CALVERT RICHARD JONES A'I ALBWM FFOTOGRAFFAU
gan Iwan Michael Jones

 

Y Gelli Aur, tua 1850.

AR Fehefin 25 eleni yn Sotheby's fe werthwyd albwm o ffotograffau am 22,000. Mae'n debyg mai Cymro o Abertawe o'r enw Calvert Richard Jones oedd y ffotograffydd. Yr oedd yn yr albwm 99 o ffotograffau a dynnwyd tua 1850, yn cynnwys golygfeydd o Landeilo, Margam, Rheola a'r Gelli Aur, ynghyd nifer a dynnwyd yn Lloegr ac ar y cyfandir.

Hanai Calvert Richard Jones (tua 1804-1877) o un o deuluoedd amlycaf Abertawe. Yr oedd ei dad a'i daid o'r un enw ag ef: bu'r taid yn Uchel Siryf Morgannwg yn 1765 a bu'r tad yn faer Abertawe yn 1834. Y tad a gyflwynodd safle'r farchnad yn rhodd i dref Abertawe. Etifeddodd Calvert Jones ystd ei dad yn 1847.

Y cartref teuluol oedd Heathfield, Abertawe, tŷ mawr a dynnwyd i lawr rywbryd rhwng 1876 a 1900 ac a goffeir heddiw yn un Heathfield Road, gerllaw safle'r hen dŷ.

Gŵr o urddau eglwysig oedd Calvert Jones. Bu'n rheithor Casllwchwr ac yn ficer y Rhath, Caerdydd, ond wedi 1839 ni bu gofal eglwys ganddo. Yn hytrach treuliai ei amser yn dilyn ei ddiddordebau ei hunan yn nhraddodiad Seisnig yr amatur dawnus, cefnog. Yr oedd yn fathemategydd da, yn gerddor, ac yn arlunydd parchus.

Mae'r rhan fwyaf o'i luniau yn ymwneud 'r mr, ac y maent yn brin ac yn werthfawr heddiw. Ei brif arbenigrwydd, fodd bynnag, yw ei waith ffotograffig.

***

FEL etifedd i deulu cyfoethog ac ystd sylweddol daeth Calvert Jones i gysylltiad theuluoedd mawr y cylch megis teulu Vivian, Abaty Singleton, teulu Dillwyn, Sgeti, teulu Llewelyn, Ynysygerwyn a Phenllergaer, a theulu Talbot, Pen-rhys a Margam. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychen (lle cafodd radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg), gydag aer Pen-rhys a Margam, Christopher R.M. Talbot.

Mam Christopher Talbot oedd Mary Fox Strangeways a chyda'i theulu ei hun ym Mhen-rhys magodd hi blentyn ei chwaer Elisabeth Fox Strangeways, sef William Henry Fox Talbot.

Yr oedd perthynas ddwbl rhwng Fox Talbot a'i gefndryd Cymreig gan fod dwy gangen y Talbotiaid yn ddisgynyddion i John Ivory Talbot o Abaty Lacock. Danfonwyd William Fox Talbot i Ben-rhys i'w fagu gyda'i fodryb a'i phlant ar l i'w dad farw a'i fam ail-briodi. Daeth yn wyddonydd ac yn fathemategydd disglair, ac yn 1833 dechreuodd ar y gwaith a arweiniodd at rai o ddarganfyddiadau pwysicaf ffotograffiaeth, megis y broses negatif-positif a'r broses o ddefnyddio datblygydd i amlygu llun anweledig.

Pinacl ei waith ffotograffig oedd y broses a elwir y "calotype" neu "Talbotype" a ddatgelwyd i'r byd yn 1842. Seiliwyd datblygiadau diweddarach ffotograffiaeth ar y broses hon, yn bennaf am ei bod yn gwneud llun ar bapur ac nid ar blt metel fel y gwni proses gynharach y "daguerrotype".

***

OHERWYDD y cysylltiad agos rhwng Fox Talbot a'i gefndryd Cymreig fe gymerodd teulu'r Talbotiaid a'u cyfeillion ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth yn gynnar iawn.

Daeth nifer o aelodau o deuluoedd cefnog ardal Abertawe yn ffotograffwyr brwd a medrus. Efallai mai John Dillwyn Llewelyn o Benllergaer oedd y mwyaf cynhyrchiol. Priododd Emma Thomasina Talbot, un o blant Pen-rhys.

Gwnaeth ef a'i fab-yng-nghyfraith Nevil Story Maskelyne rai darganfyddiadau o bwys yn y maes ac yr oedd y ddau hyn a Calvert Jones yn aelodau o Gyngor cyntaf y Photographic Society (sef y Royal Photographic Society heddiw) a ffurfiwyd yn 1853.

Ffotograffwyr enwog eraill yn ardal Abertawe oedd P.H. Delamotte (athro celf teulu Dillwyn Llewelyn), Mary Dillwyn (chwaer John Dillwyn Llewelyn), Graham Vivian a J. W. Gough Gutch.

***

MAE'N debyg mai drwy Christopher Talbot y daeth Calvert Jones i gysylltiad Fox Talbot yn y lle cyntaf, ac fe wyddys ei fod wedi gwirioni ar ddarganfyddiadau Fox Talbot mor gynnar 1839. Yn 1845 bu'r ddau ar daith yn Lloegr yn tynnu lluniau yng Nghaerefrog, Bryste a llefydd eraill.

Yn 1846 teithiodd Calvert Jones drwy Ynys Malta a'r Eidal yn tynnu lluniau gyda Christopher Talbot a George Bridges, gan ddanfon negatifau yn l i Loegr i'w printio.

Wedi hynny dywedir iddo dynnu lluniau yn Abertawe, Ilfracombe, Iwerddon a Chaerdydd, ond ymddengys fod ei waith ffotograffig wedi llacio neu wedi darfod yn gyfan gwbl ar l tua 1860.

Bu'n briod ddwy waith a bu'n byw yn Abertawe, Colchester a Chaerfaddon. Bu farw yng Nghaerfaddon yn 1877 a chladdwyd ef yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.

***

BU'R albwm a werthwyd yn Sotheby's yn perthyn i ddisgynyddion Calvert Jones ac ar sail hynny, ynghyd thestun ac arddull y lluniau, y priodolwyd yr albwm iddo ef.

Ar ddechrau'r albwm yr oedd nifer o luniau da iawn o strydoedd mewn tref a lluniau porthladd. Yr oedd Sotheby's wedi meddwl mai yn Abertawe y tynnwyd rhai, ond mae hynnyn amheus a rhaid tybio mai golygfeydd o Fryste ydynt efallai rhai a dynnwyd yno gan Fox Talbot a Calvert Jones yn 1845.

Tua chanol yr albwm daw'r lluniau Cymreig, sef un llun a dynnwyd ar bont Llandeilo (yn dangos gŵr mewn het uchel, tebyg i Calvert Jones ei hunan), tri o'r Gelli Aur ger Llandeilo, chwech ym Margam, dau o Rheola ac ambell lun arall a allai fod yn ardal Abertawe.

Yr oedd passport Calvert Jones a werthwyd yn yr un arwerthiant yn dangos iddo deithio ar y cyfandir yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf. Byddai hyn yn gyson dyddiad tebygol y lluniau diwethaf ac yn awgrymu mai tua 1850 y tynnwyd y lluniau Cymreig.

***

Y MAE Calvert Jones ymhlith y pwysicaf o'r ffotograffwyr a ddefnyddiai broses y "calotype", ac o'r ffotograffwyr "Cymreig" cynnar ef a John Dillwyn Llewelyn yw'r mwyaf amlwg. Golygfeydd o borthladdoedd a llongwyr a dynnwyd yn ystod ei ymweliadau i'r cyfandir yw'r mwyafrif o'r enghreifftiau o'i waith a welir yn arwerthiannau Sotheby's a Christie's.

Mae ei ffotograffau yn brin ac yn gwerthu yn gyson am dros ganpunt y llun drutach na'r rhan fwyaf o waith ffotograffwyr eraill "cylch Abertawe". Y mae'r ffotograffau yn wrthrychau gwerthfawr ynddynt eu hunain, heb sn am werth dogfennol, hanesyddol neu gelfyddydol yr olygfa.

Gwŷr cefnog oedd yr amaturiaid a ddefnyddiai broses y "calotype", yn ymddiddori mewn athroniaeth, gwyddoniaeth a chelfyddyd ac yn cyfri ffotograffiaeth yn elfen o'r astudiaeth honno yn hytrach na busnes proffesiynol. Eu bwriad wrth dynnu lluniau oedd meistroli'r grefft newydd o safbwynt techneg a chelfyddyd.

Yr oedd yn gyfnod cyffrous yn hanes y celfyddydau gweledol, pan oedd y darganfyddiadau newydd yn dangos meysydd eang newydd a phosibiliadau arbrofol di-rif. Yr oedd y gred y byddai'r ffotograff yn disodli arlunio yn gyfan gwbl yn gyffredin. Oherwydd newydd-deb y cyfrwng y mae rhyw werth arbennig i ffotograffau'r cyfnod.

***

YR OEDD rhai o ffotograffwyr "cylch Abertawe" yn amlwg yn hanes cynnar Cymdeithas Frenhinol De Cymru, Abertawe, ac y mae enghreifftiau o waith rhai ohonynt, gan gynnwys Calvert Jones, yn dal yn eiddo i'r Gymdeithas honno.

Mae casgliadau da o waith Calvert Jones yn yr Amgueddfa Wyddonol, South Kensington, ac yn Amgeuddfa Fox Talbot yn Abaty Lacock. Ceir enghreifftiau o waith John Dillwyn Llewelyn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y mae hanes cynnar ffotograffiaeth yng Nghymru yn eithriad i wendid cyffredinol traddodiad y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Byddai'n ddymunol iawn sicrhau casgliad cenedlaethol o waith y ffotograffwyr Cymreig cynnar hyn ond gyda'r cynnydd parhaol yn y prisiau a delir am eu gwaith y mae hynny'n edrych yn fwy a mwy annhebyg.

Y llynedd yn Christie's fe chwalwyd casgliad ffotograffig mab-yng-nghyfraith John Dillwyn Llewelyn, Nevil Story Maskelyne, a'i werthu am gyfanswm o dros 70,000. Daeth ambell eitem i'r Llyfrgell Genedlaethol ond mae'n sicr fod llawer iawn mwy wedi mynd yr un ffordd ag albwm Calvert Jones. Prynwyd hwnnw gan Americanwr am 22,000, tua tair gwaith yr amcangyfrif a osodwyd arno gan arbenigwyr Sotheby's.