – "yr henwr hynod", fel y gelwid ef – yn angof o gymharu.

Eto i gyd, rhyw ugain neu fwy o flynyddoedd yn ôl, yr oedd cymhariaeth rhwng bywyd a gwaith y naill a'r llall yn bosib ac yn ddealladwy. Priodol, felly, yw dwyn i gof yng ngholofnau'r Casglwr gampau a llafur diflino W.W. Price: mab i löwr; sosialydd arloesol; ysgolfeistr a hynafiaethydd.

***

SAFAI ' W.W.' mewn olyniaeth deg o haneswyr a hynafiaethwyr a fagwyd yn Aberdâr neu a dreuliodd ran orau eu bywydau yn y cylch. Ai'r olyniaeth hon yn ôl at yr haneswyr a fu ymhlith cymdeithas lenyddol William Williams ("Y Carw Coch").

Ar fwy nag un adeg yr oedd yr anrhydeddus Athro R.T. Jenkins, (a gymerai ddiddordeb arbennig yn hanes ardal Aberdâr efallai am fod ei wraig yn ferch o'r plwyf), yn barod i gydnabod cymorth W.W. Price iddo – er enghraifft wrth lunio ei werthfawrogiad o fywyd y gramadegwr Edward Ifan o'r Ton Coch yn y llyfryn Bardd a'i Gefndir, (1947).

Cefndir cwbl werinol a gafodd Watkin William Price. Fe'i ganed ar y 4ydd o Fedi, 1873, mewn bwthyn glöwr yn 261, Cardiff Road, Aberaman, yn fab i Watkin a Sarah Price. 'Roedd y tad yn ddiacon yng nghapel yr Annibynwyr yn 'Saron', Aberaman, (capel yr aeth rhai o'r aelodau allan ohono ym 1875 - pan oedd ' W.W.' yn ddwy - gyda charfan fwy o gapel cyfagos 'Moreia Aman', Cwmaman, er mwyn ymfudo i'r Wladfa ym Mhatagonia, gan boblogi pentre'r Gaiman wedi glanio). Eglwyswraig oedd ei fam.

Addysgwyd y bachgen `W.W.' yn ysgol elfennol Blaen-gwawr (lle y daeth yn brifathro am ddeng mlynedd cyn iddo ymddeol yn Rhagfyr, 1933), gan ymuno â'r ysgol ar ei diwrnod-agor ym 1880. Bu yno nes cyrhaeddodd ei 13 oed; ac yna, aeth am dair blynedd a hanner i weithio yn swyddfa hen bapur Cymraeg anrhydeddus Aberdâr a'r cylch, Tarian y Gweithiwr, (neu "Y Darian" fel yr adwaenai pawb y papur). Swyddfa Mills & Lynch oedd hon, yn 19, Cardiff Street, Aberdâr, a bu ' W.W.' yno tan 1889 pryd y dychwelodd am gyfnod byr i ysgol Blaen-gwawr fel disgybl-athro.

Oddi yno, aeth eto fel disgybl-athro i Ysgol Frutanaidd Aberaman am chwe blynedd, tan 1895. Ym 1894, fel yr oedd yn gyffredin ymhlith ieuenctid yn y swydd a ddaliai, safodd arholiad am y "Queen's Scholarship" er mwyn cael mynd i goleg a derbyn hyfforddiant a fyddai'n arwain at fod yn athro go-iawn. Bu'n llwyddiannus, ac aeth i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd ym Medi, 1895, fel efrydydd `Normal'.

***

ARHOSODD yn y Coleg am ddwy flynedd ac ni raddiodd wrth gwrs. Ar ymadael ym 1897, cafodd swydd athro gan Fwrdd Ysgolion Caerdydd, a hynny mewn dwy ysgol dros ddwy flynedd a hanner. Yna, ym mis Chwefror, 1900, daeth cyfle i'r alltud hwn ddychwelyd i'w wlad ei hun pan benodwyd ef yn athro yn Ysgol y Parc, Trecynon, (neu 'Ysgol y Comin' fel y byddai pawb yn ei galw hi).

Hon hefyd oedd yr ysgol y bu W.W.P. yn gyfrifol am lunio a chyhoeddi ei hanes gogyfer â'i chanmlwyddiant ym 1948 – yr unig deitl, hyd y gwn i, a gyhoeddwyd ag enw W.W.P. yn unig, a neb arall, arno.

Bu wrthi yn ' Ysgol y Comin' (lle bu Dan Isaac Davies yntau'n brifathro rhwng 1858 a 1867) tan 1912, pryd y gwnaed W.W.P. yn brifathro ar ysgol elfennol y Llwydcoed - pentref genedigol Edward Ifan, Ton Coch. Ym 1921, fe'i penodwyd yn brifathro ar ysgol y Cap Coch, Abercwmboi; a'i swydd olaf oedd cael bod yn brifathro ar yr ysgol y cychwynnodd ef ynddi ym 1880: ysgol Blaen-gwawr, lle bu rhwng 1924 a'i ymddeol ym 1933.

Âi am wythnosau ar y tro, a hynny heb hwylustod car ac ar ei bensiwn seiliedig ar gyflog 1933, ac ymhell i'w wythdegau, ar draws y wlad er mwyn gweithio, astudio a chopďo yn Llyfrgell Dinas Caerdydd, a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a'r P.R.O. a'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Olrheiniai, nodai a dehonglai bopeth y gallai am hanes Aberdâr yn y lle cyntaf, ac wedi hynny am Forgannwg.

***

YR OEDD ' W.W.' yn 24 oed pan fu farw Griffith Rhys Jones, "Caradog"; yn 22 pan fu farw Henry Austin Bruce, un o sylfaenwyr cyfundrefn addysg Cymru; yn 12 pan gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol nodedig Aberdâr ym 1885; yn bymtheg pan fu farw Henry Richard, aelod seneddol bwrdeistrefi Merthyr; ac yn 27 pan etholwyd Keir Hardie fel unig aelod seneddol sosialaidd Prydain, eto dros Aberdâr a Merthyr, ym 1900.

A dweud y gwir, ar wahân i’w gariad at hanes, prif serch y rhan gyntaf o'i oes oedd ymroi at sefydlu'r mudiad Llafur yn ne Cymru.

Fe fu'n gyfrifol am ddechrau'r Gymdeithas Lenyddol a Dadleuol yn Aberaman a roes fod yn ddiweddarach i Neuadd y Gweithwyr yn y cylch hwnnw. Bu hefyd yn ysgrifennydd trefniadaeth a phropaganda i gangen Aberdâr yr I.L.P. tan 1908.

***

OHERWYDD y gwaharddiad a roddodd ambell un o'r capeli anghydffurfiol ar gynnal cyfarfodydd Hardie o fewn i'w pyrth, gan estyn gwahoddiad twymgalon i D.A. Thomas, yr aelod rhyddfrydol, sorrodd ' W.W.' a'i wraig yn erbyn yr Annibynwyr. Aeth ei wraig yn ôl at Eglwys Anglicanaidd Cymraeg y Santes Fair, Aberdâr, (a gynlluniwyd yn rhannol, yn ôl y traddodiad lleol, gan Thomas Hardy, a lle bu siantio Gregoraidd yn than annatod o'r ffurfwasanaeth o'r cychwyn); ac aeth ' W.W.' i breseb anghydffurfiaeth y fro trwy ymuno a'r Undodwyr Cymraeg yn eu Hen Dŷ Cwrdd â sefydlwyd ym 1751.

Efallai y cafodd y fangre hon ddylanwad creadigol ar ei ddiddordebau hanesyddol; ond y peth a'i sbardunodd i fwrw ati o ddifri yn ôl ' W.W.' ei hun oedd cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri, ym 1920, ar gyfer y casgliad gorau o hanesion a llen-gwerin unrhyw blwyf yng Nghymru.

Dechreuodd W.W.P. ar y gwaith o gasglu a nodi gwybodaeth fywgraffiadol o gewri plwyf Aberdâr ym 1919, gyda'r bwriad o lunio gwaith ar gyfer y gystadleuaeth. Ni ddaeth y gwaith i ben mewn pryd - na byth wedyn chwaith, canys yr oedd yn dal wrthi pan fu ef farw bron hanner canrif yn ddiweddarach!

Erbyn ei ddiwedd, yr oedd 'W.W.' wedi crynhoi rhyw 40,000 o gardiau mynegai yn crybwyll gwybodaeth a ffynonellau pellach yn ymwneud â bywydau miloedd o'r byw a'r meirw Cymreig, a gweithiai'n ddyfal i gadw'r casgliad yn gyfoes a chyflawn. Bellach, mae'r casgliad hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn gyntaf, dyna ei waith cyhoeddedig. Nid yw hwn ond y peth lleiaf o swm a sylwedd ei ymdrechion – fel y cydnabu'r Athro David Williams a gyflwynodd W.W.P. am y radd o M.A. er anrhydedd ym 1952. Mae ganddo ryw 35 o ysgrifau yn y Bywgraffiadur; un llyfryn bach annibynnol ar hanes 'Ysgol y Comin'; a rhyw ugain erthygl yma a thraw mewn amrywiol gylchgronau busnes, dysg a chyffredinol.

Bwriadai gyhoeddi hanes cyflawn ei fro mewn dwy gyfrol; ac, i'r perwyl hwn, hysbysebodd yn Rhaglen Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946, gan wahodd archebion. Dywedai fod cyfrol un "ar fin ymddangos". Eithr, ni welodd y gyfrol olau dydd – er y ceir dau gopi teipysgrif yn Llyfrgell Ganolog Aberdâr o hyd. Ni chwblhawyd dim o'r ail gyfrol fe ymddengys.

Yn ail, y mae ei bethau yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys ei Fynegai Bywgraffiadol. Yno hefyd y ceir ei Arweiniad i ffugenwau beirdd a llenorion Cymru - dros 6,000 o ffugenwau a chyfeiriadau; deugain o weithredoedd ystâd yr Henbant-fawr, Ceredigion, yn dyddio rhwng 1659 a 1911; llawysgrifau ac adysgrifau o ddiddordeb i Forgannwg o amryw ffynonellau eraill; gohebiaeth rhyngddo ac unigolion megis Dr. Kate Roberts, R.T. Jenkins a David Williams; nodiadau, llyfrau, catalogau a rhaglenni ac ati o'r 19G yn ymwneud yn bennaf (ond nid yn gyfan gwbl) ag Aberdâr; ac, yn bwysig iawn, dau o ddyddiaduron Tomos Glyn Cothi, gweinidog yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon, rhwng 1811 a 1833, ar gyfer y blynyddoedd 1814 a 1817.

Deallaf mai dyma'r unig ddau o ddyddiaduron Thomas Evans a oroesodd – o leiaf tan i un pellach (ar gyfer 1818) ddod i olau dydd yn Aberdâr y llynedd – a W.W. Price a'u hachubodd ac a'u hanfonodd i Aberystwyth tua 1950.

Yn archifdy sirol Morgannwg, ceir ei gofnodion manwl o weithgaredd y mudiadau sosialaidd cynnar yng nghwm Cynon; manylion a gadwyd ganddo rhwng 1900 a 1908.

Yn Llyfrgell Ganolog Aberdâr y mae casgliad gwir anferth o'i nodiadau, ei ohebiaeth, ei adysgrifau (yn enwedig o ddogfenni Powell Duffryn) a'i bethau argraffedig, ynghyd â chofnodion ar deuluoedd, unigolion, achau, capeli, gweithfeydd, eisteddfodau, cyrff cyhoeddus, pentrefi a threfi, neuaddau a llenorion ac ati.

Enwyd yr ystorfa sy'n dal y deunydd hwn i gyd yn 'Ystafell W.W. Price' er clod ac er cof amdano.

***

PAN fu farw ar 31 Rhagfyr 1967, bu ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welodd Aberdâr ers blynyddoedd.

Gadawyd i'w hen weinidog, y Parchg. Jacob Davies, gynt o'r Hen Dŷ Cwrdd, i gael y gair olaf, a dyma englyn Jacob nas cyhoeddwyd mohono o'r blaen: