COFION - Y Golygydd

Os mai union ddigon oedd yna i lenwi’r rhifyn diwethaf, fe ddaeth ymateb goludog y tro yma gan adael mymryn o gefn ar gyfer rhifyn 3 Nadolig - ond tipyn o alw o hyd am gydbwysedd o gyfraniadau gweddol fyr. Ac, i gwblhau hanes yr achos, fe gododd y cylchrediad i saith gant a hanner erbyn hyn; nid yw'r mil yn amhosibl. Mae'r pwrs hefyd yn iach a ninnau'n talu'n ffordd yn ddigon da i sicrhau na bydd codiad y flwyddyn nesaf chwaith yn y tâl aelodaeth a'r tâl am hysbysebion.

Fe rydd hysbysebion llyfrau ail-law foddhad arbennig. Am fod, llyfrwerthwyr yn mentro gosod pris ar y cyfrolau mae peth sefydlogi a safoni prisiau yn datblygu. Mae'r ddyled yn fawr i'r llyfrwerthwyr hyn ac fe haeddant gefnogaeth dda iawn.

Datblygiad arall - mae Gwyn Jarvis wedi ymddeol fel Trysorydd y Gymdeithas wedi pum mlynedd o wasanaeth gwirfoddol hynod werthfawr. Bellach fe gyfunir gwaith y Trysorydd a dyletswyddau Rheolwr yr Hysbysebion - sy'n briodas resymegol. Felly Richard Lewis fydd yn llenwi'r ddwy swydd o hyn ymlaen.

Y BABELL

Bydd cornel Cymdeithas Bob Owen fel arfer ym mhabell y wasg ddiddorol - a dibynnol yn bur aml - sy'n argraffu Y Casglwr, sef Gwasg Gwynedd. Cewch groeso, cewch gyfle i dalu dyledion, medrwch ddod â rhai o'r newydd i ymaelodi, a chael gafael, efallai, ar ôl-rifynnau.

Y DDARLITH

Gan mai yn un o ystafelloedd darlithio'r Coleg mae'r Babell Lên eleni a wnewch chi gofio mai yn DARLITHFA B y bydd darlith flynyddol y Gymdeithas eleni. Mae mewn safle gyfleus yn yr un adeilad ag ystafell y Babell Lên.

Cynhelir y ddarlith gan yr Athro Brynley F. Roberts ddydd Mawrth am 12.30 - yr unig amser y llwyddwyd i'w sicrhau. Y testun yw - Llyfrgell Gymraeg Abertawe. Mawr hyderir y rhoddir cefnogaeth dda i'r athro gweithgar sy'n gymaint o gefn i Gymdeithas Bob Owen.

Y SÊL

Fel yr hysbysebwyd eisoes cyflwynodd Dr E.D. Jones effemera - neu fanion, os mynnwch - a argraffwyd gan Wasg Gregynog; pethau na welir mohonynt ar werth yn gyffredin. Mae pump o'r pethau bach yma yn rhaglenni pump o wasnaethau crefyddol rhwng 1934 a 1938, a'r chweched yn cynnwys, fel y gweddill, eiriau a genid mewn Gŵyl Gerddorol yng Ngregynog yn 1937. Maent i gyd yn Saesneg.

Fe werthir y rhain fesul un i'r uchaf ei gynnig mewn arwerthiant cyhoeddus yn union ar ôl y Ddarlith amser cinio ddydd Mawrth, ac y mae Dr E.D. Jones yn cynnig yr arian i Gymdeithas Bob Owen.

Un o'r materion diddorol ynglŷn â’r arwerthiant yma yw’r dirgelion ynglŷn â’r prisiau – am na fedrir yn hawdd eu cymharu ag unrhyw fân-drysorau cyffelyb.

HEN GYFAILL

CHWITH gennym gofnodi marw Watcyn Owen, Andalusia, Pwllheli, yn 55 oed, yn ysbyty Clatterbridge. Bu'n gelnogwr selog i'r Casglwr, ac yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Bob Owen, a chrwydrodd ymhell ac yn agos i gasglu llyfrau. Deuai o hen deulu morwrol ym Mhwllheli, a bu am gyfnod yn brentis yn y Llynges Fasnach. Graddiodd wedyn yng Ngholeg Dewi Sant Lianbedr Pont Steffan, a bu'n athro yn Dagenham, Trinidad, a Gwlad yr Haf. Dychwelodd i'w dref enedigol, a chadwodd yno gornel gynnes i Gymraeg a Chymreigrwydd. Cydymdeimlwn â'i weddw Edwina, a'i ferch Eira Gwawr.