NATURIAETHWR TIR BARBADOS gan Raymond B.Davies
GANWYD Griffith Hughes yn 1707 yn Nhywyn, Meirionnydd. Daeth yn amlwg fel naturiaethwr ac yn ystod y 1740au ymdrôdd yng nghylchoedd uchaf cymdeithas Llundain; yna ciliodd o amlygrwydd. Cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur ' The natural history of Barbados'. Mae hanes ei fywyd yn ddiddorol iawn hyd at gyhoeddi'r llyfr hwn ac yn ddirgelwch ar ôl hynny.
Yn 1732, ac yntau ar ei bedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, derbyniodd Griffith Hughes wahoddiad y 'Society for the Promotion of the Gospel' i fynd yn genhadwr. O fewn blwyddyn roedd wedi gadael y coleg heb radd, ei ordeinio yn offeiriad, ac wedi mynd yn genhadwr dros Eglwys Loegr i Radnor, Pensylfania.
Yr oedd ardal y genhadaeth hon yn un wasgaredig iawn a'i chynulleidfa yn byw hyd at saith deg o filltiroedd o'i chanolfan yn Eglwys St. Davids yn Radnor. Efallai mai ei deithiau pregethu drwy gwm coediog a rhamantus Schuylkill a ddeffrodd ddiddordeb y Cymro ieuanc ym myd natur.
Yn sicr yn ystod yr adeg honno y sylweddolodd faint y galw ym Mhensylfania am lyfrau Cymraeg ymhlith y newydd ddyfodiaid o Gymru ac i geisio ateb y galw hwn, yn 1735, cyhoeddodd argraffiad (gydag ychwanegiadau) o 'Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf', sef llyfryn o fyfyrdodau diwinyddol gan John Morgan, Matchin, a gyhoeddwyd gyntaf yn Llundain yn 1714.
Argraffwyd y llyfr gan Andrew Bradford yn Philadelphia a dyma'r pedwerydd llyfr Cymraeg i'w gyhoeddi yn America. Diddorol yw sylwi mai Edward Morgan, brawd yr awdur, oedd ficer Tywyn pan oedd Griffith Hughes yn fachgen yn y plwyf hwnnw.
***
MAE'N amlwg o'r adroddiadau a ysgrifennodd i'r 'Society for the Promotion of the Gospel' yn Llundain fod Hughes wedi dechrau ei dymor ym Mhensylfania yn llawn brwdfrydedd, a bu'n llwyddiannus yn cenhadu yn enwedig ymhlith y Crynwyr Cymraeg. Ond blinodd ar galedi ac anghyfleustra y bywyd teithiol.
Yn 1736, gadawodd ei blwyfolion heb rybudd a chymerodd long o Barbados.
Yno, ym mhen gogleddol yr ynys, cafodd swydd rheithor St. Lucy. Ni wyddys nemor ddim am ei weinidogaeth yn Barbados, ond y mae'r ynys hon yn un ffrwythlon iawn ac, er na chawsai addysg wyddonol ffurfiol, dechreuodd Griffith Hughes astudio amrywiol blanhigion ac anifeiliaid ei gartref newydd.
Yn raddol tyfodd y syniad o ysgrifennu llyfr ar fyd natur Barbados ac yn ystod 1743-44 ymwelodd Hughes â Llundain gyda'r bwriad o hyrwyddo ei gynlluniau ar gyfer y llyfr. Daeth ag enghreifftiau a lluniau gydag ef o rywogaethau anghyffredin yr ynys.
Hefyd, yn ystod ei ymweliad ymgyfarwyddodd â gwyddonwyr dylanwadol fel Syr Hans Sloane (botanegydd, meddyg Siôr II, a chasglwr o fri a adawodd ei gasgliadau ar ei farwolaeth fel casgliad sylfaenol i'r Amgueddfa Brydeinig) a Martin Folkes (llywydd y Gymdeithas Frenhinol). Cyn iddo ddychwelyd i Barbados, roedd, wedi trefnu gyda'r arlunydd' Georg Dionysius Ehret i baratoi'r platiau ar gyfer ei lyfr.
Yn 1748 roedd Griffith Hughes yn ôl yn Llundain. Bu disgwyl brwd ymhlith gwyddonwyr am ymddangosiad y llyfr mawr am fod y cynllun yn un mor ddiddorol ac uchelgeisiol. Ar sail y cynllun yn 1748 fe'i hetholwyd yn Gymrodor o'r Gymdeithas Frenhinol ac yn yr un flwyddyn fe'i anrhydeddwyd gan ei hen goleg gyda graddau B.A. ac M.A.
***
GRIFFITH Hughes oedd cyhoeddwr yn ogystal ag awdur 'The natural history of Barbados'. Argraffwyd y llyfr gan argraffwr anhysbys o Lundain. Rywbryd yn ystod gwanwyn 1750 yr ymddangosodd y llyfr – mewn dau faint. Tri chant o gopïau yn unig o'r 'large paper edition' a gynhyrchwyd ac erbyn heddiw maent yn brin iawn. Yn ogystal â'i fod wedi'i argraffu ar bapur mwy o faint, mae'r argraffiad mawr hefyd a'r platiau o engrafiadau copor wedi eu lliwio a llaw; plaen yw platiau'r gyfrol lai.
Cyflwynwyd y llyfr i Thomas Herring, Archesgob Caergaint, a cheir yn y llyfr restr o tua mil o danysgrifwyr – rhestr arbennig iawn sy'n cynnwys y Brenin Siôr II, Frederick Louis (Tywysog Cymru), esgobion ac enwogion eraill.
Er i'r gyfrol wneud argraff ar Carl Linnaeus (1707-78), y botanegydd mawr o Sweden, mae'n debyg na chafodd y llyfr dderbyniad ffafriol ymhlith gwyddonwyr yn gyffredinol. Yn sicr mae'r un adolygiad y cefais hyd iddo, a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1750 o'r Monthly Review; or New Literary Journal yn anffafriol.
Ar ôl cyhoeddi 'The natural history of Barbados', mae gyrfa Griffith Hughes yn ddirgelwch – diflannodd o amlygrwydd yn gyfan gwbl. Mae'n amheus iddo ddychwelyd i Barbados. 1758 yw'r flwyddyn olaf i'w enw ymddangos ar restr Cymrodyr y Gymdeithas Frenhinol; efallai ei fod wedi marw yn y flwyddyn honno.
Gyda llaw - os oes gan unrhyw un o ddarllenwyr Y Casglwr gopi o 'The natural history of Barbados' efallai ei fod yn gyfoethocach nag y tybia. Gwerthwyd copïau am gymaint â phum cant a saith gant o bunnau yr un.