DIRGELWCH CAERFALLWCH ~
Elwyn L.Jones a'r storm o ddyn

DAU LYFR pwysicaf fy nhaid oedd y Beibl a Geiriadur Caerfallwch. Erbyn heddiw pe holech unrhyw gant o Gymry cyffredin mae'n amheus gennyf a gaech fwy nag un neu ddau ohonynt yn gwybod y nesa peth i ddim, am y Geiriadur, a llai hyd yn oed na hynny am yr awdur ei hun.

Ac eto, yn ei gyfnod, yr oedd yn un o'r Cymry mwyaf blaenllaw yn Llundain, yn gadeirydd y Cymreigyddion, yn aelod parchus o'r Gwyneddigion, yn ŵr a berchid am ei ysgolheictod ac a oedd yn wir yn enw teuluaidd yng Nghymru gyfan.

Ysgrifennodd lwythi o bethau i gylchgronau'r cyfnod, etholwyd ef yn fardd swyddogol y Cymreigyddion yn 1835, cyfansoddodd donau i blant, a chreodd gannoedd o eiriau technegol i ateb gofynion diwydiannol a masnachol ei ddydd. Darlithiodd ar economeg, llywodraeth, mwyngloddio, dyled y wlad, ac fe ymosododd ar y frenhiniaeth yn chwyrn.

Yr oedd yn aelod amlwg yn Eglwys Jewin a daeth yn amlycach fyth pan unodd â Griffith Davies y mathemategwr Cymreig o Landwrog i wrthwynebu'r Methodistiaid a John Elias yn stŵr Rhyddfreinio'r Pabyddion. Yn yr helynt hwnnw, torrwyd nifer o aelodau blaenllaw Jewin allan gan y 'Pab o Fôn', a Chaerfallwch yn eu plith.

Mae ei sylw am berson John Elias yn ddiddorol ond braidd yn fyr o barch. Meddai mewn llythyr at ei gyfaill ifanc, J.W. Thomas (Arfonwyson) ... "Have you seen in the Herald how John Elias, that Political Jim Crow is deservedly treated ... if I had the time I should like to give the superlative donkey a cut or two".

Yr oedd yn ŵr prysur odiaeth gyda phethau Cymru, ac eto diflannodd pob sôn amdano. Meddai Silvan Evans amdano yn Y Brython pan glywodd am ei farw "Druan o Caerfallwch ... pwy a ddaw i sgrifennu cofiant i'r gŵr nodedig hwn . . .", gan daro nodyn tosturiol-ostyngol.

Ni fyddai wedi meiddio swnio mor drwyn-uchel yn ei gylch pan oedd yn ei fri.

***

GANWYD Thomas Edwards (Caerfallwch) mewn tyddyn bychan, "Y Felin Ganol" yn Llaneurgain (Northop) ym mhlwyf Caerfallwch, Sir y Fflint yn 1779, yn fab i Richard a Margaret Edwards, tenantiaid i'r teulu Bankes yn yr ardal. Mae'r Felin Ganol i'w gweled o hyd pan ddilynwch yr A55 i Gaer. Thomas oedd yr ieuengaf ond un o nythaid o blant, chwech o frodyr a dwy chwaer.

Yn bedair ar ddeg oed prentisiwyd ef i gyfrwywr yn Y Wyddgrug, Thomas Birch. Pan oedd tuag ugain oed sefydlodd ei fusnes ei hun fel cyfrwywr yn y dre a phriododd Margaret Jones

Helygain. Ganwyd iddynt ddau o blant, ond yn fuan fe gollodd ei wraig a'i ddau blentyn, ac ar ben hyn aeth ei fusnes i'r wal.

Llwyddodd i gael swydd mewn glofa gyfagos fel clerc, ac oherwydd iddo amlygu gallu mwy na'r cyffredin gyda ffigurau danfonodd perchen y lofa ef i Lundain i ofalu am ei swyddfa yno yn 1806. Tua'r amser hynny priodasai'r ail waith i Miss Wynne o Laneurgain. Cawsant saith o blant yn ystod y naw mlynedd nesaf. Ond erbyn 1815 yr oedd wedi claddu ei ail wraig a'r saith plentyn hefyd.

Yn fuan ar ôl 1815 cafodd swydd gan y teulu Rothschild a phriododd am y drydedd waith sef i Ruth Webster, o Laneurgain eto. Bu farw yn 1858 a'i gladdu ym mynwent Highgate. Goroeswyd ef gan ei drydedd wraig.

***

ER YN un o Gymry blaenllaw'r ddinas ac yn amlwg ym mhopeth Cymraeg hobi oedd ei ddiddordeb mewn geiriaduraeth.

Yr oedd yn edmygydd ac efelychydd slafaidd o Wm. Owen Pughe, yn gyfaill iddo ac yn fwy Puwaidd na Pughe ei hun. Credai yn santeiddrwydd pob sillaf o'r Gymraeg, mai hi oedd yr iaith gyntaf ar y ddaear.

Yr oedd yn gyfaill i Gymry amlwg y ddinas, yn llawenhau yn nhafarn Jac Glan y Gors a thafarndai eraill pan fyddai'r Cymreigyddion yn cwrdd ynddynt. Nid anodd yw dychmygu'r cwmni llawen hwn yn canmol a derbyn yn ddi-gwestiwn syniadau pwysfawr Dr. Pughe pan ddeuai'r doctor mawr ei hun atynt ambell waith i draethu.

Caerfallwch, Hugh Hughes, Einion Môn, Eryron Gwyllt Walia, Arfonwyson, Iago Trichrug, dyna rai o ffugenwau'r cwmni diddan a hoffai lwnc-destuna adeg Gŵyl Ddewi neu ar ryw achlysur pwysig arall.

Gadawodd rhai ohonynt y gymdeithas yn ddiweddarach gan fod ei "harferion wedi mynd yn rhy llygredig" (dyfyniad o benderfyniad blaenoriaid Eglwys Jewin pan alwyd hwy ynghyd yn gynnar iawn un bore Sul i drafod aelodaeth "y gymdeithas lygredig").

'Roedd 'na gymdeithas "Y Caradogion" hefyd am dymor byr ac 'roedd Caerfallwch a'i ffrindiau'n aelodau ohoni. 'Roedd hon yn "hapusach" hyd yn oed na'r Cymreigyddion, canys canu a'i hwylio hi y byddent gan amla mewn rhyw dafarn neu'i gilydd.

Clywodd y polîs ganu bras mewn iaith estron un noson a dyma wneud cyrch ar y dafarn gan dybio mai Ffrancwyr yn cynllwynio yn erbyn y brenin oedd yno. Dywedir i `gwsmeriaid' guddio dan y bar ac i eraill ffoi. Mae'n ogleisiol meddwl bod Caerfallwch a'i gwmni dan y bar!

***

EITHR o dan y cwmnïa hapus a'r ysgolheictod llafurus yr oedd bywyd arall gan Gaerfallwch, bywyd dirgel, ei fywyd iawn efallai. Y Rothschilds oedd ei gyflogwyr fel y cofir, ond nid oes sôn amdano yn archifau'r teulu. Cefais sicrwydd gan Anthony de Rothschild ei hun nad yw enw "Thomas Edwards" ar lyfrau'r cwmni o gwbl.

Ac eto tua 1830 gwelwn yr un teulu'n mynegi eu gwerthfawrogiad o wasanaeth arbennig y dyn hwn a chyflwyno iddo siec am £1,000! Beth fyddai gwerth cymharol arian felly heddiw? Wele, mae yma ddirgelwch!

Mae'n ddigon hysbys fod y teulu, yn gynnar iawn, â busnes ganddynt ar draws Ewrop gyfan. 'Roedd eu dylanwad ariannol yn fawr a'u cysylltiadau yn egsotig. Un o'u harferion oedd cyflogi negeseuwyr, 'couriers', i gludo cenadwri ariannol o bryd i'w gilydd o lysoedd a seneddau Ewrop.

Ymddengys iddynt wobrwyo Caerfallwch am unioni eu cyfrifon gyda rhai o dywysogion y cyfandir. Mae'r hanes yn sawru o ramant.

Byddai'r couriers yn defnyddio colomennod i yrru negeseuon brys at eu meistri, ond mae'n o debyg fod Caerfallwch yn fwy na negesydd syml cyn ei wobrwyo mor hael.

Yr oedd yn dipyn o law gyda ffigurau fel y gwyddom ac mae'n eithaf posibl ei fod yn un o 'ddynion y nos' a wibiai nôl ac ymlaen i Ewrop ar waith ariannol y teulu fel un o'r couriers, ond hefyd fel un o'r arbenigwyr y dibynnai'r couriers arnynt am eu negeseuon.

Rhyfedd meddwl am Gymro gwlatgarol, ysgolheigaidd, gwrthfrenhinol, gwrth-gyfalafol, radical llwyr yn llinach ac ysbryd Glan y Gors a Thomas Roberts Llwynrhudol, yn byw bywyd mor wahanol i'w fywyd Cymreig a hysbys!

Fe gofir iddo ddweud y carai roi cweir i John Elias ("if I only had the time"). Yn y cyswllt yma hefyd dywed wrthym, mewn llinellau o farddoniaeth, (ni ddisgynnodd yr awen yn drwm arno erioed!) am ei berygl nosol ar y môr. Dyfynnaf ychydig yn unig o'r llinellau rhyfedd a'r orgraff Buwaidd:

    Hwyliwn ar y cevnvor gynt
    ...................................
    ...................................
        
    0 Gylch i mi cyfraw certh
    Tonnau gorwyllt, creigiau Berth
    Noson dywyll, oer dinerth

    Disgwyliwn ddŵr yn elawr.

0 safbwynt ysgolheictod nid yw Caerfallwch o bwys arbennig wrth gwrs. Ni chyfrannodd ddim arhosol i na iaith na llenyddiaeth Cymru ar wahân i fathu'r gair Pwyllgor ac ambell air arall. Ond yr oedd yn gymeriad egnïol, gwlatgarol ac ymroddedig.

'Roedd ei fywyd yn Windsor Terrace ("Llwybrau Llymwynt" fel y galwai ef y Ile!) yn foethus fel y tystia'i lythyron at Arfonwyson. Mynych oedd ei wahoddiad i Arfonwyson ddod i swper ar nos Sul (sylwer ar nos Sul ... tybed a oedd ar grwydr ar y nosau eraill?) " . . . to partake of fresh duckling" ac i sgwrsio am eiriau, barnu Eisteddfodau (mae awgrym iddo golli mewn cystadleuaeth!) i ddwrdio John Elias ac, yn sicr hefyd i roi ychydig o help i'r anghenus Arfonwyson, a fu farw'n ifanc o'r dicáu.

Dysg amheus a chwyddedig oedd ganddo (fel llawer yn ei gyfnod), ond cymeriad amryliw ac amryddawn ydoedd serch hynny. (Mae tystiolaeth ei fod er enghraifft yn medru canu'r ffliwt).

***

RHITHIOL ei berson, ac amwys, a chyfrannodd yn sylweddol o'i egni anghyffredin i ffortiwn un o deuluoedd cyfoethoca'r byd. Eithr dirgel dros ben yw ei union statws a'i swydd. Cyflawnodd orchwyl fawr wrth greu a chyhoeddi ar ei ben ei hun eiriadur technegol a gafodd dderbyniad cenedlaethol.

Eithr er iddo gysylltu â chyfathrachu â Chymry blaenllaw ei gyfnod ni welais air amdano yn llythyron y rheini. Hwyrach i'w atgasedd o eisteddfodau, ei ffrae â John Elias, ei ddadlau â Silvan Evans a Thomas Gee ac eraill gyfrannu at ei anwybyddu, bwriadol neu anfwriadol, gan y ‘sefydliad Cymraeg'.

Y Brython yn unig a roddodd ofod teilwng i'w farwolaeth. Cyfeirio at y digwyddiad yn unig wnaeth Y Seren, ac felly hefyd Yr Arweinydd, Y North Wales Chronicle, a'r Cymro. Mae'r anghofrwydd ohono bron yn llwyr, gwireb sobreiddiol efallai i'w chymhwyso at waith a ffwdan llawer ohonom ninnau heddiw.