Y GWARCHODFEYDD NATUR ~
Haf H.Roberts yn cyflwyno llwnyddiaeth
Y MAE i Gymru oherwydd amrywiaeth helaeth ei chynefin nifer o warchodfeydd natur a sefydlwyd gan wahanol gyrff gyda'r bwriad o geisio diogelu'r bywyd gwyllt sy'n gynhenid iddynt. Fe all ambell i warchodfa fodoli er mwyn gwarchod un neu fwy o rywogaethau prin ond gan amlaf dewisir y safle fel yr enghraifft orau bosib o ryw fath o gynefin arbennig, gyda'r adar a'r anifeiliaid nodweddiadol a gysylltir ag ef.
Drwy gyfyngu mynediad i'r rhai hynny sy'n gofyn am reolaeth arbennig (codi tâl a gofyn am drwydded benodol) mae gobaith cadw ffrwyn ar ddirywiad y safleoedd.
Ceir dros 176 o warchodfeydd yng Nghymru dan ofalaeth tebyg lle caniateir mynediad dan amodau arbennig; adlewyrchiad o'r ymwybyddiaeth o'n hetifeddiaeth gyfoethog a'r awydd i arbed mannau allweddol yn wyneb datblygiadau ym myd diwydiant ac amaeth.
Oherwydd eu pwysigrwydd gwyddonol ac esthetig, darperir llyfrynnau cyfeiriadol i'r ymwelydd i'r gwarchodfeydd fel cyflwyniad cyffredinol i'r safle, ac yn aml rhoir manylion disgrifiadol o'r nodweddion amlycaf, e.e. yr anifeiliaid a'r adar a geir yno.
Y Cyngor Gwarchod Natur sy'n bennaf gyfrifol am gadwraeth natur ym Mhrydain a bu sefydlu'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, 'NNR' (National Nature Reserves), ar hyd a lled y wlad i neilltuo'r mannau pwysicaf ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol i'r perwyl hwn. Y Cyngor sy'n gyfrifol am oddeutu 35 o warchodfeydd yng Nghymru, rhai ar y cyd â chymdeithasau natur neu dirfeddianwyr eraill (fel y Comisiwn Coedwigaeth a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae nifer o lyfrynnau a thaflenni diddorol ar gael i'r cyhoedd yn y canolfannau hyn e.e. Coed Cymerau NNR (1968), Coedydd Maentwrog NNR (1974), Penmoelallt Forest Nature Reserve (1970?), South Gower Coast Nature Reserves (1979), Cors Tregaron NNR (1975), Dyfi NNR (1973), ac Ynyslas Dunes, Dyfi NNR (1979).
Mae amrywiaeth o gyhoeddiadau pellach i'w cael, yn daflenni unigol neu yn bamffledi sy'n delio â'r gwahanol agweddau o'r warchodfa, yn disgrifio trywydd llwybr natur o fewn y safle, neu'n anelu at ysgolion drwy roi cefndir addysgol i blant a chyfarwyddyd i athrawon: Llwybr Natur Cwm Idwal (1977), Snowdon NNR: Cwm y Llan Nature Trail (1966, ail argr. 1967), Ynyslas Sand Dune Nature Trail (1981).
Ar gyfer plant ysgol sy'n ymweld ag Ynyslas ceir y llyfrynnau canlynol: Ynyslas Nature Trail for Primary Schools (ail-argraffiad 1981), Ynyslas Middle School Guide (1981) a'r Ynyslas Students' guide (1980, 1981) i'r rhai hŷn.
Cyhoeddir y tri llyfryn olaf gan Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru dan nawdd y Cyngor Gwarchod Natur. Cymdeithasau lleol y naturiaethwyr hynny sy'n ymddiddori ym mywyd gwyllt eu hardal sydd berchen ar y nifer fwyaf o safleoedd gwarchod yng Nghymru.
***
SEFYDLIADAU o naturiaethwyr rhanbarthol neu sirol yw'r gwahanol Ymddiriedolaethau ac ymhlith eu cyhoeddiadau mae'r llawlyfrau sy'n rhestru lleoliad a nodweddion y gwarchodfeydd a berthyn iddynt: Guide to Reserves, Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru (1980), Handbook of nature reserves, Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Morgannwg (3ydd argr., 1971), Brief history and handbook to nature reserves, Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru 0976), Guide to nature reserves, Ymddiriedolaeth Natur Henffordd a Maesyfed (1979).
Yn wahanol i gyhoeddiadau'r Cyngor Gwarchod Natur nid yw'r uchod ar werth ond i aelodau'r Ymddiriedolaethau priodol fel rheol, er bod caniatâd i ymweld â'r mwyafrif o'r gwarchodfeydd yn ddiamod neu drwy geisio hawl i fynd i'r rhai hynny sydd dan oruchwyliaeth arbennig.
Y mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi sefydlu pum gwarchodfa yng Nghymru, a chroesewir ymwelwyr iddynt bron yn ddieithriad ond adeg y tymor nythu. (Y mae rhai amodau mynediad i warchodfeydd o bwysigrwydd mawr os ydyw achosion cadwraeth i barhau, gan y gall gorddefnydd ddinistrio'r amgylchedd).
Trafodir cefndir cyffredinol pob gwarchodfa a'i bwysigrwydd o safbwynt yr adar a'r anifeiliaid cysylltiedig yn y pamffledi gogyfer â phob un: Gwenffrwd and Dinas Reserve (1976) Dyfed, South Stack Cliffs Reserve (1978) yng Ngwynedd, Lake Vyrnwy Reserve (1979) ym Mhowys, ac Ynyshir (1981), nepell o Ynyslas, Dyfed.
Ar wahân i gymdeithasau natur mae eraill yn gyfrifol am sefydlu safleoedd gwarchod natur, yn dirfeddianwyr fel y Comisiwn Coedwigaeth, Cynghorau lleol (Cyngor Sir De Morgannwg, Cyngor Sir Gwent) ac ysgolion (Ysgol Uwchradd y Trallwng, Ysgol Uwchradd Penarlâg), ac ambell dro bydd cyhoeddiadau gan fwy nag un gymdeithas gan fod nifer ohonynt yn cydweithio i warchod safle mewn man arbennig, e.e. Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth a'r pamffled Ystwyth Forest: Black Covert Forest Walk and Coed Allt Fedw Butterfly Reserve (1977).
***
ER NAD yw'r Parciau Gwledig yn warchodfeydd yng ngwir ystyr y gair (maent dros 25 acer o faint) y mae iddynt swyddogaeth debyg o safbwynt cadwraeth ar waetha'r ffaith eu bod yn ardaloedd adloniant y bywyd agored i ddinaswyr, a'u lleoliad nepell o ganolfannau diwydiannol.
Maent yn arbed mewnlifiad gormodol o ymwelwyr i'r gwarchodfeydd eraill mwy anghysbell ac archolladwy, ond yn galluogi ysgolion yn ogystal ag eraill i ddefnyddio'u hadnoddau at addysg neu adloniant. Mae llyfrynnau hynod ddiddorol i'w cael o'r ardal hon, un ohonynt ydyw Afan Argoed Country Park, gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg (1979), gyda lluniau da a darluniau a mapiau lliw o'r ardal.
Mae'r cyhoeddiadau a enwyd o ddiddordeb amgenach nag i'r ymwelwr achlysurol i'r ardal a'r llyfrynnau o werth yn eu hunain i'r casglwr sydd yn ymddiddori ym mywyd gwyllt Cymru. Gresyn nad oes mwy ohonynt i'w cael yn y Gymraeg, fel y ddau o'r Cyngor Gwarchod Natur: Llwybr Natur Cwm Idwal, (1977), a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Ynyslas: LIwybr natur Ysgolion Cynradd.
Petai mwy o alw am lyfrynnau Cymraeg efallai y gellid goresgyn y diffyg hwn, a dyma lle gall ysgolion lleol a chymdeithasau natur tebyg i Gymdeithas Edward Llwyd lenwi'r bwlch, drwy ddenu defnydd a gwerthfawrogiad gan Gymry, o'r adnoddau sydd yn y gwarchodfeydd.