RHAMANT YR HEN GARIWR ~ Portread gan Robin Gwyndaf
- Duw rhai yw eu bol,
Ond Duw Siôn Parry yw ei geffyl a'i drol –
Byddai casglu lluniau'r 'cariwrs' hyn mewn gwahanol ardaloedd a chofnodi eu hanes yn gyfraniad gwerthfawr.
Manteisiodd sawl cariwr gwlad ar ddatblygiadau technolegol yr ugeinfed ganrif a rhoi hoe ymhen yr hir a'r rhawg i'r hen geffyl a'r drol a mentro ar geffyl dur – y sharabang, car modur neu lori, a mentro hefyd (os mentro yw'r gair priodol) ar gario pobl, yn ogystal â nwyddau.
Nid oes angen gwell enghraifft o barhad traddodiad na'r hyn a gafwyd yng Ngherrigydrudion, a phwrpas yr ysgrif fer hon yw sôn ychydig am ŵr o'r fro honno - teulu yn wir, - a brofodd y newid o'r hen i'r newydd, o gario cwningod a glo gyda cheffyl a throl i gario plant i'r ysgol yn y cerbyd diweddaraf mwyaf datblygedig o un o ffatrïoedd Leyland.
***
EI ENW llawn yw Robert Christmas Jones, ond Bob, neu 'Bob Stanley Shop', i bawb o'i gydnabod, o bell ac agos. Pan ofynnais iddo un bore stormus o Hydref eleni yn ei gartref presennol, Yr Efail, Pentrefoelas, o ble y cafodd ei enw canol, ei ateb ydoedd: 'Diwrnod Dolig (1902) y cês i ngeni.' Ac ychwanegodd ei chwaer, Ellen, gyda gwên fawr o'r gornel arall: 'a sosej gês i i'nghinio!' (Fe'i ganed hi yn 1891, a bu yn yr ysgol yn Rhyd-ddu yr un adeg d T.H. Parry-Williams.)
O Ryd-ddu y deuai teulu'i dad, ond yng Ngherrigydrudion yr oedd gwreiddiau teulu'i fam. Perthynent i hen deulu Parry'r Queen. Yr oedd ei daid, Robert Edwards, tad ei fam, yn saer, a saer hefyd oedd John Edwards, brawd ei daid. Bob a Jac Goch oedd eu llysenwau ac yr oedd y ddau yn adnabyddus am eu diddordeb mewn canu.
Cofiai'r diweddar Lewis Evans, er enghraifft, eu gweld pan oedd yn hogyn yn dawnsio ar y Llan i sain telyn Cornelius Wood, y Sipsi; ac yn un o gyfarfodydd Gŵyl Ddewi yng ngwesty’r Llew Gwyn cofiai glywed John Edwards yn canu'r fersiwn diddorol hwn o hen bennill telyn:
- Mi af oddi yma o gam i gam
I dŷ Modryb Ann, y bobreg;
Mi gaf yno gacen gri
A hefyd fara canthreg;
A bendith Duw it, Modryb Ann,
Roi imi ddarn cwpaned.
Chwarelwr oedd David John Jones, tad Bob, cyn iddo golli'i olwg ar yr Wyddfa. Symudodd y teulu o Ryd-ddu i Frymbo, a mam Bob, Ann Alice, a gariai ben trymha’r baich bellach. Agorodd siop groser a beth-bob-peth yno, a'i phriod yn cario fel y gallai.
Yn Ael y Bryn, Brymbo, y ganed Bob, ond ym 1912 symudodd y teulu eto, y tro hwn yn ôl i'r Cerrig, i dŷ yn Nhop Llan. Fe'i galwyd yn Stanley Shop, oherwydd mai Stanley Place oedd yr enw ar yr hen res o dai a safai gynt lle'r adeiladwyd wedi hynny yr orsaf dân.
Dyma'r adeg yr oedd Llyn Alwen, Gwaith Dŵr Pentrellyncymer, yn cael ei baratoi ar gyfer diodi trigolion Glannau Mersi, ac yr oedd cryn fynd a dod ar hyd y ffordd o'r Cerrig heibio Stanley Place am Bentrellyncymer. Gwelodd ei fam gyfle i agor siop ffrwythau a llysiau, a chododd Tegid Owen siop fechan ychydig yn uwch i fyny, gyferbyn â'r Efail, iddi gael gwerthu pysgod a sglodion.
Ac y mae'n rhaid eu bod yn sglodion da oherwydd y mae'r cof am yr hen 'siop tships' fach honno yn dal yn fyw hyd heddiw ymhlith trigolion hynaf y pentref, er i'r siop ddiflannu ers blynyddoedd maith.
***
YN ddeuddeg oed yr oedd Bob yn ymadael o'r ysgol (Ysgol yr Eglwys, Cerrigydrudion) ac yn mynd â'i dad gyda'r ferlen a'r drol o gylch Pentrellyncymer a'r Cerrig i werthu ffrwythau a llysiau – gwaith yr oedd yn hen gybyddus ag ef eisoes. Ar eu 'rownds' byddent yn prynu cwningod a wyau er mwyn eu hail-werthu.
A dyma'r cyfnod hefyd yr arferai plant y cylch ddod â wyau cornchwiglod i'w fam i'r siop. Trefnai hithau wedyn eu bod yn cael eu gwerthu yn Lerpwl.
Yn Haf 1916 – a hynny ar ddiwrnod pwysig iawn yn y pentref, diwrnod y Sasiwn Plant – cafodd y teulu eu car modur cyntaf, sef y 'Model T Ford' enwog. Er bod John, ei frawd, yn hŷn ac yn gyrru'r cerbyd, yn enw Bob y cofrestrwyd ef, a chafodd drwydded i'w yrru yn swyddogol pan nad oedd eto ond prin bymtheg oed.
Dyna pa bryd y dechreuodd wasanaeth tacsi y cylch i gludo pobl i'r fan hyn a'r fan arall. Tua 1921 prynodd y teulu sharabang i gario mwy o bobl ac i ddosbarthu glo a nwyddau, ac fe'i galwyd yn 'Nansi' ar ôl enw merch Ellen, chwaer Bob.
Tua'r cyfnod hwn, yn Nhop Llan, Cerrig (ar gornel y ffordd sy'n mynd i Ruthun) yr oedd hen siediau, digon bregus, yn eiddo i Tegid Owen. Buont yn stablau i'r Lion gynt, ac yr oedd carreg farch wrth eu hochr. (Yn un o'r siediau hyn hefyd unwaith yr oedd yr 'Ystafell Billiards' – y 'Club Room', clwb ar un adeg na chai'r aelodau ei fynychu oni bai iddynt fod yn yr eglwys y Sul blaenorol.)
Ym 1933 prynodd mam Bob y siediau hyn, dymchwelwyd hwy a chodwyd tŷ newydd ar y safle. I'r tŷ hwn, ym 1936, y symudodd y teulu i fyw, gyda'r fam a Mabel, y ferch, yn cadw'r siop, hyd nes i Mrs Mabel Edwards roi'r gorau iddi yn 1978. Fel cenedlaethau o blant y Cerrig, y mae gen innau atgofion melys am Stanley Shop, oherwydd i'r siop hon ar y gornel a siop Mrs Kitty Williams yng ngwaelod y Llan yr arferem ni blant ysgol fynd gan amlaf i wario ein ceiniogau prin ar 'fferins'.
Yn ochr yr hen siediau yr oedd un sied a ddefnyddid fel modurdy, a phan adeiladwyd y tŷ newydd codwyd hefyd fodurdy newydd ar gyfer Bob a'i frawd yng nghyfraith, Harry Edwards, priod Mabel.
Am dros ddeng mlynedd ar hugain wedi hynny bu 'Garej Jones & Edwards' yn fan cyfarfod poblogaidd i drigolion Uwchaled gwrdd am sgwrs a hoe, heb sôn am fod yn ffynhonnell cymorth hawdd ei gael i drwsio doluriau llawer hen gar ac i gyflenwi anghenion y trigolion lleol a theithwyr eraill am betrol a diesel a pharaffin. A da yw gallu dweud bod Modurdy Marian heddiw ar yr un safle yn cyflawni swyddogaeth debyg.
***
GALLAI Bob Stanley Shop adrodd cant a mil o hanesion difyr am y profiadau amrywiol a gafodd tra bu'n cario pobl, ond soniaf am un yn unig - hanesyn o gyfnod yr eira mawr hwnnw yn Ionawr 1941.
Ar y dydd Sul, y 19eg o'r mis, gadawodd David Lloyd George Fron y De, ei gartref yn Churt, gyda gyrrwr ei gar a Miss Ann Parry, ei forwyn, i ymweld â'i briod Margaret Lloyd George, a oedd yn wael iawn. Ond buont dri diwrnod cyn cyrraedd pen eu siwrnai a gorfod teithio drwy luwchfeydd chwe throedfedd mewn mannau.
Islaw Moelfre Fawr ar ffordd yr A5, rhwng Tŷ Nant a Cherrigydrudion, ni allai'r Rolls fynd gam ymhellach. Daeth criw o blant y cylch i ddweud wrth Bob fod angen iddo geisio mynd gyda'i gar ar frys i nôl Lloyd George o'r eira. Credai'n siŵr mai tynnu'i goes a wnaent hyd nes iddo weld toc y gyrrwr yn ei lifrai crand. Gyda chymorth y trigolion llwyddwyd i fynd â'r cyn-Brif Weinidog i westy'r Llew Gwyn.
'Roedd Miss Parry wedi dychryn ac yn poeni'n arw am bwysedd gwaed Lloyd George. Anfonwyd am y Dr Ifor H. Davies, Bronafallen, i ddod i'w archwilio, a sylw'r Dr Ifor wrth ddwyn i gof yr amgylchiad ydoedd: 'yr oedd yn un o'r patients hawdda gês i 'rioed i'w drin – yn union fel pe bai'n un o'r ardal!'
Credid unwaith y gellid mynd â Lloyd George yn ei gar cyn belled â Betws-y-coed a dal y trên oddi yno i Gricieth, ond yr oedd gormod o luwchfeydd. Fodd bynnag, aeth trigolion y cylch ati, fel ar ladd nadroedd, yn un fyddin fawr i dorri eira, a llwyddwyd ar y dydd Mawrth, yn sŵn tincian rhawiau a bonllefau, i gael Lloyd George a'i gar i Gorwen. Cafodd drên oddi yno i Gricieth, ond bu farw ei briod cyn iddo gyrraedd.
Wedi'r achlysur hwn cafodd Bob Stanley Shop, fel Dr. Ifor Davies, yntau, lun o Lloyd George wedi'i arwyddo ganddo yn rhodd. Bu Bob hefyd yn ymweld â Bron y De ac â'i fferm yn Churt. Yn ystod Haf 1945, Frances Lloyd George, ei ail wraig, oedd y tro hwn yn y cylch - ac heb ddim petrol na chwponau! Y mae gan Bob hyd heddiw lythyr oddi wrthi, dyddiedig 14 Mehefin 1945 ac yn ei llaw ei hun, yn diolch am ei gymorth ac yn amgau cwponau petrol.
***
PARHAODD BOB i gludo pobl hyd Fedi 1981. Bu hefyd er 1945 yn cario cleifion i'r ysbyty, gan gydweithio'n agos iawn â'r meddygon lleol a'r gyrwyr ambiwlans. Ar ben hyn, o Ionawr 1956 hyd Fawrth 1969, bu'n cario plant y cylch i'r ysgol neu i gwrdd â bysiau.
Yn 1939 ef oedd un o brif sylfaenwyr y Gwasanaeth Tân yng Ngherrigydrudion, a pharhaodd yn weithgar gyda'r gwaith hyd nes ymddeol yn ddeg a thrigain mlwydd oed. Bu hefyd (fel Harry Edwards, ei frawd yng nghyfraith) yn ystod 1941-78 yn Heddwas Arbennig.
Oddi wrth Gymdeithas y Modurwyr Hŷn (The Company of Veteran Motorists), y Gwasanaeth Tân, a'r Heddlu, derbyniodd dystysgrifau, medalau a bathodynnau yn arwydd o'i wasanaeth maith a theilwng yn y tri maes. Daliaf innau ar y cyfle hwn i dalu gwrogaeth iddo; i ddiolch am ei aml gymwynasau; ac, ar ran trigolion Uwchaled, i ddymuno iddo ef a'i deulu iechyd a phob llawenydd yn y dyfodol.
NODYN — Carwn ddiolch yn garedig iawn i Mrs Mabel Edwards a'i brawd am gael benthyg nifer o luniau, lluniau y cedwir copïau ohonynt bellach yn Amgueddfa Werin Cymru. O gasgliad Mrs Edwards y daw llun y ferlen a'r drol yn yr ysgrif hon; daw'r gweddill o gasgliad ei brawd.
Diolchaf hefyd i'm chwaer ac i'm brawd yng nghyfraith, Glenys a J. W. Goddard, am gymorth gwerthfawr wrth gasglu'r wybodaeth uchod. Hwy sydd bellach yn parhau'r traddodiad o gario pobl a phlant ysgol yn y cylch.