BEILI GLAS gan Brynley F.Roberts

ENW fferm yn ardal y Rhigos (Pontwalbi, Glyn-nedd) yw Beili Glas, ond mae'n fwy cyfarwydd yn enw ar rif 15 Chaddesley Terrace, Abertawe, ac yn enw barddol y gŵr a drigai yno, un o brif lyfryddwyr Cymru yn ei ddydd, sef D. Rhys Phillips.

Cafodd oes hir, 1862-1952, a thrwy gydol ei faith flynyddoedd ni fu ei selocach yn hyrwyddo achos y Gyngres Geltaidd, yn cefnogi ymchwil lyfryddol ac yn ysgrifennu hanes ei ddyffryn genedigol.

Ymfalchïai ei fod yn gallu olrhain ei dras i hen deuluoedd dyffryn Nedd yn y Rhigos, Aberpergwm, Pontneddfechan. Ganwyd ef yn y Beili Glas, fferm ei dad-cu, ond ym Melin-cwrt, Resolfen, y magwyd ef, ac yno ac mewn ysgolion yn Abertawe y cafodd ei addysg.

Awchai am ei ddiwyllio'i hun a dilynai lwybrau cyfarwydd yr oes, – cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar draethodau a barddoniaeth, anfon adroddiadau ac ysgrifau i'r Darian a phapurau Cymraeg eraill, a darllen papurau yn y cymdeithasau diwylliannol Cymraeg a Saesneg.

Daliodd ati i lunio erthyglau byrion ar amrywiol bynciau trwy gydol ei fywyd, llawer ohonynt yn ddarlithiau ac yn sgyrsiau poblogaidd (ceir rhestr yn cynnwys nifer ohonynt yng nghefn ei lyfr The History of the Vale of Neath).

Saesneg yw eu hiaith gan amlaf ac ychydig o ysgrifau Cymraeg a geir ganddo (yn Cymru, Y Genhinen a'r Ford Gron), ond gosodai bwys mawr ar gymdeithasau Cymraeg, – Cymmrodorion Abertawe, a honno a sefydlodd ei hun i ddarllen llyfrau Cymraeg ac i grwydro pentrefi hanesyddol Abertawe a Chwm Nedd, sef Cymdeithas Mabinogion Abertawe, y cyhoeddwyd casgliad o'i thrafodion 1912-1916 yn 1917.

***

YN 1893 cafodd Rhys Phillips le yn gysodydd ac yn ddarllenydd yng ngwasg Walter Whittington, Castell-nedd, ac ar unwaith gwelwyd dau o brif destunau'i ddifyrrwch yn ymgyfuno, crefft argraffu llyfrau a hanes ei fro.

Argraffodd ar ei wasg ei hun ychydig gopïau o gerddi gan fardd lleol, Dafydd Griffith, Rheola, a hefyd gerdd gan y bardd gwlad, Evan Bevan o Bontneddfechan, "Helgan y Beili Glas. D.R.P. yng Nghastell-nedd 1893: A Hunting Song ... Translated by D.R. Phillips. W. Whittington, Neath, 1893".

Dyma'r adeg hefyd yr ysgrifennodd hanes argraffu yng Nghastell-nedd i Charles Ashton.

Wedi treulio saith mlynedd gyda Whittington, cafodd swydd yn ddarllenydd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen yn 1900. Bu wrthi'n dilyn cyrsiau mewn llyfrgellyddiaeth ac ef a olygodd yr argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1908.

Ond yr oedd wedi dychwelyd i Gymru erbyn hynny, i swydd newydd Cynorthwywr Cymraeg yn Llyfrgell Bwrdeisdref Abertawe. Codasai angen i rywun cymwys gatalogio a goruchwylio casgliad enfawr Robert Jones Rotherhithe a oedd yn sylfaen y Llyfrgell Gymraeg yno ac i ddatblygu'r casgliad ymhellach. Ymroes Rhys Phillips i'r gwaith, ac o 1905 ymlaen, llyfrgell D. Rhys Phillips oedd y llyfrgell honno.

Bu'n gwylio'i buddiannau'n ofalus, yn prynu pob llyfr Cymraeg newydd, yn sicrhau copïau o gynifer o lyfrau a phamffledi lleol ag a allai, a phorai'n ddyfal yn ei drysorau llyfryddol. Er na chyhoeddodd gatalog cyflawn, ei gardiau ef yw sail y mynegai presennol, ac mae ôl ei law i'w weld yn llythrennol yno hyd heddiw.

Ef oedd y llyfrgellydd cyntaf o Gymru i ennill Diploma Cymdeithas y Llyfrgelloedd (yn 1912) ac etholwyd ef yn F.L.A. y flwyddyn wedyn. Gwnaed ef yn Llyfrgellydd Cymreig a Cheltaidd y Llyfrgell ac yn 1923 dyrchafwyd ef yn Gyd-lyfrgellydd, swydd a ddaliodd nes iddo ymddeol yn 1939.

Yr oedd yn llyfrgellydd proffesiynol, yn fyw i anghenion darllenwyr ac i ddyletswyddau llyfrgell gyhoeddus, ond yr oedd yn Gymro trwyadl fel mai anghenion Cymru a gâi'i sylw bob amser.

Dwy enghraifft nodedig o hynny yw'i erthygl 'Library Policy and Provision in Wales' (1917) sy'n galw am gyswllt nes rhwng llyfrgelloedd ac ysgolion, a'r rhestr o lyfrau ar Gymru a baratoes ar gyfer y llyfryn chwaethus hwnnw, A Nation and its Books (1916).

***

OND yr oedd ei ddiddordeb yn ddyfnach na hyn a gwelodd fod angen cymdeithas a fyddai'n astudio hanes llyfryddiaeth ('neu lyfroneg') Gymraeg.

Gosododd allan egwyddorion disgrifio llyfrau a'r meysydd ymchwil mewn araith arloesol, Maes Llafur Llyfryddwyr Cymru, Rhydychen, 1909, a draddododd yn ail gyfarfod cymdeithas y bu ef yn un o'i phrif sylfaenwyr yn 1906.

Cymdeithas Lyfryddol Cymru oedd hon, i 'hyrwyddo a chefnogi ymchwiliadau yn hanes llyfryddol Cymru'. Ef ei hun oedd ei hysgrifennydd o'r dechrau cyntaf hyd 1951 a diau mai dyma'i gofgolofn mwyaf teilwng. Cyfrannodd nifer o erthyglau a nodiadau i'w Chylchgrawn, a chyhoeddodd yn ogystal astudiaethau defnyddiol eraill megis The Romantic History of the Monastic Libraries of Wales (1912), Llyfryddiaeth Owain Glyndŵr (1915).

Cyfle i gydio'i waith fel llyfrgellydd â'i sêl dros y gwledydd Celtaidd oedd The Celtic Countries, their literary and library activities (1915) oblegid ef oedd un o sylfaenwyr y Gyngres Geltaidd a'i hysgrifennydd o 1917 hyd 1925. Golygodd bedair cyfrol gyntaf ei Thrafodion, a bu'n foddion hefyd i sefydlu Gorsedd Cernyw a'i dwyn i ymgysylltu â'r chwaer orseddau yng Nghymru a Llydaw.

***

YR oedd yn aelod gweithgar o'r Orsedd, yn Drefnydd yr Arholiadau, a bu'n eisteddfodwr brwd erioed. Cystadlai'n gyson ar draethodau gan ennill gwobrau am ei waith ar hanes cerddorion yn 1931 a 1932, ac atgofion am fywyd Bro Morgannwg yn 1938.

Ond ei brif wobr oedd y canpunt a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1918 am draethawd ar hanes Dyffryn Nedd.

Yn 1895 yr oedd wedi darllen papur i gymdeithas yn Resolfen, 'The Vale we live in', a deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn 1925, cyhoeddodd ei orchestwaith The History of the Vale of Neath. Ni ddywedir pwy a argraffodd y llyfr hwn o dros 800 o dudalennau, ond 500 o gopïau a gyhoeddwyd ar gost yr awdur ei hun a'u gwerthu i danysgrifwyr am ddwy gini yr un.