DIRGELWCH 'ORIEL Y BEIRDD' gan Gomer M.Roberts
YN EI Enwogion Sir Gaernarfon (1922) fe nodir Ellis Owen Ellis (1813-61) o Fryn Coch, plwyf Abererch, Eifionydd, gan Fyrddin Fardd. Roedd y gŵr hwnnw'n ŵyr o ochr ei fam i'r hen fardd Siôn Lleyn. Fe'i henwogodd ei hun fel arlunydd medrus. Cafodd gyfle, tua 1834, i efrydu yn y London Galleries, ac arddangoswyd rhai o'i weithiau yn Westminster ac Exeter Hall. Ymhlith darluniau eraill barnai Myrddin Fardd fod ei ddarlun o Ddic Aberdaron yn gynnyrch rhagorol iawn o'i ddawn fel arlunydd.
Ymsefydlodd yn Lerpwl, ond bu am amser byr yn Llundain yn perffeithio'i wybodaeth am ei gelfyddyd. Dychwelodd i Lerpwl, ac ymgymerodd â phrif waith ei fywyd, sef llunio "Oriel y Beirdd", a gynhwysai ddarluniau tua chant o feirdd a llenorion Cymru. Roedd y cynfas yn bedair troedfedd o hyd wrth ddwy o led.
Bu farw 17 Mai 1861 yn 48 mlwydd oed, ac yntau heb ond prin orffen yr "Oriel". Claddwyd ef ym mynwent Abererch. Prynwyd yr "Oriel" am gan gini, meddai Myrddin, gan William Morris (Gwilym Tawe), "gyda'r bwriad o gymeryd haul-arluniau o honni; a da gennym fyddai sylweddoliad y bwriad hwnnw."
Yr oedd can gini yn swm sylweddol i'w dalu am arlunwaith yn y dyddiau hynny, ac ar ôl gwario'r fath swm o arian am yr "Oriel" buasid yn disgwyl y goroesai'r darlun. Ond, meddai golygydd Y Casglwr wrthyf, "fe lwyr ddiflannodd y darlun, ac hyd y gwn nid oes gopi o fath yn y byd ohono ar gael".
***
PWY oedd William Morris (Gwilym Tawe)? Nid oes ysgrif arno yn y Geiriadur Bywgraffyddol, ond os trowch chi i gyfrol sylweddol Hywel Teifi Edwards, Gŵyl Gwalia (1980), mi gewch chi gryn lawer o'i hanes.
Un o Abertawe ydoedd, ac ef, efallai, oedd awdur y llyfryn Cydymaith i Blentyn, neu risiau rhwydd i lythrennu, silliadu, a darllen yr Iaith Gymraeg (Abertawe, 4ydd arg., 1849), a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Priodolir y llyfryn iddo ef – yn betrusgar – yng nghatalog y Llyfrgell, ac fe nodir ei flynyddoedd, "fl. 1845-69", ar gyfer ei enw.
Nodir llyfr arall o'i waith yng Nghatalog Llyfrgell Rydd Caerdydd (1898), "The Working Man's Garden. An Essay in refutation of Henry Austin Bruce's assertion that "Wales has produced no men who have influenced the public opinion of Great Britain" (Swansea, 1860). Arglwydd Aberdâr oedd y Bruce uchod, ac atebir ei honiad yn yr Essay ar linellau bywgraffyddol.
Ond yn ôl at Gwyl Gwalia. Ceir darlun yn y gyfrol o "Beirdd Cymreig - Eisteddfod Treforis, Awst 1855", sef photograff o 13 ohonynt, a "Gwilym Tawe, Swansea" yn eu plith. Bu'n flaenllaw yn ei ddydd fel un o arloeswyr cynnar yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n aelod o'r Cyngor a sefydlwvd yn y 60au i ddiwygio’r Eisteddfod.
***
CYNHALIWYD yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 1863, a'r Dr. Evan Davies a Gwilym Tawe yn gyd-ysgrifenyddion. Difwynwyd yr eisteddfod honno, meddai H.T.E., gan "y gŵr myfiol hwnnw, Gwilym Tawe". Enillodd ran o'r wobr am gerdd hanesyddol Saesneg ar Gastell Abertawe. Fe'i perswadiwyd i roi rhan o'r wobr yn ôl, ar ôl cael ei alw i gyfrif. Y wobr oedd pumpunt a bathodyn.
Addawsai'r Cyngor roi cyfraniad ar gyfer y gwobrwyon, ond ar fore cyntaf yr eisteddfod nid oedd yr un geiniog yn y banc. Yn ôl y Swansea Journal benthyciodd Gwilym Tawe £260 i'r Cyngor. Gwnaed elw o £500, a chadwodd Gwilym Tawe £250 o'r elw hwnnw rhag ofn na châi ad-daliad mewn unrhyw ffordd arall.
Wrth rannu gweddill yr elw bu'r pwyllgor lleol yn hael iawn i'w swyddogion. Cafodd y ddau gyd-ysgrifennydd hanner canpunt yr un a thlws. Trosglwyddodd Dr. Evan Davies ei gyfran yn ôl i goffrau'r eisteddfod. Addawodd Gwilym Tawe ddilyn ei esiampl, ond nis gwnaeth.
Syfrdanwyd y Cyngor gan yr haelioni mawr yma, ac fe ddiarddelwyd Gwilym Tawe gan y Cyngor yn Llandudno yn 1864, heb iddo gael cyfle i'w amddiffyn ei hun.
Ond fe wnaeth hynny trwy gyfrwng y wasg. Cyhoeddodd bamffledyn, Yr Eisteddfod. Who is to Blame? The Eisteddfod Council or Gwilym Tawe? (Swansea, 1864). Amddiffynnodd ei hawl i'r rhodd, gan ddannod i aelodau eraill y Cyngor eu rhagrith a'u hariangarwch.
"Bellach", meddai H.T.E., "does fawr o obaith dod o hyd i'r gwir am yr hyn a ddigwyddodd yn 1863". Yn ôl Maer Abertawe, Gwilym Tawe "was the first instigator of the shameful conduct which took place there".
***
BU'N gefnogwr brwd i'r eisteddfod ar ôl helyntion 1863. Darllenodd bapur yn Eisteddfod Caer yn 1866 ar "Nationalities: their Uses and Abuses" yn y "Social Service Section."
Awyddai Gwilym Tawe "wneud gwasanaethwr gwiw i'r Gymraeg" a'r Eisteddfod, ond fel y gwyddys fe foddwyd yr eisteddfod bron gan y ffrwd gref o Seisnigrwydd gan Hugh Owen ac eraill. Darllenodd bapur hefyd yn Eisteddfod Rhuthun yn 1868 ar y testun "The Working man and his Health".