Y LLYW OLAF gan E.D.Jones
ELENI ym mlwyddyn cofio lladd 'Llywelyn ein Llyw Olaf' fe gyhoeddir nifer o gyfrolau ar gwymp Tywysogaeth Cymru. Yn wir, y mae rhai eisoes ar werth yn y siopau, ac y mae disgwyl am gyfrol Mr Jenkyn Beverley Smith a fydd yn ymdrin yn fanwl â'r cyfnod.
O safbwynt casglwyr, y pwysicaf, yn ddiamau, yw llyfryn cyfyngedig i ddau gan copi a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog. Y teitl yw Llywelyn 1282.
Mae'n cynnwys testun awdl farwnad fawreddog Gruffudd ab yr Ynad Coch wedi ei golygu gan yr Athro Gwyn Thomas gyda chyfieithiad Joseph P. Clancy wedi ei ddiwygio ganddo ef ei hun. Mae gan Gwyn Thomas ragair byr i gyflwyno'r gerdd.
Cynlluniwyd y ddalen deitl a'r ddwy lythyren ddechreuol addurnedig (0 a H) mewn coch a du gan Jonah Jones. £13 yw'r pris a bydd cip arni, os na fydd wedi ei gwerthu allan cyn yr ymddengys y rhifyn hwn o'r Casglwr.