Y DYLANWADAU DISTAW gan Mary Wiliam

 

TAWED y gwragedd," meddai Paul ond y gaeaf llynedd cefais wahoddiad i siarad â chwrdd gwragedd ein capel ni yng Nghaerdydd. Gwnaeth yr ysgrifenyddes boster arbennig yn hysbysebu'r sgwrs, "Diarhebion y Beibl" ac ar frig y poster yr oedd wedi pinio nod llyfr Fictoraidd hardd iawn ag arno'r geiriau, "Heb Dduw Heb Ddim" ac arwydd y groes wrth eu hochr. Ni welais ei debyg na chynt na chwedyn.

Pan ddaeth yr alwad i siarad yn yr un capel o fewn ychydig wythnosau, gan fy mod i beth bynnag wedi blino clywed fy hunan yn pedlera 'run hen sgwrs o gymdeithas i gymdeithas, penderfynais edrych yn fanylach ar y nod llyfr a dilyn pa drywydd bynnag a ddeilliai ohono.

Mae'r garden ei hunan yn mesur 8" wrth 3" ac mae wedi'i mowntio ar ruban sidan glas. Mae'r cyfan yn 25" o hyd. Gwnaed y cardiau hyn yn yr un modd â'r 'doilies' a geir heddiw ac mae'n edrych fel papur cerfiedig.

Mae'r gornel chwith yn arbennig o gywrain. Mae'n darlunio merch ifanc yn gwisgo het gantel llydan ar gefn asyn. O'i chwmpas mae gwinwydden yn dringo latis pren ac o dan draed yr asyn mae torch hir o redyn, rhosynnau a blodau bach.

Mae'r ddwy ran o dair arall eto wedi'u hamgylchynu â rhedyn ac aeron ond mae'r canol yn llawn tyllau o faint pin ac wedi'i phwytho mewn pwytho croes gan ddefnyddio sidan glas, yr un lliw â'r rhuban, mae'r ddihareb Heb Dduw Heb Ddim.

Ar ôl hir graffu, sylwais fod enw argraffdy wedi'i weithio i mewn i redyn y fframyn, sef WINDSOR ynghyd â'r marc cofrestru.

***

Y MAE yma dri nod llyfr. Yng nghornel chwith un ohonynt, mae dau blentyn bach cnawdol yn gorwedd ar glustog o redyn a mân flodau. Mae geiriad dau ohonynt yn amherffaith. Forgetment sydd ar un, yn Ile Forget me not, ac ar y llall As a Keepsak â'r e a rhywfaint o'r k yn eisiau.

Mae'r trydydd yn berffaith. Yng nghornel chwith hwn mae twff o flodau wedi'u peintio â llaw: mae'r blodau'n las a'r deiliach yn felynwyrdd. Mae Forget me not mewn pwyth croes gwyrdd ac mae wedi'i fowntio ar ruban sidan coch. Mae'r mwyaf o'r rhain yn 5" wrth 2".

Mae cymharu'r rhain â'r un Heb Dduw Heb Ddim yn awgrymu bod yr un mawr wedi'i wneud at y Beibl Mawr.

Perchennog y nod llyfr hwn yw gwraig sydd wedi ymddeol a'r unig beth y gŵyr hi amdano yw ei fod wedi dod o gartref ei modryb yn Ystrad Mynach, Morgannwg.

Mae fy rhai i yn Saesneg am imi brynu un a chael un arall yn ei sgîl am fod ei gyflwr mor wael, a chael y llall gan ffrind a'i darganfyddodd mewn hen lyfr.

***

DYWEDIR mai merched o 9-13 oed fyddai'n gwnïo'r pethau hyn. Mae'n rhaid fod hyn yn wir oherwydd byddai rhywun profiadol wedi gwneud amlinelliad o'r neges cyn dechrau pwytho, ond mae'n amlwg na wnaeth y merched hyn hynny a dyna paham nad oedd lle ar y garden i'r neges i gyd.

Ar ôl pendroni uwchben y nodau llyfrau, cofiais imi rywdro brynu llun adnod a bod honno wedi'i gweithio ar garden dyllog. Roedd yn rhaid imi chwilio amdani am ei bod wedi'i chwato mewn rhyw ddrôr oherwydd er imi wybod ar y pryd na allwn i byth byw gyda hi, eto roedd yn rhaid imi ei chael am imi synhwyro ei bod yn ddatblygiad o'r sampler.

Teimlwn yn ddigon ffôl yn ei phrynu am ei bod yn fy nenu ac yn codi cyfog arnaf ar yr un pryd. Mae'n rhaid bod fy chwaeth wedi newid oherwydd pan gefais hyd iddi yn ddiweddar, roedd rhywbeth reit annwyl ynddi.

Mae'n ddiweddarach na'r nodau llyfr, mae'r garden yn gyffredin iawn a'r tyllau'n fwy o faint ac mae ychydig o ôl stensil i'w gweld o dan y pwythau.

Be thou faithful unto death yw'r adnod â phen ceriwb a phatrwm o flodau sych yn y canol. Gwelais un arall yn ddiweddar iawn ag adnod ac angel hardd mewn gwisg las ar y dde, ond nis prynais.

***

YCHYDIG iawn iawn sydd wedi ei ysgrifennu amdanynt am eu bod mor ddi-nod. Eithr gelwir y gwaith card yma yn mock art am fod y papur les yn efelychu les cywrain, a'r addurn gelfydd yn efelychu coedluniau (wood-cuts). Maent yn llinach y cardiau Ffolant Fictoraidd ac mae llyfrau cynhwysfawr yn croniclo hanes y rhain ar gael.

Yn ôl Ruth Webb Lee yn ei llyfr A History of Valentines yr oedd John WINDSOR yn un o'r gwneuthurwyr cardiau Ffolant pwysicaf. Yng nghyfarwyddiadur Llundain yn 1840 disgrifir ef fel "cardmaker", yn 1844 fel "Book and Printseller", yn 1847 fel "enamelled card manufacturer, 2 Meredith Street, Clerkenwell," ac yn 1847 fel "cardmaker and manufacturer of fancy boxes at 23, Coppice Row, Clerkenwell".

Mae'n bosibl fod "fancy boxes" yn golygu'r bocsys addurnol a ddefnyddid i ddal y ffolantau mwyaf addurniedig.

Eithr, y mae'r nod llyfr nid yn unig yn cario enw'r gwneuthurwr ond hefyd farc cofrestru Prydeinig. Ni ddechreuwyd cofrestru tan 1842 ac fe beidiwyd â defnyddio'r ffurf losin a welir arno yn 1883. Yng nghyfarwyddiadur 1865 mae Mullord Bros yn sôn am eu hunain "for twelve years the only Die-sinkers to the Late Firm of Windsor and Sons".

Mae hyn yn awgrymu bod Windsor wedi gorffen masnachu cyn 1865. Ar sail y marc cofrestru tybiaf mai yn 1961 y gwnaethpwyd y nod llyfr.

***

DYWEDIR bod y cardiau Ffolant ar eu gorau rhwng 1840-1860 pan wnaethpwyd hwy â llaw. Ond wedi hynny dechreuwyd eu cynhyrchu ar raddfa fasnachol fawr. Ar ben hynny, daeth yn bosibl prynu'r gwahanol addurniadau a'u rhoi at ei gilydd eich hunan. 'Roedd modd prynu dalen o fotifau o flodau lliwgar, o negesau, o geriwbiaid a hefyd flodau a rhedyn sych.

Yn 1865 mae'r Fancy Trades Register o dan yr enw David Mossman hefyd yn rhestru "Mrs Mossman, Lace-paper manufacturers, makers of leaves and ornaments for Valentines, IA Stoke Newington Green".

Mae'n rhaid taw dyna sut y cafodd f’adnod i ei rhoi at ei gilydd oherwydd yng nghanol y rhedyn sych mae pen edelweiss. Go brin mai yn y Swistir y gwnaethpwyd y llun.

Holais ambell ffrind i weld a oedd adnodau tebyg yn eu cartrefi hwy. Yr oedd mam un ffrind wedi gwneud rhai ei hunan. Roedd hi wedi brodio'r adnod Trig gyda mi mewn edau goch a melyn. Gwnaeth hanner dwy arall Cerwch eich gilydd a Myfi yw Bara'r Bywyd, a blinodd.

Prynodd y cardiau mewn siop yn Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn niwedd ei harddegau, tua 1924. Doedd hi ddim yn un a ystyrid yn dda â'i nodwydd, fe'u gwnaeth er mwyn llanw'r amser gyda'r nos. Am na chafodd yr adnodau eu gorffen, ni chawsant eu fframio chwaith. Lle na orffennodd hi, mae'r stensil i'w weld yn glir.

Cofiai brynu par ohonynt. Yn ddiweddar, holodd rai o'i chyfoeswyr a oedden nhw'n cofio eu gwneud. 'Doedd yr un ohonynt.

***

NID adnodau o'r Beibl oedd gan ffrind arall ond dwy ddihareb Cas gwr nas caro'r wlad a'i maco ac Y ddraig goch a ddyry gychwyn. Uwchben y geiriau y mae Dymuniadau wedyn, rhyw fath o fathodyn sef y ddraig goch mewn cylch ac yna gorau o. Mae'n rhaid bod o yn cyfeirio'n ôl at y ddraig fel sumbol o Gymru.

Maen nhw wedi'u brodio mewn coch a gwyrdd ac yn edrych dipyn yn ddiweddarach na'r adnodau, tua 1940 efallai. Yr oedd hi hefyd yn cofio gweld darn o bren wrth ochr y lle tân ac arno'r geiriau:

Yr oedd mwg y tân wedi'i freuo a'i dduo'n ofnadwy felly fe'i taflwyd. Dyna hanes y rhan fwyaf ohonynt, mae'n siŵr.

Mae'n rhaid bod y geiriau wedi'u llosgi ar y pren â phrocer. Clywais sôn am un yng ngogledd Lloegr ac arno'r geiriau 'Our Father'.

Er nad oedd yr adnodau wedi'u brodio ar gael ym mhob cartref, yr oedd y rhai paentiedig ym mhob ystafell wely. Mae'r gŵr yn cofio i'w dad gael un yn free-gift fel petai, (nid yw'n gwybod ai un ai par a gafodd) pan brynodd wely yn y Bon Marche, Pwllheli tua 1940. Mae'r fframyn wedi cael cot o baent rywdro.

Mae'n rhaid bod fy mam-yng-nghyfraith wedi penderfynu pan oedd hi'n gwneud y glanhau gwanwynol fod golwg ddi-raen ar y ffrâm ac wedi'i pheintio.

Mae cyfeiriad at y rhain yn Y tŷ a'r teulu (1891), t.77. "Mewn ystafelloedd cysgu y mae cardiau, un neu ragor yma a thraw, gydag adnod neu ddïareb wedi ei phaentio mewn gwahanol liwiau ar bob un, yn cymeryd lle darluniau yn gyffredin iawn. Nid peth i'w ddiystyru ydyw dylanwad y cyfryw, os bydd yr adnodau o ddewisiad doeth, i hen ac ieuanc, o dan lawer o amgylchiadau teuluaidd. Dyletswydd a braint pob penteulu ydyw darparu, trwy wahanol foddion, y dylanwadau distaw, tebyg i'r rhai hyn, a gynorthwyant gymaint i ffurfio cymeriad y rhai hyn sydd o dan eu gofal."