HELYNTION YR ALMANACIAU gan Gerald Morgan
DISGRIFIAIS mewn erthygl arall ddichellion argraffwyr Cymru yn cynhyrchu almanaciau anghyfreithlon i guro'r Dreth Stamp, cyn i honno ddod i ben yn 1833. Arweinwyr yr argraffwyr hyn oedd Ismael Davies, Trefriw, a'i fab John Jones, a fu'n argraffu yn Nhrefriw hyd 1817, ac wedyn yn Llanrwst hyd ei farw yn 1865.
Byddai John Jones yn sicrhau defnyddiau ei almanaciau oddi wrth Robert Roberts, Caergybi, nes i hwnnw farw yn 1836, ac wedyn gan amlaf câi ei ddefnyddiau gan John neu Owen Roberts, Caergybi. Ond yn 1837 cafodd hyd i almanaciwr newydd sbon, John William Thomas, "seryddwr yn Arsyllfa Greenwich". Ganed J.W. Thomas yn y Pentir yn 1805, a thyfodd yn fathemategydd disglair (dan gyfarwyddyd Robert Roberts yr almanaciwr!), a chyhoeddodd gyfres o lyfrau mathemateg Cymraeg, Elfennau Rhifyddiaeth, rhwng 1830 a 1832.
Aeth i Lundain, bu'n ysgrifennydd i'r Seneddwr enwog William Cobbett, a chafodd waith yn Greenwich fel seryddwr wedi iddo sgrifennu traethawd ar gomed Halley. Ynghanol ei brysurdeb, cyhoeddodd lyfr bach trwchus a defnyddiol, Trysorfa yr Athrawon, llawlyfr ar gyfer athrawon Ysgol Sul. Daeth yr argraffiad cyntaf o wasg yn Llundain yn 1860, a chafwyd argraffiad olaf (am wn i) gan O. Evans-Jones (mab John Jones) yn Llanrwst yn 1881. Gwaetha'r modd, bu farw J.W. Thomas ('Arfonwyson') yn 1840, ond nid cyn i'w Almanac achosi cweryl.
Wedi'r Almanac ar gyfer 1838, paratowyd un arall gan Arfonwyson ar gyfer 1839, ac eto ar gyfer 1840. Ond cafodd John Jones gryn glec y tro hwn – cyn iddo orffen paratoi'r Almanac ar gyfer y wasg, wele Almanac arall yn ymddangos ar y farchnad ar gyfer 1840. Honnai'r Almanac hwn ei fod "gan un o'r seryddwyr enwocaf yn Arsyllfa Greenwich", ac yr oedd y llun ar y clawr yn gopi amlwg o glawr Almanac Arfonwyson. Yn fwy poenus byth, cynnyrch gwasg arall yn Llanrwst, ar drothwy John Jones ei hunan, oedd yr Almanac newydd hwn, a fygythiai farchnad gyson John Jones a'i deulu.
Yr argraffydd beiddgar hwn oedd Hugh Jones, a fu'n argraffu yng Nghonwy am flwyddyn (1838-9) cyn symud i Lanrwst, i'r un stryd â John Jones ('Denbigh St'), a dechrau cyhoeddi ac argraffu yno. Roedd ei farchnad yn hynod debyg i eiddo John Jones – pregethau, llyfrau diwinyddol, a mentrodd i ailargraffu un o'r clasuron Cymraeg ('Gweledigaethau'r Bardd Cwsg') polisi y bu John Jones yn ei ddilyn am flynyddoedd. Rhaid bod y teimlad rhwng y ddau argraffydd yn ddrwg o'r cychwyn.
Beth bynnag, roedd ymddangosiad Almanac Hugh Jones yn her amlwg i John Jones, lluniodd ateb ffyrnig i'w rhoi ar glawr ei almanac yntau am 1840: Y mae Almanac am 1840:
- Y Mae Almanac am 1840 wedi ei argraffu gan Hugh Jones, Llanrwst, heb enw awdur
wrtho,
ond "Gan un o'r Seryddwyr enwocaf yn Arsyllfa Greenwich", yn cael ei werthu ar hyd y wlad
yn enw Almanac J. W. Thomas. Bydded hysbys, gan hynny, na chyhoeddwyd un Almanac am
1840 o waith I.W.T. ond hwn, ac nad oes neb o seryddwyr Greenwich yn gwybod dim am
Almanac H. Jones. Buasai yr un mor briodol i'r awdur ddyweyd mai seryddwr yn y Lleuad
oedd, neu un o seryddwyr Gwdion ab Don, yn Arsyllfa Tan-llyn-hwyrach, gerllaw y Gyfylchi
yn Arfon gynt, â'i fod yn un o seryddwyr Greenwich.
Holiad - A ydyw cyhoeddi Almanac, neu ryw lyfr arall, a ffug enw wrtho, gyda bwriad i'w
anfon yn nwylaw crwydriaid celwyddog a diegwyddor i'w werthu ar hyd y wlad yn enw rhyw
awdwr adnabyddus, yn ymddygiad a weddai i ŵr ieuangc a fyddai yn ceisio dyrchafu ei hun
i'r areithfa i gynghori ac i bregethu yn erbyn twyll ac anghyfiawnder pobloedd, etc.?
- Llanrwst
Tachwedd 29 1839 Syr,
Nid wyf yn cofio darfod i mi anfon llythyr atoch erioed, ar unrhyw achlysur, ond wele fi yn anfon hwn atoch y waith gyntaf, ar achos tra nodedig. Mae'n gof gennych ddarfod i mi anfon attoch ers tro bellach i ofyn am faint y gallech werthu yr Almanac, i ofyn a roddech chwi hwyrach ychydig yn rhatach i ni, gan y buasem yn cymeryd nifer fawr o honynt, a'r atebiad a gawsom oedd nas gallasech eu rhoddi ddim yn is nag arferol, ac felly gwell i bawb wneud Almanac eu hunain.
Ac wedi cael ein nacáu fel hynny, a chan nas gallasem ninau wneud heb Almanac i'r rhai sydd yn arfer gwerthu llyfrau oddi wrthym, ni a aethom yn ddiwid at y gorchwyl o argraffu un ein hunain, ac y mhen rhyw yspaid o amser wedi ei argraffu, beth a welsom ar amlen yr eiddoch chwi ond erledigaeth chwerw iawn. Dechreu y sylwad hwnnw oedd "fod almanac wedi ei argraffu gan H.J. heb enw yr awdur wrtho ond gan un o'r Seryddwyr enwocaf yr Arsyllfa Greenwich. Yn awr, nid heb sail ddigonol y rhoddwyd ef felly. Gawsom y copy gan Mr T. Richardson Derke, yr hwn a sicrhaodd i ni ei fod ef yn arferol o'i gael yn unionsyth o Greenwich bob blwyddyn gan gyfaill iddo, Seryddwr ie yr enwocaf yn Arsyllfa Greenwich, ac y mae Mr Richards (sic) yn gwerthu miloedd lawer ohonynt i'r Saeson, a phaham nas allant wneuthur y tro gystal i'r Cymry. Yr ydym yn deall eich bod wedi lled dybied mai James Rhiwgyfylchi oedd ei awdur, ond, gwelwch, yn awr nad oedd ganddo ef un llaw ynddo (gwyddat eich rheswm yn amgen nas gallai ef wneud y fath beth), felly ynfydrwydd o'r mwyaf oedd i chwi son am un o Seryddwyr Gwydion ap Don yn arsyllfa y Penmaenmawr etc etc.
Yn awr yn attebiad i'ch holiad yr ydym yn rhoddi yr hyn a ganlyn. A yw cyhoeddi Almanac gyda bwriad i'w anfon etc etc? Nac ydyw a phwy a wnaeth hynny? Nid nyni. Haeriad yw hwn nas gallwch chwi na neb arall ei brofi, ie celwydd noeth ydyw. Yn sicr nid oedd gennym y bwriad lleiaf wrth roddi enw felly iddo gael ei werthu yn enw un awdur adnabyddus, ond rhoddwyd felly oddi ar yr ystyriaeth mai felly y cawsom ef o Derke, ac os gwnaeth rhywun neu rai ei werthu yn enw alamanc J.W.T., nis gallem ni ddim oddiwrthynt, yn ddiamheuol nid oedd gennym un bwriad i'r fath beth gymeryd lle, os cymerodd.
"Crwydriaid diegwyddor celwyddog" etc. Yn awr, yr oedd hynny yn un rheswm genych i beidio rhoddi Almanacs i ni sef "am mai yr un rhai oedd yn cario oddi wrthym ein dau, yna o angenrheidrwydd rhaid mai rhai o'r nodweddiad isel hwn yw yr eiddoch chwithau hefyd os gwir a ddywedasoch, ond gwybyddwch nad yw y rhai sydd yn arfer cario oddi wrthym ni yn dwyn y caritor gwael yna, ond ystyiir hwy yn ddynion geirwir a gonest, os nad ydynt dangoswch hynny yn deg.
Dyna haeriad arall (y celwydd mwyaf erioed) fy mod yn ceiso dyrchafu fy hun i'r areithfa i gynghori etc etc. A oes genych sail i hyn? a ellwch chwi neu ryw rai arall brofi yr haeriad melldigaid hwnnw? Na ellwch, meddaf i chwi. Nis gellwch brofi fod arnaf fi eisiau cael fy nyrchafu gan eraill i'r fath le, pa faint llai fy mod "yn ceisio dyrchafu fy hun". Byddid hysbys i chwi na wnaeth eich sylwadau ddim niwed i werthiant ein halmanac ni, ond fe ystyria y wlad mai oddi ar genfigen y tarddodd y peth, ac o hyn yn ddiau ni ddaw i chwi ddaioni.
H. Jones
Yn sicr, roedd Hugh Jones yn medru ei dweud hi gyda'r gorau! Gellir cydymdeimlo ag ef i raddau – roedd ymateb John Jones i'w gais am ostyngiad ar nifer sylweddol o gopïau o'r Almanac yn naturiol, ond cibddall. Ar y llaw arall, rhagrith yw iddo ddadlau nad oedd yn ceisio efelychu Almanac J.W. Thomas.
Ysywaeth, oherwydd marwolaeth J.W. Thomas yn 1840 yn 35 oed, nid oedd modd i John Jones barhau'r ddadl. Trodd yn ôl at John Roberts, Caergybi, am ei Almanac am 1841, tra honnai fod ei Almanac yntau am 1841 yn waith "Old Moore". Gyda hynny, fe symudodd Hugh Jones o Lanrwst i Langollen, lle y bu'n argraffu o 1842 ymlaen, a lle y bu farw'n weinidog C.M. yn 1880. Cafodd John Jones y gair olaf, a hynny yn 1854 pan ysgrifennodd at ei fab Evan, a oedd yn argraffydd ym Mhorthmadog.
Poenai Evan oherwydd cystadleuaeth Alltud Eifion (Robert Eifion Jones) yn Nhremadog. Ateb John Jones yw cyfeirio at fethiant dau ddyn a geisiasai argraffu yn Llanrwst, Hugh Jones a William Jones:
- Ni wiw ymwylltio, canys ni wyddom beth a
ddigwydd mewn diwrnod. Pa le y mae opposition Hugh Pennant (sef H.J.), a
William y Dur? Blinodd y rhai hyny fwy ar dy fam nag a wnaethant arnaf fi.
Clywais fod Hugh Pennant am roddi i fyny argraffu, a gwerthu ei Office, a mynd
i ysgrifennu i ryw Office, neu rywbeth, oblegid y mae rhyw argraffydd newydd
wedi dyfod i Langollen, ac wedi myned a'i holl jobs braidd i gyd.
(Llsgr. Ll.G.C. 12021,36)