DOSBARTH BOB OWEN gan Ioan Mai Evans
NOSON pen tymor dosbarth WEA y pentref acw yn Llithfaen yn y pumdegau, ac wele'r aelodau a'r athro. Un o aeafau olaf Bob Owen, Croesor, oedd y tymor hwnnw ac fe aeth i gryn hwyl ar y noson, mi gofia'n dda, yn trin helyntion y tir Comin, nes i aelod o'r dosbarth dynnu blewyn o'i drwyn.
Sôn yr oedd am gefnder i John Elias, oedd ynglŷn â'r trybini, pan oedd yn agos at bedwar ugain o drigolion dau blwyf yn ddigon helbulus eu byd. Fe garcharwyd rhai, ac fe alltudiwyd un arall i Botany Bay, wedi ei ddedfrydu unwaith i'w grogi. Doedd cyfeirio at y cefnder ddim yn ddigon gan Bob, ac fe aeth Ceidwadaeth John Elias, yn drech na'r tir Comin a Bob Owen. Neidiodd yr aelod o Fethodus i drio arbed y ddelw cyn ei bod yn chwilfriw hyd lawr yr ysgol.
Welais i 'rioed Bob Owen wedi mynd i'w grogen fel y noson honno, ac meddai wrth ei wrthwynebydd o'i gadair wrth y tân "Dywadd annw'l, mi rydach chi'n gas wrtha'i ddyn!" Aeth yn nes at y tân, ond buan y daeth y direidi yn ôl i'w lygaid.
Aeth ymlaen i draethu am bwt, ond thaniodd o ddim wedyn y noson honno.
Wedi meddwl ei fod o fewn golwg y mwg o gorn Crymllwyn Bach, cartre John Elias, ac mai Methodistiaid cynnar oedd nifer o'r rhai a wrthwynebai fesurau'r Cau Tiroedd Comin fe fyddai sylwadaeth ddiragfarn y blaenor Methodus o Groesor yn ddigon cywir rwy'n siŵr o hynny.
Ond fe wnaeth cymdeithas Bob Owen, hyd yn oed ddeng mlynedd ar hugain yn ôl eithaf iawn â fo drwy roi dwy law y ychwaneg i'w gynnal yn y darlun. Tenorydd yr Eifl ar yr aswy iddo yn y darlun, a'i unawdau yn ei law yn barod iawn i ganu yn ôl ffansi Bob ar y noson. A'r nesaf at y tenorydd, ac ychydig tu cefn iddo, mae Caradog Jones, chwarelwr a chefnogwr a gweithiwr diflino dros y WEA am ddeugain o flynyddoedd. "Un o'r dynion mwyaf ymroddedig i bopeth addysgol a fu yng Nghymru yn y ganrif hon. Un o filiwn ydoedd." (D. Tecwyn Lloyd).