HEN BAPURAU AC ARGRAFFWYR ABERTAWE
gan Rhidian Griffiths

O YSTYRIED prysurdeb a phwysigrwydd Abertawe ym myd masnach yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae'n rhyfedd meddwl na fyddai'r dref wedi datblygu'n fwy o ganolfan argraffu nag y gwnaeth. Ni all gystadlu yn hyn o beth â Chaerfyrddin, neu Lanelli hyd yn oed. Efallai mai'r rheswm am hyn yw fod gan Abertawe gysylltiadau agos â Llundain ac a phorthladdoedd megis Bryste, a'i bod wedyn yn gymharol rwydd i'w phrynwyr llyfrau gael eu nwyddau o'r canolfannau hynny.

Eto mae'n werth nodi enw ambell un a wnaeth gyfraniad pendant ym maes argraffu yn Abertawe, gan gofio ar yr un pryd mai yma y mae cartref papurau newydd Cymru.

Dywed Ifano Jones wrthym mai yn Abertawe y sefydlwyd yr ail wasg ym Morgannwg, i ddilyn y gyntaf yn y Bontfaen, a hynny gan Daniel Evans tua 1780. Dechreuodd Evans yn Abertawe fel llyfrwerthwr: o 1771 gwelir ei enw ar wynebddalennau llyfrau.

Ymddengys mai ei waith cyntaf fel argraffydd oedd Llythr ynghylch gwrando pregethau, cyfieithiad o waith Saesneg gydag ychwanegiad o emynau. Bu'n gweithio yn y dref, gyda'i fab John yn bartner iddo ar ôl 1802, tan ei farw yn 1806, pryd y disgrifiwyd ef gan y Cambrian fel 'an honest, inoffensive character'. Bu John yntau'n argraffu wedi marw ei dad, ond ar ôl hynny canolbwyntiodd fwy ar rwymo llyfrau.

Erbyn 1783 roedd gan Daniel Evans gystadleuaeth ym mherson argraffydd arall o'r enw Thomas Goodere. Yna tua diwedd y ganrif down ar draws enwau John Voss a Zecharias Bevan Morris. Hwyrach fod gan Voss gysylltiadau â hen deulu bonedd o Sir Forgannwg. Cydweithiodd â Morris yn Stryd y Castell am gyfnod cyn ymsefydlu ar ei ben ei hun yn Heol y Farchnad. Bu ei fab John Matthew Voss hefyd yn argraffu am beth amser, ond troes wedyn at waith mwy proffidiol y bancwr.

Bu Z.B. Morris yntau'n argraffu ar ei liwt ei hunan. Ei enw ef a welir wrth odre wynebddalen The Swansea guide (1802): ac y mae pob hanesydd lleol yn gwerthfawrogi'r gyfrol ddifyr honno. Ond efallai i amgylchiadau fynd yn drech na Morris druan; oherwydd cawn iddo yn 1806 gael ei ddedfrydu i garchar yng Nghaerdydd am ddwyn 30 rîm o bapur gwerth £30!

Glynodd at ei grefft, ond yng Nghaerfyrddin yn hytrach nag yn Abertawe o hynny i maes.

***

ENW arall o bwys yw eiddo Thomas Jenkins, a gadwai ei siop yn rhif 58, Stryd y Gwynt, prif stryd fasnachol y dref, a chartref nifer o argraffwyr. Yn 1803 sefydlwyd cwmni, o dan arweiniad Walter Savage Landor, i ddodi papur newydd ar waith, y cyntaf yng Nghymru yn ôl pob tebyg. Penodwyd Jenkins i fod yn gyfrifol amdano.

Bu peth oedi ar y fenter am fod yr offer argraffu yn dod ar long o Fryste, a honno wedi ei dal gan stormydd; ond 28 Ionawr 1804 ymddangosodd rhifyn cyntaf y Cambrian and general weekly advertiser for the principality of Wales, blaenffrwyth newyddiaduriaeth yn Abertawe.

Bu Jenkins yn argraffu'r papur tan ei farw yn 1822, pryd y cymerwyd yr awenau gan David Rees a William Courtenay Murray. Ar ôl 1823 daeth y papur yn eiddo John Williams, a bu ef yn egnïol gyfrifol amdano hyd at 1857, er mai Murray a Rees a'i argraffai o hyd. Yma yn 1853 y defnyddiwyd gwasg ager am y tro cyntaf yng Nghymru.

***

YM MYD newyddiaduriaeth hefyd y saif cyfraniad pwysicaf Joseph Harris, 'Gomer'. Un o Lantydewi ger Hwlffordd oedd Gomer, ond ymgartrefodd yn Abertawe yn 1801, yn weinidog ar Dŷ Cwrdd y Bedyddwyr yn yr Heol Gefn. Cadwai ysgol ddyddiol a siop lyfrau, a dechreuodd ysgrifennu cyn argraffu ei hunan.

Daliodd gysylltiad â John Voss, oblegid hwnnw a argraffodd yn 1804 waith polemig Gomer Bwyall Crist yn nghoed anghrist.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1814, mentrodd Gomer gyhoeddi'r wythnosolyn cwbl Gymraeg cyntaf, Seren Gomer. Roedd John Voss yn un o berchenogion y papur. Tybed ai llwyddiant y Cambrian yn y dref a fu'n sbardun i'r fenter newydd hon?

Bid a fo am hynny, ni bu llwyddiant i gychwyn. Byr fu hoedl y Seren gyntaf, o Ionawr 1814 hyd at Orffennaf 1815, a mawr y golled i'w pherchenogion. Ond roedd angen mwy i ddigalonni Gomer. Ym mis Ionawr 1818 rhoes gynnig arall arni trwy ddechrau Seren Gomer bythefnosol: a'r tro hwn fe lwyddodd ei ymgais i fod yn 'gyfrwng gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry'.

Erbyn cyhoeddi'r ail Seren yn 1818 cawsai Gomer help ei fab John Ryland Harris, 'Ieuan Ddu o Lan Tawy'. Hwnnw, yn ôl tystiolaeth ei dad, oedd yn cysodi'r papur yn ogystal â phob llyfr a argraffwyd gan y wasg yn ystod 1818 ac 1819.

Bu Ieuan hefyd yn ddiwyd yn sylfaenu Cymdeithas o Gymreigyddion yn Abertawe. Ergyd fawr, onid ergyd farwol, i'w dad oedd ei farw cyn cyrraedd 21 oed.

Ar ôl marw Gomer ei hunan yn 1825 prynwyd ei wasg gan John A. Williams (nid yr un â pherchennog y Cambrian); ef a argraffodd gofiant byr J. Samuel i Gomer yn 1826. Ond ni bu Williams yn llwyddiannus yn hir yn y gweithdy yma. Yn 1830 aeth yr hwch drwy'r siop, a chymerodd Evan Griffiths at y wasg.

Brodor o Gellibeblig ger Penybont ar Ogwr oedd Griffiths, `Ieuan Ebblig'. Bu'n weinidog am rai blynyddoedd ym Mro Gŵyr cyn symud i Abertawe yn 1828 i ymaflyd yn y gwaith o gyfieithu Esboniad Matthew Henry i'r Gymraeg. John A. Williams a gyhoeddodd y gyfrol gyntaf, ond wedyn bu raid i Griffiths ei hun argraffu yn ogystal â chyfieithu.

Yn ôl yr hyn a ddywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru byddai'n cyfieithu ddydd a nos am bythefnos gyfan, ac yna'n mynd i grwydro'r wlad am bythefnos i godi tanysgrifwyr at y gwaith.

Ar ôl dod i Abertawe ni bu ganddo ofal eglwys, a bu'n argraffu'n brysur am ddeugain mlynedd. Cyhoeddodd amrywiaeth o lyfrau, yn esboniadau a chofiannau a barddoniaeth. Yn 1847 paratôdd eiriadur Cymraeg-Saesneg; a bu ei wasg hefyd yn gyfrifol am y cylchgronau Y Rhosyn (1832-3) a Y Drysorfa Gynnulleidfaol (1843-5).

Daeth ei nai John yn bartner iddo yn 1868, a bu Evan farw yn 1873. O gofio ei ddiwydrwydd fel argraffydd mae'n briodol taw un emyn o'i eiddo sy'n dal yn boblogaidd: 'Yn dy waith y mae fy mywyd'.

***

CYN cwpla, gwerth inni nodi un peth pellach. Roedd gan nifer o argraffwyr bore Abertawe lyfrgelloedd yn gysylltiedig â'u gweisg. Rhedai Daniel a John Evans lyfrgell gylchynol yn eu gweithdy yn Stryd y Gwynt. Yn yr un heol cawn lyfrgelloedd tan law H. Griffith, argraffydd A new Swansea guide (1823), ac F. Fagg, a gynhyrchodd argraffiad 1826 o A description of Swansea.

Yr amlycaf efallai oedd Llyfrgell Morgannwg, o dan ofal Thomas Jenkins, argraffydd y Cambrian. Llyfrgell danysgrifiadol oedd hon: rhifai ymhlith ei pherchenogion y bonheddwr lleol Lewis Weston Dillwyn, hynafiaethydd a naturiaethwr.

Yn nes ymlaen bu gan Dillwyn law yn sylfaenu Llyfrgell y 'Royal Institution' yn Abertawe, rhagredegydd Llyfrgell y dref lle gweithiai'r cawr llyfryddol hwnnw David Rhys Phillips. Ond stori arall yw honno.