HOLL DAITH YR ANIALWCH I GYD

 

DYMA mae'n debyg gyhoeddi am y tro cyntaf y darlun olew o deulu David Charles, Caerfyrddin, awdur 'Rhag­luniaeth Fawr y nef' ac 'O fryniau Caer­salem'. Cadwyd y darlun yn y teulu nes dod i feddiant Owen Edwards pan fu farw ei fam Lady Eirys Edwards (1989-1981).

'Roedd Eirys Mary Edwards yn un o ddisgynyddion David Charles (1762-1834: trwy ei ferch Eliza, a briododd Robert Davies (gweler ei darlun ar y chwith) Priododd Sarah, eu merch hwy Richard Roberts a bu ganddynt dri ar ddeg o blant Un o'r rhain, Mary Jennetta, a briododd R. Lloyd Phillips, oedd mam Lady Edwards.

Mab i Eliza oedd Robert Joseph, a dis­gynnydd iddo ef oedd T.I. Ellis. Yr oedd priod David Charles ei hun yn Iddewes, merch i Samuel Levi, gemydd o Frankfurt a ymsefydlodd yn Hwlffordd ac a gymerodd Phillips yn gyfenw o barch i Gymro a fu'n gymwynasydd iddo.

Un arall o ferched David Charles oedd Sarah a briododd Hugh Hughes, yr artist o Ddyffryn Conwy ac awdur ' The Beauties of Cambria'. Ef a wnaeth y darlun o'r teulu yn ogystal â darlun o David Charles ac o Eliza.

Codwyd y manylion uchod am gymeriadau'r darlun o lawysgrif Lady Edwards. Erys dau ddirgelwch. Fe enwir un o ferched David Charles yn Ann, ond Mary yw'r enw yng nghofiant J.H. Davies. A pham mae Jane, yn y darlun mawr, a'i chefn tuag atom?