HELYNTION YR ALMANACIAY gan Gerald Morgan

UN 0 feysydd mwyaf lliwgar a dryslyd y byd cyhoeddi Cymraeg yw'r Almanac. Gellid honni i'r hanes gychwyn gyda'r llyfr Cymraeg printiedig cyntaf, Yn y Llyvyr hwnn (1546), sy'n cynnwys almanac elfennol. Ond gwir gychwynnydd yr Almanac Cymraeg oedd Thomas Jones, y cymeriad y disgrifiwyd ei hanes mor fywiog a manwl gan y Dr. Geraint Jenkins. Cyhoeddodd ei almanac Cymraeg cyntaf ar gyfer 1680, ac yn fuan roedd yn achwyn am gystadleuwyr, er bod ganddo hawlfraint a monopoli!

Dechreuodd y gystadleuaeth o ddifrif yn 1707, pan gychwynnodd John Jones o Wrecsam gyfres hir o almanaciau, a barodd i waed Thomas Jones ferwi o gynddaredd. Dioddefodd y ddau pan basiwyd y Ddeddf Stamp yn 1711 yn codi treth ar bapur ar gyfer pamffledi a chyfnodolion.

Bu'n rhaid codi prisiau'r almanaciau, ond roeddynt yn dal yn broffidiol; dechreuwyd cyfres newydd gan Sion Rhydderch yn 1715, a nifer o rai eraill gan Evan Davies (am y blynyddoedd 1738-1741), John Prys (1739-86), Gwilym Howells (1766-1776), Cain Jones (1776-1795), Mathew Williams (1777-1814), Evan Thomas (1782-85) a John Harris (1790-1806).

Cyn diwedd y ganrif, costiai'r almanaciau hyn rhwng wyth geiniog a swllt a dwy geiniog yr un, yn lle dwy geiniog Thomas Jones. Chwyddiant oedd yn gyfrifol am ran o'r gost - a'r Dreth am y gweddill.

Wedi canol y ddeunawfed ganrif, sylweddolodd rhywun fod yna fantais i'w chael o argraffu yn Nulyn, am nad oedd y Ddeddf Stamp yn weithredol yn Iwerddon. Roedd byd cyhoeddi Iwerddon eisoes yn fywiog am fod modd argraffu argraffiadau lladrad ("pirated") o lyfrau ffasiynol y dydd, heb dalu ceiniog i'r awdur na'r cyhoeddwr yn Llundain.

Nawr roedd maes arall yn agored i'r llên-ladron. Argraffwyd nifer o almanaciau Cymraeg yn Nulyn, gan amlaf yn defnyddio'r enw "Cyfaill", ac yn hepgor y gair "Almanac". Ond almanaciau oeddynt – yn cynnwys calendr a rhestr o ffeiriau, ond heb y cyfraniadau llenyddol oedd yn bywiocáu tudalennau'r almanaciau cyfreithlon yng Nghymru.

***

WRTH GWRS, roedd Dulyn yn ganolbwynt defnyddiol i Gymry'r Gogledd – byddai William Morris yn gyrru ei lyfrau yno i'w rhwymo, ac argraffwyd nifer o lyfrau Cymraeg yno yn ystod y ddeunawfed ganrif, oherwydd cyfleustra.

Yr argraffydd mwyaf nodedig o'r rhain oedd S. Powell, ac argraffodd ef un almanac Cymraeg o leiaf. Bu argraffwyr eraill wrthi hefyd, gan yrru'r cynnyrch draw i'w gwerthu gan werthwyr crwydrol mewn ffair a thafarn a marchnad.

Ond daeth rhywun craff i sylweddoli nad oedd angen trafferthu i yrru'r defnyddiau i Ddulyn i'w hargraffu. Gellid gwneud hynny ar unrhyw wasg a fyddai'n barod i gydweithredu, gan roi'r enw "Dulyn" neu "Dublin" ar y wyneb-ddalen. Mae'r cynharaf yn dyddio o'r flwyddyn 1764, ac yn fuan ceir dilyniant blynyddol, a nifer cynyddol o argraffiadau gwahanol ar gyfer yr un flwyddyn.

Pethau bach digon blêr eu golwg yw'r almanaciau hyn; fe'u hargraffwyd yn ddirgel a'u gwerthu'n ffug-ddirgel. Awgrym Miss Eiluned Rees o'r Llyfrgell Genedlaethol yw mai gwasg J. Harvie, Caer, oedd y gyntaf i argraffu'r "Cyfeillion" ffug-Wyddelig hyn, a chredir yn gyffredinol mai John Roberts Caergybi ('Sion Robert Lewis' 1731-1806) oedd eu hawdur.

Er nad oes enw argraffydd arnynt, y mae modd cymharu'r almanaciau blynyddol gyda'i gilydd yn fanwl er mwyn sefydlu rhediad sy'n tarddu o'r un wasg (oherwydd defnyddiai pob gwasg symbolau gwahanol ar gyfer yr haul, y lleuad ac ati yn y calendrau). Hefyd gellir cymharu'r teip a'r addurniadau ar yr almanaciau â chynnyrch gweisg adnabyddus, a chael amcan pur dda o ffynhonnell ambell gyfres o'r almanaciau.

Heblaw Harvie o Gaer, roedd y Cymro Thomas Huxley yng Nghaer hefyd yn argraffu "Cyfeillion" anghyfreithlon, mae'n bur debyg. Yn y "Cyfeillion" eu hunain, ceir awgrymiadau fod gwaith argraffu o'r fath yn digwydd ym Machynlleth a Threfriw. Y mae Miss Eiluned Rees wedi dangos fod un gyfres o "Cyfeillion" o'r un wasg yn rhedeg yn ddi-dor o 1775 hyd 1813, a'u prisiau'n codi'n raddol o 3c i 4½c. Ei hawgrym yw mai cynnyrch gwasg yn Nulyn yw'r gyfres hon.

Y mae cyfres arall yn dechrau yn 1798 (efallai'n gynharach), a chydag ychydig o ansicrwydd am ddwy neu dair blynedd, gellir olrhain y gyfres hon hyd 1834. Nid oes modd cysylltu'r gyfres â Machynlleth – beth, felly, am Drefriw?

***

UN PETH oedd dangos fod "Cyfeillion" yn perthyn i rediad, peth arall oedd profi'r cysylltiad ag un wasg. Roedd modd dangos tebygrwydd rhwng addurniadau ar rai o'r gyfres 'Cyfeillion' hyn a chynnyrch gwasg Ismael Davies yn Nhrefriw. Ond sut y gellid profi'r cysylltiad?

Roedd y traddodiad am Almanaciau anghyfreithlon yn Nhrefriw yn hen. Yn Hanes Trefriw (1879), dywed Morris Jones:

Ond lle roedd y dystiolaeth a fyddai'n clymu'r cyfan ynghyd?

Yn y gyfres o 1798 ymlaen a nodwyd uchod, gwelir defnydd cynyddol o luniau. Yn y Cyfaill Tymhorol am 1831 ceir ar y dudalen olaf lun o ymweliad y Brenin Siôr IV â Chaergybi yn 1821.

Mewn Almanac cyfreithlon am y flwyddyn 1841 o wasg John Jones (a symudasai o Drefriw i Lanrwst yn 1825) ceir yr un bloc yn union, yn dystiolaeth ddigonol mai John Jones oedd perchennog y bloc, mai efe felly a argraffodd y Cyfaill Tymhorol am 1831, ac felly'r holl gyfres (ei dad Ismael, wrth gwrs, fuasai'n gyfrifol am y rhifynnau cynharach).

Awdur y Cyfeillion hyn o Drefriw a Llanrwst oedd John Roberts, Caergybi, ac wedi ei farw, cymerodd ei fab Robert Roberts (1777-1836) at y gwaith. Byddai'r defnyddiau yn mynd i fwy nag un argraffydd, ac nid yw'n hawdd penderfynu bob amser a wnaethpwyd hynny'n fwriadol gan yr awdur, neu a oedd un argraffydd wedi cael copi o flaen llaw ac wedi cyhoeddi ei fersiwn ladradaidd ei hunan.

Yn wir, heblaw sgrifennu'r defnyddiau ar gyfer y 'Cyfeillion' anghyfreithlon am flynyddoedd, yn sydyn fe gyhoeddodd Roberts Almanac cyfreithlon, stampiedig, am y blynyddoedd 1818-22, gyda bygythiadau difrifol yn erbyn y "Cyfeillion" anghyfreithlon - y rhai oedd yn dwyn elw iddo!

***

MAE'N amheus a wnaeth lawer o elw mewn gwirionedd - y mae cytundeb ar gael am y flwyddyn 1835 sy'n dangos fod John Jones, Llanrwst, yn talu £9 i Robert Roberts am ddefnyddiau'r almanac - a hanner y pris hwnnw mewn llyfrau. Ar y llaw arall, nid oedd yr Almanac cyfreithiol yn gwerthu'n dda iawn. Ni werthwyd ond 400 o'r un am 1818 - ac roedd pris yr un am 1819 yn 2s 3c!

Y ffaith oedd bod y "Cyfeillion" wedi lladd marchnad yr almanaciau cyfreithlon. Yn 1800 roedd dau ar ôl (yn y De) ond erbyn 1825 nid oedd ond "Cyfeillion" i'w prynu - a gellir bod yn sicr eu bod yn gwerthu wrth y miloedd. Pan ddiddymwyd y Dreth Stamp, a chyfreithloni almanaciau rhad, y pris fyddai 6c.

Gwyddom oddi wrth ohebiaeth John Jones ei fod yn argraffu 18,000 o gopïau ar gyfer White's o Gaerfyrddin yn unig – rhaid ei fod felly yn argraffu hyd at 50,000 neu ragor bob blwyddyn.

Canlyniad y poblogrwydd hyn, wrth gwrs, oedd rhagor o gystadleuaeth, a cheisiaf ddangos mewn erthygl arall fel y bu ymryson yn Llanrwst pan gyhoeddwyd dau almanac yno gan ddau argraffydd gelyniaethus.