CEINIOGWERTH O DDOSBARTHU gan Olive Jones
RAI blynyddoedd yn ôl bellach, fe'm denwyd gan deitl un o gylchgronau byrhoedlog y ganrif ddiwethaf, sef Y Geiniogwerth, ac addunedais y byddwn rywdro yn bwrw golwg ar ei gynnwys oedd yn werth ceiniog ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd arian yn brin a chyflogau'r werin yn arswydus is na dim y gallwn ni ei ddychmygu.
Wrth ddarllen am Y Gymraes a Y Frythones yn Y Casglwr Mawrth 1982, cofiais unwaith eto am Y Geiniogwerth, a chan fod gennyf ddigon o hamdden erbyn hyn, dyma bicio i'r Llyfrgell Genedlaethol a chyflawni'r hen adduned o fwrw golwg ar y cylchgrawn.
Argraffwyd a chyhoeddwyd Y Geiniogwerth yn Ninbych gan Thomas Gee. Ni enwir golygydd yn y gyfrol gyntaf, ac ni nodir golygydd yng nghatalog cyffredinol y Llyfrgell Genedlaethol chwaith. Misolyn oedd y cylchgrawn, a chanfûm mai pum cyfrol flynyddol ohono a gyhoeddwyd, a hynny rhwng 1847 a 1851. Crefyddol yw ei naws drwyddo bron, a gallwn dybio mai at aelodau'r Ysgolion Sul yr anelwyd ef, ac er na ddiystyrwyd y plant, i oedolion y bwriadwyd ef yn bennaf.
***
YSGRIFAU ar y Beibl, ar bynciau diwinyddol, ac ar hanes crefydd, ambell bregeth, cwisiau ar y Beibl, a newyddion o'r capeli yw'r cynnwys ran fwyaf, ond er hynny ceir yn y gyfrol gyntaf bedair ysgrif fer o ryw ddwy dudalen yr un yn ymwneud â llyfrau a darllen.
Yr un fwyaf diddorol a pherthnasol i ni heddiw, o gofio cymaint o alw sydd ar ehangu cylchrediad cylchgronau Cymru, yw'r un sy'n sôn am nodweddion dosbarthwr da ar Y Geiniogwerth. Dyma nhw (a'r sillafu wedi'i ddiweddaru) fel y rhestrir nhw yno:
- 'Mae yn mynnu ei sypyn i law erbyn dechrau'r mis'. Rhoddir pwyslais mawr ar brydlondeb, a dywedir bod y cyhoeddwr yn gwneud ei ran ef mewn pryd bob amser. Roedd gorfod aros am gopi 'yn peri diflastod ac yn lladd yr awch' am ei ddarllen.
- 'Mae yn rhoddi enw pob derbynnydd ar ei rifyn' - peth digon dibwys ynddo'i hunan, falle, ond credir bod hyn yn ychwanegu at urddas y fargen, yn ei gwneud yn swyddogol-reolaidd, ac yn cydnabod gwerth pob derbynnydd unigol.
- 'Hyd y byddo modd, mae yn rhoddi ei rifyn yn llaw pob un o'r derbynwyr yr un diwrnod, a'r diwrnod hwnnw fydd y dydd cyntaf o'r mis'. At bwysigrwydd prydlondeb, ychwanegir yma'r pwysigrwydd o roi'r un chwarae teg i bob derbynnydd.
- 'Mae fel y gelen bendoll, ni ddywed byth digon o dderbynwyr i'r Geiniogwerth', ac oherwydd hynny mae'n credu mewn hysbysebu'r cylchgrawn. Un ffordd o wneud hynny oedd gofyn i'r pregethwyr ei gyhoeddi yn y capeli, a byddai hynny yn sicrhau darllenwyr newydd.
- 'Mae yn arfer hefyd ei chymell rhwng llaw a llaw ar hwn a'r llall yn barhaus', a hynny ar bawb, beth bynnag fo'u daliadau crefyddol, a hyd yn oed ar bobl ddigrefydd. Dull y cymell oedd adrodd hanesyn diddorol o'r cylchgrawn, i ennyn chwilfrydedd a fyddai'n deillio ar holi am ffynhonnell yr hanesyn, a thrwy hynny roi cyfle ardderchog i hysbysebu'r Geiniogwerth. Diwedd stori'r cymell oedd 'A ddymunech chwithau ei chael? Nid yw yn costio ond ceiniog yn y mis, ac y mae yn werth pedair neu bum ceiniog wrth fel y gwerthir llyfrau yn gyffredin.'
- 'Mae yn fanwl iawn gyda hel yr arian i fewn yn yr amser.' Y rheswm a roir am hyn yw y bydd pawb yn siŵr o'i ddarllen wedi talu amdano, gan fod ar bawb eisiau gwerth eu harian.
***
DYWEDIR hefyd bod rhwng ugain mil a phum mil ar hugain o gopïau yn cael eu gwerthu bob mis, ond y gellid yn hawdd codi'r rhif hwn i ddeugain mil pe ceid dosbarthwr da ym mhob ardal a thref.
A'r rheswm a roddir am geisio cynnydd yn y cylchrediad yw bod y misolyn yn adeiladol ac yn llesol, ac yn ddylanwad da ar bobl Cymru. Does yna'r un sôn am ochr ariannol-faterol y fenter!
Ganrif union yn ddiweddarach na dyddiad yr uchod, yn 1947, fe es i'n athrawes i Abergwaun, ac yno roedd dosbarthwr ar lenyddiaeth Plaid Cymru oedd yn ymgorfforiad o'r dosbarthwr da a ddisgrifir yn Y Geiniogwerth – neb llai na'r diweddar D.J. Williams, wrth gwrs, ac fe fyddai yntau yn credu'n gryf yn ei genhadaeth mai er lles pobl Cymru yr oedd yn ceisio hybu gwerthiant papurau'r Blaid; ni soniai fyth am gyllid nac elw.
Tybed a oes dosbarthwyr tebyg yn dal yn y tir? Mae'n siŵr fod y papurau bro yn dibynnu ar ddosbarthwyr yn meddu ar rai o'r nodweddion uchod, a falle y galent roi cyfle i ragor o bobl debyg gyfrannu at ddiwylliant eu hardaloedd a hybu gwerthiant papurau bro trwy `gymell' personol ar eu cyd-blwyfolion.