ER COF ~ Eurwyn Wiliam a'r hen alaru

MAE galar heddiw yn tueddu bod yn beth personol a phreifat, ond nid felly oedd hi yn y gorffennol. Efallai y gwyddai'n hynafiaid yn well na ni am werth seicolegol galar, a'i ddangos yn gyhoeddus. Hyd yn gymharol ddiweddar yr oedd angladd yn achlysur i'r gymdeithas i gyd neu o leiaf y teulu estynedig, a byddai'r galar (real ac artiffisial) yn cael ei fynegi drwy wisgo dillad du, tynnu'r llenni a gwisgo'r tŷ mewn du, a chael modrwyon a thlysau wedi eu gwneud o wallt yr ymadawedig.

Yr oedd oes Fictoria yn nodedig am ei hobsesiwn â marwolaeth.

Un o'r arferion mwyaf diddorol oedd cael cardiau coffa a marwnadau wedi eu hargraffu er mwyn eu rhoi ar y wal.

Yr oedd y rhain o'u hanfod yn gorfod dilyn angladd, ond yr oedd yr arfer o anfon gwahoddiad i angladd yn gyffredin yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae'r cardiau gwahodd cynharaf wedi eu hargraffu o ysgythriad ar bren, a bwlch i roi enw'r ymadawedig: pe byddai'r teulu yn fwy cyfoethog byddai'r garden gyfan wedi ei hargraffu. 0 amgylch y geiriau ceir holl symbolau marwolaeth - penglogau, esgyrn, baneri, galarwyr etc.

Wrth i'r oes newid a llai o amser fod rhwng marw a chladdu, aeth cardiau gwahodd yn brinnach. Dim ond un sydd yng nghasgliad Amgueddfa Werin Cymru, er enghraifft, taflen wedi ei hargraffu yn 1881 yn rhoi rhybudd o angladd y Parch. John Foulkes o Ruthun.

***

YR OEDD cardiau coffa yn llawer iawn mwy cyffredin: fe'u hargreffid hwy bron yn ddiwahân ar ôl pob angladd. Yr ymgymerwr fyddai'n trefnu eu hargraffu dros y teulu, a weithiau ceir enw'r ymgymerwr ar y garden, e.e. Richard B. Evans, Undertaker, Newport (1864) neu W.E. Charles, Undertaker, Pontnewydd (1905).

Yr ydym oll yn gyfarwydd â'r cardiau hyn - cardiau bychain rhyw 4˝ x 3" gydag ymyl ddu lydan fel arfer, yn enwedig yn oes Fictoria. Ceir enw'r ymadawedig, dyddiad ei farw a man ei gladdu, ac fel arfer pennill bach go drwsgwl: yn achos Margaret Williams o Lanfechell yn 1873 lluniodd ei mab englyn.

Un o argraffwyr mwyaf unigryw y cardiau hyn oedd William Edwards o Gaerfyrddin. Dyna garden fach o 1849 o'i eiddo, gyda darlun inc o angel yn chwythu trwmped: mae'r manylion am y marw yn Saesneg, ond gyda'r ychwanegiad arferol, Mi a ymdrechais ymdrech / deg, mi a orphenais fy ngyr- / fa, mi a gedwais y ffydd. Tim / W. Edwards Lammas St Carmarthen.

Argraffydd arall diddorol oedd gŵr o'r enw Mansell o Fro Morgannwg, eto a chardiau dipyn mwy chwaethus na'r cyffredin. Ceir ei enw mewn llythrennau mân mewn un gornel. Yn 1868 argraffodd garden goffa i John Bettridge o Langrallo, gyda darlun o feddrod a gwraig yn galaru. Yn 1870 gwnaeth un i berson o Lanbedr y Fro gydag ymyl ddu ac amlinelliad boglynnog (embossed) o wrn ar bedestal, ac yn 1884 un ag wrn ac angel arno.

Wrth i oes Fictoria ddirwyn i ben aeth y cardiau coffa yn llai chwaethus yn gyffredinol, gyda mwy o addurniadau megis llun y groes a llawer iawn mwy o ddefnyddio'r lliw arian yn blastr dros bopeth.

Ar ôl yr angladd byddai teulu a chyfeillion y person marw am gofio amdano.

Gwneid hynny drwy ludio'r garden ar fownt arbennig a elwid yn Saesneg yn mourning-card mount. Mae'r rhain fel arfer yn mesur rhyw 10 x 8", ac maent yn gyforiog o addurniadau mewn gwyn ac arian ar gefndir du, gyda lle yn y canol i ludio'r garden goffa ei hun.

***

AR ddechrau oes Fictoria yr oedd y mounts hyn yn hynod chwaethus, gyda'r lluniau wedi eu codi mewn gwyn yn unig ar y cefndir du. Motifau clasurol urddasol oedd y nod, a beddrod yn aml yn y canol, galarwyr benywaidd bob ochr iddo, a'r holl arwyddion eraill o farwolaeth – colofnau drylliedig, eiddew yn tyfu drostynt, torchau, palmwydd, coed helyg ac ati.

Parhaodd y math hwn o gynllun clasurol yn boblogaidd hyd at tua 1860, er i rai elfennau barhau'n llawer hwy.

Mae'r mount gorau yn fy nghasgliad i o gyfnod ychydig yn ddiweddarach ond eto â nifer o fotifau clasurol. Gwnaed ef yn 1871 gan y gwneuthurwr enwog Windsor o Lundain. Yma mae'r garden a'r mount wedi eu hargraffu'n un i wraig o Lundain, ac nid oes cymhariaeth rhwng ansawdd arbennig hwn a gweddill y rhai cyffredin sydd gennyf.

Tua chanol oes Fictoria ceir mwy a mwy o addurniadau Gothig yn ymddangos – disodlir y galarwyr clasurol gan angylion, a cheir llawer iawn mwy o golofnau a phinaclau, megis ar y cynllun a gofrestrwyd gan Wood yn 1871. Mae mount John Rosser (1882) yn enghraifft dda o'r math hwn o addurn.

Erbyn hyn ceir defnydd helaeth o'r lliw arian ar bopeth. Byddai'r mounts a'r cardiau wedyn yn cael eu fframio a'u gosod ar y wal, weithiau gyda'r ychwanegiad o lun yr ymadawedig. Mae gennyf un enghraifft o hyn – merch fach o'r enw Agnes Godsall o Bontardawe a fu farw yn 1899, a'i rhieni wedi gludio llun ohoni yn gorwedd yn ei harch ar y garden.

Ni wn a argraffwyd rhai o'r mounts yng Nghymru, ond yn sicr ddigon fe argraffwyd cerddi coffa wrth y fil. Mae'r rhai cynharaf wedi eu hargraffu ar sidan. Ceir dwy yng nghasgliad yr Amgueddfa Werin, un ohonynt yn Saesneg yn cynnwys 28 o benillion wedi eu hargraffu mewn aur ar sidan glas tywyll er cof am y Parch. Edward Leigh Late Curate of Llanedy and Llandilo talybont. By JOHN DAVID. Llandilo talybont (1819).

Mae'r llall yn Gymraeg, ac yn eithriadol o fawr, 16 x 11" – Galar-gan Er Coffadwriaeth am Mr Robert Rees, Masnachwr yn Nhref Machynlleth yr hwn a fu farw Mehefin 21ain 1830 yn 55ain flwyddyn o'i oedran.

Mae'r gerdd goffa gynharaf ar bapur yng nghasgliad yr Amgueddfa yn dyddio o 1828, sef penillion gan Edward Jones Maes-y-plwm er cof am William Foulkes o Ruthun.

Serch hynny, ychydig iawn sydd ar gael o gyfnod mor gynnar â hyn.

***

DYMA rai o'r llu argraffwyr oedd yn eu cyhoeddi a dyddiadau'r cerddi: W. Edwards, Caerfyrddin, 1863; Robert Davies, Maddock St, Tonypandy, 1898; G. Jones & Sons, Argraffwyr, Llandilo, 1896; Richard Jones, Pwllheli, 1895 a 1927; J.H. Mills, Llanidloes, 1900 a 1902; Thomas R. Parry, Heol Gaer, Abertawe, 1920, a Hy. Lloyd, Aberdâr, 1932. Mae'n rhaid bod pob argraffydd lleol yn cynhyrchu dwsinau o gerddi coffa bob blwyddyn.

Un o'r cynharaf i'w hargraffu oedd y William Edwards o Gaerfyrddin y soniwyd amdano eisoes fel argraffydd cardiau coffa. Dyma un o'i eiddo, gydag addurn inc bychan o angel a thrwmped: Deigryn / ar Farwolaeth / David Griffiths / Myfyriwr yng Ngholeg Athrawol Caerfyrddin, Mab Rees a Mary Griffiths / Treforis ... 1860 o'r darfodedigaeth, yn 20 mlwydd oed ...        W. Edwards.            1863. Caerfyrddin.

Ffurf arferol cerdd goffa yw ffrâm ddu o amgylch y cwbl, ac yna'r teitl – Penillion coffa, Marwnad, Odlau Hiraeth, Llinellau Coffadwriaethol, Penillion Coffadwriaethol, neu hyd yn oed Cwyn Coll. Weithiau, yn enwedig yn yr enghreifftiau diweddar, fe geir darlun o'r person marw wedi ei argraffu fel rhan o'r ddalen.

Dyma a ddigwyddodd yn achos ffrind pennaf plentyndod fy mam, Laura Ellis, a fu farw ychydig cyn ei hugain oed yn 1927. Argraffwyd y ddalen gan Richard Jones, Pwllheli, dan y pennawd Gŵyl Lenyddol a Cherddorol / Horeb (A.), Mynytho, / Chwefror 21ain, 19281 Penillion Coffa / i'r Ddiweddar / Laura Ann Ellis, / Preswylfa, Mynytho, / A fu farw Dydd Iau Dyrchafael, Mai 26ain, 1927. / Yn 19 mlwydd a chwe mis oed. Y beirniad oedd y gweinidog, Y Parch. J. Hawen Rees, a'r buddugol oedd 'Murmur Parch', sef E. Aidan Davies o Lithfaen. Mae'r farwnad ei hun yn bedair pennill ar ddeg. Dyma ddau bennill nodweddiadol:

***

CYN gorffen, dylswn sôn am ddau beth arall. Ar achlysur trychineb arbennig megis damwain danddaear, fe argreffid cardiau a dalennau yn coffau pawb a fu farw.

Dyna drychineb Abercarn yn 1878, er enghraifft, In sad Remembrance / OF / 264 MEN AND BOYS / WHO WERE KILLED / In the Prince of Wales Pit, Abercarne, / BY AN EXPLOSION. / ON WEDNESDAY, SEPTEMBER 11th, 1878.

Yn aml hefyd byddai teulu oedd wedi profi colled o'r fath yn cael plât wedi ei beintio i'w hatgoffa o'r achlysur, megis y plât gwyn wedi ei addurno a rhosynnau cochion oddi amgylch darlun y marw, pennill, a'r geiriad IN LOVING MEMORY OF GWILYM M. REES WHO LOST HIS LIFE IN THE SENGHENYDD EXPLOSION, OCT 14th 1913.

Plât arall a ddaeth yn gyffredin ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd un melyngoch a lluniau mewn du arno, yn yr un dull a'r plât enwog o Lloyd George.

Ar y plât hwn mae llun dau `arwr' mawr y Rhyfel Cyntaf, Jellicoe a Haig, a rhyngddynt le i ludio llun o filwr ifanc a gafodd ei ladd. Odditano mae'r geiriau cysurlon England expects that everyman will do his duty and ... did his.