YR HOELEN WYTH gan Marian Henry Jones

DARLLENAIS gyda blas ysgrif Helen Ramage "Hoelion Wyth - Traed o Glai" yn rhifyn diwethaf 'Y Casglwr'. Ys gwn i a fedr hi, neu un o'ch darllenwyr, daflu goleuni ar y ffigwr sydd yn syllu arnaf yn Olympaidd ei drem, megis yn tywynnu sancteiddrwydd difrycheulyd, yn ei wyn a'i aur?

Rhaid mai dyna'r argraff a adawodd ar genedlaethau o'r teulu hwn, oherwydd tra bu'n rhaid rhyw dro drwsio cynffon y Fuwch a rhoi pen y Tywysog Albert yn ôl yn ei le, y mae'r ffigwr hwn mewn cyflwr perffaith, heb arwydd fod neb wedi byseddu llawer arno.

Pan ddeuthum i i fewn i'r teulu Wesleaidd drwy briodas cymerais yn ganiataol mai ffigwr o Charles Wesley ydoedd, gan ei fod yn rhy dal i fod yn John Wesley, arwr yr aelwyd. Ond pan awgrymais hynny i fy mam-yng-nghyfraith, tra'n ei helpu gyda'r glanhau gwanwynol am y tro cyntaf, fe'm cywirodd gan ddweud mai "John Williams y Cenhadwr" ydoedd.

Tybiais i fod ei wisg braidd yn glerigol i fod yr Annibynnwr enwog a aeth i genhadu ym Môr y De a chael ei fwyta gan anwariaid Erromanga. Ond mynnai hi mai "rhywun felly oedd o, yn ôl fy mam". (Dyddiadau ei mam oedd 1830-1903.)

Ni fedrai egluro sut y daeth i aelwyd ym Môn a oedd heb unrhyw gysylltiad ag Annibynia. Nes i mi ddarllen ysgrif Mrs Ramage ni phoenais ragor yn ei gylch; osgo'r brawd hwyrach wedi'm cadw rhag busnesa, a minnau heb ddigwydd gweld ffigwr tebyg gan neb arall.

Y mae'n ffigwr 11 modfedd, a thua 5 modfedd o led; gwyn yn bennaf gyda 'glaze' da. Gwyn yw'r pedestal gyda'i motif Clasurol, ond y mae ymylon aur iddo, fel sydd i'w wisg, ei glogyn a'i glos pen-glin gyda phatrwm o ddail arnynt. Hwyrach fod ei wisg yn fwy Rhamantaidd na Chlerigol wedi'r cwbl. Yr unig liwiau eraill yn y ffigwr yw gwawr o binc ar ei ruddiau, ei wallt hir yn llwyd, a'r tair cyfrol drwchus y mae'n pwyso arnynt, yn frown gydag ymylon aur i'w dudalennau. Prin bod y darlun amgaeedig yn gwneud cyfiawnder â mireinder ei wynepryd.

Nid oes, ac ni fu erioed, enw arno, ac nid yw enw'r gwneuthurwr odditano, onibai fod cylch bychan, wythfed o fodfedd, yn yr un brown â'r llyfrau, o unrhyw bwys.