Y DARLUN ARALL O DEULU DAVID CHARLES
gan Gomer M.Roberts
FE YMDDENGYS fod dau ddarlun o David Charles, Caerfyrddin a'i deulu ar gael. Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais wahoddiad i de gan Lady Eirys Edwards, a chael cyfle i weld rhai o drysorau'i chartref yn Aberystwyth. A gweld, yn arbennig, y darlun yn ei meddiant o David Charles a'i deulu – y llun a gyhoeddwyd yn Rhifyn Mawrth Y Casglwr.
Cymerais yn ganiataol mai'r darlun hwnnw oedd yr un a gyhoeddwyd gan fy hen gyfaill, y diweddar Barchedig Tom Beynon yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, cyf. XXIV, Rhif Mawrth, 1939. Ond ar ôl cymharu'r llun hwnnw â'r un a gyhoeddwyd yn Y Casglwr yr oedd yn amlwg i mi bod dau ddarlun ar gael.
Yn ôl Mr Beynon yr oedd yn ddyledus i Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol am drefnu cael photograff o'r darlun, ac i'r diweddar Syr David Charles Roberts (1858-1940) - yntau hefyd yn un o ddisgynyddion David Charles - am ei hynawsedd yn caniatáu i wneud hynny o'r copi a oedd yn ei feddiant. Dywedir hefyd fod y " darlun gwreiddiol, a wnaed gan Hugh Hughes (1790-1863, yr artist, mab-yng-nghyfraith David Charles), yn eiddo Mr. B.C. Morgans, 35, Keys Road, Cricklewood, Llundain." Roedd Y Mr. Morgans hwnnw'n briod ag Elizabeth, wyres Robert Davies, Cwrt-mawr (gw. T.I. Ellis, John Humphreys Davies (1963), tud. 246).
Yr ail ddarlun |
Copi o'r gwreiddiol felly oedd ym meddiant Syr David Charles Roberts. Ond ymhle y mae'r gwreiddiol hwnnw'n awr? Ai'r darlun a oedd ym meddiant Lady Edwards ydoedd – yr un a gyhoeddwyd yn Y Casglwr?
***
FE NODIR enwau'r personau sydd yn y darlun a gyhoeddodd Tom Beynon, o'r chwith i'r dde, sef Jane (priod Thomas Foulkes, Machynlleth, a fu farw cyn 1840), Sarah (priod Hugh Hughes); Elizabeth (priod Robert Davies, Aberystwyth, mam y Prifathro David Charles Davies ac R.T. Davies, Cwrt-mawr, a mam-gu Syr David Charles Roberts); Ann – nid Mary (priod George Davies, Ivy Bush, Caerfyrddin); David Charles (hynaf, 1762-1834, yr emynydd); a David Charles (ieuengaf, 1803-80, yntau hefyd yn emynydd).
O gymharu'r darlun a oedd ym meddiant Syr David â'r darlun a gyhoeddwyd yn Y Casglwr gwelir nifer o wahaniaethau. Paham y mae Jane, fe ofynnir yn Y Casglwr, "a'i chefn tuag atom?"
Y darlun yn meddiant Owen Edwards |
Yn narlun Syr David fe welir un ochr ei hwyneb, ac mae'i het yn wahanol. Nid oes llyfr ar y ford o'i blaen. Y mae rhywbeth tebyg i rôl o bapur yn llaw dde Sarah, ond yn narlun Lady Edwards y mae ei llaw ar y ford. Y mae Elizabeth yn estyn rhywbeth i'w chwaer yn narlun Syr David, ond gwelir mai llyfr ydyw yn narlun Lady Edwards.
Y mae dillad y merched yn wahanol yn y ddau ddarlun, ac felly hefyd wynepryd y dynion. Gwelir cath ar y llawr wrth waelod dillad Ann yn narlun Lady Edwards, ond fe ffodd y gath i rywle yn narlun Syr David. Fe welir rhywbeth tebyg i pouff ar y llawr yn narlun Lady Edwards, ond dim o'r fath yn narlun Syr David.
Sylwer hefyd ar y mantlepiece a phot blodau, &c., arno yn narlun Lady Edwards a rhyw fan bethau eraill y gellir eu nodi. Y mae'r darlun a gyhoeddodd Tom Beynon yn oleuach o lawer na'r un a gyhoeddwyd yn Y Casglwr.
Tybed, wedi'r cwbwl fod mwy na dau gopi o'r darlun ar gael gan ddisgynyddion David Charles a Sarah Phillips? Efallai y gall Owen neu Prys Edwards ein goleuo. Ac mi hoffwn i wybod beth a ddaeth o'r gwreiddiol a oedd ym meddiant B.C. Morgans, Cricklewood yn 1939.
DAVID CHARLES
At Olygydd Y Casglwr,
YR OEDDWN ar fin ysgrifennu atoch ynglŷn â'r llun ar dudalen flaen Y Casglwr diwethaf o David Charles a'i deulu pan ddywedodd Mr Raymond Davies wrthyf i Miss Monica Davies dynnu ei sylw at lun arall o'r teulu hwn a gyhoeddwyd yn 1939 yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y llun gwreiddiol yn eiddo i Mr B.C. Morgans, Llundain, bryd hynny.
Er fod y ddau lun yn debyg i'w gilydd, mae'r cefndir a'r gwisgoedd yn fwy godidog yn llun Y Casglwr. Yn llun y Gymdeithas Hanes gwelwn ochr dde wyneb Jane, gan ei bod yn edrych i gyfeiriad ei brawd, tra y saif Sarah yn wynebu'r arlunydd, fwy neu lai.
Yr un enwau a roddir i'r merched yn y ddau lun; eto i gyd amheuaf ai Ann oedd enw trydedd merch David Charles. Tueddaf i gredu mai T.I. Ellis sydd yn iawn, ac mai Mary oedd ei henw, fel yn ei gofiant i J.H. Davies, t.244.
Fy rheswm dros gredu hyn yw bod un Mary Charles wedi torri ei henw ar gofrestr priodasau eglwys St. Pedr, Caerfyrddin, yn 1813, pan briododd Jane gyntaf; yn 1825, wedi priodas Eliza; yn 1826, yn ail briodas Jane; ac yn 1827, pan briododd Sarah.
Buasai'n dda gennyf allu rhoi rheswm mwy pendant na hyn dros gredu mai 'Mary' oedd yr enw iawn, ond methais â dod o hyd i fedyddiadau plant David Charles, ac eithrio ei ddwy ferch hynaf, sef Sarah a Jane. Bedyddiwyd Sarah gan David Peter yng nghapel yr Annibynwyr yn Heol Awst, 28 Hydref 1792; a Jane hithau 1 Rhagfyr 1793.
Claddwyd Thomas Foulkes, gŵr cyntaf Jane, ym Machynlleth cyn pen deufis wedi eu priodas, a bu Jane yn wraig weddw am dair blynedd ar ddeg; ai dyna pam mai hyhi yw'r unig ferch mewn gwisg dywyll yn y ddau lun o'r teulu?
Tynnwyd y lluniau rywbryd rhwng mis Medi 1821, pryd y cyfarfu Hugh Hughes gyntaf â Sarah Charles, a Gorffennaf 1828, pryd y parlyswyd David Charles. Pe gellid dyddio'r lluniau'n fwy manwl na hyn efallai y gellid dyfalu pam y rhoddwyd Jane i eistedd â'i chefn at yr arlunydd.
M. Euronwy James (Mrs)
Y Garreg Wen, Penrhyn Coch.