POBOL Y GAZETTE gan Maldwyn Thomas

'ROEDD Saeson yn amlwg ymysg arloeswyr cyhoeddi newyddiaduron yng Nghymru. Yn Abertawe George Haynes a Lewis Weston Dillwyn oedd tu cefn i'r Cambrian, yng Nghaernarfon. Sais o'r enw James Hulme oedd perchennog y Caernarvon Advertiser llesg, newyddiadur cyntaf y dref (1822), ac ym Mangor, John Broster a William Brown oedd hyrwyddwyr cynnar y North Wales Gazette a'r North Wales Chronicle.

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y N.W.G. ym Mangor ar 5 Ionawr 1808. John Broster oedd yr argraffydd a'r cyhoeddwr, dyn dŵad o Gaer, a'i fab Charles Broster oedd y gohebydd o 1808 hyd 1816.

Yn y flwyddyn hon aeth y papur i drybini, a phob math o gyhuddiadau mileinig yn cael eu hyrddio o gwmpas y swyddfa fach.

Rhoddwyd y gorau i gyhoeddi'r papur, a phawb wedi pwdu, a drwgdeimlad ofnadwy fe ymddengys rhwng Owen Anthony Poole, cynrychiolydd teulu Paget, Plas Newydd yng Nghaernarfon, 'B. Wyatt', 'Rowland Williams' a John Broster – pedwar perchennog y papur erbyn hyn.

Ond yna, yn annisgwyl, dyma'r N.W.G. yn codi o'r llwch ar 20 Chwefror 1817, a Charles Broster bellach yn gafael yn dynn yn yr awenau, a fo a fu'n cyhoeddi ac yn argraffu'r papur ar ei liwt ei hun hyd 21 Mehefin 1827.

Erbyn hyn yr oedd Charles Broster at ei geseiliau yn y gors ariannol, a'r beili yn curo'n daer ar ddrws y swyddfa. Diflannodd yr hen N.W.G., a'r ddau Broster i niwl y gorffennol.

***

FE FU tawelwch wedyn ym Mangor hyd ymddangosiad cyntaf y N.W.C. ar 4 Hydref 1827, y papur hwn yn cael ei argraffu a'i gyhoeddi gan John Brown, gŵr a oedd wedi cael profiadau diddorol, mae'n debyg, fel arolygwr yn swyddfa Charles Broster am gyfnod cyn hyn.

Bu John Brown farw ar 13 Mai 1847, ac yna bu ei ddau fab, John a William Brown yn argraffu ac yn cyhoeddi'r papur fel yr unig berchenogion hyd 9 Ebrill 1850.

Erbyn hyn y mae'n debyg fod y brodyr Brown hwythau mewn picil ariannol.

Bu farw William Brown yn 44 oed ar 13 Gorffennaf 1856 a bu farw John y brawd iau yntau yn 53 oed ar 30 Mehefin 1875.

Dilynwyd y brodyr Brown gan Augustus Robert Martin, gŵr a fu eisoes yn golygu'r N.W.C. am sbel yn 1827, cyn mynd i Lerpwl ar staff y Liverpool Mail. Bu A.R. Martin yn argraffu, yn cyhoeddi ac yn golygu'r N.W.C. hyd ei farwolaeth yn hanner cant a phump oed ar 13 Tachwedd 1859.

***

ERBYN diwedd y pumdegau yr oedd y N.W.C. yn amlwg fel prif newyddiadur yr eglwys sefydledig yn ardal deupen Menai, ac yn ddigamsyniol yn lladmerydd brwd y blaid Dorďaidd.

Olynwyd A.R. Martin fel perchennog yn 1859 gan John Kenmuir Douglas, ac ef a fu'n gyfrifol am olygu ac argraffu a chyhoeddi'r newyddiadur hyd ddiwedd Medi 1873, pryd y trosglwyddwyd y busnes i'w feibion Kenmuir Whitworth Douglas, a weithredai fel rheolwr-olygydd, a Malcolm Percy Douglas.

Bu'r brodyr Douglas yn berchenogion y papur hyd Ragfyr 1885, pan werthwyd y busnes i'r 'North Wales Chronicle Company', eithr parhaodd Kenmuir Whitworth Douglas fel golygydd ac fel argraffydd a chyhoeddwr ar ran y cwmni hwn hyd Fedi 1891.

Erbyn cyfnod y brodyr Douglas yr oedd cysgod crafanc ddur Arglwydd Penrhyn ar dudalennau'r papur – yr oedd eisoes wedi blasu gwaed pan lansiodd yr wythnosolyn Llais y Wlad yn 1874, – yn un swydd er mwyn sicrhau llwyddiant etholiadol i'w aer George Sholto Douglas Pennant, yntau o gastell y Penrhyn.