Y CYFARCHION CYNTAF gan R.H.Lewis

ELENI eto bydd selogion Cymdeithas Bob Owen, a phawb arall o ran hynny, yn gwario punnoedd lawer ar gardiau Nadolig, a mwy fyth ar stampiau. Dyma un o arferion mwyaf poblogaidd tymor y Nadolig erbyn heddiw ac yn sgîl y poblogrwydd hwnnw naturiol iawn yw credu ei fod yn hen hen arferiad a ddechreuodd flynyddoedd lawer yn ôl.

Ond, mewn gwirionedd, arferiad cymharol ddiweddar ydyw. Sais o'r enw Syr Henry Cole ddechreuodd yr arferiad yn 1843. Y flwyddyn honno gofynnodd i'w gyfaill J.C.Horsley beintio darlun iddo a fyddai'n addas i gyfleu ei ddymuniadau da i'w gyfeillion.

Peintiodd yr arlunydd lun campus ac arno yn Saesneg y cyfarchiad sydd mor gyfarwydd erbyn hyn – 'Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i Chwi'.

Y cerdyn Nadolig cyntaf erioed o waith J.C.Horsley yn 1843.

Hoffodd pawb syniad Syr Henry Cole, ond yr oedd yn rhy hwyr iddynt ei efelychu y Nadolig hwnnw. Y flwyddyn wedyn argraffwyd llawer o gardiau tebyg. O dipyn i beth daeth mwy a mwy i wybod am y syniad ac ymhen ychydig flynyddoedd daeth anfon cardiau Nadolig yn arferiad lled gyffredinol.

Nid wyf am fentro dyfalu pa bryd y lledaenodd yr arferiad i Gymru nac ychwaith pa bryd y cafwyd y cerdyn Nadolig Cymraeg cyntaf. Y cwbl y mentraf ei ddweud ar hyn o bryd yw fod yr arferiad wedi dod yn ddigon poblogaidd erbyn 1910 i Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, fentro darparu catalog ar gyfer Nadolig y flwyddyn honno.

Yn y catalog hwnnw yr oedd 90 o wahanol fathau o gardiau, 28 ohonynt gyda chyfarchion yn yr iaith Gymraeg ar eu hwynebau. Yr oedd dewis o 8 gwahanol gyfarchiad Cymraeg ar gyfer y tu mewn a gellid cael y cyfarchion hyn ar unrhyw un o tua 84 o'r cardiau. Amrywiai prisiau'r cardiau o 1/9 y dwsin i 6/- y dwsin.