RHWNG Y TUDALENNAU gan Nansi R. Selwood

CLYWAIS fod llyfrgellwyr yn cael eu synnu weithiau gan y pethau od maen nhw'n eu darganfod wrth fynd trwy lyfrau sydd newydd eu dychwelyd. Maen nhw'n dweud, fod un wedi dod ar draws darn o gig moch rhwng y tudalennau. Os oedd y darllenydd hwnnw mor anghofus â rhoi ei frecwast yn ei lyfr, sgwn i beth oedd e wedi'i fwyta?

Ta beth, fe gawson ni fel teulu hwyl anghyffredin yn mynd trwy gasgliad o lyfrau a adawyd gan ffrind mynwesol mam sef Bopa Sera. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer fawr o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Wrth gwrs, roedd 'na bentwr o Feiblau (un mewn Eidaleg!) ac esboniadau rif y gwlith.

Roedd mynd trwy'r bocsiau cardbord yn brofiad gwefreiddiol - roedden ni fel plant yn rhoi ein dwylo mewn twbyn y "Lucky Dip". Doedd neb yn gwybod pa drysorau a fyddai'n dod i'r golwg.

Cyfrol fach mewn Ffrangeg - bywgraffiad o Fohamed - mewn cas felwm gwyn - ond yn anffodus - dim ond yr ail gyfrol; llyfr gan Henry Richard, aelod seneddol Rhyddfrydol dros Ferthyr Tudful. Casgliad yw hwn o lythyrau Henry Richard at bapurau blaenllaw Llundain yn amddiffyn ei gyd-Gymry rhag camsyniadau erchyll y Saeson am y werin Gymreig. Roedd y camargraffiadau yn deillio i ryw raddau o'r pethau a ddywedwyd yn y "Llyfrau Gleision". Mae'n rhyfedd meddwl fod aelod seneddol wedi gorfod rhoi cymaint o'i amser i geisio profi i'r Saeson nad cenedl yn byw ar ladrata, llofruddio a rheibio oedd y Cymry!

Ar y dudalen flaen mae cyflwyniad personol yn llawysgrifen Henry Richard i William John Jenkins (tad Bopa Sera) a fu'n weithiwr ffyddlon gyda'r Rhyddfrydwyr yn Hirwaun a'r Rhigos.

***

WRTH fynd trwy'r holl lyfrau fe ddaeth trysorau eraill i'r golwg - a gwyddom pam. Roedd Bopa Sera mor hoff o ddarllen fel y byddai'n oriau man y bore arni'n mynd i'r gwely ac yn aml, wrth iddi'n sydyn ddod yn ymwybodol o'r amser byddai'n taro unrhyw beth oedd wrth law i mewn i'r llyfr i gadw'i lle.

Roedd y pethau hyn yn amrywio cymaint â thestunau'r llyfrau - stripyn bach main o sidan gwyn ac arno faner a'r geiriau "Russian Red Cross" - ond nid Baner y Morthwyl a'r Cryman sydd yma. Mae hwn yn perthyn i'r dyddiau cyn y Gwrthryfel Comiwnyddol.

Mae amryw o gardiau elusengar sy'n dystion o'r cyni a ddilynodd y Rhyfel Mawr - "Perfume Calendar 1920" gyda'r geiriau "Distress Fund, Metal Founders' Strike, Birmingham Committee, one penny"; Carden a llun a phersawr leilac - 'Resolven Salvation Army'.

Wedyn, dyma amryw o bapurau a rhestr o enwau arnyn nhw - enwau plant Ysgol Sul Bethel Hirwaun - trefnu trip neu brynu anrhegion ar eu cyfer, mae'n debyg.

Pob math o bapurau yn dystion i'w gwaith fel ysgrifenyddes neu drysorydd i'r Mudiad hwn a'r llall - doedd dim o werth cymdeithasol yn digwydd yn Hirwaun nad oedd hi'n cyfrannu ato.

Mae'n rhyfedd fel mae cymeriad rhywun yn dod i’r golwg yn y llyfrau a fwynheir a’r pethau a roddir ynddyn nhw!

***

OND roedd 'na bethau annisgwyl hefyd - fel carden yn hysbysebu llyfr ar "The Art of Success". Mae hwn yn rhestru rhai o anhepgorion bod yn llwyddiannus - o hanfodion cymeriad da a nerth moesol - at esgidiau'n disgleirio - "shiny boots ".

Carden Nadolig hynod o bert a'r dyddiad arno "December 25th 1916"; Papur ysgrifennu a'r pennawd "Aberdare Education Committee 192 “ - rhywbeth.

Ar hwn, mewn ysgrifen frysiog mae yna gân - neu'n hytrach siant i'w hanner-ganu wrth sgipio. Mae'n amlwg fod hon yn ddiarth i Bopa Sera ac yn ddigon hynod iddi ei rhoi ar bapur. Yn Saesneg mae hi ac eto mae tinc Gymraeg ynddi. Ond ni chlywais iddi gael ei chanu erioed gan blant yr ardal.

Mewn un llyfr roedd papur chweugain - papur mawr piws. Roedden ni wedi anghofio eu bod nhw cyn gymaint o faint. Ond er siom i ni dyna'r unig arian a ddaeth i'r golwg. Rwy'n cofio i Bopa Sera unwaith golli amlen yn cynnwys ei chyflog am fis cyfan. Bu'n chwilio ymhobman nes cofio pa lyfr roedd hi'n ei ddarllen y noson y cafodd ei thâl. A dyna lle roedd e!

Daethom o hyd, hefyd, i garden hirgul ac arno luniau pedwar o gymeriadau enwog Charles Dickens - yr unig beth a fwriadwyd ar gyfer cadw lle mewn llyfr.