ARGRAFFIADAU PRIN EMYR HUMPHREYS gan E.D.Jones
EFALLAI mai fel nofelydd y mae'r rhan fwyaf o ddarllenwyr Y Casglwr yn edrych ar Emyr Humphreys, a chawsom nifer o nofelau pwysig ganddo. Ond y mae ganddo hefyd ffurfiau llenyddol eraill na roddwyd cymaint o sylw iddynt.
Fel ei llyfr cyntaf dewisodd Gwasg Chimera yn 1979 wneud argraffiad arbennig o ddilyniant o gerddi Saesneg o'i eiddo o dan y teitl Landscapes.
Fe'u hargraffwyd ar wasg llaw gan Michael Hutchins ar bapur Wookey Hole, gyda monoprintiau o hynafiaethau Cymreig pwrpasol o waith Keith Holmes.
Rhwymwyd deg copi o Landscapes mewn felwm ystwyth wedi ei glymu â rhubanau melfed o saith ugain mewn chwarter felwm gydag ochrau papur marmor.
***
YN dilyn cyhoeddi Landscapes, a argraffwyd mewn teip Garamond, cyhoeddodd Keith Holmes ddau waith seiliedig ar y Mabinogion. Yn lle defnyddio teip traddodiadol torrodd y testunau ar leino gan lunio rhai llythrennau arbennig iddo'i hun.
Mae rhwymiad y ddau lyfr o'r un defnyddiau i rhwymiad Landscapes, gyda monoprintiau o'r un natur wedi eu seilio ar hynafiaethau Cerrig, sef Coetan Lanyon (Cernyw) Grianin Ailech (Donegal), Saethau'r Diafol (sir Efrog), ac Entremont (Ffrainc) yn The Kingdom of Brân, a meini hirion a maen a thwll ynddo (Men an tol, Cernyw, hwyrach), yn Pwyll a Rhiannon.
Mae'r ddau lyfr hwn o waith Emyr Humphreys ar bapur llawer mwy nag yn y Landscapes, ac y mae pob dalen yn mesur 325 wrth 250mm. Papur 'Arches Velin Cuve BFK Rives' a ddefnyddiwyd i'r 15 copi gorau a phapur 'Barcham Green RWS Rough' i'r can copi arall. Gyda phob un o’r ddau y mae set ychwenegol o'r darluniau, y cyfan mewn blychau pwrpasol.