ELIZA CHARLES gan Mary Ellis
DILYNAIS hanes darlun teulu David Charles, Caerfyrddin gyda diddordeb. Gwelais y ddau ddarlun sydd ar dudalen flaen Y CASGLWR (Mawrth 1982) ym Mryn Eithin, cartref y Fonesig Edwards. Cymerai ofal mawr ohonynt, ac 'roedd wedi gosod golau uwchben y fframiau er mwyn eu dangos yn well. Cofiaf hi'n dweud fel yr oedd llun Eliza Charles wedi gwella ar ôl cael ei lanhau.
Un ddamcaniaeth o'i heiddo oedd mai'r darlun lle mae'r merched mewn dillad crand oedd yr un gwreiddiol, a bod y llall wedi'i wneud gyda'r dillad plaen i gyd-weddu â daliadau Methodistaidd y teulu! Ei heglurhad ar y portread o Jane wedi troi ei chefn oedd ei bod wedi marw cyn i'r llun gael ei wneud.
Eliza, nid Elizabeth oedd enw merch David Charles; galwodd un o'i merched yn Eliza, ond Elizabeth Charles oedd enw merch honno. Hon oedd gwraig B.C. Morgan, perchennog y darlun 'crand'. Fe alwyd wyres i Eliza, merch Robert Joseph Davies yn Eliza Charles, ond wrth yr enw Lily yr adnabyddid hi ar hyd ei hoes.
Nid oedd Eliza'n gymeradwy fel enw gan ferched ifanc diwedd y ganrif. Lily oedd gwraig y Parch J.E. Hughes, Caernarfon.
***
GWELAIS luniau eraill o waith Hugh Hughes ym Mryn Eithin. Mae ei lun o David Charles yma, gennyf fi, a llun o Thomas Charles Hughes, mab Hugh Hughes, pan oedd yn ddeuddeg oed. Byddai'n dda pe bai Mr Donald Moore o'r Llyfrgell Genedlaethol yn medru gwneud arolwg o bortreadau Hugh Hughes.
Y mae'r Parch Gomer M. Roberts a Mrs Euronwy James (Y Casglwr, Awst 1982) yn iawn ynglŷn ag enw Mary, chwaer Eliza. Mae gennym le i ddiolch iddi hi am gadw'r llythyrau a dderbyniodd oddiwrth ei chwaer o Aberystwyth.
Yn 1830 cyfeiria Eliza ei llythyrau at Miss Charles, Carmarthen, ond ar ôl 1834 at Mrs George Davies, Ivy Bush Hotel, neu'n hytrach at ei gŵr, for Mrs Davies.
Llythyrau nodweddiadol o Fam yn Israel yw rhai Eliza; mae'n plygu i'r Drefn ac yn dymuno treulio yr hyn oedd yn weddill o'i hoes yng ngwasanaeth ei chreawdwr. Ond yn gymysg i'r dymuniadau duwiol mae'n rhoi newyddion cartrefol a theuluol i Mary.
Cawn wybod, er enghraifft, i'w chwaer Sarah roi'n anrheg iddi " . . . a very genteel Dunstable bonnet, not trimmed", – bonet teilwng o'r darlun "Methodistaidd', yn ddiau. Cafodd David hefyd het bert ac anghyffredin gan ei fodryb. Pedair oed oedd David Charles Davies ar y pryd.
Mae'r morynion yn cael lle amlwg yn ei llythyrau, ond yn fwy am eu salwch nag am ddim arall. Cafodd achos i ddweud y drefn wrth un o weision y siop am fynd i'r theatr. Sefydliad yn perthyn i'r Diafol oedd lle felly yng ngolwg y Methodistiaid.
***
BU Eliza'n weithgar yn yr Ysgol Sul ar hyd ei hoes. Ym mis Awst 1830 dywed wrth ei chwaer ei bod yn cynnal dosbarth i hyfforddi athrawon bedair noson yn yr wythnos. Yr un pryd yr oedd dosbarthwyr y traethodau Cymraeg (tracts) yn cyfarfod yn ei thŷ ar brynhawn dydd Mercher, a gwerth punt o lenyddiaeth ganddynt i'w rannu o gwmpas y tai.
Pan ddaeth John Elias i bregethu i'r Tabernacl, yr oedd y capel yn orlawn. Gyda Robert ac Eliza Davies yr arhosai, a dywedir bod pobl y dref yn cael dyfod i waelod y grisiau i wrando arno yn siarad yn y parlwr uwchben.
Mae'r llythyrau'n llawn o hanesion am salwch a marwolaethau. Collodd Eliza fab bach dwyflwydd oed, a thair o enethod bach, a thorcalonnus yn wir yw darllen am ei galar. Collasai Mary hithau blentyn, ac er ceisio ei chysuro, dywedodd Eliza wrthi iddi weld Henry Rees yn y Sasiwn ym Machynlleth yn 1834, a'i fod yntau wedi colli ei ail blentyn yn wythnos oed. 'Roedd ei blentyn cyntaf yn farw-anedig.
Cadwodd Eliza'r holl lythyrau a dderbyniasai gan ei thad er pan briododd, a byddai'n eu hailddarllen o bryd i'w gilydd. Ni wn beth a ddaeth o'r rheini. Trwy drugaredd, diogelwyd llythyrau Eliza at Mary ac y maent erbyn hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol.