YR HEN GERDDOR gan Ioan Mai

 

WEDI cydio'n y llun methwn a chredu y bydd yn hanner cant oed gyda hyn. Llun o blant, ieuenctid, ac oedolion fy mro wrth droed yr Eifl, a rhyw lond car o Bwllheli. Y cyfan yn ymhel â cherddoriaeth offerynnol a lleisiol yn y tridegau llwydion.

Penllanw Eisteddfod raenus yr Urdd ar hen stad Bodegroes, Llŷn, oedd un rheswm tros alw'n ôl rai o'r wynebau sydd ynddo. Rheswm arall oedd taith Sadwrn sydyn i Lundain i wrando ar rai o flaenoriaid y busnas addysg 'ma, yn trafod Addysg Barhaol o hyn i ddiwedd y ganrif. Ac y mae hi wedi dod yn amser rhoi'r un sylw i addysg oedolion ag i addysg plant, meddan nhw. A chanddo glustiau ...

Ond does na chynhadledd na phwyllgor ynglŷn â'r criw yma oedd yn ysgol nos y gŵr ifanc sy'n eistedd yn y canol yn yr ail res. Y fo a'r hen lanc o chwarelwr, y chweched o'r dde yn y drydedd res oedd yn gyfrifol am bopeth bron. Y gŵr ifanc yw W.H.J. Jenkins, un o efrydwyr disglair Syr Walford Davies, yn Aberystwyth. Daeth i Ysgol Sir Pwllheli yn athro cerdd, gan i'r prifathro, D.H. Williams, gymryd ato wedi ei glywed yn ennill ar ganu ffidil yn y Genedlaethol ym Mhwllheli yn 1925.

Ymdaflodd i waith a mynd ati i hyfforddi ffidilwriaeth yn ystod oriau cinio, a gwahodd y rhai addawol i ffurfio cerddorfa ar foreau Sadwrn gan ymarfer o naw hyd hanner dydd heb doriad. Nid dim o beth oedd cael digon o blant i fedru byseddu'r clasuron ar wddf ffidil, yn ddawnsiau Hwngaraidd ac ati, a wnâi dim llai y tro.

Ac wedi gwrando arno ef ei hunan yn morio’r Brahms Waltz ar ddau ddant, neu yn chwipio'r Eine Kleine Nacht, gan Mozart, neu ynte'n dofi crymffastia fel ni hefo symffoni'r cloc gan Haydn nes bod pawb fel pendil, doedd o wedi ennill ei achos on'd oedd?

Welais i neb fel hwn a ddaliodd "ganu'r dydd a chanu'r nos" hefo'i ffidil - ac sy'n dal i gael melyster ohoni, i ddiddanu ei hun bellach wrth heneiddio ar lannau Mersi.