YM MÔN - LLENOR COCOS HEFYD ~
Dafydd Wyn Wiliam ar gymar i'r Bardd

FFERM helaeth ym mhlwyf Ceirchiog ym Môn yw Bodfeddan ac yn 1851 mesurai 220 o erwau. Yno, yn 1816, y ganed Hugh, seithfed plentyn Hugh a Catherine Rowlands. Ganed pedwar yn rhagor o blant ar ôl Hugh i'r rheini cefnog a pharchus. Merch Rhosbadrig ym mhlwyf Aberffraw oedd y fam a bu teulu'r tad yn byw ym Modfeddan am dros 'fil o flynyddoedd'. Penodwyd y tad yn un o ddau uwch gwnstabl Cwmwd Llifon yn 1807.

Gwybu Hugh Rowlands, y mab, flynyddoedd tra helbulus ar y ddaear a chofnododd ei helbulon ynghyd ag amrywiaeth o bethau eraill mewn dau lyfryn - Llyfr Hanes Fy Mywyd I Hugh Rowlands (1880) a chyfieithiad o'r rhan helaethaf ohono - The Life Of Hugh Rowlands (d.d.). Fe gynnwys y trosiad Saesneg atodiad o Ysgrifau Cymraeg. Dengys y llyfrynnau hyn i'r awdur brofi trafferthion enbyd a chwerw. Fe'i carcharwyd ddwywaith ym Miwmares ar gam a threuliodd rai misoedd yn niwedd ei oes yn Seilam Dinbych. Torrwyd asgwrn ei ben gan ddyn meddw a bu llond cwpan o waed yn cronni yn ei ben am dair blynedd cyn llifo allan trwy'i glust. Bu fyw am ddeugain niwrnod heb fwyd. Tua'r flwyddyn 1843 fe briododd weddw John Humphries o Dŷ Mawr yn Llanddeiniolen ac yno y bu hyd tua 1860 yn llawn ei helbul gyda'i wraig a'i lysblant. Dychwelodd i Fôn, cael ei wrthod gan ei deulu a therfynu ei ddyddiau mewn dygn dlodi. Yn ei dro bu'n brynwr tatw, yn borthmon moch a gwartheg ac yn fasnachwr glo.

Ymddengys bod Hugh Rowlands yn argraffu ei lyfrynnau yng Nghaergybi a'i fod yn elwa rhyw gymaint wrth eu gwerthu fel y dengys y dyfyniad hwn o hanes ei fywyd:

Credaf fod teitl y llyfryn yn niwedd y dyfyniad uchod wedi ei newid i 'Traethawd Ar Amrywion Bethau' ac fe ddigwydd bod copi cyflawn yn fy meddiant. Y mae'n llyfryn eithriadol bwysig gan ei fod yr unig waith o'r ganrif o'r blaen y gwn i amdano sy'n beirniadu'r Methodistiaid Calfinaidd yn gwbl gignoeth.

Myn Hugh Rowlands fod y Corff Methodistaidd yn gwbl bur a dilychwin hyd at y flwyddyn 1834 eithr wedi hynny fe lygrodd yn enbyd. Sbarblins oedd y pregethwyr diweddar a'u holl fryd ar ysmygu. Gwaeth fyth yr oedd eu moesau yn rhemp:

Beirniedir y Parchedig Simon Fraser am ei fod yn foliog ac wrth ei weld yn rhodresa ni feddyliai neb iddo gael 'ei fagu mor dlawd a Shon Shop gynt'. Yr unig rai a dderbyniai dal am wasanaethu ar y Sul oedd 'Hwrs a Phregethwyr yr Hen Gorph.' Eto fyth yr oedd y Methodistiaid yn defnyddio arian y Genhadaeth Dramor i brynu tai yn Lerpwl ac 'ugeiniau o Hwrs respectable yn byw ynddynt'. Ceid hefyd nifer o hen lanciau ym Môn 'yn cadw hŵrs yn eu tai a rhai merched wedi marw wrth gymryd ryw fath o wenwyn at miscario . . .' Barnai'r awdur nad oedd un mewn pump o aelodau'r Methodistiaid yn cadw dyletswydd nos a bore ac am ganiadaeth y cysegr ni cheid namyn:

Diau fod Cyfarfod Misol Methodistiaid Calfinaidd Môn wedi disgyn fel barcud ar y cyhoeddiad uchod ac wedi difetha pob copi ond fy nghopi i! Nid yw'n amhosibl mai cyhoeddi'r llyfryn enllibus hwn a barodd i'r awdurdodau ddal ar eu cyfle i osod yr awdur yn Seilam Dinbych. Sut bynnag ni all neb ymroi i astudio hynt a helynt y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn yn y ganrif o'r blaen heb ddarllen gwaith Hugh Rowlands yn fanwl. Bu farw ym Mangor a'i gladdu 10 Mehefin 1886, yn Eglwys blwyf Llanbeulan.

Wele restr o'i gyhoeddiadau:
1. Traethawd Ar Amrywion Bethau, gan Hugh Rowlands, Bodfeddan, Mon (d.d.) tt.24. Credaf gyhoeddi'r gwaith tua 1874.

2. Llyfr Hanes Fy Mywyd I Hugh Rowlands, Bodfeddan, Mon, Yn Gyflawn Yn Y Flwyddyn, 1880. (d.d.) tt.32.

3. The Life Of Hugh Rowlands, Bodfeddan, Anglesey. (d.d.) tt. 3 2.

4. Llyfr Newydd, Yn Dangos Y Ffordd Hawsaf I Ddeall Yr Ysgrythurau. Gyda Sylwadau Buddiol Ar Amryw Faterion (d.d.). tt.16.

5. Llyfr Newydd I'r Cymry!! Am "Fesur Y Deml A'r Allor," (seiliedig a'r Dat. xi. I). Ynghyda sylwadau Buddiol Eraill. (1886 ar y clawr allanol ac 1885 ar y wyneb ddalen) tt. 1- 16.

6. Llyfr Newydd I'r Cymry!! Am "Fesur y Deml A'r Allor," (seiliedig a'r Dat. xi, 1.) Ynghyda Sylwadau Buddiol Eraill. (1886). tt.16.