Y PAPYR NEWYDD CYMRAEG ~
Alpha ac Omega newyddiaduron Gwynedd
gan R.Maldwyn Thomas

HUGH Hughes o Landudno a fu'n gyfrifol am gyhoeddi papur wythnosol Cymraeg cyntaf Gwynedd Y Papyr Newydd Cymraeg. Hugh Hughes, 1789/90-1863, Ysgythrwr talentog, arlunydd, cerfiwr, deryn drycin. Ei waith mwyaf adnabyddus fel arlunydd oedd The Beauties of Cambria, (Llundain, 1823).

Yng Nghaerfyrddin y dechreuodd ymhél â'r wasg gyfnodol, Yr Adolygydd, 1823-4, Brut y Cymry, 1824. Yno hefyd y cafodd wraig, Sarah, merch David Charles y cyntaf. Erbyn 1828 yr oedd y ddau yn byw yn Soho, lle bu Hugh Hughes dros ei ben a'i glustiau yn helynt rhyddfreinio'r Pabyddion.

O blaid y Pab y safodd Hugh Hughes, a mynnodd John Elias ei ddiarddel o eglwys Jewin. Cofleidiodd Hugh Hughes yr Annibynwyr.

Yr oedd erbyn hyn yn 'Radical fflamboeth' yn ôl R.T. Jenkins.

Bu H.H. yn dadlau gyda 'Ieuan Glan Geirionydd' ar bynciau eglwysig yn Seren Gomer, 1828, 1830-32, - dyma'r adeg y dechreuodd arddel y ffugenw 'Cristion'.

Yn 1835 yr oedd H.H. yng Nghaernarfon yn un o'r rhai a oedd yn gofalu am Y Seren Ogleddol. Erbyn 1836 yr oedd wedi sefydlu ei wasg ei hun yn y dref. Cyhoeddodd Y Papyr Newydd Cymraeg yn 1836, ac mae'n debyg iddo hefyd gynorthwyo 'Caledfryn' yng ngwaith golygyddol Yr Adolygydd yn 1838. Bu H.H. farw ar 11 Mawrth 1863 yn Great Malvern.

Y Papyr Newydd Cymraeg
Teitl a dyddiadau:

   Y Papyr Newydd Cymraeg oedd y prif deitl. Yr oedd Y Newyddiadur Wythnosol Cymreig Cyntaf a Gododd ar ôl Gostyngiad y Dreth â'r Unig Un yn Nghymru Yn Amser Ei Sefydliad yn is-deitl. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar 22 Medi 1836 a chyhoeddwyd ef yn wythnosol hyd 30 Tachwedd 1836. Ar 7 Rhagfyr fe argraffwyd is-deitl tra gwahanol: Y Newyddiadurwr Pymthengosol Cymreig Cyntaf ... ac yn y blaen, ac fel pythefnosolyn y cyhoeddwyd ef o'r dyddiad hwn hyd y rhifyn olaf ar 8 Mawrth 1837.

   Argraffydd a chyhoeddwr:
Argraffwyd a chyhoeddwyd yn gyson gan H.H. yn ei swyddfa argraffu a'i gartref, 1, Heol yr Eglwys, Caernarfon.

   Pris a chylchrediad:
Dwy geiniog a dimai oedd pris y rhifyn cyntaf a'r ail, codwyd y pris yn dair ceiniog ar gyfer y trydydd rhifyn ac felly y bu pethau hyd y diwedd. Yr oedd y cylchrediad yn isel; gwerthwyd rhwng 81 a 82 o gopïau ohono yn wythnosol rhwng 22 Medi a 30 Tachwedd 1836.

   Golygydd:
H.H. oedd yn bennaf yn gyfrifol am olygu'r P.N.C., ond ymddengys bod 'Caledfryn' yn ei gynorthwyo.

   Amcan:
Yr oedd golygyddion Y Seren Ogleddol, (Ionawr 1835 - Gorffennaf 1836, misol), yn poeni am fod y newyddion a gyhoeddid yn eu cylchgrawn yn heneiddio'n gyflym, a bod y darllenwyr yn dioddef oherwydd hyn, (ib., cyf. 2, 1836, t. iii, dyddiedig 25 Gorff.), ac yn erbyn y tapestri hwn y gwelwyd addewid am gyhoeddi'r P.N.C. Yn ôl yr hysbysiad yn Seren Ogleddol un o brif amcanion y newyddiadur fyddai 'rhoi addysg a difyrrwch drwy gyhoeddi NEWYDDION yn fanwl ac yn helaeth'.

Y mae'n amlwg y gobeithiai H.H. weld cyfnod gwell yn hanes y wasg gyfnodol yn gwawrio wedi gostwng y doll stamp ar newyddiaduron i un geiniog a'r doll ar bapur i geiniog a dimai yn 1836. Rhan o amcan H.H. oedd cynnwys newyddion tramor o bellafoedd byd, yn ogystal â chyhoeddi y manylion holl bwysig am brisiau yn y marchnadoedd lleol.

***

A BETH am liw golygyddol y P.N.C.? Y bwriad amlwg oedd lledaenu syniadau Radicalaidd, a diffiniad y golygydd o hyn oedd hyrwyddo pob daioni a fyddai'n deillio o ddiwygiad seneddol 1832.

'Wel! y peth yw a ydyw "Y Papyr Newydd Cymraeg" i gymeradwyo y weithred honno (y diwygiad seneddol) ac i lefain gydag ereill a'i cymeradwyant, am y "ffrwythau da" a ddisgwylir ar bren da? Os ydyw, yna yn ddiau y mae yn "radical"; ac yng ngolwg pob dwlyn sydd heb adnabod gwerth y diwygiad seneddol, a gwerth ei ganlyniadau naturiol, y mae yn ddiau "yn ormod o radical",' (ib., 28 Medi 1836, t. 12).

Cyhoeddwyd y papur yng nghyfnod y ddadl rhwng cymedrolwyr megis 'Caledfryn' a'r dirwestwyr, ac amcanai H.H. i'w gyhoeddiad fod yn forum ar gyfer y ddadl hon, tra yr ymosodai yn ffyrnig ar feddwon.

Diwedd y P.N.C.
   'Roedd cyhoeddi'r papur bob pythefnos yn hytrach na phob wythnos yn arwydd o afiechyd, a gwelodd H.H. lawer o'i obeithion gwreiddiol am gyflwyno newyddion gweddol ffres i'r darllenwyr yn diflannu fel niwl y bore. Cylchrediad bychan, a hysbysebion yn prinhau o rifyn Chwefror 1837, a dyma arwyddion pellach o wendid y P.N.C.

Ni ellir osgoi'r farn y bu H.H. yn orhyderus am bosibiliadau cyhoeddiad Cymraeg ar ôl gostyngiad y tollau yn 1836. Nid oedd yr amodau, – megis datblygiad cyfundrefn o ffyrdd a rheilffyrdd, poblogaeth wedi tyfu o gwmpas y trefi a'r pentrefi, a phris y gallai pobl fforddio ei dalu – eto yn aeddfed ar gyfer cyhoeddi newyddiadur Cymraeg.

Fe sylweddolodd H.H. hyn wrth gwrs; mae ei sylwadau ffarwel yn cynnwys ymosodiadau ar y llywodraeth am drethu'r papurau Cymraeg yn union fel y papurau Saesneg – papurau a oedd ' ... yn mwynhau y manteision o werthiant helaeth a hysbysiadau enillfawr.

Ond yr oedd hi'n rhy hwyr i achub y P.N.C. Yr unig lwybr bellach ar gyfer H.H. oedd cyhoeddi'r papur yn fisol, ac ni allai oddef troedio i'r cyfeiriad hwnnw.

Fe fu ond y dim i hynny ddigwydd, serch hynny, gan y bwriadai William Potter, cyn berchennog llwynogaidd Torïaidd y Carnarvon Herald afael yn y P.N.C. a'i gyhoeddi bob mis o dan deitl newydd Y Diwygiwr Gogleddol, (P.N.C., 8 Mawrth 1837, t. 130). Ond ni welodd Y Diwygiwr Gogleddol olau dydd.

***

YR OEDD rheswm arall am dranc y P.N.C. Yn naturiol yr oedd y perchennog yn dibynnu'n drwm ar y swyddfa bost am ddosbarthu'r papur, a digon anfoddhaol fu rhan rhai o swyddogion y post yn y gwaith hwn. Dioddefodd y cyhoeddwr yn arw am fod rhai post feistri yn codi ceiniog o dâl ar ddarllenwyr y P.N.C. bob tro yr oeddynt yn derbyn copi o'r papur. Mae'n sicr i hyn lesteirio ei gylchrediad.

Yr oedd rhai post feistri hefyd yn gadael y P.N.C. yn ddiymgeledd heb boeni dim a oedd yn cyrraedd pen ei daith ai peidio gan " ... ddanfon y swp a dderbynient i ryw un yn y dref, neu'r ardal i wneyd a fyno a'i gynhwysiad."

Bu raid i H.H. groesi cleddyfau ag awdurdodau'r post hefyd am ei fod ef yn gwrthod derbyn llythyrau a oedd wedi eu hanfon i'r swyddfa yn Heol yr Eglwys onid oedd yr anfonwr wedi bwrw'r draul ar ddechrau'r daith.

Syrffed, anobaith, rhyddhad – dyma deimladau H.H. ar ddiwedd oes y P.N.C.:

Gwireddwyd ei obeithion.

NODYN:
Ffeil P.N.C. yn Colindale, A.B., Llundain.
Ffeil Y Seren Ogleddol yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor.

 

A dyma'r diweddara - eto o Gaernarfon