YR OEDD YNA HEN GLAWDD TERFYN ~
William Jones ar R.Dewi Williams

GŴR BYR, cydnerth oedd Robert Dewi Williams, ysgwyddau llydain, cerddai'n drwm, a'i draed yn taflu ychydig at allan. Yr oedd yn lân o bryd a'i ddillad yn drefnus. Coler wen bob amser a'i dei yn debyg i'r glöyn byw tywyll yn mwynhau ei hun yn ei le ar flodyn gwyn. Nis gwelid un amser allan heb ei het, ac nid wyf yn siŵr na hoffai ei gwisgo mewn ystafell weithiau, ac yn fwy aml na heb byddai ar ei ben pan dynnid ei lun.

Yr oedd ei deulu i gyd o'r bron yn amaethwyr. Magwyd ef mewn cwm hyfryd a'r afon yn rhedeg gyda'i odre, ond ni chefais i'r argraff ei fod yn fawr o bysgotwr. Ar ochr y cwm a wynebai'r dwyrain y'i magwyd yn llygad haul y bore. Hyfryd fyddai mynd â'r cefn at yr haul yn y bore a wynebu'r ffermydd oedd ar y llechwedd ysgafn hwn. Y Fron deg a'i wyneb gwyn; yn nes i'r ffordd o Lanrwst i Abergele llechai Llwyn-llydan, a Nant Erw; yn uwch drachefn Pantymanus, ac yn is i lawr Tŷ Gwyn, ac yn is wedyn Llwyn-du-isaf, cartref Dewi Williams, a'r lle y'i magwyd yn un o chwech, ei frawd ac yntau a'i bedair chwaer; daeth tair ohonynt yn wragedd gweinidogion y Gair.

Cyn mynd i'r weinidogaeth bu'n gweithio ar y fferm yn Llwyn Du. Enw a fabwysiadodd pan aeth i'r Coleg oedd Dewi - Bob Llwyn Du oedd i'w gyfoedion. Aeth i'r weinidogaeth yn ŵr ifanc ym 1889. Ar ôl bod yn Ysgol John Price yn y Pandy aeth i gael peth addysg at ei gefnder sef Robert Roberts, Y Sgolor Mawr a gadwai ysgol yn Llanfair Talhaearn, ond yn y Bala, Aberystwyth a Rhydychen y cafodd ei drwytho yn y clasuron.

Cafodd ei ordeinio ym 1900 a mynd i Cesarea Arfon yn weinidog, wedi hynny ym 1914 i Benmaenmawr ac ar derfyn y Rhyfel 1914-18 yn bennaeth ar Ysgol Eben Fardd, Clynnog ac yn dilyn yn 1929 i Goleg Clwyd, gan ymddeol i fyw ei flynyddoedd olaf yn Rhuddlan.

***

SYLWODD yn fanwl pan oedd yn ieuanc ar y bywyd gwledig. Mwynhad iddo oedd cael disgrifio ei arferion a'i offer, mewn stori, ysgrif a phregeth. Drwy ffenestri Llwyn-du yr edrychodd ar fywyd hyd nes dyfod i'r filltir olaf. Gwyddai sut i drin cryman a bwyell, medrai hogi a chael min ar rasel gyda'r gorau, a'r un modd ar bladur a thwca.

Parchai bersonoliaeth bob dyn; 'roedd hynny yn rhan o'i fawredd fel athro ar ddosbarth amrywiol eu doniau. 'Roedd ganddo flew garw yn drwch o dan ei drwyn a gallasai wneud ar lai yno a chael mwy ar ei ben. Pan dueddai i orfeddwl, os dyna'r priodol air, gwasgai flaen y blew i'w wefusau. Gallai fod yn ddreng ond gŵr addfwyn ydoedd wrth natur a theimladwy hyd dagu gan eiriau, a dagrau ddeuai'n gynt na gwên. Yn aml iawn, gwisgai sbectol ond tynnai hi weithiau, a'i dal rhwng dau fys i yrru gwers adref, a'r saib yn effeithiol.

Pan fyddai'n pregethu nid fel gwynt nerthol yn rhuthro y caech ef yn y pulpud ond yn hytrach fel yr awel falmaidd yn adfywiol ei rhin. Disgrifio cymeriad oedd ei gryfder yn y pulpud, er iddo wneud cwrs diwinyddol yn Rhydychen.

Pregethai ar y ddewines o Endor yn cael mwy o sylw na Samuel gan Saul y brenin. Dyn mewn perygl o gofleidio ofergoeliaeth yn ei gyfyngder, heb sylweddoli, yn ei gryndod ofnus, fod mwy o werth mewn esgyrn proffwyd nag yn addewidion gau dewines. Gocheler swyn y byd oedd byrdwn ei genadwri.

***

GALLASAI sgwrsio am ddyddiau ei ieuenctid yn rhydd iawn. Pan oedd yn bedwar ugain oed, daeth i mi un o freintiau mwyaf fy mywyd, sef cael cysgu yn yr un llofft ag ef yng Ngwesty'r Celtic yn ystod Sasiwn y Gogledd yn Llundain yn Nhachwedd 1953. Gan fy mod yn hanu o'r un cylch ag yntau, melys a gwerthfawr a fu'r sgwrsio.

Cofiai ef bobl y clywais innau lawer o sôn amdanynt; a chof bachgen am y lleill. Y mae hon a hon, meddai, wedi marw yn tydi, gan ddweud ei henw morwynol - Isabella. Ni wyddwn i hynny er ei bod yn berthynas pell i mi. Ond gwyddwn ei bod yn hen gariad iddo a dywedodd yntau hynny yn y sgwrs; fe'i siomodd wedi iddynt dreulio blynyddoedd yn gariadon o ddyddiau ysgol. Credaf mai amgylchiadau teuluol a gyfrifai am iddi briodi ei chefnder.

Gwyddwn yr hanes drwy fy nheulu. Parhaodd yntau i gadw lle cynnes iddi yn ei galon i'r diwedd, ac aeth i weld John ei mab i gydymdeimlo ag ef yn ei brofedigaeth. Dywedodd hyn wrthyf y noson honno. Fy nghred i, yn gam neu gymwys yw na fedrir deall rhai pethau yn ei fywyd heb wybod am hyn; collodd rywbeth na ddaeth yn ôl iddo.

Fel yr awgrymwyd eisoes, trwy lygad ei fro yr edrychai ar fywyd, a'i farnu hefyd. Yng nghefndir ei gynefin bore y lleolodd ei storïau. Er nad ydynt i gyd yn llythrennol wir, fe welodd ei gymeriadau yno a'u gwisgo i siwt o'i wneuthuriad ei hun, fel y gwnaeth Daniel Owen â Thomas Bartley a Barbara, ac eraill.

Wrth edrych i'r gogledd ddwyrain o'i gartref, Llwyn Du, yr ochr arall i'r afon, beth yn nes i Langernyw, y gwelodd y 'clawdd terfyn' ac yno yr erys hefyd. Ond yr oedd y ddau ffermwr yn byw ymhell oddi wrtho, un yn Fraenos, a'r llall bellter byd ym Modrach. Morris Hughes, y Melinydd drachefn – nid hen lanc ydoedd yn wreiddiol, ond trwyddo ef y traddododd y neges oedd ganddo yn y stori. Cafodd frethyn yn ei hen gwmwd, ond yr oedd wedi ei liwio mor dda, fel mai camp oedd adnabod y defnydd.

Gofynais iddo yn y llofft yn y Celtic ai hwn a hwn oedd ganddo yn ei feddwl, gan enwi un y clywais lawer o sôn amdano ac a fu'n felinydd. Nage, oedd yr ateb, ond fe gofiwch chwi hwn a hwn gan enwi'r gŵr. Cofiaf yn iawn, meddwn, a'i briod hefyd. "Ie" meddai, "un ofer iawn oedd ef yn ifanc, wyddoch chi, a chafodd brofedigaeth a newidiodd ei fywyd." Fe wn yn awr ble cafodd ei edafedd i'r brethyn, ond wedi ei liwio'n gain, camp oedd ei adnabod.

Nid wyf fi yn cofio fy nhaid o ochr fy nhad, ond bu Dewi Williams yn canu tenor mewn pedwarawd gydag ef ac Isabella, oedd ar y pryd yn canu alto. Fel hyn y terfyna ei lythyr olaf ataf. "Efallai y daw Sasiwn rhyw dro eto pan gawn gysgu yn yr un llofft i orffen y sgwrs gynt, ond rhaid i'r Sasiwn honno ddyfod yn fuan neu fe fydd yn rhy ddiweddar." Ysywaeth ddaeth hi ddim.

***

GWIR grefydd iddo ef oedd honno a gyrhaeddai ddynion heb ymdrechu, fel crefydd Paul a Silas yn y carchar yn dylanwadu wrth ganu a gweddïo, heb geisio ennill neb ar y pryd, ond serch hynny, yn gwneud, gan achub Ceidwad y Carchar a'i deulu, faint bynnag yn rhagor o'r carcharorion a welodd wawr byd gwell.

Y mae gennyf fath ar gerdyn trwchus a nodiadau arno wedi eu hysgrifennu ganddo a'i law ei hun ar y testun Act 16.15 Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddio, ac yn canu mawl i Dduw a'r carcharorion a'u clywsant hwy. Hon oedd un o'r pregethau olaf a draddododd a hynny yn y capel lle y'i magwyd, ac y mae yn nodweddiadol ohono.

***

YR OEDD yn llawn direidi. Cofiaf ef yn beirniadu yn Eisteddfod y Pandy yn yr hen ysgol lle cafodd ei wersi cyntaf, yn yr ardal lle bu ei dad a'i frawd yn flaenoriaid ac yn addurn bro. 'Roedd ym mhentref y Pandy yn y dyddiau a gofiai ef, res o dai, a oedd er yn ddigon glân, yn ddihareb am fagu'r teulu sy'n blagus yn y gwely. Yn yr Eisteddfod dan sylw yr oedd eisiau gorffen pennill, a'r llinell a wnaeth rhywun yn cyfeirio at hynny. Un o'r Pwyllgor a wnaeth y tair llinell, un ai o fwriad neu o anwybodaeth, ond gwyddai'r beirniad am y sôn a oedd gynt. Gwelaf ef y munud hwn yn cellwair, a'r gynulleidfa yn dal ei gwynt, cyn iddo ddweud y llinell olaf.

Credaf fod tri englyn yn dangos yn eglur rai nodweddion o'i eiddo. Ei gydymdeimlad dwfn yn yr englyn, 'Hiraeth y fam a gollodd ei phlentyn'.

Yna craffter gwladwr yn yr englyn sydd ar ddiwedd stori'r Clawdd terfyn.

Gofidiai wrthyf yn y sgwrs yn y llofft, nad oedd yn fanwl gywir! Ar englyn hysbys i'r efrydydd, ar ôl clywed am dro byrbwyll un o'r hoffusaf o'i ddisgyblion:

Gwyddai nad oedd y ddau olaf yn fanwl gywir.

***

CARODD ei efrydwyr a gwyddai eu hynt a'u helynt yn burion i'r diwedd. Byddai ganddo syniad am ddyfodol ei ddisgybl, ar wahân i'w allu. Sylwai a oedd ganddo lais siarad da, nid llais pregethu, ond llais siarad. Edmygai hynny yn fawr mewn gŵr cyhoeddus. Clywais ef yn enwi rhai y sylwodd fod ganddynt lais siarad da pan oeddynt yng Nghlynnog.

Ysgrifenodd ar "Ddyddiau Mawr mebyd" i'r Drysorfa, ond un o ddyddiau mawr ei henaint oedd cyfarfod aduniad o'r hen ddisgyblion yng Nghlynnog ym Medi 1954. Cafodd fwynhad tu hwnt yn hwnnw.

Clawdd Terfyn. Straeon byrion.
Dyddiau Mawr Mebyd — ymddangosodd yn y Drysorfa ym mlynyddoedd Golygyddiaeth y Parch Huw Llewelyn Williams.
Mwgwd yr Ieir — stori a geir yng nghasgliad Syr T.H. Parry-Williams.