Y CWPAN gan Menna Heledd Phillips

 

RAI blynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn chwilota mewn siop ail law y gwelais y cwpan a ddarlunir yma. Yr hyn a'm denodd gyntaf oedd ei gyflwr da eithriadol, - y lliwiau porffor, gwyrdd, brown, glas a choch yn ddisglair ac fel pe baent heb bylu dim yn nhreigl y blynyddoedd.

Yr oedd yn mesur tua thair modfedd o uchder a thair modfedd ar led a'r cyfan wedi ei addurno gyda thoreth o faneri, rhosynnau, dail derw, torchau o ddail y llawryf a phob symbolaeth arall y gellid ei wasgu fewn i arwynebedd y cwpan.

Cynhyrchwyd y cwpan i ddathlu Cytundeb Heddwch 1919. Gan nad oedd gennyf unrhyw beth cyffelyb yn fy meddiant rhaid oedd i mi ei brynu'n ddiymdroi.

Ar ôl cyrraedd adref a chael hamdden i syllu arno yn fanwl gwelais fod y cwpan yn un o ddiddordeb arbennig i bob Cymro. Ar ganol y cwpan uwchben y golomen heddwch ac o ddeutu Siôr V, wedi eu gosod mewn torchau o ddail y llawryf, gyda baneri yn gefndir iddynt, fe welir lluniau Foch, Lloyd George, Wilson a Hughes.

Ar ôl tipyn o bendroni a chwilota mewn gwyddoniadur gwelais arwyddocâd dewis y gwŷr hyn. Yr oedd Foch yn Gadfridog ym myddin Ffrainc, Lloyd George yn Gymro ac yn Brif Weinidog Prydain, a Wilson yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, a'r tri yn amlwg iawn yn y Gynhadledd Heddwch yn Versailles. Ond pwy oedd Hughes?

***

EI enw llawn oedd William Morris Hughes (1864-1952) ac yr oedd yn Gymro, yn hanu o Ogledd Cymru. Y mae'n debyg iddo dderbyn ei addysg fore yn Llandudno. Ym 1884 ymfudodd i Awstralia. Erbyn 1894 yr oedd yn Aelod Seneddol yn Senedd Talaith New South Wales. Yna cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn y Senedd Ffederal, ac ym 1915 daeth yn Brif Weinidog Awstralia.

Yng nghofiant Douglas Sladen: From Boundary Rider to Prime Minister: Hughes of Australia (Llundain, 1916) dywedir ei fod yn hynod falch o'i dras Cymreig, a'i fod yn un o Is-lywyddion Cymdeithas Cymrodorion New South Wales.

Y mae'n debyg iddo yntau chwarae rhan amlwg iawn yn y Gynhadledd Heddwch, a dyna'r rheswm dros ei ddarlunio yntau ar y cwpan hwn.

Erys un dirgelwch bach. Tu cefn i Foch, Wilson a Hughes gwelir baneri Ffrainc, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Pam tybed y rhoddwyd baner Iwerddon (yr hen un sef: telyn gefndir gwyrdd) tu cefn i Lloyd George?

Tybed yn wir a allai'r un a luniodd y cwpan ragweld y dyfodol pan fyddai Lloyd George yn gysylltiedig â Chytundeb arall ym 1921?