YR HEN RYFEDDOD O LANGWM ~
Syr Thomas Parry a daucanmlwyddiant Huw Jones

Y MAE eleni'n ddaucanmlwyddiant marw Huw Jones o Langwm. Ar wahân i erthygl y Parch. Ernest Wynne yn Y Bywgraffiadur ychydig iawn sydd wedi ei ysgrifennu am Huw Jones. Yn wir ychydig iawn a wyddom am ei fywyd personol - pryd y ganed ef, pwy oedd ei rieni, pa faint o deulu oedd ganddo. Gwyddom fod ganddo un mab, ac iddo farw at ddiwedd 1782 a'i gladdu yn Efenechdyd. A dyna'r cwbl, ac eto yr oedd yn gymeriad adnabyddus iawn yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif.

Mewn llythyr at Edward Richard ar 20 Mai 1761 meddai Lewis Morris,

Y mae enw Huw Jones yn digwydd lawer gwaith yn llythyrau'r Morrisiaid a Goronwy Owen, ond nid yn ysbryd y dyfyniad yna. Gelwir ef yn llymgi, chwiwgi, penbwl, dylluan, bungler ac enwau dilornus eraill. Er hynny fe wnaeth ef gryn gymwynas â'r gwŷr hyn, ac â Chymru gyfan.

Fe ddywedir mai gwas ffarm ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond y mae'n sicr ei fod yn ennill ambell geiniog trwy ganu a gwerthu baledi ac actio anterliwtiau. Y mae'n agos i gant o faledi Huw Jones ar gael, ac nid ydynt na gwell na gwaeth na'r llu mawr a gyhoeddwyd yn ei gyfnod – y mesurau poblogaidd cymhleth, y clecian cynghanedd, y moesoli helaeth a'r storïau am ddigwyddiadau cyffrous y dydd.

Cyfansoddodd bedair anterliwt, sef Dangosiad o'r Modd y darfu i'r Brenhin Dafydd odinebu efo Gwraig Urias; Hanes y Capten Factor, sef ei daith i Smyrna a Venis a'r Modd y dioddefodd lawer o adfyd ar for a thir; Ymddiddan rhwng Protestant a Neillduwr; Histori'r Geiniogwerth Synnwyr . . . neu hanes Marchiant mawr o Lloegr a hoffodd Butain o flaen ei wraig; ac fel y cafodd ei Droedigaeth. Nid oherwydd y rhain y mae Huw Jones yn haeddu cael ei gofio, a gallwn fforddio eu hanwybyddu am y tro.

***

EI WIR gymwynas oedd cyhoeddi dau lyfr. Ond cyn trafod y rheini sylwer mor gyndyn y bu beirdd a hynafiaethwyr Cymru i ddefnyddio'r wasg argraffu i gyhoeddi barddoniaeth. Rywbryd cyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg cyhoeddodd Gruffydd Robert ychydig o englynion a chywyddau ar ddiwedd ei Ramadeg, efallai fel rhan ohono.

Ond er bod toreth o gerddi Beirdd yr Uchelwyr ar gael nid argraffwyd dim ohonynt gan y beirdd na'r ysgolheigion diweddarach, gwŷr fel Gruffudd Hiraethog, John Davies, Jaspar Gryffyth, Richard Langford, Roger Morris, Robert Vaughan, William Maurice a'u tebyg. Gwell oedd ganddynt hwy gopïo popeth â llaw, a thalu i gopïwyr, na'i roi yn y wasg.

Cerddlyfr Ffoulke Owen, Nantglyn, yn 1686 oedd y cais cyntaf i gyhoeddi barddoniaeth Gymraeg mewn llyfr argraffedig. Yna caed Carolau a dyrïau duwiol Thomas Jones, Amwythig, yn 1696, sef y rhan fwyaf o'r Cerddlyfr a thua chant o gerddi eraill. Wedyn bwlch go hir hyd 1759, pan gyhoeddwyd Blodeu-gerdd Cymry gan Dafydd Jones o Drefriw.

Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, cerddi ar y mesurau carolaidd, difyrrwch gwerin gwlad, oedd cynnwys y llyfrau hyn.

Yn 1759 hefyd y cyhoeddodd Huw Jones y llyfr Dewisol Ganiadau yr Oes hon, ac arbenigrwydd hyn yw ei fod yn cynnwys, yn ei ran gyntaf, gywyddau gan feirdd dysgedig y cyfnod – William Wynn o Langynhafal, Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Rhys Jones o'r Blaenau. Y mae'r ail ran yn cynnwys cerddi carolaidd gan Elis y Cowper, Jonathan Hughes, Huw Jones ei hun ac eraill cyffelyb.

Bu cryn fynd ar y llyfr hwn, oherwydd caed ail argraffiad yn 1779 a thri arall erbyn 1827.

Ymhen pedair blynedd, sef yn 1763, cyhoeddwyd ail lyfr Huw Jones, Diddanwch Teuluaidd, yn cynnwys 43 o gerddi Goronwy Owen, 46 o rai Lewis Morris, ac 20 o rai Huw Huws (Y Bardd Coch). Hefyd un cywydd a rhai englynion gan Robin Ddu o Fôn, llanc pedair ar bymtheg oed.

Casgliad o farddoniaeth beirdd Môn yw'r llyfr, fel y gwelir, ac y mae iddo gryn bwysigrwydd. Ar ei ddiwedd y mae'r golygydd yn addo ail lyfr o `waith Beirdd Dinbych, Meirion ac eraill.' Ond ni chywirwyd mo'r addewid.

***

CAFODD Huw Jones lawer o help gan y Morrisiaid a chan eraill, ac nid hawdd penderfynu beth yn union yw ei gyfran ef o'r gwaith. Y mae G.J. Williams, yn y monograff Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw, t.t. 36-8, wedi astudio'r holl gyfeiriadau sydd yn llythyrau'r Morrisiaid at Huw Jones a'i lyfr, a dyma'r hanes: Yn gynnar yn 1761 galwodd i weld Huw Huws yn Llwydiarth Esgob, ger Llannerch-y-medd ym Môn, a chafodd gopïau o'i farddoniaeth. Aeth wedyn i Gaergybi i ofyn i William Morris am farddoniaeth ei frawd Lewis, ond gyrrodd William ef i weld Lewis ei hun yn Sir Aberteifi, a rhoi llythyr cymeradwyaeth iddo. Erbyn Mehefin yr oedd Huw wedi cael y cerddi gan Lewis, a chyrhaeddodd Lundain yn nechrau Gorffennaf i wneud trefniadau ar gyfer argraffu.

Beth am waith Goronwy Owen? Yr oedd ef wedi mynd i'r America yn 1757, ond cyn mynd yr oedd wedi hel ei gerddi at ei gilydd, gan fwriadu eu cyhoeddi'n llyfr, ac wedi eu rhoi i John Owen (nai'r Morrisiaid) yn Llundain.

Dechreuwyd casglu tanysgrifiadau ym Môn ac yn Llundain, ond wedi i Oronwy droi ei gefn nid oedd neb am drafferthu, a bu raid talu'r arian yn ôl. Y mae'n bur sicr mai'r casgliad hwn, wedi ei ddewis gan Oronwy Owen ei hun, a gafodd Huw Jones ar gyfer ei lyfr.

Bu Huw Jones yn ôl ac ymlaen i Lundain dair neu bedair o weithiau tra bu'r llyfr yn y wasg. Cafodd gan William Roberts, y gŵr oedd yn argraffu'r Diddanwch, argraffu'r anterliwt Capten Factor, ac ym Mai 1762 daeth yn ôl i Gymru i actio honno a gwerthu copïau, a dyna fu'n ei wneud drwy'r haf. Yr oedd yn fis Hydref arno'n dychwelyd i Lundain.

Yn y cyfamser yr oedd yr argraffu'n mynd yn ei flaen, a Richard Morris yn Llundain a William Morris yng Nghaergybi yn darllen y proflenni. Mwy na thebyg na ddarllenodd Huw Jones ei hun yr un broflenni. Sut bynnag, gadawodd Lundain yn Awst 1763 gyda phwn o'r llyfrau i'w rhannu i'r tanysgrifwyr hyd y wlad.

***

AR ddechrau'r Diddanwch Teuluaidd y mae enwau tuag 800 o danysgrifwyr, pob gradd a dosbarth o ddynion, yn foneddigion a gwŷr eglwysig a chrefftwyr.

Yr oedd rhai boneddigion yn hael eu nawdd – Owen Meyrick, Bodorgan, yn cymryd deg copi, Lady Stanley, Penrhos, chwech, a Paul Panton, Plas Gwyn, pedwar. Archebwyd hanner cant gan Gymdeithas y Cymmrodorion.

Un peth trawiadol ynglŷn â'r rhestr yw mai ym Môn ac yn Llundain yr oedd y rhan fwyaf o lawer o'r tanysgrifwyr. Yr oedd tipyn yn Siroedd Dinbych a Meirionnydd, ond yn rhyfedd iawn, ychydig bach yn Sir Gaernarfon, a llai byth yn siroedd y De.

Yr awgrym yw mai William Morris a Huw Huws ym Môn a Richard Morris a'i gyfeillion yn Llundain oedd wedi gweithio mwyaf dros y llyfr. Nid oes dim arwydd fod Lewis Morris wedi gwneud fawr ddim yng Ngheredigion, na bod Huw Jones wedi bod yn casglu enwau yn y De.

Ar y dechrau hefyd ceir cyflwyniad i William Vaughan o Gorsygedol, Penllywydd y Cymmrodorion, a chyfarchiad maith yn Saesneg yn canmol yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth i "William Parry, Esq; Deputy-Comptroler of His Majesty's Mint in the Tower of London and Secretary to the Cymmrodorion Society."

Dywedir ar yr wynebddalen mai argraffydd y Cymmrodorion oedd William Roberts. Rhwng hyn i gyd, a bod y Morrisiaid wedi gofalu am y proflenni a'r Cymmrodorion wedi tanysgrifio'n hael, y mae'n amlwg mai fel cyhoeddiad y Gymdeithas yr edrychid ar y llyfr.

***

OND beth oedd cyfran Huw Jones? Gellir honni'n gwbl deg mai ef a wthiodd y cwch i'r dŵr. Yr oedd Lewis Morris wedi gwrthod cyhoeddi gwaith Goronwy Owen, er bod y bardd ei hun wedi ei hel at ei gilydd. Nid oes dim amheuaeth nad brwdfrydedd Huw Jones fu'r symbyliad cyntaf i gyhoeddi'r Diddanwch Teuluaidd. Casglodd ryw gymaint o enwau tanysgrifwyr, ond ni wyddom faint, a daeth â'r holl stoc o lyfrau o Lundain i Gymru a'u lledaenu ymysg y tanysgrifwyr – gorchwyl llafurus iawn yn amgylchiadau'r oes honno.

Pwysigrwydd y llyfr yw hyn: am gant namyn tair o flynyddoedd nid oedd nifer sylweddol o gerddi Goronwy Owen i'w cael yn unman arall. Nid cyn 1860 y cyhoeddwyd holl waith Goronwy, sef Gronoviana, gan John Jones, Llanrwst.

Gresyn mawr yw gorfod gorffen hyn o drafodaeth â dyfyniad o lythyr oddi wrth Richard Morris at Ieuan Fardd, 31 Mai 1766, bron i dair blynedd ar ôl cyhoeddi'r Diddanwch:

"O'r llymgi penllwyd Llangwm! fe andwyodd yr hen Wm. Roberts y printiwr, yr hwn a fu'n yr holl gost o brintio'r Diddanwch iddo, ac yntau a gymerodd yr holl lyfrau i'r wlad i'w gwerthu heb dalu i'r hen ŵr truan am danynt; a gorfu arno fyned i Dŷ gweithio'r plwyf yn ei henaint a musgrellni i gael tamaid o fara, lle y bu farw, wedi i'r chwiwleidr Llangwm ei ddifuddio o'i holl eiddo."