WILLIAM PRICE -A'I DRYSORAU gan Rhidian Griffiths
YN oriel enwogion Cymru un o'r cymeriadau hynotaf a mwyaf lliwgar yw William Price, Llantrisant (1800-93): meddyg, derwydd, hynafiaethydd, ac arloeswr amlosgi. Rai blynyddoedd yn ôl cafodd cyfaill i mi gyfle i weld ewyllys y gŵr rhyfedd hwn, a nododd deitlau'r llyfrau a restrir yno. Efallai y bydd y rhestr o ryw ddiddordeb i ddarllenwyr Y Casglwr.
Dechreuwn gyda gwaith digon adnabyddus. 'Cymmerian Grammar' yw'r disgrifiad yn yr ewyllys. Mae'n fwy cyfarwydd i ni fel Gramadeg Siôn Dafydd Rhys (1534-ca.1609), neu i roi iddo ei deitl llawn, Cambrobrytannicae Cymraecaeue linguae institutiones et rudimenta, a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1592.
'Roedd gan Price ddiddordeb mawr mewn ieithoedd yn gyffredinol – honnai fod ganddo grap ar y rhan fwyaf o ieithoedd Gorllewin Ewrop – ac yn arbennig yn hen iaith y Cymry. Yn 1838 apeliodd yn aflwyddiannus am arian i godi tŵr yn ymyl y Maen Clwyf ym Mhontypridd; yno bwriadai gadw ysgol ac amgueddfa i ddiogelu iaith a diwylliant yr hen Frythoniaid.
'Does dim rhyfedd felly fod ganddo hefyd yn ei feddiant dair cyfrol y Myvyrian archaiology of Wales. Yma câi hen farddoniaeth a thraddodiadau, croniclau a chyfreithiau, cywir a dychmygol. Ac er na feddai Price ddychymyg amlochrog Iolo Morganwg, fe etifeddodd rywfaint o falchder Iolo yn hen draddodiad derwyddol ei sir.
Ond nid at Gymru a'i gorffennol yn unig y gogwyddai meddwl Price. Ymddiddorai yng nghrefyddau'r Dwyrain ac yn hanes yr hen fyd. Adlewyrchir hyn yng ngwaith Charles François Dupuis (1742-1809), L'origine de tous les cultes (Gwraidd yr holl grefyddau), a gyhoeddwyd yn 1795.
Er iddo gael ei ordeinio'n offeiriad, cefnodd Dupuis ar yr eglwys ac ymroi i fyd y gyfraith. 'Roedd yn Lladinwr da a bu'n astudio seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth, gan gasglu yn y diwedd mai ym mhatrymau'r sêr yr oedd esbonio holl dueddiadau crefyddol dyn.
Dyna'i safbwynt yn y gwaith hwn, sy'n gymysgedd o ddysg eang a rhagfarn noeth. Ond gan mai anuniongred hollol oedd syniadau crefyddol Price ei hunan, mae'n hawdd credu fod llyfr o'r math yma wrth ei fodd.
***
RHYWBETH tebyg yw'r llyfr Stonehenge, a temple restor’d to the British druids, a gyhoeddwyd yn 1740. Hwn yw gwaith enwocaf yr hynafiaethydd Saesneg William Stukeley (1687-1765), gŵr digon tebyg i Price, yn ôl yr hanes. Bu'n feddyg yn Holbeach ac yn Llundain, ac ef oedd un o sylfaenwyr y Society of Antiquaries.
Ystyriai mai derwyddiaeth oedd crefydd gynhenid Prydain, a chadwai deml dderwyddol yng ngwaelod yr ardd. Ffrwyth llafur llawer blwyddyn oedd y gyfrol ar Stonehenge, cyfrol ffolio ddarluniadol sydd eto yn gymysgedd o ragfarn ac ysgolheictod.
Ni ellir dweud hynny, fodd bynnag, am gampwaith ysgolheigaidd Bernard de Montfaucon (1655-1741), L'antiquité expliquée et representée en figures. (Yr hen fyd wedi ei esbonio a'i ddarlunio). Cyhoeddwyd hwn yn ddeg cyfrol ym Mharis yn 1719, ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg ychydig flynyddoedd ar ôl hynny.
Mab i deulu bonedd oedd Montfaucon, a dechreuodd ar yrfa filwrol. Ond goddiweddwyd ef gan ysfa i astudio, ac ymneilltuodd yn fynach. Golygodd holl weithiau Athanasiws a nifer o bethau eraill gan y tadau. Perthynai i draddodiad ysgolheigaidd ei urdd a choleddai'r safonau o gywirdeb hanesyddol a fabwysiadwyd gan Mabillon a mynachod St Maur.
'Roedd ei brif waith, L'antiquiti expliquie, yn boblogaidd o'r cychwyn cyntaf: gwerthwyd yr argraffiad gwreiddiol o 1800 o gopïau o fewn dau fis. Dyma wyddoniadur yr hen fyd, gydag arweiniad i'w grefyddau, ei adeiladau, a'i arferion; a cheir safon uchel o ddylunio yn y gwahanol gyfrolau. Hwyrach mai'r gyfrol gyntaf, ar arferion crefyddol, a ddenai fryd Price fwyaf.
***
MAE'N werth cofio, serch hynny, fod gan Price dipyn o gefndir clasurol. Ymhlith ei lyfrau cawn argraffiad Joshua Barnes o Iliad ac Odysseia Homer (1710). Clasurwr pur oedd Barnes (1654-1712): dywedid amdano ei fod yn ysgrifennu'n rhwyddach yn yr iaith Roeg nag yn Saesneg! Yn 1695 fe'i dyrchafwyd i'r Gadair Roeg yng Nghaergrawnt.
Yn ei argraffiad o Homer golygodd y testun Groeg gyda nodiadau golygyddol yn Lladin. Ond go brin iddo fynd mor bell a Price ei hunan, a hawlio bod Homer yn frodor o Gaerffili!
Erys un gwaith nad wyf yn siŵr ohono. Disgrifir ef fel '6 vols. History of the Native Tribes of America'. Cyhoeddwyd History of the Indian tribes of North America gan Thomas Loraine McKenney a James Hall rhwng 1836 a 1844, ond tair cyfrol yn unig sydd i hwnnw – onibai fod gan Price ddwy set.
Arbenigrwydd y llyfrau hyn yw'r lluniau lliw o Indiaid Cochion a geir ynddynt: os mai'r rhain oedd ym meddiant Price, tybed ai yma y cafodd rai o'i syniadau gwreiddiol am wisg? Ond efallai y bydd gan rai ohonoch awgrym mwy pendant ynglŷn â'r gwaith hwn.
Mae yna hen air sy'n dweud fod llyfrau dyn yn allwedd i'w gymeriad. Yn sicr nid yw'r rhestr yma'n adrodd y stori'n gyflawn: er enghraifft, o ystyried poblogrwydd Price fel meddyg, disgwyliem weld ambell i lyfr ar feddygaeth neu lysiau.
Ac eto, 'roedd ei ddoctora yr un mor anuniongred â'i gredoau: ym myd natur ac yn rhodfeydd y sêr y câi ei atebion i gyd. Mae'n debyg felly fod y cyfrolau hyn yn llefaru'n ddigon huawdl am y cymeriad rhyfedd William Price.