DAUGANMLWYDDIANT JOHN PARRY DDALL ~
Ymchwil Meredydd Evans a Phillis Kinney

DDAU gan mlynedd i Hydref 7fed y flwyddyn hon (os derbynnir tystiolaeth Bardd y Brenin yn hytrach na'r Gentleman's Magazine) bu farw John Parry, Rhiwabon, un o delynorion disgleiriaf ei ddydd a chydawdur y casgliad argraffedig cyntaf o alawon Cymreig. Mae'n debyg mai gŵr o Lŷn oedd ac iddo gael ei eni ym Mryn Cynan, ger Nefyn, tua 1710.

Ond gŵr o Langybi, Eifionydd, oedd Ifan Wiliam, cydawdur arall y casgliad, rhyw bedair blynedd yn hŷn na'i gyd-gerddor, yn delynor ac athro cerddoriaeth yn Llundain; yn gyfansoddwr hefyd, a'r cyntaf o'r hil honno yng Nghymru i weld ei waith yn argraffedig, hynny yn y Llyfr Gweddi Gyffredin a olygwyd gan Richard Morris ac a gyhoeddwyd yn 1755. Y ddau hyn, y naill yn brif symbylydd a detholydd a'r llall yn drefnydd cerddorol, a fu'n gyfrifol am gyhoeddi Antient British Music yn 1742.

Ceir manylion bywgraffyddol amdanynt yn Y Bywgraffiadur Cymreig ac yn llyfr difyr a gwerthfawr J. Lloyd Williams, Y Tri Thelynor. Nid oes ddiben felly mewn dilyn y trywydd hwnnw; yn hytrach, ceisiwn ganoli sylw ar gynnwys y gyfrol a gyhoeddwyd ganddynt a materion eraill perthynol i hynny.

Afraid dweud ei bod yn gyfrol anghyffredin o brin erbyn hyn. Hyd y gwyddom, nid oes ond pum copi ar gael, un yn yr Amgueddfa Brydeinig (Addit. MS. 14939), un yn Llyfrgell Parry, Y Coleg Cerdd Brenhinol a thri yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (dau yn Adran y Llawysgrifau (12393D a 9643D, ac un yn Adran Llyfrau Printiedig (We397) ). Mae un cyfeiriad eithaf adnabyddus at gopi arall a oedd ym meddiant John Parry, Bardd Alaw, yn nechrau'r ganrif ddiwethaf ond ymddengys i hwn fynd ar ddifancoll, onid ef yw'r un sydd yn Llyfrgell Parry – ni welsom hwnnw hyd yma. Gellir bod yn weddol sicr nad yw ymhlith y rhai eraill a nodwyd uchod a chystal inni roi ein rhesymau dros ddweud hynny rhag gosod traed y chwilfrydig ar siwrnai seithug.

***

YN NWY gyfrol gyntaf The Cambro-Briton (1820-1) cyhoeddodd Bardd Alaw nifer o sylwadau cyffredinol ar rai o'r alawon Cymreig gan gyfeirio hefyd at y rhai a gyhoeddwyd yn ABM, ond heb wybod dim o gwbl am enwau'r rhai a fu'n gyfrifol am y gyfrol honno. Dyfynnwn o'r Cambro-Briton (Cyf. 2, tt. 168-9):

Yrŵan, gwyddys mai i Richard Morris yr arferai cyfrol yr Amgueddfa Brydeinig berthyn ac y mae dalen deitl dwy o gyfrolau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddi-fefl. Ond y mae un gyfrol yn ddiffygiol. Daeth honno i'r Llyfrgell o lyfrgell D. Emlyn Evans ac y mae'n amlwg iddo ef, rywbryd, ddod ar draws copi yn cynnwys yr alawon yn unig (ar wahân i un), hynny yw, heb ddalen deitl a heb ragymadrodd. Aeth yntau ati wedyn, yn ei lawysgrifen ddestlus ei hun, i gywiro'r diffygion hyn.

Ond mae'n eglur oddi wrth y dyfyniad blaenorol fod Bardd Alaw yn gyfarwydd â'r rhagymadrodd - y 'judicious and valuable remarks on British music' chwedl yntau. Wrth gwrs, mae'n bosibl i gopi Bardd Alaw gael ei gam-drin ymhellach gan amser ac iddo gyrraedd dwylo D. Emlyn Evans, o'r diwedd, wedi diosg ei ragymadrodd ar y ffordd. Eithr nid fel yna y digwyddodd pethau. Mae mater y memoranda yn bur derfynol. Nid oes nac ymyl na throednodyn yn agos at gopi D. Emlyn Evans.

Pum copi sydd ar ôl felly, i bob golwg, oni bai fod un Bardd Alaw yn digwydd bod ar gael gan un o ddarllenwyr Y Casglwr! Edrychwn, bellach, ar un o'r copïau cyflawn; gan ddechrau gyda rhan o'r teitl:

ANTIENT BRITISH MUSIC. 1742.
or a Collection / of Tunes never before published / which are retained by the
Cambro-Britons (more particular in N.W. ), and supposed by the learned to be the
remains of the Music of the ancient Druids so much famed in Roman History.

PART 1
Containing / 24 airs / set for the Harp, Harpsichord, Violin, and all within / the compass
of the German flute; and fingered for a Thorough-Bass / to which is prefixed / an
Historical account of the rise and progress of Music among the Ancient Britons; wherein
the errors of Dr. Powel and his Editor, Mr. Wynne on that subject in their History of Wales
are pointed out and confuted and the whole set in its true and proper light.

Dirmygir ni Welir.
Hen Ddihareb.

***

HAEDDA'R teitl hirwyntog hwn, nodweddiadol o'r cyfnod, nifer o sylwadau. Y peth cyntaf sy'n ein taro, mae'n debyg, yw naws `dderwyddol' y cyfan, hyn yn adlewyrchu yn rhannol, yn achos y ddau gerddor, eu hawydd i dalu i'w cenedl a'u hiaith y parch mawr a delid gan Ewropeaid eu cyfnod i bopeth hynafol. Ac onid hyn, hefyd, a awgrymir gan y ddihareb – `Dirmygir ni Welir'?

Yn gam neu'n gymwys, credent fod gan y Cymry hwythau eu gogoniannau celfyddydol ac mai'r unig reswm dros ddirmyg rhai Saeson, yn arbennig, tuag at bethau Cymreig oedd eu dygn anwybodaeth. Pe dygid y gogoniannau i'r amlwg fe ddilëid y dirmyg. Fel eraill o Gymry Llundain yn y ddeunawfed ganrif yr oeddynt am ddyrchafu eu hetifeddiaeth gerbron y byd a gosod Derwyddon yr hen Geltiaid ar yr un gwastad i doethion Groeg a Rhufain.

Ac yr oedd mwy yn y fantol na phedigri yr alawon Cymreig; mynnent ddangos hefyd y gallent sefyll ysgwydd yn ysgwydd ag alawon gwledydd Ewrop, yn arbennig felly, Lloegr. A dichon fod hyn yn fwy gwir am Ifan Wiliam nag am John Parry.

Mae lle i gredu i beth tyndra ddatblygu rhwng y ddau wedi i'r ABM gael ei gyhoeddi, hynny o berthynas i natur trefniadau Ifan Wiliam o'r alawon. Awgryma J. Lloyd Williams fod John Parry am gael trefniadau mwy traddodiadol:

Ni ellir bod yn hollol sicr fod J. Lloyd Williams yn iawn ynglŷn ag union achos y tyndra ond nid oes amheuaeth nad oedd yn llygad ei le wrth ddisgrifio nodweddion cerddorol trefniadau Ifan Wiliam ac awgrymu eu bod yn nes at chwaeth gerddorol eu cyfnod yn Lloegr – yr hyn a ystyrid yn gerddorol dderbyniol yn y salon a'r cyngerdd – na threfniadau symlach John Parry, fel y gwelir y rheini yn ei A Collection of Welsh, English and Scotch Airs (1761) a British Harmony (1781).

Dichon fod a wnelo hyn â'r ffaith fod Ifan Wiliam yn amlycach fel athro cerdd na John Parry. Perfformiwr oedd ef yn bennaf a diamau iddo lynu wrth batrymau ei athrawon traddodiadol yn Llanllyfni a Phenrhyndeudraeth yn hytrach na'u newid o dan ddylanwad astudiaethau theoretig. Yr oedd canu telyn yn haws iddo sut bynnag ac yntau yn ddall.

***

CYFEIRIWYD gynnau at y salon a'r cyngerdd; efallai y dylid fod wedi ychwanegu y neuadd neu'r ystafell ddawns, oherwydd at y dosbarth cymdeithasol a fynychai y sefydliadau hyn, a'u tebyg, yr anelai John Parry ac Ifan Wiliam eu cyfrol.

At bobl gefnog, soffistigedig, yn bennaf, y bwriadent apelio fel yr awgrymir gan natur yr offerynnau cerddorol y trefnwyd ar eu cyfer gan Ifan Wiliam a chan bris y gyfrol. Y bobl hyn, wedi'r cyfan, oedd yn pennu safonau derbynioldeb mewn moes, celfyddyd, crefydd a llywodraeth ac ar eu hargyhoeddi hwy o werth y diwylliant Cymreig yr oedd llygaid y ddau gyhoeddwr.

Rhywbeth i ddod ymhellach ymlaen mewn hanes oedd y galw am ddiwallu anghenion y Cymro cyffredin gartref yn yr hen wlad. Bu'n rhaid aros am gant a thair o flynyddoedd am gasgliad cerddorol wedi ei ddarparu yn arbennig ar gyfer 'that class which was least likely to purchase more expensive works of the same nature'. Dyna eiriau John Thomas, Ieuan Ddu, wrth gyflwyno Y Caniedydd Cymreig i'w brynwyr yn 1845, a radical o Undodwr oedd ef, yn byw mewn cymdeithas dra gwahanol i Lundain ei ragflaenwyr. Rhyngddo ef a nhw yr oedd dau chwyldro gwleidyddol mawr a chwyldro diwydiannol carlamus.

Diddorol yw sylwi ar yr honiad ynglŷn â'r alawon – 'never before published' – a'r cyfeiriad at eu cadw, yn fwyaf arbennig, gan frodorion Gogledd Cymru. Efallai y gallwn yn weddol ddiogel dynnu dau gasgliad yma: (i) nad oedd y cyhoeddwyr yn hyddysg iawn yng nghyhoeddiadau cerddorol Seisnig eu cyfnod, a (ii) fod nifer dda, o leiaf, o'r alawon yn cael eu cyflwyno i'w cynulleidfa mewn ffurfiau a oedd iddyn nhw yn sylfaenol draddodiadol.

Cawn helaethu ar y pwynt cyntaf pan awn ati i sôn am rai o'r alawon; gellir sylwi ar yr ail bwynt ar unwaith. Yr awgrym yw fod yr alawon, neu y mwyafrif ohonynt efallai, yn rhai a ddysgwyd gan John Parry yn ardaloedd y Gogledd a'u bod felly yn draddodiadol. Ac yntau yn ddall fe'u codai ar y glust a thrwy ddynwarediad, gan ychwanegu peth o'i ddawn greadigol ei hun wrth eu dysgu a'u gloywi mewn perfformiad. Dyna oedd y drefn ymhlith telynorion Cymreig y cyfnod yn gyffredinol; go brin fod llawer ohonynt yn darllen cerddoriaeth.

Hollol naturiol, felly, a fyddai i John Parry, ac Ifan Wiliam yntau, synio am yr alawon fel rhai Cymreig. A cham arall, digon naturiol, a fyddai iddynt dybio bod eu fersiynau nhw yn ddiamheuol gywir. Cam gwag, serch hynny.

Ynglŷn â cherddoriaeth werin, yr hyn a glywodd dyn, neu a dybiodd iddo ei glywed, yw y safonol ac yr ydym ni, bellach, yn ddigon cyfarwydd â'r egwyddor honno; cydnabyddwn fodolaeth amrywiadau ar un gân. Ond nid felly John Parry a'i gyfoeswyr.

Diamau yr hawliai ef fod yr alawon a chwaraeai yn union yr hyn y dylent fod. Byddai wedi ffromi yn fawr pe clywsai i Edward Jones, wedi ei farw, ei gyhuddo o fod wedi llurgunio'r alawon yn arw.

Ond nid oedd Edward yntau yn iawn chwaith; y cyfan a fedrai ei hawlio mewn gwirionedd oedd fod fersiynau John ac Ifan yn wahanol i'w fersiynau ef, nid eu bod yn anghywir.

A bwrw bod yr hyn a ddywedwyd yn weddol agos i'w le, rhaid ychwanegu at un sylw cyffredinol a wnaed. Awgrymwyd bod John Parry wedi tynnu peth ar ei ddawn greadigol ei hun wrth ddysgu a pherfformio yr alawon a glywodd yn cael eu canu gan delynorion eraill. Mae hyn yn gyson i'r traddodiad gwerin – o leiaf, fe all fod yn gyson.

Wrth dreiglo o genhedlaeth i genhedlaeth mae alawon telyn, fel caneuon gwerin, yn rhwym o newid peth ar eu ffurf. Ond dichon fod cyfnewidiadau telynorion yn fwy chwyldroadol na rhai cantorion gan fod y delyn yn offeryn mor addurniadol ei natur.

Y tebygrwydd yw fod John Parry wedi 'creu' cryn dipyn wrth baratoi yr alawon ar gyfer eu cyhoeddi ac efallai hefyd fod Ifan Wiliam, ac yntau, wedi 'golygu' tipyn arnynt yn ôl chwaeth gerddorol y gynulleidfa gefnog oedd yn debyg o brynu'r gyfrol.

***

RHAID troi bellach at yr alawon hynny a sylwi'n gyffredinol arnynt. Cynhwyswyd 24 yn y gyfrol ond ni roddwyd unrhyw fanylion am eu tarddiad; yn wir, ni roddwyd teitlau iddynt. Eithr, yng nghopi Richard Morris yn yr Amgueddfa Brydeinig, cywirwyd y diffyg hwnnw a dywedir mai Richard ei hun a fu'n gyfrifol am hynny. Mae'n demtasiwn i ddyfalu pam na chynhwyswyd teitlau yn y gwreiddiol ond rhaid ei gwrthsefyll, am y tro!

Gellir dweud yn bendant fod chwech o'r alawon, ac un arall o bosibl, wedi eu cynnwys yn wreiddiol mewn nifer o gasgliadau Seisnig a gyhoeddwyd yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Hyn a barodd inni gasglu yn gynharach nad oedd John Parry ac Ifan Wiliam yn gyfarwydd iawn â chynnwys y cyhoeddiadau Seisnig.

Nid yw hynny yn feirniadaeth arnynt wrth gwrs; eu bwriad nhw oedd cyhoeddi detholiad o alawon a genid gan delynorion Cymreig eu cyfnod; nid oedd yn rhan o'u gwaith i ymchwilio i'w tarddiad. Boed hynny fel y bo, dyma'r alawon estron (a defnyddio rhai o'r amrywiol deitlau arnynt):

Ar wahân i Burstoy gellir pennu ffynonellau y gweddill yn bendant ond nid oes ofod i wneud hynny yma. Bodlonwn yn hytrach ar rai sylwadau a allai fod o ddiddordeb cyffredinol.

Bro Gwalia yw ymdrech rhyw Gymro neu'i gilydd i osod gwedd Gymreig ar The Frog Galliard, alaw a gyfansoddwyd, ond nid o dan yr union deitl hwn, gan John Dowland, a'i chyhoeddi mewn casgliad o'i waith yn 1597. Y tebygrwydd yw mai descant ar alaw Dowland yw'r un a geir yn ABM.

Math ar ddescant, yn wir un o lawer, yw Yr hen Rogero Bengoch hithau, yn seiliedig ar gynghansail (ground bass) o Eidal yr unfed ganrif ar bymtheg: Aria di Ruggiero, ac wedi magu digon o nerth i sefyll ar ei thraed ei hun, fel ambell gyfalaw cerdd dant a geir ymhlith ein caneuon gwerin ni.

Alaw ddawns oedd Moses Salmon yn wreiddiol, i bob golwg, ac o alaw Ffrengig, Allemande Monsieur y tarddodd (math ar ddawns yw'r allemande). Fe'i bedyddiwyd gan rhyw Sais, tua 1595, yn mounsers almane ond mynnodd clust y Cymro, yn ddiweddarach, roi sain Feiblaidd i'r teitl hwnnw! Alaw ddawns hefyd oedd Mall Sims, o gyfnod Elisabeth I, ond aeth yn Mael Syms i'r Cymry.

***

HYD Y gwyddom ar hyn o bryd ni ddefnyddiwyd yr alawon a nodwyd i ganu cerddi arnynt, er bod rhai ohonynt, o leiaf, yn cael eu defnyddio gan y datgeiniaid ar gyfer canu penillion. Dyna Moses Salmon, er enghraifft, neu Moses Solomon fel y gelwir hi gan Fardd Alaw. Mae'n werth dyfynnu ei sylwadau arni yn y Cambro-Briton (Cyf. 2, t. 268):

Eithr y mae naw alaw yn y casgliad y gwyddom iddynt gael eu defnyddio ar gyfer canu cerddi, fel y cyfryw, a cheir cerddi felly mewn llyfrau fel Blodeugerdd Cymry (Dafydd Jones o Drefriw, 1759), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Gol: T.H. Parry-Williams) ac Eos Ceiriog, gwaith Huw Morus a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Wallter Mechain yn 1823.

Mae'n wir fod rhaid symleiddio yr alawon ar brydiau, yn ogystal â chywasgu ac ymestyn ambell ymadrodd yn y cerddi, ond daw'n amlwg, o ddygnu arni, fod y farddoniaeth a'r gerddoriaeth yn perthyn ynghyd.

Wrth gwrs, rhaid cofio dau beth yn y cyswllt hwn: (i) mai diddordeb telynorion oedd gan John Parry ac Ifan Wiliam yn yr alawon a'u bod felly yn eu haddurno ar gyfer eu hofferynnau, gyda'r canlyniad nad yw'n hawdd, bob amser, i gyrraedd at sgerbwd yr alawon, a (ii) y byddai'r hen gantorion, yn aml iawn, yn canu yn ddigyfeiliant ac felly yn trin gair a nodyn gyda chryn ryddid.

Awgrymwn fod yr alawon canlynol, felly, yn cael eu defnyddio gan feirdd a chantorion fel ei gilydd. Diamau fod rhai, os nad y cyfan ohonynt, hefyd, yn hwylus ar gyfer datgeiniaid cerdd dant:

Mae pedair alaw arall y gellir, yn weddol hyderus, eu cysylltu â cherddi:

Marged Fwyn y'ch Ifan; Triban Lewis Llwyd; Y Gerddinen; Mwynen Môn.

Y gyntaf yw un o'r rhai mwyaf diddorol yn yr holl gasgliad, yn gyfyng ei chylch – bron i gyd o fewn graddfa chwe nodyn – ac, ar wahân i 5 o'r 24 bar sydd iddi, yn seiliedig ar ddau gord. Tybed a yw hyn yn dangos cysylltiad agos i'r crwth? Cynnwys un ffurf ar yr offeryn hwnnw chwe llinyn, gyda dau ohonynt yn agored, hynny yw, i'w tynnu yn unig, gan gynhyrchu effaith gyffelyb i'r drôn ym mhibau Albanwr.

O safbwynt geiriau ar gyfer yr hen alaw cofier bod cyfres o Hen Benillion ar gael (gweler Rhif 647 yn Hen Benillion T. H. Parry-Williams) a fu'n dra phoblogaidd ymhlith datgeiniaid, ac yn clodfori un o Amazoniaid Cymru fu! Gyda throi rhannau o'r alaw yn symffonïau, hynny yw, yn gymalau i'w canu â'r delyn yn unig (ac arferid gwneud hyn gan rai o ddatgeiniaid y ddeunawfed ganrif) gellid canu'r Hen Benillion hyn arni yn hwylus ddigon.

Mae'r un peth yn wir am Triban Lewis Llwyd; gan ddefnyddio penillion triban yn y cyswllt hwn, wrth gwrs. Hyd yma ni welsom gerddi o ffurfiau penodol yn gysylltiedig â'r ddwy alaw arall ond mae'n amlwg y gellid canu geiriau iddynt a bod iddynt ffurfiau symlach na'r rhai addurniedig a geir yma, – yn arbennig, gellid meddwl, ar gyfer telynorion.

***

ERYS pedair alaw: Meillionen; Hoffder Arglwydd Strain; Ffarwel Philip Ystwyth; Sidanen.

Cysylltir y gyntaf, yn neilltuol, â dawnsio, a dichon fod hynny'n wir am yr ail hithau. Mewn hen faled a gyfansoddwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg, Deisyfiad Cantores am gael ei gwisgo a rhai o'r prif Geinciau, yn lle Dillad, cyfeirir at Streins Morus a thybed ai enw arall oedd hwn ar Hoffder Arglwydd Strain? Os felly, mae'n debyg mai ar gyfer dawns forus y defnyddid hi.

Ymddengys Ffarwel Philip Ystwyth (o ba ran o'r Cwm, tybed, ynteu a oedd yn athletwr o fri?) fel ymarferiad cerddorol, nifer o amrywiadau byr ar raddfa G fwyaf, ac y mae'n rhesymol casglu hefyd mai alaw telyn, a dim arall, yw Sidanen.

Y mae, wrth gwrs, nifer o gerddi i Sidanen (gweler Canu Rhydd Cynnar, T.H. Parry-Williams, tt. 373-80 a Blodeu-Gerdd Cymry, t. 241) ond ar gyfer alaw arall o'r enw Sidanan y bwriadwyd y rheini (un a fenthyciwyd oddi arnom gan y Saeson, gyda llaw). Yn bur bendant, ni ellid eu canu ar hon, mewn unrhyw ffurf.