DAU O WEITHIAU PRIN SIÔN SINGER gan Huw Williams

DYNION â'u sêl yn fawr dros ganiadaeth grefyddol oedd yr athrawon cerddorol hynny o'r ddeunawfed ganrif y manteisiodd y diwygwyr ar eu gwasanaeth i ddysgu tonau newydd i'r bobl.

Wrth olrhain eu hanes mewn cylchgronau a geiriaduron bywgraffyddol, cawn mai bychan iawn oedd gwybodaeth y mwyafrif o'r 'cerddorion' hyn am elfennau cerddoriaeth, a'r syndod erbyn heddiw yw bod rhai ohonynt wedi llwyddo i gadw dosbarthiadau llewyrchus mewn cyfnod pan nad oedd cyfleusterau i ddysgu egwyddorion cerddoriaeth, nac ychwaith unrhyw lyfr safonol yn yr iaith Gymraeg i ddysgu elfennau cerddoriaeth.

Y medrusaf a'r mwyaf llwyddiannus o ddigon o holl athrawon cerdd y ddeunawfed ganrif oedd John Williams (Siôn Singer), neu'r 'Dysgawdwr Miwsig o Fodedern', sef gŵr a fu'n llafurio gyda cherddoriaeth mewn cyfnod anodd iawn mewn amryw o wahanol ardaloedd, gan gynnwys Llŷn; Bodedern a Brynsiencyn ym Môn; Ro-wen, Llanrwst a Threfriw yn Nyffryn Conwy; a hefyd Aberdyfi, Aberystwyth ac Abertawe.

Brodor o Felin Mellteyrn, Sir Gaernarfon, oedd Siôn Singer, ac fel y dywedais eisoes ar dudalennau'r Casglwr bum mlynedd yn ôl (Rhifyn 2), ef oedd awdur y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg i ddysgu cerddoriaeth, sef Cyfaill mewn Llogell (Caerfyrddin; I. Daniel 1797), gyda'i ragymadrodd wedi ei ddyddio 'Abertawe, Mehefin 24, 1796'.

Ceir ysgrif ar Siôn Singer gan R.D. Griffith, Hen Golwyn, yn Y Bywgraffiadur Cymreig (t.986), ond yn ogystal â'r ffynonellau a nodir ar derfyn yr ysgrif werthfawr honno sy'n ymdrin â chymwynasau cerddorol John Williams, fe ellid ychwanegu'r nodyn pwysig gan D. Emlyn Evans yn Y Cerddor, Ionawr 1909 (t.6), a hefyd yr ysgrif gynhwysfawr gan Spinther yn dwyn y teitl 'Enwogion Anghofedig y Bedyddwyr, John Williams, Athraw Peroriaeth', a gyhoeddwyd yn Seren Gomer, Ebrill 1880.

***

TUA chanol y ddeunawfed ganrif y ganed Siôn Singer yn 61 pob tebyg, a thystiai Martha, yr hynaf o'i bedair merch, mai 1807 oedd blwyddyn ei farw. (Bu hi farw yn Nant-y-glo, Mawrth 13, 1853, yn 87 oed.) Roedd mam Siôn Singer yn byw yn Pwll-y-chwyaid, ym mhlwyf Mellteyrn yn Llŷn, a hi a fagodd Martha yn ôl un hanes.

Dywed rhai awduron eraill bod Siôn Singer wedi colli ei rieni pan oedd yn blentyn, ac iddo gael ei fagu gan ewythr iddo yn Llithfaen, ac mai i'r ewythr hwnnw y gellir priodoli ei fedrusrwydd fel cerddor.

Er bod peth ansicrwydd ynghylch amryw o bethau yn ymwneud â hanes personol Siôn Singer, fe wyddys i sicrwydd iddo gyflawni dwy gymwynas fawr â'i genedl. Y gyntaf - a'r bwysicaf o ddigon fe ddywedwn i, - oedd paratoi Cyfaill mewn Llogell, sydd mewn tair rhan, y gyntaf (tt.6-40) yn cynnwys 'Agoriad byr ar y Glorian Peroriaeth (neu'r Scale of Music)', sef gwersi cerddorol ar ffurf ymddiddan rhwng athro a disgybl; yr ail (tt.41-76) yn cynnwys 35 o emynau ar amryw destunau gan wahanol awduron; a'r drydedd (tt.77-96) 'Hymnau newyddion ar amryw fesurau . . .'

Ar y dudalen olaf o'r Cyfaill . . . , cawn ein sicrhau gan yr awdur mai ei eiddo ef yw'r emynau a gynhwysir yn y drydedd ran, a bod 'enw pob awdur arall ar ôl yr hymn' a gynhwysir yn yr ail ran o'r gwaith.

Mae ysgrif R.D. Griffith yn Y Bywgraffiadur Cymreig yn ein hatgoffa mai Siôn Singer oedd awdur yr emyn adnabyddus, 'Aed sŵn efengyl bur ar led', sef emyn a gam-briodolwyd mewn rhai casgliadau i 'John Williams Morgannwg'. Hwn yw'r emyn cyntaf yn y drydedd ran o'r Cyfaill ...

Mae'r trydydd emyn dan y teitl 'Profiad y Cristion' yn yr un adran hefyd yn un diddorol, oherwydd yr ail bennill (o dri) yw 'Galaru 'rwyf mewn dyffryn du', a gam-briodolir mewn amryw o gasgliadau emynau o'r ganrif o'r blaen i Thomas Ellis, Llithfaen, Pwllheli. Emyn rhif 12, dan y teitl 'Cwymp Babilon' yw 'Daw'r garreg oddi draw', mewn saith o benillion, sy'n seiliedig yn ôl pob tebyg ar Daniel ii, adnodau 44 a 45.

Lluniwyd y penillion hyn ar fesur anghyffredin 66.46.88.76 (a mesur cyfarwydd iawn i Siarl Mark, Llŷn, a hefyd i Roberts Griffith, Llanbedrog, un arall o 'Singing Masters' y ddeunawfed ganrif), ond ar ôl i Gomer gyhoeddi tri phennill yn unig, heb enw awdur ar eu cyfer yn Casgliad o Hymnau o'r Awdwyr Goreu ... (Caerfyrddin; pedwerydd arg. 1848), aeth yn ffasiynol i ddyfynnu'r emyn fel 'gwaith awdur anadnabyddus' (gw. Canu'r Bobol 1978, t.79).

***

FEL y soniais eisoes yn Y Casglwr, llyfryn prin ryfeddol erbyn hyn yw Cyfaill mewn Llogell, nad oes ond rhyw ddau neu dri o gopïau ohono wedi eu diogelu, a'r rheini yn ffodus iawn mewn llyfrgelloedd.

Mae'n arwyddocaol na welodd Gwilym Lleyn erioed gopi ohono, ac nad oedd yn rhy sicr os oedd y gwaith wedi cael ei gyhoeddi ai peidio (gw. Llyfryddiaeth y Cymry, rhif 13, 1779).

Gwaith arall gan Siôn Singer sydd bron iawn mor brin â'r Cyfaill ... yw Caniadau Preswylwyr y Graig, sef casgliad o emynau gwreiddiol y cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ohono am ddwy geiniog ym Machynlleth yn 1789, pan oedd yr awdur yn weinidog yn Aberystwyth.

Roedd y casgliad hwn yn ddieithr i Spinther (o bawb!) dros ganrif yn ôl, oherwydd dywedir yn rhifyn Ebrill 1880 o Seren Gomer na welodd prif hanesydd y Bedyddwyr erioed mo'r llyfr, a hynny 'er chwilio llawer amdano.'

Fe ddylid hefyd nodi na sylweddolodd Gwilym Lleyn mai'r un gŵr yn union oedd Ioan Wiliam, Abertawe, awdur y Cyfaill ... , a John Williams, Aberystwyth, awdur Caniadau Preswylwyr y Graig (gw. Llyfryddiaeth y Cymry, tt. 595 a 641).

***

WRTH gasglu defnyddiau ar gyfer cyhoeddi ei gyfrol fuddiol Emynau a'u Hawduriaid, chwiliodd y diweddar Barchedig John Thickens yn ddyfal iawn, ond yn ofer, am gopi o'r emyn 'Beth yw'r utgorn glywa i'n seinio' wedi ei briodoli Siôn Singer mewn tarddell o'r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys argraffiad 1789 o Caniadau Preswylwyr y Graig.

Yn rhyfedd iawn, nid yw'r emyn wedi ei gynnwys yn arg. 1789 o'r Caniadau ... ond fe'i ceir yn arg. 1791 a gyhoeddwyd yn Nhrefeca. (Nid yw Gwilym Lleyn yn cyfeirio o gwbl at yr arg. hwn, sy'n cynnwys 27 o emynau gwreiddiol, ac y ceir copi ohono yn y LI.G.).

Mae'r emyn yn y gwreiddiol (rhif xxv) mewn dau bennill, yn darllen fel a ganlyn:

Diddorol hefyd yw 'Hymn viii' yn yr un casgliad, ac yn fwyaf arbennig, efallai, yr ail bennill (o dri) yn yr emyn hwnnw:

Fel hyn y dysgais i'r pennill gan fy nhad, - brodor o Fodedern! - pan oeddwn yn fachgen ysgol. Tybed a oes ffurfiau gwahanol eto arno wedi eu diogelu, - yn un o'r ardaloedd eraill lle y bu Siôn Singer yn gwasanaethu fel `Dysgadwr Miwsig', efallai?: