CYFROLAU'R GENHADAETH
Olwen Samuel a'r gwobrau gynt

MAE gennyf rai dwsinau o lyfrau y buaswn wedi dwli ar eu darllen pan oeddwn yn groten yn y dauddegau pell. Ar y pryd hwnnw, 'roeddynt yn sefyll yn gryno mewn cwpwrdd llyfrau a oedd ar ben cist-a-drârs uchel mewn lle anodd iawn mynd ato yn nhŷ fy Mamgu a 'Nhadcu. 'Doedd dim Iŵans imi fynd atynt, p'run bynnag.

Erbyn hyn, nid oes dim o gwbl yn fy rhwystro rhag eu byseddu, a dyna unpeth sy'n eu gwneud yn llai ddiddorol digwyddiad nag a fuasai ers llawer dydd. Llyfrau ydynt a roddwyd yn wobrwyon i Mam a'i dwy chwaer yn ystod ugain mlynedd diwethaf y ganrif o'r blaen a degawd cyntaf y ganrif hon. Gwobrwyon am gasglu arian i Gymdeithas Genhadol Llundain oeddynt.

A nawr, dyma ddigon o amser ac yn bwysicach, digon o hwyl i gael eithaf cipolwg arnynt. Mae pedwar-ar-ddeg ohonynt, hyd 1895, yn llyfrau Saesneg. Rhai o'r rheini yw 'By Canoe and Dog train among the Cree and Salteaux Indians', gan Egerton Young; 'The Story of the South Seas' gan George Cousins; 'Work and Adventure in New Guinea' gan James Chalmers ac 'Among the Mongols' gan James Gilmour.

Yn 1896 dyma lyfr Cymraeg yn wobr, - 'Lloffion o Feysydd Lawer' wedi'i olygu gan George Cousins; yn y flwyddyn ddilynol, 1897, ‘Gwroniaid Cenhadol Affrica'; yn 1899, 'Yn Nyffryn yr Yangtse'; yn 1900 'Fy Mordaith yn y John Williams'.

Ar ôl hynny, Cymraeg oedd iaith y gwobr-lyfrau bob cynnig. Maent yn llyfrau hardd wedi'u rhwymo'n gadarn tu fewn i gloriau lliwgar, caled, llyfrau wrth gwrs, a fwriadwyd ar gyfer plant, ac i'm tyb i, mae ynddynt ddefnydd ardderchog o addas i blant ar eu tyfiant.

***

YN GYNTAF, nid oes prinder arwyr, ac ym mywyd plant a phobl ifanc, fel mewn bywyd cynnar cenedl, mae darllen am arwyr yn bodloni ac yn ysbrydoli. Nid bod y nodwedd hon yn gyfyngedig i blant. Cawn i gyd flas wrth ymgydnabod â phobl fawr, ehangach eu profiad na ni ein hunain, waeth ym mha gyfeiriad y bo hynny, ac un ai ar y stryd neu o fewn i gloriau llyfrau.

Oherwydd eu natur, cenhadon a phregethwyr yw arwyr y llyfrau yma. Heblaw hyn, 'roeddynt yn rhwym o fod yn arloeswyr hefyd. Nid pobl a ymfodlonai ar aros gartref yn eu plwyfi cyfyng oeddynt. Mentrent tros foroedd geirwon, trwy fforestydd tywyll a diffeithleoedd gwledydd dieithr.

'Roedd gofyn wynebu anwariaid a chanibaliaid heb son am greaduriaid gwylltion. Mwy na thebyg mai yng nghanol dynion duon, neu felynion neu gochion y byddai'r cenhadon yn gweithio, rhai'n cario saethau ac arfau cyntefig creulon. Na, 'doedd dim diffyg antur yn y llyfrau yma, ac mae anturiaethau wrth fodd calon y mwyafrif o blant.

Ni allai'r llyfrau yma lai na bod yn addysgiadol mewn cyfnod pan osodwyd gwerth uchel ar addysg yng Nghymru. Deuech i wybod pa wledydd oedd yn heulog a chrasboeth, a ble'r oedd oerni ysgeler a dull y gwahanol genhedloedd o fyw, eu gwaith a llu o ffeithiau daearyddol.

Disgrifir yn fanwl rai gwledydd lle ceid ysgolion brodorol eisoes, fel yn yr India a China. Gwyddom hefyd sut y sefydlwyd ysgolion y cenhadwyr, a beth a ddysgwyd ynddynt. Wedi'u seilio ar ysgolion Prydain yr oeddynt, gan mwyaf.

Yna, dyna'r darluniau ardderchog a gynhwysir ym mhob llyfr. Nid oes nemor lyfr heb fod ynddo hanner cant o luniau, ac mae cymaint â phymtheg a thrigain ar gael mewn sawl copi, a'r rheini'n gampus ac amrywiol.

Llun tŷ gwellt ar gopa pren palmwydd yn Samoa, yn edrych fel nyth bran enfawr, camelod yn cario glo a chalch gerllaw Peking, llawr dyrnu cyntefig mewn pentref Malagasaidd, stryd fawr yn ninas Calcutta a siop gigydd yn Ujiji.

***

PRIF amcan y llyfrau gwobr wrth gwrs oedd symbylu'r darllenwyr ifainc i ymddiddori yng ngwaith Gymdeithas Genhadol Llundain, a'u gwneud yn barotach i gyfrannu ati. I dderbyn un o lyfrau'r Genhadaeth, 'roedd gofyn casglu chwe swllt y flwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf i'r llyfrau Cymraeg ymddangos. Yn y trydydd llyfr Cymraeg dywedir yn y Rhagair i'r cyfraniad gael ei ostwng i goron bellach, "fel plant Lloegr".

'Roedd yn rhaid i gasgliadau plant Cymru sicrhau elw i’r Gymdeithas ar eu pennau eu hunain, heb bennu ar y pris trwy gyfrif trwyddi draw gyda Lloegr.

I blentyn yn y dyddiau hynny nid oedd llyfr Cymraeg ar ei hyd ar gael, hyd y gwn i. Ceid ambell stori addas i blant mewn cyfnodolion neu yng 'Nghymru Fu' neu 'Geinion Llenyddiaeth Cymru' mae'n wir. 'Roedd teulu 'Nhadcu yn eglur yn deulu darllengar, a barnu wrth nifer a natur ei lyfrau. Ond nid oes yn eu plith gymaint ag un llyfr Cymraeg i blant.

Y llyfrau cyntaf Cymraeg i blant felly oedd Llyfrau'r Genhadaeth. Cyhoeddwyd llyfr Mr W. Llewelyn Williams, A.S. `Gwilym a Benni Bach' yn 1897, blwyddyn union ar ôl llyfr Cymraeg cyntaf y Genhadaeth. Beth, ys gwn i, a gynhyrfodd y dyfroedd fel y cyhoeddwyd dau lyfr Cymraeg i blant o ddau gyfeiriad mor wahanol o fewn blwyddyn i'w gilydd?

'Doedd dim copi o 'Gwilym a Benni Bach' ymysg llyfrau 'Nhadcu, ac yr oedd blynyddoedd i fynd heibio cyn i `Hunangofiant Tomi', a 'Nedw' ymddangos, a chenhedlaeth Mam wedi ymadael â llyfrau plentyndod erbyn hynny.

Cyfieithiadau oedd y rhan fwyaf o bell ffordd o'r gwobr-lyfrau Cymraeg. Yn ystod y ddegawd ar ôl 1896 cyfieithydd y rhain oedd y Parch L. Williams, Bontnewydd, Caernarfon ac ar y wyneb-ddalen, dywedir mewn cromfachau dan ei enw mai cyfieithu dros Gymdeithas Genhadol Llundain ydoedd.

Dywed y cyfieithydd yn y Rhagair y bu'n rhaid dadlau'n frwd dros gael y llyfr cyntaf yn Gymraeg, ac mai ar brawf yr oeddynt am flwyddyn. Anoga'r plant i gasglu gymaint fyth ag y gallant, achos pe colledid y Gymdeithas, ni ellid achwyn oni cheid llyfr Cymraeg y flwyddyn wedyn.

A llwyddiant a fu. Yn rhagair yr ail flwyddyn dywedir bod yr awdurdodau yn Llundain wedi'u boddhau'n fawr, a bod eisiau argraffu mwy o lyfrau'r ail flwyddyn. Noda bod y cenhadwyr y soniwyd amdanynt i gyd "wedi byw a llafurio yn ystod teyrnasiad ein grasusaf Frenhines". Rhydd y geiriau yma flas oes Victoria.

***

RHWNG 1908 a 1917, cyfieithwyd llyfrau'r Genhadaeth gan y Parch. Bodfan Anwyl, a dan ei enw ef mewn cromfachau ar y wyneb-ddalen dywedir "Genhadaeth Mudion Morgannwg". Yn ei Ragair cyntaf, sonia Bodfan am gyfraniad arbennig Cymru i’r Genhadaeth a rhydd hanes llu o genhadon a aeth o ardal Aberteifi i Fadagascar. Yn y llyfr, mae rhestr o'u henwau, sy'n edrych mor gwbl Gymraeg a Chymreig fel y gallai fod yn rhes o enwau diaconiaid o unrhyw gapel yng Nghymru.

Ceir dau ychwanegiad diddorol yn llyfrau Bodfan. Ar ddechrau'r llyfr, nodir rhestr o'r llongau yr oedd y Genhadaeth yn berchen arnynt, ac ar ddiwedd y llyfr ceir rhestr o enwau cenhadon o Gymru, enwau eu hardal, maes eu gwasanaeth a'u dyddiadau.

Copi 1914 o'r llyfr gwobr yw `Dr Griffith John. Arwr China'. Nid cyfieithiad yw hwn, ond gwaith gwreiddiol y Parch H.M. Hughes, Caerdydd. Fel y gellid disgwyl, mae'r iaith yn llyfnach ac yn rhwyddach na iaith y cyfieithiadau.

Yr unig lyfr arall sydd yn fy meddiant i ac a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn y Gymraeg yw'r wobr am 1907, a'i enw yw `China, Chinaeg a Chineaid'. Yr awdur yw W. Hopkyn Rees (Chi Chou, Gogledd China) a fu'n gwasanaethu yn China am dair blynedd ar hugain. Llyfr melyn, hardd ydyw a phopeth ynddo wedi'i ddweud ag awdurdod.

Ar ôl ymhél a'r llyfrau yma, teimlaf fy mod yn adnabod gwead cymeriad Mam a'i chenhedlaeth lawer iawn yn well. Dyna gyfnod

a 'Greenland oer fynyddig'. 'Roedd 'Lle treigla'r Caveri' (Alun) mor gyfarwydd ac o bosibl yn fwy cyfarwydd i'w dychymyg nag Afon Tafwys. Dim rhyfedd fod Mam yn sôn am Dr Griffith John fel petai'n un o'i hoff ewythredd, a'i bod yn sôn am Erromanga, Antananarivo a Bangalore a'i llygaid yn pefrio. Dim ond wedyn y dechreuodd llain hir o arfordir Califfornia gynhyrchu arwyr ffug gydag anturiaethau ffug ar gyfer tyrfaoedd y sinema, yn blant a phobl mewn oed, ac yn yr oes hon 'rydym yn gyfarwydd â gweld arwyr a'u rhamant a phellteroedd daear wrth y tân yn ein tai.

Ond, tybed, a yw'n rhyfygus awgrymu bod yr ychydig a oedd ar gael i blentyn o Gymro ganrif yn ôl yn gwneud argraff mwy arhosol na'r toreth sy'n eu hamgylchynu heddiw?