ADLAIS O HEN WRTHRYFEL gan Emyr Wyn Jones

ERBYN hyn mae'r adlais o'r hen frwydrau politicaidd chwerw yng Nghymru wedi cilio ymhell yn ôl i'r gorffennol, a bron wedi distewi'n llwyr. Ychydig a erys i'n hatgoffa amdanynt ar wahân i'r cyfrolau safonol a'r erthyglau hanesyddol ar y cyfnod, a phrin bod y rhain yn llwyddo i gostrelu'r hen gyffro a'r hwyl.

Nid nad oes digon o chwerwedd ac ymosod personol ffyrnig yn digwydd ym Mhrydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, ond mae natur yr ymdaro a'r ymryson yn wahanol, ac y mae'r dulliau o drafod rhwng y cyhoedd a'r aelodau seneddol wedi trawsnewid tu hwnt i bob dychymyg. Ers blynyddoedd lawer bellach mae'r cyfathrebu a'r apêl at yr etholaeth bron yn gyfan gwbl ar y cyfryngau torfol.

Ond y gwir yw mai ychydig iawn o'n gwleidyddion sydd wedi meistroli'r dull yma o gyfathrebu. Nid oes fawr o gyfle i hwyl ar y naill law nac ymateb ar y llall. Ar y cyfan mae'r gwrandawyr yn fwy goleuedig a deallus (neu o leiaf fe ddylent fod) na'u tadau a'u teidiau.

Fodd bynnag, nid felly y bu'r sefyllfa. Os mai trai yw hi'n awr, cafwyd penllanw o eiddgarwch a gobaith o dro i dro.

Digwyddodd cyfnod o'r natur yma ym Mhrydain dros ddeng mlynedd a thrigain yn ôl, ar ddiwedd teyrnasiad Iorwerth VII a dechrau teyrnasiad Siôr V. Lansiwyd ymgyrch i wella cyflwr adfydus y tlawd a'r anghenus a'r claf, ac y mae'n wybyddus i bawb mai David Lloyd George oedd prif ysgogydd ac arweinydd diwrthdaro yr ymdrech wleidyddol.

Digwyddodd hyn oll rhwng 1908 a 1912, ac o ganlyniad i'w oruchafiaeth daeth Lloyd George yn eithriadol o boblogaidd yng ngolwg y werin, ac ar yr un pryd yn destun atgasedd llidiog gan y mawrion – o'r Brenin i lawr.

Ond ei boblogrwydd, neu'n hytrach un agwedd o hynny, sydd dan sylw yma. Yn y doreth o lyfrau a ysgrifennwyd amdano mae teyrngedau dirifedi i'w allu rhyfeddol fel arweinydd a diplomydd, a thystiolaethau lu i'w huodledd a'i ffraethineb ar lwyfan neu ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Dyma yn sicr gyfnod blodeuog a gogoneddus y `cyrddau mawr' politicaidd, a medrai Lloyd George roi perfformiad gwefreiddiol bron yn ddi-feth. Er hynny roedd yn rhaid cynnau tân a gwresogi'r dyrfa tra'n disgwyl am y gŵr mawr ddod i'r llwyfan; ambell dro trwy drefnu i ddyn arall o gyraeddiadau llai disglair ddod ymlaen i fegino'r gwreichion; ond yn fwy mynych – yng Nghymru beth bynnag – cael y gynulleidfa awchus ddisgwylgar i ganu.

Erys nifer go dda o bobl, mae'n ddiamau, sy'n cofio rhai o'r oedfaon' politicaidd – dyna'r gair gorau amdanynt mae'n debyg - yn yr Hen Bafiliwn yng Nghaernarfon cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gellir tybio hefyd fod yna ganeuon o naws gwbl boliticaidd, gyda geiriau amserol ar alawon hwylus a phoblogaidd, ar gyfer y fath 'oedfaon'. Faint o'r cyfryw sydd ar gael erbyn hyn, oblegid effemera oeddynt?

Fy hunan, rwy'n rhy ifanc, neu'n hytrach heb fod yn ddigon hen, i gofio am y digwyddiadau yn y Pafiliwn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond mae gennyf frith gof yn ddiweddarach am ddisgleirdeb gobeithiol yn llygad fy nhad ar ôl iddo fynychu rhai o'r 'oedfaon'.

Yr unig beth sy'n sicr gennyf yw y cof amdanom, blant y Waunfawr, yn llafarganu'n groch - 'Lloyd George ydi'r gora' - heb i neb geisio'n distewi.

Daeth cân, neu rigwm, o'r cyfnod yma i'm llaw flwyddyn yn ôl. Mae'r geiriau yn ddigonol i amseru'r gân i'r cyfnod dan sylw, sef o gwmpas 1910. Ni welwyd copi arall ohoni. Tybiaf mai cylchrediad lleol oedd iddi ar gyfer pobl Arfon yn arbennig; efallai y gellir profi rhywbryd y canwyd hi yn yr Hen Bafiliwn.

Yn ôl y dudalen Deiniol Fychan o Fangor oedd yr awdur, a'r argraffydd oedd y National Press of Wales gyda Nath Roberts, Briggs Chambers, Caernarfon yn gyhoeddwr. Nid oes yn y gân farddoniaeth uchelgeisiol, ac y mae'r geiriau er yn ystrydebol yn addas ddigon; maent yn hawdd eu cofio ac yn ganadwy ar alaw hwylus - "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg."

***

CAFWYD tipyn o drafferth i olrhain Deiniol Fychan, oblegid nid oes gofnod amdano yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Ei enw priodol oedd Evan Morgan, a phreswyliodd mewn amryw leoedd yng Nghymru, Lloegr a'r Unol Daleithiau; cyn, o'r diwedd, sefydlu yn Nhŷ Deiniol, Bangor Uchaf.

Ganwyd ef 8 Rhagfyr 1854 yn Neiniolen, Arfon; bu farw 24 Awst 1933 ym Mangor, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys y Plwyf, Llanrug.

Annibynnwr pybyr ydoedd, ac yn ystod hanner olaf ei fywyd roedd yn aelod o gapel Ebeneser, Bangor. Bu'n bregethwr derbyniol gyda'i enwad am amser maith. Roedd Deiniol Fychan yn weithgar iawn gyda'r Eisteddfodau lleol a chyda'r Eisteddfod Genedlaethol, ac ymddengys iddo fod yn enillydd ac yn feirniad yn y ddau faes. Bu'n hyfforddwr eiddgar i adroddwyr ifainc. Roedd yn adnabyddus ei hun fel adroddwr ac arweinydd cyngherddau.

Ar ôl cyfnod byr yn hogyn yn chwarel Dinorwig aeth i weithio ar y rheilffordd yn Earlstown, Swydd Gaerhirfryn - eto dros dro - a dychwelodd i'r chwarel. Mae'n amlwg fod elfen aflonydd ynddo, ac o gwmpas ugain oed ymfudodd i'r Unol Daleithiau, a chafodd waith yn chwarel Slatington, Pennsylfania, a gwraig o'r un dref.

Fodd bynnag, ni lonyddwyd ei anesmwythyd, a'r tro yma daeth yn ôl i Fethesda a bu'n gweithio yn y chwarel yno am beth amser cyn symud i Flaenau Ffestiniog, lle cafodd waith ar y rheilffordd dros dro ac wedyn yn y chwarel.

Ar wahoddiad Richard Humphreys, masnachwr o Fethesda, gadawodd y Blaenau am Ddyffryn Ogwen, ac yno y cafodd ei brofiad cyntaf o fyd busnes. Ar ôl marwolaeth y perchennog aeth y busnes dan ofal W. J. Parry, Coetmor, yr arweinydd gwleidyddol eofn a'r arloeswr athrylithgar mewn llawer cylch.

Yn 1894, ar ôl deuddeng mlynedd gyda W.J. Parry, symudodd Evan Morgan i Fangor i weithredu fel trafaeliwr yng ngwasanaeth Syr Henry Lewis, ac ymgartrefodd yng Nghaernarfon. Tra yno bu'n weithgar a brwdfrydig gyda'r `Clwb Awen a Chân'.

O'r diwedd ymsefydlodd ym Mangor yn 1896, a phan ymddeolodd o wasanaeth Syr Henry Lewis yn 1922 penderfynodd agor busnes ei hun fel masnachwr llyfrau. Ei ddiddordeb arbennig oedd llyfrau prin a hen gylchgronau. Trwy gydol ei gyfnod ym Mangor bu'n llafurio'n ddiwyd mewn amrywiol ffyrdd yng Nghapel Ebeneser.

Er mor amryfal ei brofiad, er mor effro ei feddwl ac er mor lengar ei ddiddordebau, nid ymddengys iddo gyhoeddi llawer o'i waith ei hun – na dim o bwys, hyd y gwelaf – yn ystod y deng mlynedd ar hugain olaf o'i oes.

Deuais o hyd i hyn o restr o'i gynhyrchion, ond ni honnir fod y rhestr yn gyflawn, ac ni wnaed ymdrech i gribinio'r cylchgronau a'r wythnosolion cydamserol.

i) Yr Adroddwr, 1898 – Casgliad o Adroddiadau.

ii) Ymweliad Nain â Lerpwl a Straeon Eraill, 1903, gydag argraffiadau pellach yn 1907 a 1928.

iii) Geiriau i dair cân:

a) Cân Genedlaethol Cymru — Alaw a Chydgan. Cyfansoddwr — R.S. Hughes.

b) The Shepherd's Grave (Bedd y Bugail). Cyfansoddwr — R.S. Hughes.

c) Bachgen y Morwr - Cân i Denor. Cyfansoddwr — P.H. Lewis.

iv) Ac yn olaf, ei linellau o deyrnged ar gân i Lloyd George c.1910, a argreffir yma yn union fel y'i gwelir yn y broadsheet a ddaeth i'm llaw mor annisgwyl.

Dymunaf ddatgan fy niolch cywir i Mr. Derwyn Jones o Lyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru am dynnu fy sylw at yr ysgrif goffa am Deiniol Fychan yn Y Tyst 7 Medi 1933.

Printed by the National Press of
Wales Ltd. and published by Nath
Roberts, Briggs' Chambers,
Caernarvon