ENNILL CWPAN Y BYD? NADDO ~
Dyfed Evans a'r Llyfr Cofnodion anarferol braidd
Dyma aelodau un o dimau cynnar Pencaenewydd wedi'r rhyfel. Rhes ôl o'r chwith: Willie Griffith, John Wyn Williams, Carcharor Rhyfel, W. Humphrey Jones, Gwynedd Pritchard, Gwilym Williams, Edward Owen Watkins a William Owen. Rhes flaen: Hugh Iestyn Owen, John Roberts Williams, D. Lloyd Jones, Ronald Walmsley a Charcharor Rhyfel. |
DYMA bwt o stori am dîm peldroed nad enillodd Gwpan y Byd. Nid enillodd tîm Pencaenewydd erioed unrhyw fath o gwpan, a dweud y gwir. Rhan o'i ramant a'i arbenigrwydd oedd ei fodolaeth – nid ei lwyddiant.
Pentref bychan yn Eifionydd yw Pencaenewydd. Nid oes yno ond cwta ddeg ar hugain o dai, a hwyrach, yn wir, mai dyma'r lle lleiaf erioed i gynnal clwb peldroed cofrestredig, yn chwarae mewn cynghrair.
Daeth y clwb yn bur enwog yn yr hen sir Gaernarfon am amryw resymau. Nid pob tîm, er enghraifft a chwaraeai mewn hen fagiau peilliad "Blawd Caer" wedi'u llifo, ac yn sicr doedd neb arall yn paratoi lobsgóws yn festri'r capel i aelodau'r timau a ddoi i'w gwrthwynebu.
Ond, meddech chwithau, beth sydd a wnelo hyn â'r Casglwr? Wel, fe ddaeth i'r fei, yn ddiweddar, ffeil drwchus o ddogfennau yn ymwneud â'r clwb am y flwyddyn 1946-7. Fe'u cadwyd yn ofalus gan Mr D. Lloyd Jones, a oedd yn drysorydd, yn un o'r sylfaenwyr, yn ogystal â chefnwr cadarn i'r tîm. Nid yn aml y gwelir casgliad o lythyrau, ffurflenni, derbynebau ac adroddiadau o'r un natur â hwy.
Ynddynt, er enghraifft, mi gewch wybod fod torth fawr i'w chael am rôt a dimai yn 1946, ond fod peldroed ledr o siop cyfrwywr yng Nghaernarfon yn costio dwy bunt a chweugain. Mae'n anodd coelio hefyd fod unrhyw dîm yn medru dal ati pan dderbynnid cyn lleied â hanner coron wrth y giât ar aml bnawn Sadwrn, a ffi y canolwr yn ddeg a chwech.
***
UN o hoelion wyth y tîm oedd John Roberts Williams, Golygydd y cylchgrawn hwn, a fu yng nghwrs y blynyddoedd yn ymhel â'r rhan fwyaf o chwaraeon sy'n dibynnu ar bêl. Cawn gipolwg ar hanes y cychwyn ganddo ef yn ei gyfrol Annwyl Gyfeillion.
"Tua therfyn y rhyfel (yr ail, nid y cyntaf)," meddai, "fe ailgodwyd hen gynghrair i glybiau bach Gwyrfai a Llŷn ac Eifionydd a phenderfynodd dau neu dri ohonom y buasai Pencaenewydd yn medru hel un pâr ar ddeg o goesau o rywle ar gyfer yr ysgarmesoedd. Ac fe wnaed y wyrth. Bechgyn lleol, a rhai o'r bechgyn, fel fi, heb gicio pêl ers deng mlynedd ar mwy oedd yr aelodau, ynghyd â dau garcharor rhyfel o'r Eidal a weithiai ar ffarm ar gwr y pentre. Yr oedd un - Saninetta, wedi chwarae ar lefel broffesiynol yn ei wlad ei hun, ond y gweddill heb fawr o fedr, neu wedi colli hynny o fedr a fu."
Sonia wedyn am gael benthyg cae am ddim, am wneud y crysau o'r bagiau blawd, am gael coed pin o stad y Glasfryn i wneud postiau gôl – ac am ddarparu'r lobsgows i'r ymwelwyr yn festri'r capel lle priododd Lloyd George.
Yng Nghynghrair Llŷn y chwaraeai'r tîm, a'r clybiau eraill a berthynai i'r un cynghrair oedd: Abersoch, Cricieth, Garn Dolbenmaen, Cooke's United (gwaith powdwr Penrhyndeudraeth), Ail Dîm Pwllheli, Ail Dîm Porthmadog, Nefyn, Tanygrisiau, a Threfor. Ond yn y tymor cyntaf chwaraeid mewn cynghrair a gynhwysai Lanberis, Llanrug, Caernarfon a'r Felinheli.
***
MAE'N amlwg fod cryn ddiddordeb yn y timau, yn lleol, a bod tipyn o ymgiprys hefyd am chwaraewyr. Nid oedd ond un tîm ym Mhencaenewydd, er enghraifft, ond eto dengys y dogfennau fod ganddynt chwech ar hugain o chwaraewyr yn gofrestredig ar y llyfrau yn 1946. Erbyn hynny dôi tri ohonynt o gyn belled â Dyffryn Ardudwy a dau o Benygroes.
Dengys ambell lythyr yr awydd a fodolai am gael gêm. Y mae milwr - 14242988 Jones, D. J. yn ysgrifennu o wersyll Park Hall, Croesoswallt: "Rwyf yn gobeithio bod 'na siawns i gael chwarae i'ch tîm y tymor yma ac rwyf yn siŵr y cawn fwy o hwyl nag a gawsom y tymor diwethaf."
Mae'n amheus a wireddwyd ei broffwydoliaeth, oherwydd dyma a ddywed mewn llythyr diweddarach: "Gair neu ddau ar frys. Gobeithio eich bod yn y pinc. Wel, drwg iawn oedd gennyf glywed am y gêm, ddydd Sadwrn. Biti garw iawn fod y sgôr cyn uched ond felna mae hi. Hwyrach y bydd gwell hwyl o hyn ymlaen."
Yna daw'r gri o'r galon am gael gêm: "Sut mae 'dallt hi at y Sadwrn nesa'. Os medrwch adael imi wybod yn lle byddwch yn chwarae, byddaf yno yn eich gweitiad."
Y mae G.O. Jones o Danygrisiau wedyn – brawd Wil Jones a chwaraeai i Ddinas Bangor, meddai – yn gofyn am gêm am fod tri dwsin o'i flaen ef yn aros eu tro i gael prawf efo Tanygrisiau. Gallai ef chwarae yn rhywle yn y blaen ac eithrio'r asgell chwith.
Dwy bunt, wyth swllt a thair ceiniog oedd gan y clwb mewn llaw ar ddechrau tymor 1946-7, a chydag amrywiol gyfraniadau o swllt i hanner coron, elw o wneud te, yn ogystal â'r tâl mynediad, llwyddwyd i beidio â mynd i ddyled. Yr oeddynt £1.11.7i y tu clyta i'r clawdd ar ddiwedd y tymor.
Y swm mwyaf a dderbyniwyd wrth y glwyd oedd £I.5.0½ ym mis Hydref, a'r isafswm 1/9½, 21 Rhagfyr, yn erbyn Abersoch.
***
LLYTHYRAU yn trefnu gemau'r cynghrair yw'r rhan fwyaf o lythyrau'r ffeil. Ond mae yma olion ambell ddrama fach ddigon diddorol hefyd!
26 Hydref 1946 yr oedd Pencaenewydd yn chwarae adref yn erbyn Garndolbenmaen – ac yno yr honnir i Bobby Roberts, golgeidwad Pencaenewydd ar y pryd, droi'r drol efo'r reffari. D.M. Jones o'r Groeslon oedd hwnnw ac yn y ffeil y mae copi o adroddiad a anfonodd ef i Ysgrifennydd Cymdeithas Beldroed Glannau'r Gogledd. Dyma fras gyfieithiad:
"Bu'n rhaid imi rybuddio Bobby Roberts am gambyhafio. Bu'r digwyddiad fel a ganlyn: Yr oedd y bedwaredd gôl wedi ei sgorio yn erbyn ei dîm. Ni chytunai â'm dyfarniad. Dywedodd hynny a chiciodd y bêl ymaith. Gwrthodai roi imi ei enw wedyn ... Dywedais wrth Roberts y buaswn yn ei riportio. Amser y digwyddiad – deng munud cyn y diwedd."
Ni wyddys beth a ddigwyddodd i Bobby. Nid oedd neb o swyddogion Pencaenewydd wedi cynhyrfu rhyw lawer, fe ymddengys, oherwydd 29 Ionawr 1947 – dri mis yn ddiweddarach, y mae H.R. Williams ei hun, ysgrifennydd Cymdeithas Beldroed Glannau'r Gogledd yn anfon i ddweud na ddaeth ebwch oddi wrthynt ac yn gofyn am eglurhad gyda'r troad.
Erbyn heddiw y mae gwahanol fersiynau ar gael o beth yn union a ddywedwyd wrth y ref!