COFNODION UNDODWYR gan M.Euronwy James
UN O'R cylchgronau enwadol sydd wedi bodoli ers canol y ganrif ddiwethaf yw Yr Ymofynnydd. Cychwynnwyd ef o dan y teitl Yr Ymofynydd, neu gyfrwng Gwybodaeth a Rhyddymofyniad i'r Cymry ym mis Medi 1847 gan John Edward Jones, gweinidog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i ateb gofynion yr Undodiaid yn bennaf. Cynhwysai hefyd erthyglau o ddiddordeb cyffredinol i ddenu darllenwyr o gylch ehangach.
Fel y gellir disgwyl, ceir hanes yr eglwysi Undodaidd yn y misolyn hwn, ynghyd ag esboniadau a thrafodaeth ar bynciau Beiblaidd, a dadleuon enwadol a diwinyddol.
Yn y rhifynnau cynharaf rhoid hanes enwogion megis Galileo, Columbus, Tycho Brahe a Kepler, ynghyd â gwybodaeth wyddonol ar bwysau'r awyr, gwres, daearyddiaeth, llysieuaeth, ac ati, ac adolygiad ar lyfr W. Spurrell: Awyriad Anneddau (ventilation).
O ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr De Cymru oedd hanes y gweithfeydd haearn a'r rheilffyrdd haearn newydd. Ceid hefyd ychydig farddoniaeth i gadw cydbwysedd.
Golygwyd y cylchgrawn gan J.E. Jones hyd fis Mehefin 1865, er iddo orfod cymryd seibiant o bedair blynedd a hanner rhwng Mai 1847 a Rhagfyr 1853 Oherwydd "diffyg o gydymdeimlad a chydweithrediad."
Wedi saib o ddwy flynedd a hanner ail ymddangosodd Yr Ymofynydd o dan olygyddiaeth David Lewis Evans, un o athrawon Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cafwyd cyfarwyddiadau ar arddwriaeth, a rhoddwyd posau mathemategol i'r darllenwyr eu datrys, yn ogystal â'r amrywiaeth yr arferid ei gael yn y cylchgrawn.
Mewn rhifynnau cynharach arferai D.L. Evans ysgrifennu o dan yr enw 'Philo', ond yn awr ef ei hun a ysgrifennai'r rhan fwyaf o'r erthyglau. Nid rhyfedd, felly, iddo roi'r gorau i'r gwaith ymhen pum mlynedd, cyn iddo gael effaith andwyol ar ei iechyd ac ar ei fywyd teuluol.
***
YN 1873 trosglwyddwyd yr awenau i ddwylo Rees Jenkin Jones o Aberdâr. Y mae'n syndod i R.J. Jones gymryd at yr olygyddiaeth bryd hyn, a'i iechyd "mor ganolig fel yr ydym wedi ein gorfodi i roddi i fyny bob gwaith" fel athro ysgol a gweinidog. Ond ni fu'n edifar ganddo wneud hynny, a chryfhaodd ddigon i ailgydio yn ei briod waith ymhen chwe blynedd.
Fel ei ragflaenydd, ysgrifennodd lawer i'r cylchgrawn yn gyson bob mis. Un o'i gyfraniadau ar ddechrau ei gyfnod fel golygydd oedd cyfres o erthyglau'n disgrifio'r daith a gymerasai drwy Ewrob i'r Aifft a gwlad Canaan ddwy flynedd ynghynt mewn ymgais i adfer ei iechyd. Ni roddodd ei enw wrth yr erthyglau, ond yn unig y llythyren 'S'.
Ymddangosai gweithiau eraill o'i eiddo o dan y llythrennau R.J.J., S.N.S. (llythrennau cyntaf ac olaf ei enw), S., T.C.U., X.Y.Z., ac o bosib gyfuniadau eraill o lythrennau; ef hefyd oedd 'Yr ymofynnydd'.
Gwelir yn y cylchgrawn nifer fawr o emynau a gyfieithodd i'r Gymraeg; cyhoeddwyd hwy wedyn yn Emynau Mawl a Gweddi (1878) ac Emynau ac Odlau (1895). Cymerai ddiddordeb arbennig mewn hanes eglwysi a gweinidogion Undodaidd a chyhoeddodd Unitarian Students, 1796-1901 yn 1901.
***
UN 0'I gyfraniadau i'r Ymofynydd yn 1875-6 oedd 'Llenyddiaeth yr Undodiaid yn Nghymru', sef rhestr o lyfrau, a nodiadau arnynt. Dychwelodd R. J. Jones i'r weinidogaeth ac i'w ysgol yn 1879, gan roi'r Ymofynydd o'r neilltu dros dro. Ailgychwynnodd y cylchgrawn o dan ei ofal ymhen dwy flynedd, a bu'n olygydd arno am chwe blynedd arall.
Yn y cyfamser cafodd fenthyg hen ddyddiadur Timothy Davies a fuasai'n weinidog ar eglwys Caeronnen, yn sir Aberteifi, yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Ynddo cafodd enwau'r rhai a fedyddiwyd gan Timothy Davies rhwng 1747 ac 1770, ac y mae'n dda iddo sylweddoli eu gwerth a chyhoeddi rhestri o'r enwau yn Yr Ymofynydd yn 1885 oherwydd nid oes gofrestr o'r bedyddiadau hyn ar gael yn unman, hyd y gellir sicrhau.
Yn wir, ni wyddys am gymaint ag un cofrestr o fedyddiadau mewn eglwysi Undodaidd yng Ngheredigion cyn 1837, nac am flynyddoedd lawer wedi hynny ychwaith. Pan gasglwyd cofrestri capeli at ei gilydd yn Llundain yn 1837, dim ond tair eglwys Undodaidd o Gymru a anfonodd eu cofrestri yno, sef Gellionnen ym mhlwyf Llangyfelach; Twynyrodyn, Merthyr Tudful; a Chapel High Street, Abertawe (oni chyfrifir fod Ynysgau, Merthyr Tudful a Hen Gapel Newmarket, sir Fflint, hefyd yn rhai Undodaidd).
Yn 1894 cafwyd bywgraffiad o R.J.J. yn Yr Ymofynydd, pryd y dywedwyd: "Dim ond un rhifyn, sef rhifyn am Chwefror diweddaf sydd wedi dyfod allan o'r wasg am ugain mlynedd nad oedd yn cynnwys cynnyrch neu gynnyrchion ei ysgrifell."
Parhaodd R. J. J. i ysgrifennu'n gyson i'r cylchgrawn hwn (a nifer o gylchgronau eraill hefyd!) hyd o fewn saith mis i'w farwolaeth yn 1924, yn henwr 89. Neilltuwyd rhifyn Rhagfyr 1924 i'w goffáu.
***
YN NATURIOL, y mae hen gyfrolau o'r Ymofynydd yn werthfawr iawn i unrhyw un sydd am olrhain hanes Undodiaeth neu hanes eglwys arbennig. Ond y mae i'r cylchgrawn apêl ehangach na hynny erbyn hyn.
Fel mewn cylchgronau enwadol eraill, cyhoeddid bob mis restri priodasau a marwolaethau, ynghyd â bywgraffiadau o'r ymadawedig. O ganlyniad, ceir toreth o wybodaeth yn y cylchgrawn hwn am yr ardaloedd Undodaidd, sef 'y smotyn du' o ddeutu Teifi i fyny hyd at lannau Aeron; a'r triongl rhwng Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd.
Oherwydd absenoldeb cofrestri swyddogol y mwyafrif o'r eglwysi Undodaidd y mae'r wybodaeth fanwl hon yn amhrisiadwy, yn enwedig i'r disgynyddion sydd yn awyddus i wybod pwy oedd eu cyndeidiau.
Ceir nodyn byr yn Westem Mail 12 Mawrth 1903 yn canmol George Eyre Evans, Aberystwyth (mab D.L. Evans, yr ail olygydd) am gasglu ynghyd gyfres gyflawn o'r Ymofynydd a chael y Guild of Women Binders yn Llundain i'w rhwymo'n gyfrolau destlus. (Rhoddwyd y cyfrolau i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddarach, ac ymddengys i rifyn Rhagfyr 1873 fod ar goll.)
Nodwyd hefyd fod cyfresi cyflawn yn Llyfrgell Caerdydd, ac ym meddiant y Parchedigion T. Thomas, Llandysul a Rees Jenkin Jones (cyn-olygydd); tra bod gan brifathro Coleg Caerfyrddin gyfres gyflawn oddigerth un rhifyn.
Byddai'n dda gallu dweud fod copi o bob rhifyn a gyhoeddwyd ers hynny wedi eu hychwanegu at gasgliad George Eyre Evans, ond yn anffodus y mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn brin o nifer o rifynnau o'r flwyddyn 1964, 1967 ac 1968 (a rhifyn Rhagfyr 1873, y cyfeiriwyd ato eisoes).
Byddai'n braf pe deuid o hyd i gopïau i lenwi'r bylchau hyn, er mwyn cael cyfres gyflawn o gyfrolau o fewn cyrraedd unrhyw un a ddymunai eu gweld.
Y Parchg. R.J.Jones, golygydd Yr Ymofynydd rhwng 1873 ac 1887, a gohebydd cyson am hanner can mlynedd. (Y llun allan o Yr Ymofynydd, Rhagfyr 1924.)